Search Legislation

Rheoliadau Marchnata Hadau, Planhigion a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017

6.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017(1) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2, yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “PRHG” (“RNQP”) yw pla a reoleiddir gan yr Undeb heb gwarantin o fewn yr ystyr a roddir gan Erthygl 36 o Reoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fesurau diogelu rhag plâu planhigion;.

(3Yn rheoliad 3(1), yn lle’r diffiniad o “Cyfarwyddeb 2014/98/EU” rhodder—

ystyr “Cyfarwyddeb 2014/98/EU” (“Directive 2014/98/EU”) yw Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/98/EU sy’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC o ran gofynion penodol ar gyfer genws a rhywogaethau planhigion ffrwythau y cyfeirir atynt yn Atodiad I iddi, gofynion penodol sydd i’w bodloni gan gyflenwyr a rheolau manwl sy’n ymwneud ag arolygiadau swyddogol(2).

(4Ar ôl rheoliad 14 mewnosoder—

Cyflenwyr: gofynion hysbysu

14A.(1) Rhaid i gyflenwr adrodd ar unwaith i arolygydd ynghylch—

(a)deunyddiau planhigion sy’n dangos presenoldeb unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU;

(b)presenoldeb yn y pridd unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU;

(c)presenoldeb unrhyw PRHG yn y safle cynhyrchu ar lefel uwch na’r goddefiant a bennwyd ar gyfer yr organeb honno yn Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU; neu

(d)deunyddiau planhigion sy’n dangos presenoldeb unrhyw bla a restrir yn Atodiad 2 neu 3 i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 sy’n sefydlu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau diogelu rhag plâu planhigion.

(2) Pan fo cyflenwr wedi adrodd i arolygydd ynghylch deunyddiau planhigion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(d), rhaid i’r cyflenwr gyflawni unrhyw fesurau a osodir gan yr arolygydd.

(5Yn rheoliad 15(1)(g)—

(a)ym mharagraff (i), hepgorer “Rhan A o”;

(b)hepgorer paragraff (ii) a’r “a” sy’n ei ddilyn;

(c)ym mharagraff (iii), yn lle “Atodiad 2, 3 neu 4” rhodder “Atodiad 2 neu 3”;

(d)ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—

(iv)unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, pan fo’n bresennol yn y pridd; a

(v)unrhyw PRHG ar lefel uwch na’r goddefiant a bennir ar gyfer y PRHG hwnnw yn Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU.

(6Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 1(2), yn lle paragraffau (c) a (d) rhodder—

(c)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 4;

(d)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch diffygion ym mharagraff 5; ac

(e)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch y safle cynhyrchu ym mharagraff 6.;

(b)ym mharagraff 2(2), yn lle paragraffau (b) ac (c) rhodder—

(b)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 4;

(c)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch diffygion ym mharagraff 5; a

(d)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch y safle cynhyrchu ym mharagraff 6.;

(c)ym mharagraff 4, yn lle is-baragraffau (1) i (5) rhodder—

(1) Rhaid canfod bod deunyddiau CAC, drwy arolygiad gweledol gan y cyflenwr yn ystod y cam cynhyrchu, yn rhydd i bob pwrpas rhag y PRHGau a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, oni nodir fel arall yn Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno.

(2) Rhaid i’r cyflenwr samplu a phrofi’r ffynhonnell ddeunyddiau adnabyddedig neu’r deunyddiau CAC—

(a)mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, am y plâu hynny;

(b)am y PRHGau a restrir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.

(3) Ar ôl ei gynhyrchu, rhaid canfod bod deunyddiau CAC, drwy arolygiad gweledol gan y cyflenwr, yn rhydd rhag arwyddion neu symptomau unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU.

(4) Rhaid cynnal arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi yn unol â’r gofynion a bennir yn Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.

(5) Ond nid yw is-baragraffau (1) i (3) yn gymwys i ddeunyddiau CAC yn ystod rhewgadw.;

(d)ar ôl paragraff 5 mewnosoder—

Gofynion ynghylch y safle cynhyrchu

6.  Rhaid cynhyrchu deunyddiau CAC yn unol â’r gofynion ar gyfer y safle cynhyrchu, y man cynhyrchu neu’r ardal a nodir yn Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ac a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.

(7Yn Atodlen 5—

(a)ym mharagraffau 3(2) a 4(2), ar ôl paragraff (f) ym mhob achos, mewnosoder—

(g)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch y safle cynhyrchu ym mharagraff 12A.;

(b)ym mharagraffau 5(1)(a) a 6, yn lle “12” rhodder “12A”;

(c)ym mharagraff 10—

(i)yn lle is-baragraffau (1) a (2) rhodder—

(1) Rhaid canfod bod planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn rhydd rhag unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.

(2) Rhaid i arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr wneud gwaith samplu a phrofi ar y planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol neu’r deunyddiau cyn-sylfaenol—

(a)mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, am y plâu hynny;

(b)am y PRHGau a restrir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.;

(ii)yn lle is-baragraff (4) rhodder—

(4) Caiff cydymffurfedd ag is-baragraff (1) ei gadarnhau drwy arolygiad gweledol gan arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr.;

(d)ar ôl paragraff 12 mewnosoder—

Gofynion ynghylch y safle cynhyrchu

12A.  Rhaid cynhyrchu planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol yn unol â’r gofynion ar gyfer y safle cynhyrchu, y man cynhyrchu neu’r ardal a nodir yn Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ac a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.;

(e)ym mharagraffau 14(2) a 15(2), yn lle paragraffau (g) ac (h) rhodder—

(g)wedi eu cynnal yn unol â pharagraff 18;

(h)pan fo’n briodol, wedi eu lluosi yn unol â pharagraff 19; ac

(i)wedi eu cynhyrchu yn unol â’r gofynion ynghylch y safle cynhyrchu ym mharagraff 12A.;

(f)ym mharagraff 14(3), yn lle “(h)” rhodder “(i)”;

(g)ym mharagraff 16—

(i)yn lle is-baragraffau (1) a (2) rhodder—

(1) Rhaid canfod bod planhigyn tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol yn rhydd rhag unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.

(2) Rhaid i arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr wneud gwaith samplu a phrofi ar y planhigyn tarddiol sylfaenol neu’r deunyddiau sylfaenol—

(a)mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, am y plâu hynny;

(b)am y PRHGau a restrir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.;

(ii)yn lle is-baragraff (4) rhodder—

(4) Caiff cydymffurfedd ag is-baragraff (1) ei gadarnhau drwy arolygiad gweledol gan arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr.;

(h)ym mharagraff 20—

(i)yn is-baragraff (2), yn lle paragraffau (e) ac (f) rhodder—

(e)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 22;

(f)yn cael eu tyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 23; ac

(g)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch y safle cynhyrchu ym mharagraff 12A.;

(ii)yn is-baragraff (4), yn y geiriau cyn paragraff (a), yn lle “(f)” rhodder “(g)”;

(i)ym mharagraff 22—

(i)yn lle is-baragraffau (1) a (2) rhodder—

(1) Rhaid canfod bod planhigyn tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig yn rhydd rhag unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.

(2) Rhaid i arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr wneud gwaith samplu a phrofi ar y planhigyn tarddiol ardystiedig neu’r deunyddiau ardystiedig—

(a)mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, am y plâu hynny;

(b)am y PRHGau a restrir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.;

(ii)yn is-baragraff (4), yn lle’r geiriau o “is-baragraffau (1)” hyd at y diwedd rhodder “is-baragraff (1) drwy arolygiad gweledol”;

(j)ym mharagraff 23(4)(a), ar y dechrau mewnosoder “oni nodir fel arall,”.

(1)

O.S. 2017/691 (Cy. 163), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/206 (Cy. 48); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. Mae O.S. 2017/691 (Cy. 163) wedi ei ddiwygio’n rhagolygol gan O.S. 2019/368 (Cy. 90).

(2)

Diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2020//177 sy’n diwygio Cyfarwyddebau’r Cyngor 66/401/EEC, 66/402/EEC, 68/193/EEC, 2002/55/EC, 2002/56/EC a 2002/57/EC, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 93/49/EEC a 93/61/EEC a Chyfarwyddebau Gweithredu 2014/21/EU a 2014/98/EU o ran plâu planhigion ar hadau a deunyddiau lluosogi planhigion eraill (OJ Rhif L 41, 13.2.2020, t. 1). Gweler adran 26 o Ddeddf Deddfwriaeth Cymru (Cymru) 2019 (dccc 4).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources