- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Benfro (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(1).
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(2);
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Penfro;
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn golygu un o’r 10 map a farciwyd “Map o Orchymyn Sir Benfro (Trefniadau Etholiadol) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau ac a labelwyd “1” i “10”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
3.—(1) Mae wardiau etholiadol Sir Benfro, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Sir Benfro wedi ei rhannu’n 59 o wardiau etholiadol a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer aelodau’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(3).
4. Yng nghymuned Aberdaugleddau—
(a)mae’r rhan o ward Hakin a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Aberdaugleddau;
(b)mae’r rhan o ward Hubberston a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Hakin;
(c)mae’r rhan o ward Gogledd Aberdaugleddau a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Aberdaugleddau.
5. Mae’r rhan o ward gymunedol St Michael o gymuned Penfro a ddangosir â llinellau ar Fap 4 wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol De St Mary o gymuned Penfro.
6. Yng nghymuned Penfro—
(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De St Mary yw 4;
(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward St Michael yw 4.
7.—(1) Mae wardiau cymunedol Canol Doc Penfro a Llanion yng nghymuned Doc Penfro, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae’r wardiau cymunedol a ganlyn wedi eu ffurfio—
(a)ward Canol Doc Penfro a ddangosir â llinellau ar Fap 5;
(b)ward Bush a ddangosir â llinellau ar Fap 6.
8.—(1) Mae ward gymunedol Pennar yng nghymuned Doc Penfro, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu.
(2) Mae’r wardiau cymunedol a ganlyn wedi eu ffurfio—
(a)ward Pennar a ddangosir â llinellau ar Fap 7;
(b)ward Bufferland a ddangosir â llinellau ar Fap 8.
9. Yng nghymuned Doc Penfro—
(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Bufferland yw 3;
(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Bush yw 3;
(c)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Doc Penfro yw 4;
(d)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Pennar yw 3.
10. Mae cymuned Saundersfoot i’w rhannu i ffurfio’r wardiau cymunedol a ganlyn—
(a)ward Gogledd Saundersfoot a ddangosir â llinellau ar Fap 9;
(b)ward De Saundersfoot a ddangosir â llinellau ar Fap 10.
11. Yng nghymuned Saundersfoot—
(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Gogledd Saundersfoot yw 4;
(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De Saundersfoot yw 8.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
25 Hydref 2021
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys