- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) Mae Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “PRHG” (“RNQP”) yw pla a reoleiddir gan yr Undeb heb gwarantin o fewn yr ystyr a roddir gan Erthygl 36 o Reoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fesurau diogelu rhag plâu planhigion;”.
(3) Yn rheoliad 3(1), yn lle’r diffiniad o “Cyfarwyddeb 2014/98/EU” rhodder—
“ystyr “Cyfarwyddeb 2014/98/EU” (“Directive 2014/98/EU”) yw Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/98/EU sy’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC o ran gofynion penodol ar gyfer genws a rhywogaethau planhigion ffrwythau y cyfeirir atynt yn Atodiad I iddi, gofynion penodol sydd i’w bodloni gan gyflenwyr a rheolau manwl sy’n ymwneud ag arolygiadau swyddogol(2).”
(4) Ar ôl rheoliad 14 mewnosoder—
14A.—(1) Rhaid i gyflenwr adrodd ar unwaith i arolygydd ynghylch—
(a)deunyddiau planhigion sy’n dangos presenoldeb unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU;
(b)presenoldeb yn y pridd unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU;
(c)presenoldeb unrhyw PRHG yn y safle cynhyrchu ar lefel uwch na’r goddefiant a bennwyd ar gyfer yr organeb honno yn Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU; neu
(d)deunyddiau planhigion sy’n dangos presenoldeb unrhyw bla a restrir yn Atodiad 2 neu 3 i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 sy’n sefydlu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau diogelu rhag plâu planhigion.
(2) Pan fo cyflenwr wedi adrodd i arolygydd ynghylch deunyddiau planhigion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(d), rhaid i’r cyflenwr gyflawni unrhyw fesurau a osodir gan yr arolygydd.”
(5) Yn rheoliad 15(1)(g)—
(a)ym mharagraff (i), hepgorer “Rhan A o”;
(b)hepgorer paragraff (ii) a’r “a” sy’n ei ddilyn;
(c)ym mharagraff (iii), yn lle “Atodiad 2, 3 neu 4” rhodder “Atodiad 2 neu 3”;
(d)ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—
“(iv)unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, pan fo’n bresennol yn y pridd; a
(v)unrhyw PRHG ar lefel uwch na’r goddefiant a bennir ar gyfer y PRHG hwnnw yn Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU.”
(6) Yn Atodlen 1—
(a)ym mharagraff 1(2), yn lle paragraffau (c) a (d) rhodder—
“(c)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 4;
(d)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch diffygion ym mharagraff 5; ac
(e)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch y safle cynhyrchu ym mharagraff 6.”;
(b)ym mharagraff 2(2), yn lle paragraffau (b) ac (c) rhodder—
“(b)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 4;
(c)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch diffygion ym mharagraff 5; a
(d)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch y safle cynhyrchu ym mharagraff 6.”;
(c)ym mharagraff 4, yn lle is-baragraffau (1) i (5) rhodder—
“(1) Rhaid canfod bod deunyddiau CAC, drwy arolygiad gweledol gan y cyflenwr yn ystod y cam cynhyrchu, yn rhydd i bob pwrpas rhag y PRHGau a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, oni nodir fel arall yn Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno.
(2) Rhaid i’r cyflenwr samplu a phrofi’r ffynhonnell ddeunyddiau adnabyddedig neu’r deunyddiau CAC—
(a)mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, am y plâu hynny;
(b)am y PRHGau a restrir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.
(3) Ar ôl ei gynhyrchu, rhaid canfod bod deunyddiau CAC, drwy arolygiad gweledol gan y cyflenwr, yn rhydd rhag arwyddion neu symptomau unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU.
(4) Rhaid cynnal arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi yn unol â’r gofynion a bennir yn Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.
(5) Ond nid yw is-baragraffau (1) i (3) yn gymwys i ddeunyddiau CAC yn ystod rhewgadw.”;
(d)ar ôl paragraff 5 mewnosoder—
6. Rhaid cynhyrchu deunyddiau CAC yn unol â’r gofynion ar gyfer y safle cynhyrchu, y man cynhyrchu neu’r ardal a nodir yn Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ac a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.”
(7) Yn Atodlen 5—
(a)ym mharagraffau 3(2) a 4(2), ar ôl paragraff (f) ym mhob achos, mewnosoder—
“(g)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch y safle cynhyrchu ym mharagraff 12A.”;
(b)ym mharagraffau 5(1)(a) a 6, yn lle “12” rhodder “12A”;
(c)ym mharagraff 10—
(i)yn lle is-baragraffau (1) a (2) rhodder—
“(1) Rhaid canfod bod planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn rhydd rhag unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.
(2) Rhaid i arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr wneud gwaith samplu a phrofi ar y planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol neu’r deunyddiau cyn-sylfaenol—
(a)mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, am y plâu hynny;
(b)am y PRHGau a restrir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.”;
(ii)yn lle is-baragraff (4) rhodder—
“(4) Caiff cydymffurfedd ag is-baragraff (1) ei gadarnhau drwy arolygiad gweledol gan arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr.”;
(d)ar ôl paragraff 12 mewnosoder—
12A. Rhaid cynhyrchu planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol yn unol â’r gofynion ar gyfer y safle cynhyrchu, y man cynhyrchu neu’r ardal a nodir yn Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ac a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.”;
(e)ym mharagraffau 14(2) a 15(2), yn lle paragraffau (g) ac (h) rhodder—
“(g)wedi eu cynnal yn unol â pharagraff 18;
(h)pan fo’n briodol, wedi eu lluosi yn unol â pharagraff 19; ac
(i)wedi eu cynhyrchu yn unol â’r gofynion ynghylch y safle cynhyrchu ym mharagraff 12A.”;
(f)ym mharagraff 14(3), yn lle “(h)” rhodder “(i)”;
(g)ym mharagraff 16—
(i)yn lle is-baragraffau (1) a (2) rhodder—
“(1) Rhaid canfod bod planhigyn tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol yn rhydd rhag unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.
(2) Rhaid i arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr wneud gwaith samplu a phrofi ar y planhigyn tarddiol sylfaenol neu’r deunyddiau sylfaenol—
(a)mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, am y plâu hynny;
(b)am y PRHGau a restrir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.”;
(ii)yn lle is-baragraff (4) rhodder—
“(4) Caiff cydymffurfedd ag is-baragraff (1) ei gadarnhau drwy arolygiad gweledol gan arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr.”;
(h)ym mharagraff 20—
(i)yn is-baragraff (2), yn lle paragraffau (e) ac (f) rhodder—
“(e)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 22;
(f)yn cael eu tyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 23; ac
(g)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch y safle cynhyrchu ym mharagraff 12A.”;
(ii)yn is-baragraff (4), yn y geiriau cyn paragraff (a), yn lle “(f)” rhodder “(g)”;
(i)ym mharagraff 22—
(i)yn lle is-baragraffau (1) a (2) rhodder—
“(1) Rhaid canfod bod planhigyn tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig yn rhydd rhag unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.
(2) Rhaid i arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr wneud gwaith samplu a phrofi ar y planhigyn tarddiol ardystiedig neu’r deunyddiau ardystiedig—
(a)mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, am y plâu hynny;
(b)am y PRHGau a restrir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.”;
(ii)yn is-baragraff (4), yn lle’r geiriau o “is-baragraffau (1)” hyd at y diwedd rhodder “is-baragraff (1) drwy arolygiad gweledol”;
(j)ym mharagraff 23(4)(a), ar y dechrau mewnosoder “oni nodir fel arall,”.
O.S. 2017/691 (Cy. 163), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/206 (Cy. 48); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. Mae O.S. 2017/691 (Cy. 163) wedi ei ddiwygio’n rhagolygol gan O.S. 2019/368 (Cy. 90).
Diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2020//177 sy’n diwygio Cyfarwyddebau’r Cyngor 66/401/EEC, 66/402/EEC, 68/193/EEC, 2002/55/EC, 2002/56/EC a 2002/57/EC, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 93/49/EEC a 93/61/EEC a Chyfarwyddebau Gweithredu 2014/21/EU a 2014/98/EU o ran plâu planhigion ar hadau a deunyddiau lluosogi planhigion eraill (OJ Rhif L 41, 13.2.2020, t. 1). Gweler adran 26 o Ddeddf Deddfwriaeth Cymru (Cymru) 2019 (dccc 4).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys