- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliad 6
1.—(1) Bwytai, gan gynnwys bwytai ac ystafelloedd bwyta mewn clybiau aelodau ac ym mangreoedd busnesau a restrir yn Atodlen 3.
2.—(1) Caffis, gan gynnwys ffreuturau yn y gweithle (yn ddarostyngedig i is-baragraff (2)), a chaffis ym mangreoedd busnesau a restrir yn Atodlen 3, ond heb gynnwys—
(a)caffis neu ffreuturau mewn ysbyty, cartref gofal neu ysgol;
(b)ffreuturau mewn carchar neu sefydliad y bwriedir ei ddefnyddio at ddibenion y llynges, y fyddin neu’r awyrlu neu at ddibenion Adran yr Ysgrifennydd Gwladol sy’n gyfrifol am amddiffyn;
(c)gwasanaethau sy’n darparu bwyd neu ddiod i’r digartref.
(2) Caiff ffreuturau yn y gweithle aros ar agor—
(a)pan na fo dewis arall ymarferol i staff yn y gweithle hwnnw i gael bwyd; a
(b)pan gymerir pob mesur rhesymol i sicrhau bod pellter o 2 fetr yn cael ei gynnal rhwng unrhyw berson sy’n defnyddio’r ffreutur.
3. Bariau, gan gynnwys bariau mewn clybiau aelodau neu ym mangreoedd busnesau a restrir yn Atodlen 3.
4. Tafarndai.
Rheoliad 7
1. Sinemâu dan do.
2. Theatrau.
3. Clybiau nos.
4. Neuaddau bingo.
5. Neuaddau cyngerdd.
6. Casinos.
7. Parlyrau tylino.
8. Salonau ewinedd a harddwch.
9. Sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau lliw haul, tyllu’r corff, tatŵio, electrolysis neu aciwbigo.
10. Canolfannau sglefrio.
11. Pyllau nofio.
12. Stiwdios ffitrwydd dan do, campfeydd, sbaon, neu ganolfannau neu gyfleusterau hamdden dan do eraill.
13. Alïau bowlio, arcedau diddanu a mannau chwarae dan do.
14. Amgueddfeydd, orielau a gwasanaethau archifau.
15. Unrhyw ran o atyniad i ymwelwyr sydd o dan y ddaear (ond heb gynnwys unrhyw ran o atyniad nad yw ond o dan ddaear yn rhinwedd y ffaith bod y rhan honno yn islawr neu’n rhan arall o adeilad sydd o dan lefel y ddaear.
16. Ffeiriau pleser (boed yn yr awyr agored neu dan do).
17. Meysydd chwarae a champfeydd awyr agored.
18. Tai arwerthiant (ac eithrio arwerthiannau da byw).
Rheoliad 8
1. Safleoedd gwyliau.
2. Safleoedd gwersylla.
3. Gwestai a llety gwely a brecwast.
4. Llety gwyliau arall (gan gynnwys fflatiau gwyliau, hostelau a thai byrddio).
Rheoliad 12
1. Unrhyw fusnes sy’n gwerthu nwyddau neu wasanaethau ar gyfer eu gwerthu neu eu hurio mewn siop.
2. Fferyllfeydd (yn cynnwys fferyllfeydd nad ydynt yn darparu cyffuriau ar bresgripsiwn) a siopau cemist.
3. Gorsafoedd petrol.
4. Gwasanaethau trwsio ceir ac MOT.
5. Busnesau tacsi neu logi cerbydau.
6. Banciau, cymdeithasau adeiladu, undebau credyd, darparwyr benthyciadau tymor byr, clybiau cynilo, peiriannau arian parod ac ymgymeriadau sydd, o ran eu busnes, yn gweithredu swyddfeydd cyfnewid arian cyfred, yn trawsyrru arian (neu unrhyw gynrychiolaeth o arian) drwy unrhyw ddull neu sieciau arian parod sydd wedi eu gwneud yn daladwy i gwsmeriaid.
7. Swyddfeydd post.
8. Trefnwyr angladdau.
9. Golchdai a siopau glanhau dillad.
10. Gwasanaethau deintyddol, optegwyr, gwasanaethau awdioleg, trin traed, ceiropractyddion, osteopathiaid a gwasanaethau meddygol neu iechyd eraill, gan gynnwys gwasanaethau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.
11. Milfeddygon a siopau anifeiliaid anwes.
12. Marchnadoedd neu arwerthiannau da byw.
13. Cyfleusterau storio a dosbarthu, gan gynnwys mannau gollwng danfoniadau.
14. Meysydd parcio.
15. Toiledau cyhoeddus.
16. Llyfrgelloedd.
17. Asiantau eiddo neu asiantau gosod eiddo, swyddfeydd gwerthiant datblygwyr a chartrefi arddangos.
18. Delwriaethau ceir.
19. Marchnadoedd awyr agored.
20. Siopau betio.
21. Canolfannau siopa ac arcedau siopa o dan do.
22. Sinemâu awyr agored.
23. Salonau gwallt a barbwyr.
24. Atyniadau i ymwelwyr (ond dim ond i’r graddau nad yw paragraff 15 o Atodlen 2 yn gymwys).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys