Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

1.—(1Person—

(a)sy’n aelod o genhadaeth ddiplomyddol yn y Deyrnas Unedig;

(b)sy’n aelod o swyddfa gonsylaidd yn y Deyrnas Unedig;

(c)sy’n swyddog neu’n was i sefydliad rhyngwladol;

(d)a gyflogir gan sefydliad rhyngwladol fel arbenigydd neu ar genhadaeth;

(e)sy’n gynrychiolydd i sefydliad rhyngwladol;

(f)sy’n gynrychiolydd mewn cynhadledd ryngwladol neu gynhadledd y Deyrnas Unedig y rhoddir breintiau a breinryddidau iddo yn y Deyrnas Unedig;

(g)sy’n aelod o staff swyddogol cynrychiolydd i sefydliad rhyngwladol, neu berson sy’n dod o fewn paragraff (f);

(h)a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b) sy’n pasio drwy’r Deyrnas Unedig i gychwyn neu barhau â’i swyddogaethau ar genhadaeth ddiplomyddol neu mewn swydd gonsylaidd mewn gwlad neu diriogaeth arall, neu i ddychwelyd i wlad ei genedligrwydd;

(i)sy’n gynrychiolydd i wlad dramor neu diriogaeth dramor sy’n teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig;

(j)sy’n gynrychiolydd llywodraeth i diriogaeth dramor Brydeinig;

(k)sy’n gludwr diplomyddol neu’n gludwr consylaidd;

(l)sy’n aelod o’r teulu sy’n ffurfio rhan o aelwyd person sy’n dod o fewn unrhyw un neu ragor o baragraffau (a) i (k).

(2Yr amodau y cyfeirir atynt yn rheoliad 9(a) (personau nad yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â rheoliad 7 a 8) yw —

(a)bod pennaeth perthnasol y genhadaeth, y swyddfa gonsylaidd, y sefydliad rhyngwladol, neu’r gynhadledd, y swyddfa sy’n cynrychioli tiriogaeth dramor yn y Deyrnas Unedig neu Lywodraethwr tiriogaeth dramor Brydeinig (yn ôl y digwydd), neu berson sy’n gweithredu ar eu awdurdod, yn cadarnhau mewn ysgrifen‘i’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad—

(i)ei bod yn ofynnol i’r person ymgymryd â gwaith sy’n hanfodol i weithrediad y genhadaeth, y swydd gonsylaidd, y sefydliad rhyngwladol neu’r gynhadledd, neu’r swyddfa, neu i ymgymryd â gwaith sy’n hanfodol i’r wlad dramor a gynrychiolir gan y genhadaeth neu’r swyddfa gonsylaidd, y diriogaeth dramor a gynrychiolir gan y swyddfa neu’r diriogaeth dramor Brydeinig a

(ii)na ellir ymgymryd â’r gwaith hwnnw tra bo’r person yn cydymffurfio â rheoliad 7 neu 8, a

(b)cyn i’r person gyrraedd y Deyrnas Unedig, bod y Swyddfa Dramor a Chymanwlad—

(i)wedi rhoi cadarnhad mewn ysgrifen i’r person sy’n rhoi’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) ei fod wedi cael y cadarnhad hwnnw, a

(ii)os yw’r person yn gynrychiolydd i wlad neu diriogaeth dramor, bod y Swyddfa wedi rhoi cadarnhad wedyn mewn ysgrifen i’r person sy’n rhoi’r cadarnhad y cyfeirir ato ym mharagraff (a) bod y person yn teithio i’r Deyrnas Unedig i gynnal busnes swyddogol gyda’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n ofynnol iddo gydymffurfio â rheoliad 7 neu 8.

(3At ddibenion y paragraff hwn—

(a)ystyr “cludydd consylaidd” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithredu ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd consylaidd yn unol ag Erthygl 35(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Consylaidd 1963,

(b)ystyr “swyddfa gonsylaidd” yw unrhyw gonsyliaeth gyffredinol, consyliaeth, is-gonsyliaeth neu asiantaeth gonsylaidd,

(c)ystyr “cludydd diplomyddol” yw person sydd wedi cael dogfen swyddogol gan y Wladwriaeth y mae’n gweithio ar ei rhan sy’n cadarnhau ei statws fel cludydd diplomyddol yn unol ag Erthygl 27(5) o Gonfensiwn Fienna ar Gysylltiadau Consylaidd 1961,

(d)ystyr “sefydliad rhyngwladol” yw sefydliad rhyngwladol y rhoddwyd breintiau a breinryddidau iddo yn y Deyrnas Unedig,

(e)ystyr “aelod o swyddfa gonsylaidd” yw swyddog consylaidd, gweithiwr consylaidd ac aelod o staff y gwasanaeth yn unol â’r diffiniadau o “consular officer”, “consular employee” a “member of the service staff” yn Atodlen 1 i Ddeddf Cysylltiadau Consylaidd 1968(1), ac mae i “pennaeth swyddfa gonsylaidd” yr ystyr a roddir i “head of consular post” yn yr Atodlen honno,

(f)ystyr “aelod o genhadaeth ddiplomyddol” yw pennaeth y genhadaeth, aelodau o’r staff diplomyddol, aelodau o’r staff gweinyddol a thechnegol ac aelodau o staff y gwasanaeth yn unol â’r diffiniadau o “head of the mission”, “members of the diplomatic staff”, “members of the administrative and technical staff” a “members of the service staff” yn Atodlen 1 i Ddeddf Breintiau Diplomyddol 1964(2).

(4Nid yw’r paragraff hwn yn rhagfarnu unrhyw freinryddid rhag awdurdodaeth neu anhydoredd a roddir i unrhyw berson a ddisgrifir yn is-baragraff (1) o dan gyfraith Cymru a Lloegr ar wahân i’r Rheoliadau hyn.

(1)

1968 p. 18. Ceir diwygiadau ond nid yw’r un yn berthnasol.

(2)

1964 p. 81. Ceir diwygiadau ond nid yw’r un yn berthnasol.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill