Search Legislation

Rheoliadau Marchnata Hadau, Planhigion a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2020

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2020 Rhif 833 (Cy. 182)

Iechyd Planhigion, Cymru

Hadau, Cymru

Rheoliadau Marchnata Hadau, Planhigion a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2020

Gwnaed

4 Awst 2020

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

6 Awst 2020

Yn dod i rym

29 Awst 2020

Mae Gweinidogion Cymru wedi eu dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1) mewn perthynas â’r polisi amaethyddol cyffredin(2).

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1), (1A), (3), (4) a 36 o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964(3) ac adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972.

Mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny sy’n ymddangos iddynt hwy yn berthnasol yn unol ag adran 16(1) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Hadau, Planhigion a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2020, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 29 Awst 2020.

Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995

2.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995(4) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), ar ôl y diffiniad o “Directive 2008/72/EC” mewnosoder—

“EU Plant Health Regulation” means Regulation (EU) 2016/2031 of the European Parliament and of the Council on protective measures against pests of plants(5);.

(3Yn rheoliad 5—

(a)mae’r testun presennol yn dod yn baragraff (1);

(b)ym mharagraff (1), yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)at the place of production it was found, at least on visual inspection, to be practically free from all pests listed in relation to that plant material in the Annex to Directive 93/61/EEC;

(ab)the quantity of any RNQP present on the plant material does not, at least on visual inspection, exceed the threshold set out in respect of that RNQP in the Annex to Directive 93/61/EEC;

(ac)it is found, at least on visual inspection, to be practically free from any pests which reduce its usefulness and quality as plant material, other than those pests listed in the Annex to Directive 93/61/EEC in relation to that plant material;

(ad)it complies with the requirements concerning Union quarantine pests, protected zone quarantine pests and RNQPs set out in the EU Plant Health Regulation and in the implementing acts adopted pursuant to that Regulation, including measures adopted pursuant to Article 30(1) of that Regulation;;

(c)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(2) In this regulation—

“protected zone quarantine pest” means a pest within the meaning given by Article 32(1) of the EU Plant Health Regulation;

“RNQP” means a Union regulated non-quarantine pest within the meaning given by Article 36 of the EU Plant Health Regulation;

“Union quarantine pest” means a pest within the meaning given by Article 4 of the EU Plant Health Regulation.

(4Yn lle rheoliad 6 rhodder—

6.(1) A producer must—

(a)report to an inspector any plant material that fails to comply with the requirements of regulation 5(1)(a) or (ab);

(b)immediately report to an inspector any plant material that shows the presence of a plant pest of a description specified in Annex 2 or 3 to the Phytosanitary Conditions Regulation and carry out any measures laid down by the inspector; and

(c)keep plant material in lots of homogenous composition and origin during growing and lifting or removal from parent material.

(2) In this regulation—

“the Phytosanitary Conditions Regulation” means Commission Implementing Regulation (EU) 2019/2072 establishing uniform conditions for the implementation of Regulation (EU) 2016/2031 of the European Parliament and of the Council, as regards protective measures against pests of plants(6).

(5Hepgorer rheoliadau 7 ac 8(5).

(6Yn rheoliad 9(4)(c), yn lle “harmful organisms referred to in regulation 5(a)” rhodder “pests referred to in regulations 5(1)(a), (ab) and 6(1)(b)”.

(7Yn rheoliad 11(4), yn lle “5(a)” rhodder “5(1)(a) to (ac)”.

Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurniadol 1999

3.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurniadol 1999(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), cyn y diffiniad o “Directive 98/56/EC” mewnosoder—

Directive 93/49/EEC” means Commission Directive 93/49/EEC setting out the schedule indicating the conditions to be met by ornamental plant propagating material and ornamental plants pursuant to Council Directive 91/682/EEC (8);.

(3Yn rheoliad 4—

(a)mae’r testun presennol yn dod yn baragraff (1);

(b)ym mharagraff (1), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

(ab)have been found at the place of production to be practically free, at least on visual inspection, from all pests listed in the Annex to Directive 93/49/EEC in relation to that propagating material;

(ac)be free, at least on visual inspection, from any RNQP in a quantity exceeding the thresholds set out in the Annex to Directive 93/49/EEC for the presence of that RNQP;

(ad)be, at least on visual inspection, practically free from, and from any signs or symptoms of, any pests which reduce its usefulness or quality as propagating material, other than the pests listed in the Annex to Directive 93/49/EEC with regard to the respective propagating material;

(ae)comply with the requirements concerning Union quarantine pests, protected zone quarantine pests and RNQPs set out in the implementing acts adopted pursuant to the EU Plant Health Regulation, and measures adopted pursuant to Article 30(1) of that Regulation;;

(c)ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

(2) In this regulation—

“protected zone quarantine pest” means a pest within the meaning given by Article 32(1) of the EU Plant Health Regulation;

“RNQP” means a Union regulated non-quarantine pest within the meaning given by Article 36 of the EU Plant Health Regulation;

“Union quarantine pest” means a pest within the meaning given by Article 4 of the EU Plant Health Regulation.

(4Hepgorer rheoliad 6A.

Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012

4.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012(9) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn Atodlen 2—

(a)cyn Rhan 1 mewnosoder—

Rhan A1Rhagymadrodd

Dehongli

A1.  Yn yr Atodlen hon—

ystyr “pla cwarantin parth gwarchodedig” (“protected zone quarantine pest”) yw pla o fewn yr ystyr a roddir gan Erthygl 32(1) o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;

ystyr “pla cwarantin yr Undeb” (“Union quarantine pest”) yw pla o fewn yr ystyr a roddir gan Erthygl 4 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;

ystyr “PRHG” (“RNQP”) yw pla a reoleiddir gan yr Undeb heb gwarantin o fewn yr ystyr a roddir gan Erthygl 36 o Reoliad Iechyd Planhigion yr UE;

ystyr “Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE” (“EU Plant Health Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fesurau diogelu rhag plâu planhigion.;;

(b)yn lle paragraff 15(4) rhodder—

(4) Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd fod yn rhydd i bob pwrpas rhag unrhyw blâu sy’n lleihau defnyddioldeb ac ansawdd yr hadau.

(5) Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gydymffurfio â’r gofynion sy’n ymwneud â phlâu cwarantin yr Undeb, plâu cwarantin parth gwarchodedig a PRHGau a nodir mewn actau gweithredu a fabwysiedir yn unol â Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, a mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) o’r Rheoliad hwnnw.;

(c)ym mharagraffau 28 a 42, yn lle is-baragraff (3) ym mhob achos rhodder—

(3) Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd fod yn rhydd i bob pwrpas rhag unrhyw blâu sy’n lleihau defnyddioldeb ac ansawdd yr hadau.

(4) Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gydymffurfio â’r gofynion sy’n ymwneud â phlâu cwarantin yr Undeb, plâu cwarantin parth gwarchodedig a PRHGau a nodir mewn actau gweithredu a fabwysiedir yn unol â Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, a mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) o’r Rheoliad hwnnw.;

(d)yn lle paragraff 50(4) rhodder—

(4) Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd fod yn rhydd i bob pwrpas rhag unrhyw blâu sy’n lleihau defnyddioldeb ac ansawdd yr hadau.

(4A) Rhaid i’r cnwd a’r hadau a gynhyrchir gan y cnwd gydymffurfio â’r gofynion sy’n ymwneud â phlâu cwarantin yr Undeb, plâu cwarantin parth gwarchodedig a PRHGau a nodir mewn actau gweithredu a fabwysiedir yn unol â Rheoliad Iechyd Planhigion yr UE, a mesurau a fabwysiedir yn unol ag Erthygl 30(1) o’r Rheoliad hwnnw.

Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016

5.—(1Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016(10) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3, yn lle’r diffiniad o “Cyfarwyddeb 2014/21/EU” rhodder—

ystyr “Cyfarwyddeb 2014/21/EU” (“Directive 2014/21/EU”) yw Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/21/EU sy’n pennu amodau gofynnol a Graddau’r Undeb ar gyfer tatws hadyd cyn-sylfaenol(11);.

(3Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 3(c), yn lle paragraffau (vi) a (vii) rhodder—

(vi)Chwilen Golorado (Leptinotarsa decemlineata (Say));

(vii)Llyngyr y Gloronen (Ditylenchus destructor (Thorne));

(viii)Candidatus Liberibacter solanacearum Liefting et al.; a

(ix)Candidatus Phytoplasma solani Quaglino et al;;

(b)ym mharagraff 8, yn y geiriau ar ôl is-baragraff (b)(iii), hepgorer “sy’n gyffredin yn Ewrop”;

(c)ym mharagraff 10, yn y geiriau ar ôl is-baragraff (b)(ii), hepgorer “sy’n gyffredin yn Ewrop”.

(4Yn Atodlen 3—

(a)yn y tabl yn Rhan 1, yng ngholofn 1—

(i)o dan y pennawd “Grŵp II”, yn lle’r geiriau o “Pydredd Du’r Coesyn” hyd at “et al neu’r ddau” rhodder “Pydredd Du’r Coesyn (Dickeya Samson et al. spp. neu Pectobacterium Waldee emend. Hauben et al. spp. neu’r ddau)”;

(ii)o dan y pennawd “Grŵp IV”, yn lle “Y Cen Du (Rhizoctonia solani Kuhn)” rhodder “Y cen du fel y’i hachosir gan Thanatephorus cucumeris (A.B. Frank) Donk”;

(b)yn y tabl yn Rhan 1, o dan y pennawd “Grŵp 1”, ar ôl y cofnod “Chwilen Golorado” mewnosoder—

Candidatus Liberibacter solanacearum Liefting et alDim
Candidatus Phytoplasma solani Quaglino et alDim;

(c)yn lle Rhannau 2 a 3 rhodder—

RHAN 2Tatws hadyd cyn-sylfaenol o radd PB yr Undeb a gynhyrchir yng Nghymru

Colofn 1Colofn 2Colofn 3Colofn 4
Clefydau neu blâu, difrod a diffygion penodedigGoddefiannau unigolGoddefiannau grŵpGoddefiannau grŵp cyfunol
Grŵp I
Clefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schlib) Perc)Dim--
Llyngyr y Gloronen (Ditylenchus destructor Thorne)Dim--
Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy’n heintio tatws)Dim--
Pydredd Cylch (Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al spp sepedonicus (Spieck & Kotth) Davis et al)Dim--
Pydredd Coch (Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al)Dim--
Firoid y Gloronen BigfainDim--
Chwilen Golorado (Lepinotarsa decemlineata (Say))Dim--
Candidatus Liberibacter solanacearum Liefting et alDim--
Candidatus Phytoplasma solani Quaglino et alDim--
Grŵp II
Y Clwy Tatws (Phytophthora infestans (Mont) de Bary)0.2%))
Pydredd Du’r Coesyn (Dickeya Samson et al. spp. neu Pectobacterium Waldee emend. Hauben et al. spp. neu’r ddau)0.2%))
Pydreddau Meddal gan gynnwys: Pydredd yr Archoll Diferol (Pythium ultimum Trow)0.2%))
Y Pydredd Pinc (Phytophthora erythroseptica Pethybridge) a Phydredd y Manbant0.2%) 0.2%)
Y Pydredd Sych (rhywogaeth Fusarium)0.2%))
Y Madredd (rhywogaeth Phoma)0.2%))
Cloron a ddifrodwyd gan rew0.2%))
Grŵp III
Brychni’r croen (Polyscytalum pustulans (Owen & Wake-field)) M B Ellis0.2%)) 6.0%
Grŵp IV
Y cen du fel y’i hachosir gan Thanatephorus cucumeris (A.B. Frank) Donk Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy’n gyfan gwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag un rhan o ddeg o’u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd1.0%) 5.0%)
Y Crach Cyffredin (rhywogaeth Streptomyces) Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy’n gyfan gwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag un rhan o dair o’u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd5.0%))
Grŵp V
Y crach llychlyd (Spongospora subterranea (Wallr) Legerh) Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy’n gyfan gwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag un rhan o ddeg o’u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd1.0%))
Grŵp VI
Brychau allanol gan gynnwys cloron wedi eu niweidio neu gloron ac eithrio cloron wedi eu heintio â’u siâp heb fod yn nodweddiadol o’r amrywogaeth3.0%))
Madredd arwynebol a achosir gan firws tatws YNil) 3.0%)
Cloron wedi crebachu oherwydd dadhydradu gormodol neu ddadhydradu a achosir gan gen arian (Helminthosporium solani)0.5%))
Grŵp VII
Baw neu sylwedd estronol arall1.0%--

RHAN 3Tatws hadyd sylfaenol a thatws hadyd ardystiedig a gynhyrchir yng Nghymru

Colofn 1Colofn 2Colofn 3Colofn 4
Clefydau neu blâu, difrod a diffygion penodedigGoddefiannau unigolGoddefiannau grŵpGoddefiannau grŵp cyfunol
Grŵp I
Clefyd y Ddafaden (Synchytrium endobioticum (Schlib) Perc)Dim--
Llyngyr y Gloronen (Ditylenchus destructor Thorne)Dim--
Llyngyr Tatws (rhywogaeth Globodera sy’n heintio tatws)Dim--
Pydredd Cylch (Clavibacter michiganensis (Smith) Davis et al spp sepedonicus (Spieck & Kotth) Davis et al)Dim--
Pydredd Coch (Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al)Dim--
Firoid y Gloronen BigfainDim--
Chwilen Golorado (Lepinotarsa decemlineata (Say))Dim--
Candidatus Liberibacter solanacearum Liefting et alDim--
Candidatus Phytoplasma solani Quaglino et alDim--
Grŵp II
Y Clwy Tatws (Phytophthora infestans (Mont) de Bary)0.5%))
Pydredd Du’r Coesyn (Dickeya Samson et al. spp. neu Pectobacterium Waldee emend. Hauben et al. spp. neu’r ddau)0.5%))
Pydreddau Meddal gan gynnwys Pydredd yr Archoll Diferol (Pythium ultimum Trow)0.5%))
Y Pydredd Pinc (Phytophthora erythroseptica Pethybridge) a Phydredd y Manbant0.5%) 0.5%)
Y Pydredd Sych (rhywogaeth Fusarium)0.5%))
Y Madredd (rhywogaeth Phoma)0.5%))
Cloron a ddifrodwyd gan rew0.5%))
Unrhyw un o’r diffygion Grŵp II sy’n ymddangos fel symptom pydredd gwlyb0.2%))6.0% ar gyfer tatws hadyd sylfaenol ac 8.0% ar gyfer tatws hadyd ardystiedig
Grŵp III
Brychni’r croen (Polyscytalum pustulans (Owen & Wakefield) M B Ellis)0.5% ac eithrio gradd E yr Undeb, gradd A y Undeb a gradd B yr Undeb; 2.0% ar gyfer gradd E yr Undeb, gradd A yr Undeb a gradd B yr Undeb yn unig))
Y crach llychlyd (Spongospora subterranea (Wallr) Legerh) Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy’n gyfan gwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag un rhan o ddeg o’u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd (ac eithrio pan fo’r crach llychlyd yn ei ffurf ganseraidd)3.0%) 5.0%)
Grŵp IV
Y cen du fel y’i hachosir gan Thanatephorus cucumeris (A.B. Frank) Donk Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy’n gyfan gwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag un rhan o ddeg o’u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd5.0%))
Y Crach Cyffredin (rhywogaeth Streptomyces) Cyn belled ag y bernir bod tatws hadyd sydd ag o leiaf ddau ysmotyn du yn y pen blaguro sy’n gyfan gwbl heb eu heffeithio ac sydd â llai nag un rhan o dair o’u harwynebedd wedi ei effeithio heb gael eu heffeithio gan y clefyd5.0%))
Grŵp V
Brychau allanol gan gynnwys cloron wedi eu niweidio neu gloron ac eithrio cloron afiach â’u siâp heb fod yn nodweddiadol o’r amrywogaeth3.0%))
Cloron wedi crebachu oherwydd dadhydradu gormodol neu ddadhydradu a achosir gan gen arian (Helminthosporium solani)1.0%) 3.0%)
Madredd arwynebol a achosir gan fathau o firws tatws Y0.1%))
Grŵp VI
Baw neu sylwedd estronol arall1.0%--;

(d)yn y tabl yn Rhan 4, ar ôl y cofnod ar gyfer “Chwilen Golorado” mewnosoder—

Candidatus Liberibacter solanacearum Liefting et alDim-
Candidatus Phytoplasma solani Quaglino et alDim-.

(5Yn Rhan 1 o Atodlen 4, yn nhabl 1—

(a)yn y cofnod ar gyfer gradd yr Undeb “PBTC”, yn yr ail golofn—

(i)ym mharagraff (1)(a)(i), ar ôl “Dickeya spp.,” mewnosoder “Candidatus Liberibacter solanacearum, Candidatus Phytoplasma solani, Firoid y gloronen bigfain,”;

(ii)ym mharagraff (1)(b)(i), ar y dechrau mewnosoder “Candidatus Liberibacter solanacearum, Candidatus Phytoplasma solani, Firoid y gloronen bigfain,”;

(b)yn y cofnod ar gyfer gradd yr Undeb “PB”, yn yr ail golofn—

(i)ym mharagraff (1)(a)(ii), ar ôl “Dickeya spp.,” mewnosoder “Candidatus Liberibacter solanacearum, Candidatus Phytoplasma solani, Firoid y gloronen bigfain,”;

(ii)ym mharagraff (2)(i), ar y dechrau mewnosoder “Candidatus Liberibacter solanacearum, Candidatus Phytoplasma solani, Firoid y gloronen bigfain,”.

(6Yn Atodlen 5, ym mharagraff 3(f)(ii), hepgorer “sy’n gyffredin yn Ewrop”.

Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017

6.—(1Mae Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017(12) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2, yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “PRHG” (“RNQP”) yw pla a reoleiddir gan yr Undeb heb gwarantin o fewn yr ystyr a roddir gan Erthygl 36 o Reoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar fesurau diogelu rhag plâu planhigion;.

(3Yn rheoliad 3(1), yn lle’r diffiniad o “Cyfarwyddeb 2014/98/EU” rhodder—

ystyr “Cyfarwyddeb 2014/98/EU” (“Directive 2014/98/EU”) yw Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/98/EU sy’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC o ran gofynion penodol ar gyfer genws a rhywogaethau planhigion ffrwythau y cyfeirir atynt yn Atodiad I iddi, gofynion penodol sydd i’w bodloni gan gyflenwyr a rheolau manwl sy’n ymwneud ag arolygiadau swyddogol(13).

(4Ar ôl rheoliad 14 mewnosoder—

Cyflenwyr: gofynion hysbysu

14A.(1) Rhaid i gyflenwr adrodd ar unwaith i arolygydd ynghylch—

(a)deunyddiau planhigion sy’n dangos presenoldeb unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU;

(b)presenoldeb yn y pridd unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU;

(c)presenoldeb unrhyw PRHG yn y safle cynhyrchu ar lefel uwch na’r goddefiant a bennwyd ar gyfer yr organeb honno yn Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU; neu

(d)deunyddiau planhigion sy’n dangos presenoldeb unrhyw bla a restrir yn Atodiad 2 neu 3 i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2019/2072 sy’n sefydlu amodau unffurf ar gyfer gweithredu Rheoliad (EU) 2016/2031 Senedd Ewrop a’r Cyngor, o ran mesurau diogelu rhag plâu planhigion.

(2) Pan fo cyflenwr wedi adrodd i arolygydd ynghylch deunyddiau planhigion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(d), rhaid i’r cyflenwr gyflawni unrhyw fesurau a osodir gan yr arolygydd.

(5Yn rheoliad 15(1)(g)—

(a)ym mharagraff (i), hepgorer “Rhan A o”;

(b)hepgorer paragraff (ii) a’r “a” sy’n ei ddilyn;

(c)ym mharagraff (iii), yn lle “Atodiad 2, 3 neu 4” rhodder “Atodiad 2 neu 3”;

(d)ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—

(iv)unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 3 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, pan fo’n bresennol yn y pridd; a

(v)unrhyw PRHG ar lefel uwch na’r goddefiant a bennir ar gyfer y PRHG hwnnw yn Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU.

(6Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 1(2), yn lle paragraffau (c) a (d) rhodder—

(c)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 4;

(d)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch diffygion ym mharagraff 5; ac

(e)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch y safle cynhyrchu ym mharagraff 6.;

(b)ym mharagraff 2(2), yn lle paragraffau (b) ac (c) rhodder—

(b)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 4;

(c)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch diffygion ym mharagraff 5; a

(d)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch y safle cynhyrchu ym mharagraff 6.;

(c)ym mharagraff 4, yn lle is-baragraffau (1) i (5) rhodder—

(1) Rhaid canfod bod deunyddiau CAC, drwy arolygiad gweledol gan y cyflenwr yn ystod y cam cynhyrchu, yn rhydd i bob pwrpas rhag y PRHGau a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, oni nodir fel arall yn Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno.

(2) Rhaid i’r cyflenwr samplu a phrofi’r ffynhonnell ddeunyddiau adnabyddedig neu’r deunyddiau CAC—

(a)mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, am y plâu hynny;

(b)am y PRHGau a restrir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.

(3) Ar ôl ei gynhyrchu, rhaid canfod bod deunyddiau CAC, drwy arolygiad gweledol gan y cyflenwr, yn rhydd rhag arwyddion neu symptomau unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU.

(4) Rhaid cynnal arolygiadau gweledol a gwaith samplu a phrofi yn unol â’r gofynion a bennir yn Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.

(5) Ond nid yw is-baragraffau (1) i (3) yn gymwys i ddeunyddiau CAC yn ystod rhewgadw.;

(d)ar ôl paragraff 5 mewnosoder—

Gofynion ynghylch y safle cynhyrchu

6.  Rhaid cynhyrchu deunyddiau CAC yn unol â’r gofynion ar gyfer y safle cynhyrchu, y man cynhyrchu neu’r ardal a nodir yn Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ac a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.

(7Yn Atodlen 5—

(a)ym mharagraffau 3(2) a 4(2), ar ôl paragraff (f) ym mhob achos, mewnosoder—

(g)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch y safle cynhyrchu ym mharagraff 12A.;

(b)ym mharagraffau 5(1)(a) a 6, yn lle “12” rhodder “12A”;

(c)ym mharagraff 10—

(i)yn lle is-baragraffau (1) a (2) rhodder—

(1) Rhaid canfod bod planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol neu ddeunyddiau cyn-sylfaenol yn rhydd rhag unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.

(2) Rhaid i arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr wneud gwaith samplu a phrofi ar y planhigyn tarddiol cyn-sylfaenol neu’r deunyddiau cyn-sylfaenol—

(a)mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, am y plâu hynny;

(b)am y PRHGau a restrir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.;

(ii)yn lle is-baragraff (4) rhodder—

(4) Caiff cydymffurfedd ag is-baragraff (1) ei gadarnhau drwy arolygiad gweledol gan arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr.;

(d)ar ôl paragraff 12 mewnosoder—

Gofynion ynghylch y safle cynhyrchu

12A.  Rhaid cynhyrchu planhigion tarddiol cyn-sylfaenol a deunyddiau cyn-sylfaenol yn unol â’r gofynion ar gyfer y safle cynhyrchu, y man cynhyrchu neu’r ardal a nodir yn Atodiad 4 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU ac a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw.;

(e)ym mharagraffau 14(2) a 15(2), yn lle paragraffau (g) ac (h) rhodder—

(g)wedi eu cynnal yn unol â pharagraff 18;

(h)pan fo’n briodol, wedi eu lluosi yn unol â pharagraff 19; ac

(i)wedi eu cynhyrchu yn unol â’r gofynion ynghylch y safle cynhyrchu ym mharagraff 12A.;

(f)ym mharagraff 14(3), yn lle “(h)” rhodder “(i)”;

(g)ym mharagraff 16—

(i)yn lle is-baragraffau (1) a (2) rhodder—

(1) Rhaid canfod bod planhigyn tarddiol sylfaenol neu ddeunyddiau sylfaenol yn rhydd rhag unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.

(2) Rhaid i arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr wneud gwaith samplu a phrofi ar y planhigyn tarddiol sylfaenol neu’r deunyddiau sylfaenol—

(a)mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, am y plâu hynny;

(b)am y PRHGau a restrir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.;

(ii)yn lle is-baragraff (4) rhodder—

(4) Caiff cydymffurfedd ag is-baragraff (1) ei gadarnhau drwy arolygiad gweledol gan arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr.;

(h)ym mharagraff 20—

(i)yn is-baragraff (2), yn lle paragraffau (e) ac (f) rhodder—

(e)yn cydymffurfio â’r gofynion iechyd ym mharagraff 22;

(f)yn cael eu tyfu mewn pridd y canfyddir, drwy waith samplu a phrofi, ei fod yn cydymffurfio â pharagraff 23; ac

(g)yn cydymffurfio â’r gofynion ynghylch y safle cynhyrchu ym mharagraff 12A.;

(ii)yn is-baragraff (4), yn y geiriau cyn paragraff (a), yn lle “(f)” rhodder “(g)”;

(i)ym mharagraff 22—

(i)yn lle is-baragraffau (1) a (2) rhodder—

(1) Rhaid canfod bod planhigyn tarddiol ardystiedig neu ddeunyddiau ardystiedig yn rhydd rhag unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 neu 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.

(2) Rhaid i arolygydd a, phan fo’n briodol, y cyflenwr wneud gwaith samplu a phrofi ar y planhigyn tarddiol ardystiedig neu’r deunyddiau ardystiedig—

(a)mewn achosion pan fo amheuaeth ynghylch presenoldeb unrhyw PRHG a restrir yn Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, am y plâu hynny;

(b)am y PRHGau a restrir yn Atodiad 2 i Gyfarwyddeb 2014/98/EU, yn ddarostyngedig i ofynion Atodiad 4 i’r Gyfarwyddeb honno a bennir mewn perthynas â’r genws neu’r rhywogaeth o dan sylw, a’r categori.;

(ii)yn is-baragraff (4), yn lle’r geiriau o “is-baragraffau (1)” hyd at y diwedd rhodder “is-baragraff (1) drwy arolygiad gweledol”;

(j)ym mharagraff 23(4)(a), ar y dechrau mewnosoder “oni nodir fel arall,”.

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

4 Awst 2020

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gweithredu Cyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2020/177 sy’n diwygio Cyfarwyddebau’r Cyngor 66/401/EEC, 66/402/EEC, 68/193/EEC, 2002/55/EC, 2002/56/EC a 2002/57/EC, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 93/49/EEC a 93/61/EEC a Chyfarwyddebau Gweithredu 2014/21/EU a 2014/98/EU o ran plâu planhigion ar hadau a deunyddiau lluosogi planhigion arall (OJ Rhif L 41, 13.2.2020, t. 1).

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn diwygio’r Rheoliadau a ganlyn (“y Rheoliadau Marchnata”)—

  • Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Planhigion Llysieuol 1995 (O.S. 1995/2652) (“Rheoliadau 1995”),

  • Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurniadol 1999 (O.S. 1999/1801) (“Rheoliadau 1999”),

  • Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012 (O.S. 2012/245) (Cy. 39) (“Rheoliadau 2012”),

  • Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 (O.S. 2016/106) (Cy. 52) (“Rheoliadau 2016”), a

  • Rheoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017 (O.S. 2017/691) (Cy. 163) (“Rheoliadau 2017”).

Mae Rheoliadau 1995 yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/72/EC ar farchnata deunyddiau lluosogi a phlannu llysiau, ac eithrio hadau (OJ Rhif L 205, 1.8.2008, t. 28) (“Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/72/EC”) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 93/61/EEC sy’n nodi’r atodlenni sy’n dangos yr amodau sydd i’w bodloni gan ddeunyddiau lluosogi a phlannu llysiau, ac eithrio hadau, yn unol â Chyfarwyddeb 92/33/EEC (OJ Rhif L 250, 7.10.1993, t. 19).

Mae Rheoliadau 1999 yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 98/56/EC ar farchnata deunyddiau lluosogi planhigion addurniadol (OJ Rhif L 226, 13.8.1998, t. 16) a Chyfarwyddeb y Comisiwn 93/49/EEC sy’n nodi’r atodlen sy’n dangos yr amodau sydd i’w bodloni gan ddeunyddiau lluosogi planhigion addurniadol a phlanhigion addurniadol yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 91/682/EEC (OJ Rhif L 250, 7.10.1993, t. 9).

Mae Rheoliadau 2012 yn gweithredu gwahanol offerynnau’r UE, yn enwedig Cyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC ar farchnata hadau planhigion porthiant (OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2298), Cyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC ar farchnata hadau ŷd (OJ Rhif L 125, 11.7.1966, t. 2309), Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/55/EC ar farchnata hadau llysiau (OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 33) a Chyfarwyddeb y Cyngor 2002/57/EC ar farchnata hadau planhigion olew a ffeibr (OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 74).

Mae Rheoliadau 2016 yn gweithredu gwahanol offerynnau’r UE, yn enwedig Cyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC ar farchnata tatws hadyd (OJ Rhif L 193, 20.7.2002, t. 60) a Chyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/21/EU sy’n pennu amodau gofynnol a graddau’r Undeb ar gyfer tatws hadyd cyn-sylfaenol (OJ Rhif L 38, 7.2.2014, t. 39).

Mae Rheoliadau 2017 yn gweithredu gwahanol offerynnau’r UE, yn enwedig Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC ar farchnata deunyddiau lluosogi planhigion ffrwythau a phlanhigion ffrwythau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu ffrwythau (OJ Rhif L 267, 8.10.2008, t. 8) (“Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC”) a Chyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/98/EU sy’n gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC o ran gofynion penodol mewn perthynas â genws a rhywogaeth planhigion ffrwythau y cyfeirir atynt yn Atodiad I iddi, gofynion penodol sydd i’w bodloni gan gyflenwyr a rheolau manwl sy’n ymwneud ag arolygiadau swyddogol (OJ Rhif L 298, 16.10.2014, t. 22).

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaethau yn y Rheoliadau Marchnata i’w gwneud yn ofynnol i hadau, planhigion a deunyddiau lluosogi planhigion (“deunyddiau planhigion”) a fwriedir ar gyfer eu marchnata yng Nghymru fod yn rhydd i bob pwrpas rhag plâu a reoleiddir heb gwarantin yn y man cynhyrchu a sicrhau nad yw presenoldeb y plâu hynny ar ddeunyddiau planhigion yn uwch na throthwyon penodedig.

Mae rheoliad 2(4) hefyd yn diwygio Rheoliadau 1995 i sicrhau y caiff Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/72/EC ei gweithredu’n briodol.

Mae rheoliad 5(4) hefyd yn diwygio Rheoliadau 2016 i gywiro gwallau fformadu yn y tablau yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 3 i Reoliadau 2016.

Mae rheoliad 6(4) hefyd yn diwygio Rheoliadau 2017 i sicrhau y caiff Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC ei gweithredu’n briodol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1972 p. 68. Diddymwyd Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (“Deddf 1972”) gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (“Deddf 2018”) gydag effaith o’r diwrnod ymadael. Mae “exit day” wedi ei ddiffinio yn adran 20 o Ddeddf 2018 fel 31 Ionawr 2020 am 11pm. Er gwaethaf y diddymiad hwnnw mae Deddf 1972 yn parhau i gael effaith gydag addasiadau tan ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn rhinwedd adran 1A o Ddeddf 2018. Mewnosodwyd adran 1A gan adran 1 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) (“Deddf 2020”). Mae “IP completion day” wedi ei ddiffinio yn adran 1A fel 31 Rhagfyr 2020 am 11pm (yr ystyr a roddir yn adran 39 o Ddeddf 2020). Diwygiwyd adran 2(2) o Ddeddf 1972 yn flaenorol gan adran 27(1) o Ddeddf Diwygio Deddfwriaethol a Rheoleiddiol 2006 (p. 51) a chan adran 3(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Diwygio) 2008 (p. 7), a Rhan 1 o’r Atodlen iddi.

(2)

O.S. 2010/2690, sydd wedi ei ddirymu’n rhagolygol gan O.S. 2018/1011 o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.

(3)

1964 p. 14. Mewnosodwyd adran 16(1A) gan adran 4 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, a pharagraff 5 o Atodlen 4 iddi. Gweler adran 38(1) am ddiffiniad o “the Minister”. Yn unol ag erthygl 2(1) o Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272) ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd swyddogaethau’r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i’r Ysgrifennydd Gwladol. Yn unol ag erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) mae’r swyddogaethau hynny bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.

(4)

O.S. 1995/2652, a ddiwygiwyd gan O.S. 2007/2190 (Cy. 174), 2014/519 (Cy. 61), 2018/1216 (Cy. 249), 2020/206 (Cy. 48); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.

(5)

OJ Rhif L 317, 23.11.2016, t. 4.

(6)

OJ Rhif L 319, 10.12.2019, t. 1.

(7)

O.S. 1999/1801, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2018/974, 2018/1216 (Cy. 249), 2020/206 (Cy. 48). Mae O.S. 1999/1801 wedi ei ddiwygio’n rhagolygol gan O.S. 2019/131.

(8)

OJ Rhif L 250, 7.10.1993, t. 9, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2020/177 (OJ Rhif L 41, 13.2.2020, t. 1).

(9)

O.S. 2012/245 (Cy. 39). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. Mae O.S. 2012/245 (Cy. 39) wedi ei ddiwygio’n rhagolygol gan O.S. 2019/368 (Cy. 90).

(10)

O.S. 2016/106 (Cy. 52), yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2018/1216 (Cy. 249), 2020/206 (Cy. 48). Mae O.S. 2016/106 (Cy. 52) wedi ei ddiwygio’n rhagolygol gan O.S. 2019/738 (Cy. 141).

(11)

Diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2020/177 sy’n diwygio Cyfarwyddebau’r Cyngor 66/401/EEC, 66/402/EEC, 68/193/EEC, 2002/55/EC, 2002/56/EC a 2002/57/EC, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 93/49/EEC a 93/61/EEC a Chyfarwyddebau Gweithredu 2014/21/EU a 2014/98/EU o ran plâu planhigion ar hadau a deunyddiau lluosogi planhigion eraill (OJ Rhif L 41, 13.2.2020, t. 1). Gweler adran 26 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4).

(12)

O.S. 2017/691 (Cy. 163), a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/206 (Cy. 48); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol. Mae O.S. 2017/691 (Cy. 163) wedi ei ddiwygio’n rhagolygol gan O.S. 2019/368 (Cy. 90).

(13)

Diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn (EU) 2020//177 sy’n diwygio Cyfarwyddebau’r Cyngor 66/401/EEC, 66/402/EEC, 68/193/EEC, 2002/55/EC, 2002/56/EC a 2002/57/EC, Cyfarwyddebau’r Comisiwn 93/49/EEC a 93/61/EEC a Chyfarwyddebau Gweithredu 2014/21/EU a 2014/98/EU o ran plâu planhigion ar hadau a deunyddiau lluosogi planhigion eraill (OJ Rhif L 41, 13.2.2020, t. 1). Gweler adran 26 o Ddeddf Deddfwriaeth Cymru (Cymru) 2019 (dccc 4).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources