- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ceisiadau Cynllunio (Addasiadau a Datgymhwyso Dros Dro) (Cymru) (Coronafeirws) 2020.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Mai 2020.
2.—(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(1) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl erthygl 2F mewnosoder—
2G.—(1) Mae’r Rhan hon yn gymwys gyda’r addasiadau a nodir yn yr erthygl hon pan fydd—
(a)pob un o’r hysbysiadau y mae erthyglau 2C(1)(a) a 2D(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd eu rhoi mewn perthynas â chais arfaethedig yn cael eu rhoi ar ôl dechrau cyfnod yr argyfwng, a
(b)o leiaf un o’r hysbysiadau hynny yn cael ei roi cyn diwedd cyfnod yr argyfwng.
(2) Yn yr erthygl hon, ystyr “cyfnod yr argyfwng” yw’r cyfnod—
(a)sy’n dechrau gyda 19 Mai 2020, a
(b)sy’n dod i ben gyda 18 Medi 2020.
(3) Mae erthygl 2C(1) yn cael effaith fel pe bai—
(a)yn is-baragraff (b), “rhoi’r wybodaeth ganlynol ar gael ar wefan” wedi ei roi yn lle “rhoi’r wybodaeth ganlynol ar gael i’w harchwilio mewn lleoliad yng nghyffiniau’r datblygiad arfaethedig”;
(b)y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (b)—
“ac
(c)anfon copïau caled o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b) at unrhyw berson sy’n gofyn amdanynt, pan ofynnir amdanynt o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-baragraff hwnnw.”
(4) Mae erthygl 2C yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (3)—
“(3A) Os gofynnwyd am gopïau caled o unrhyw ddogfennau fel y crybwyllir ym mharagraff (1)(c), ni chaniateir cyflwyno cais cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau gyda’r diwrnod yr anfonir y ddogfen olaf yn unol â’r paragraff hwnnw.”
(5) Mae erthygl 2C(5) yn cael effaith mewn perthynas â phob hysbysiad a roddir gan y ceisydd o dan erthygl 2C(1)(a) fel pe bai’r cyfeiriad at Atodlen 1B yn gyfeiriad at Atodlen 1D.
(6) Mae erthygl 2D(5)(a) yn cael effaith mewn perthynas â phob hysbysiad a roddir gan y ceisydd o dan erthygl 2D(2) fel pe bai’r cyfeiriad at Atodlen 1B yn gyfeiriad at Atodlen 1D.
(7) Mae erthygl 2F(2) yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (c)—
“(ca)datganiad bod yr wybodaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (b) o erthygl 2C(1) wedi ei rhoi ar gael yn unol â’r is-baragraff hwnnw;
(cb)datganiad yn nodi pa un a ofynnwyd am gopïau caled o unrhyw ddogfennau fel y crybwyllir yn is-baragraff (c) o erthygl 2C(1) ac, os felly, datganiad bod y copïau caled wedi eu hanfon yn unol â’r is-baragraff hwnnw;”.”
(3) Ar ôl Atodlen 1C mewnosoder Atodlen 1D a nodir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
3. Yn erthygl 16 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(4) Pan fo cyngor cymuned yn cael ei hysbysu am gais yn ystod cyfnod yr argyfwng, mae paragraffau (1) a (2)(c) yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriadau at 14 o ddiwrnodau yn gyfeiriadau at 21 o ddiwrnodau.
(5) Ym mharagraff (4), mae i “cyfnod yr argyfwng” yr ystyr a roddir gan erthygl 2G(2).”
4. Yn erthygl 12 o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016(2), ar ôl paragraff (6) mewnosoder—
“(6A) Nid yw paragraffau (5) a (6) yn gymwys i gais a wneir yn ystod y cyfnod—
(a)sy’n dechrau gyda 19 Mai 2020, a
(b)sy’n dod i ben gyda 18 Medi 2020.”
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
15 Mai 2020
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys