Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1189 (Cy. 297)

Cynllunio Gwlad A Thref, Cymru

Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021

Gwnaed

25 Hydref 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

27 Hydref 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 59 a 74(1)(c) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(2), a thrwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 61Z(8) a (9), 62R a 333(4B) o’r Ddeddf honno(3), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021.

(2Daw’r Gorchymyn hwn i rym fel a ganlyn—

(a)daw’r erthygl hon, erthygl 2(1), (2)(a) a (3)(b) ac erthygl 3(1), (2)(a) a (3) i rym ar 1 Rhagfyr 2021;

(b)daw erthygl 2(2)(b), (3)(a) ac (c) ac erthygl 3(2)(b) i rym ar 24 Ionawr 2022.

(3Pan fo—

(a)cais am ganiatâd cynllunio wedi ei gyflwyno cyn 25 Ebrill 2022; a

(b)yn ofynnol i’r ceisydd fod wedi ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub yn unol ag erthygl 2D o Orchymyn 2012 ond nad yw wedi gwneud hynny;

mae’r ceisydd i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion erthyglau 2D a 2F o Orchymyn 2012 mewn cysylltiad â’r gofyniad i ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub perthnasol.

(4Pan fo cais am ganiatâd cynllunio wedi ei wneud cyn 25 Ebrill 2022, nid yw erthygl 14(1) o Orchymyn 2012 yn gymwys i’r graddau y bo’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cynllunio lleol ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub.

(5Nid yw erthygl 3(2)(b) yn gymwys i—

(a)ceisiadau arfaethedig yr hysbysir Gweinidogion Cymru ac awdurdodau cynllunio lleol amdanynt yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn 2016 cyn 24 Ionawr 2022;

(b)ceisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990 cyn 24 Ionawr 2022.

(6Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “Deddf 1990” (“the 1990 Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(4);

ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012(5);

ystyr “Gorchymyn 2016” (“the 2016 Order”) yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016(6).

Diwygio Gorchymyn 2012

2.—(1Mae Atodlen 4 i Orchymyn 2012 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn y tabl—

(a)yn lle rhes (x) rhodder—

(x)

Datblygiad—

(i)

ar dir o fewn Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 3;

(ii)

ar dir o fewn Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 2;

(iii)

ar dir o fewn Parthau Amddiffynedig TAN 15.

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

(b)ar ôl rhes (y) mewnosoder—

(z)

Datblygiad sy’n ymwneud ag—

(i)datblygiad gwastraff;

(ii)darparu tai annedd pan fo naill ai nifer y tai annedd sydd i’w darparu yn 10 neu ragor neu pan fwriedir cyflawni’r datblygiad ar safle sydd â’i arwynebedd yn 0.5 hectar neu fwy ac nad yw’n hysbys a yw nifer y tai annedd sydd i’w darparu yn 10 neu ragor;

(iii)darparu adeilad neu adeiladau lle mae’r arwynebedd llawr y bwriedir ei greu gan y datblygiad yn 1,000 metr sgwâr neu ragor;

(iv)datblygiad a gyflawnir ar safle sydd â’i arwynebedd yn 1 hectar neu fwy;

(v)darparu 10 neu ragor o fflatiau (boed hynny drwy gynyddu nifer y fflatiau mewn adeilad presennol neu fel arall);

(vi)darparu llety preswyl ac ynddo 10 neu ragor o ystafelloedd, nad ydynt wedi eu cynnwys mewn tai annedd neu fflatiau, nad ydynt yn cael eu defnyddio yn unig at ddibenion coginio ac nad ydynt yn gyfleusterau toiled, yn ystafelloedd gwasanaeth, yn goridorau, yn ystafelloedd golchi dillad, yn gynteddau neu’n ystafelloedd amlbwrpas; neu

(vii)darparu llety preswyl ac ynddo 10 neu ragor o ystafelloedd sydd wedi eu cynnwys mewn tŷ annedd neu fflat a ddefnyddir fel tŷ amlfeddiannaeth, nad ydynt yn cael eu defnyddio yn unig at ddibenion coginio ac nad ydynt yn gyfleusterau toiled, yn ystafelloedd gwasanaeth, yn goridorau, yn ystafelloedd golchi dillad, yn gynteddau neu’n ystafelloedd amlbwrpas.

Yr Awdurdod Tân ac Achub perthnasol

(3O dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”—

(a)ar ddiwedd paragraff (m) hepgorer “ac”;

(b)yn lle paragraff (n) rhodder—

(n)ym mharagraff (x)—

ystyr “Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 3” (“Rivers and Sea – Flood Zone 3”) yw ardal lle y mae mwy nag 1 siawns mewn 100 o lifogydd o afonydd a mwy nag 1 siawns mewn 200 o lifogydd o’r môr mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd;

ystyr “Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 2” (“Rivers and Sea – Flood Zone 2”) yw ardal lle y mae llai nag 1 siawns mewn 100 o lifogydd o afonydd a llai nag 1 siawns mewn 200 o lifogydd o’r môr ond mwy nag 1 siawns mewn 1000 o lifogydd o’r afonydd a’r môr mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd; ac

ystyr “Parthau Amddiffynnol TAN 15” (“TAN 15 Defended Zones”) yw ardaloedd lle y mae seilwaith rheoli perygl llifogydd yn darparu safon ofynnol o ddiogelwch rhag llifogydd o 1 mewn 100 o afonydd ac 1 mewn 200 o’r môr (ynghyd â newid yn yr hinsawdd a bwrdd rhydd) fel y nodir yn y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio a gyhoeddir gan Gyfoeth Naturiol Cymru;;;

(c)ar ôl paragraff (n) mewnosoder—

(o)ym mharagraff (z) nid yw “tŷ amlfeddiannaeth” yn cynnwys bloc o fflatiau wedi ei drosi y mae adran 257 o Ddeddf Tai 2004 yn gymwys iddo ond fel arall mae iddo yr un ystyr ag a roddir i “house in multiple occupation” yn adran 254 o Ddeddf Tai 2004.

Diwygio Gorchymyn 2016

3.—(1Mae Atodlen 5 i Orchymyn 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2Yn y tabl—

(a)yn lle rhes (u) rhodder—

(u)

Datblygiad—

(i)ar dir o fewn Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 3;

(ii)ar dir o fewn Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 2;

(iii)ar dir o fewn Parthau Amddiffynedig TAN 15.

Corff Adnoddau Naturiol Cymru

(b)ar ôl rhes (v) mewnosoder—

(w)

Datblygiad sy’n ymwneud ag—

(i)datblygiad gwastraff;

(ii)darparu adeilad neu adeiladau lle mae’r arwynebedd llawr y bwriedir ei greu gan y datblygiad yn 1,000 metr sgwâr neu ragor; neu

(iii)datblygiad a gyflawnir ar safle sydd ag arwynebedd o 1 hectar neu ragor.

Yr Awdurdod Tân ac Achub perthnasol

(3O dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”, yn lle paragraff (j) rhodder—

ym mharagraff (u)—

(i)ystyr “Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 3” (“Rivers and Sea – Flood Zone 3”) yw ardal lle y mae mwy nag 1 siawns mewn 100 o lifogydd o afonydd a mwy nag 1 siawns mewn 200 o lifogydd o’r môr mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd;

(ii)ystyr “Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 2” (“Rivers and Sea – Flood Zone 2”) yw ardal lle y mae llai nag 1 siawns mewn 100 o lifogydd o afonydd a llai nag 1 siawns mewn 200 o lifogydd o’r môr ond mwy nag 1 siawns mewn 1000 o lifogydd o’r afonydd a’r môr mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd; a

(iii)ystyr “Parthau Amddiffynnol TAN 15” (“TAN 15 Defended Zones”) yw ardaloedd lle y mae seilwaith rheoli perygl llifogydd yn darparu safon ofynnol o ddiogelwch rhag llifogydd o 1 mewn 100 o afonydd ac 1 mewn 200 o’r môr (ynghyd â newid yn yr hinsawdd a bwrdd rhydd) fel y nodir yn y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio a gyhoeddir gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

25 Hydref 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (“Gorchymyn 2012”) a Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 (“Gorchymyn 2016”) mewn perthynas ag ymgynghori cyn ymgeisio ac ymgynghori cyn rhoi caniatâd cynllunio.

Mae erthygl 2 yn diwygio’r tabl yn Atodlen 4 i Orchymyn 2012 (ymgyngoriadau cyn rhoi caniatâd cynllunio) er mwyn—

(a)amnewid y categori o ddatblygiad sydd mewn perygl o lifogydd y mae rhaid ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn ei gylch (erthygl 2(2)(a) a (3)(b));

(b)ychwanegu categori o ddatblygiad y mae rhaid ymgynghori ag Awdurdodau Tân ac Achub yn ei gylch (erthygl 2(2)(b) a (3)(a) ac (c)).

Mae erthygl 1(3) yn darparu, pan fo cais am ganiatâd cynllunio wedi ei gyflwyno cyn 25 Ebrill 2022 a’i bod yn ofynnol i’r ceisydd fod wedi ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub yn unol ag erthygl 2D o Orchymyn 2021 ond nad yw wedi gwneud hynny, fod y ceisydd i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion erthyglau 2D a 2F o Orchymyn 2012 mewn cysylltiad â’r gofyniad i ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub perthnasol.

Mae erthygl 1(4) yn darparu na fydd y gofyniad i awdurdod cynllunio lleol ymgynghori ag Awdurdod Tân ac Achub yn gymwys mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio a wneir cyn 25 Ebrill 2022.

Mae erthygl 3 yn diwygio’r tabl yn Atodlen 5 i Orchymyn 2016 (dyletswydd i ymgynghori cyn rhoi caniatâd) er mwyn—

(a)amnewid y categori o ddatblygiad sydd mewn perygl o lifogydd y mae rhaid ymgynghori â Chorff Adnoddau Naturiol Cymru yn ei gylch (erthygl 3(2)(a) a (3));

(b)ychwanegu categori o ddatblygiad y mae rhaid ymgynghori ag Awdurdodau Tân ac Achub yn ei gylch (erthygl 3(2)(b)).

Mae erthygl 1(5) yn darparu nad yw erthygl 3(2)(b) yn gymwys i:

(a)ceisiadau arfaethedig yr hysbysir Gweinidogion Cymru ac awdurdodau cynllunio lleol amdanynt yn unol ag erthygl 5 o Orchymyn 2016 cyn 24 Ionawr 2022;

(b)ceisiadau a wneir i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf 1990 cyn 24 Ionawr 2022.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1990 p. 8 (“Deddf 1990”). Diwygiwyd adran 59 gan adran 27 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc 4) (“Deddf 2015”) a pharagraffau 1 a 3 o Atodlen 4 iddi, ac adran 55 o’r Ddeddf honno a pharagraff 5 o Atodlen 7 iddi, a chan adran 1(2) o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27) a pharagraffau 1 a 4 o Atodlen 1 iddi. Mae diwygiadau i adran 74 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf 1990 fel y’i hamnewidiwyd gan O.S. 2000/253. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi. Gweler hefyd adran 59(4) o Ddeddf 1990 sy’n darparu mai ystyr gorchymyn datblygu o ran Cymru yw gorchymyn datblygu a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)

Mewnosodwyd adran 61Z gan adran 17(1) a (2) o Ddeddf 2015. Mewnosodwyd adran 62R gan adran 25 o Ddeddf 2015. Mewnosodwyd adran 333(4B) gan adran 55 o Ddeddf 2015 a pharagraff 6(1) a (3) o Atodlen 7 iddi.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill