- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
Llywodraeth Leol, Cymru
Gwnaed
2 Tachwedd 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(2) (“Deddf 1972”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Ionawr 2019 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion adolygiad o’r trefniadau cymunedol yn Sir Fynwy a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Fynwy.
Mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu rhoi effaith i argymhellion y Comisiwn heb addasiad.
Yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf 1972, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 8 Tachwedd 2021.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym am 23:59 o’r gloch ar y diwrnod cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(5).
2.—(1) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “newydd” (“new”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol neu ardal etholiadol, yw’r ardal honno fel y’i sefydlir gan y Gorchymyn hwn;
ystyr “presennol” (“existing”), mewn perthynas ag ardal llywodraeth leol neu ardal etholiadol, yw’r ardal honno fel y mae’n bodoli yn union cyn yr amser a’r dyddiad a nodwyd yn erthygl 1(3);
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(6);
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir cynghorwyr drosti i Gyngor Sir Fynwy;
mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 166 o fapiau a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir Fynwy (Cymunedau) 2021”, a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “166”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;
pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf Llywodraeth Leol 1972 fel y’i harbedwyd, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
(2) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf 1972 neu Orchymyn a wnaed o dan adrannau 37(1), 38(1) neu 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(7).
3. Mae’r rhan o gymuned Llan-ffwyst Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 1—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned y Fenni;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanwenarth Citra;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Cantref.
4. Mae’r rhan o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 2—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned y Fenni;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Lansdown;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Lansdown.
5. Mae’r rhan o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 3—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned y Fenni;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol y Priordy;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Priordy.
6. Mae’r rhan o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 4—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanofer;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanddewi Rhydderch;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llan-arth.
7. Mae’r rhannau o gymuned Llanofer a ddangosir â llinellau ar Fap 5 a Map 6—
(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned y Fenni;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol y Castell;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Castell.
8. Mae’r rhan o ward Cantref o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 7—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Llanwenarth Citra o gymuned y Fenni;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Cantref.
9. Mae’r rhan o ward Cantref o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 8—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Grofield o gymuned y Fenni;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Grofield.
10. Mae’r rhan o ward y Castell o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 9—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward y Priordy o gymuned y Fenni;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Priordy.
11. Mae’r rhan o ward y Castell o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 10—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Grofield o gymuned y Fenni;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Grofield.
12. Mae’r rhan o ward y Priordy o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 11—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward y Castell o gymuned y Fenni;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Castell.
13. Mae’r rhan o ward y Castell o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 12—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward y Priordy o gymuned y Fenni;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Priordy.
14. Mae ward y Castell o gymuned y Fenni fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 13—
(a)wedi ei hailenwi yn Pen-y-fâl;
(b)yn ffurfio ward etholiadol y Castell.
15. Mae ward etholiadol y Castell fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei hailenwi yn Pen-y-fâl.
16. Mae’r rhan o ward y Priordy o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 14—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Grofield o gymuned y Fenni;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Grofield.
17. Mae’r rhan o ward Grofield o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 15—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Llanwenarth Citra o gymuned y Fenni;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Cantref.
18. Mae’r rhan o ward Lansdown o gymuned y Fenni a ddangosir â llinellau ar Fap 16—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward y Priordy o gymuned y Fenni;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Priordy.
19. Mae ward y Priordy o gymuned y Fenni fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 17—
(a)wedi ei hailenwi yn y Parc;
(b)yn ffurfio ward etholiadol y Priordy.
20. Mae ward y Priordy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei hailenwi yn y Parc.
21. Yng nghymuned y Fenni, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Grofield yw 4;
(b)ward Llanwenarth Citra yw 1;
(c)ward y Parc yw 3;
(d)ward Pen-y-fâl yw 3.
22. Mae’r rhannau o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 18—
(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned Caer-went;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Saint-y-brid;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.
23. Mae’r rhannau o gymuned Caer-went a ddangosir â llinellau ar Fap 19—
(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned Rogiet;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rogiet.
24. Mae’r rhannau o gymuned Porth Sgiwed a ddangosir â llinellau ar Fap 20—
(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned Caer-went;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Crug;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.
25. Mae’r rhan o gymuned Matharn a ddangosir â llinellau ar Fap 21—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Caer-went;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Crug;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.
26. Mae’r rhan o ward Saint-y-brid o gymuned Caer-went a ddangosir â llinellau ar Fap 22—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Caer-went o gymuned Caer-went;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.
27. Mae’r rhan o ward Crug o gymuned Caer-went a ddangosir â llinellau ar Fap 23—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Caer-went o gymuned Caer-went;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.
28. Mae’r rhan o ward Crug o gymuned Caer-went a ddangosir â llinellau ar Fap 24—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Dinham o gymuned Caer-went;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.
29. Mae’r rhan o ward Llanfair Disgoed o gymuned Caer-went a ddangosir â llinellau ar Fap 25—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Dinham o gymuned Caer-went;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.
30. Mae’r rhan o ward Llanfair Disgoed o gymuned Caer-went a ddangosir â llinellau ar Fap 26—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Saint-y-brid o gymuned Caer-went;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Caer-went.
31. Yng nghymuned Caer-went, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Caer-went yw 3;
(b)ward Llanfair Disgoed yw 1;
(c)ward Saint-y-brid yw 1.
32. Mae’r rhan o gymuned Porth Sgiwed a ddangosir â llinellau ar Fap 27—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Caldicot;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Hafren;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.
33. Mae’r rhan o gymuned Rogiet a ddangosir â llinellau ar Fap 28—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Caldicot;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol West End;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol West End.
34. Mae’r rhan o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 29—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Rogiet;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rogiet.
35. Mae’r rhan o ward Castell Caldicot o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 30—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Caldicot Cross o gymuned Caldicot;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Croes Cil-y-coed.
36. Mae’r rhan o ward Castell Caldicot o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 31—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward The Village o gymuned Caldicot;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.
37. Mae’r rhan o ward Castell Caldicot o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 32—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Hafren o gymuned Caldicot;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.
38. Mae’r rhan o ward Llanddewi o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 33—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward West End o gymuned Caldicot;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol West End.
39. Mae’r rhan o ward Llanddewi o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 34—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Caldicot Cross o gymuned Caldicot;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Croes Cil-y-coed.
40. Mae’r rhan o ward Green Lane o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 35—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Llanddewi o gymuned Caldicot;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanddewi.
41. Mae’r rhan o ward Green Lane o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 36—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Caldicot Cross o gymuned Caldicot;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Croes Cil-y-coed.
42. Mae’r rhannau o ward Green Lane o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 37 a Map 38—
(a)wedi eu trosglwyddo i ward newydd The Village o gymuned Caldicot;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.
43. Mae’r rhan o ward Hafren o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 39—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Caldicot Cross o gymuned Caldicot;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Croes Cil-y-coed.
44. Mae’r rhan o ward Hafren o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 40—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd The Village o gymuned Caldicot;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.
45. Mae’r rhan o ward West End o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 41—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Hafren o gymuned Caldicot;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.
46. Mae’r rhan o ward West End o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 42—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd The Village o gymuned Caldicot;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.
47. Mae’r rhan o ward West End o gymuned Caldicot a ddangosir â llinellau ar Fap 43—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd The Village o gymuned Caldicot;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Hafren.
48. Mae ward gymunedol newydd The Village o gymuned Caldicot wedi ei chreu sydd—
(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 44;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Hafren.
49. Mae ward bresennol Green Lane o gymuned Caldicot fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
50. Mae ward gymunedol newydd Caldicot Cross o gymuned Caldicot wedi ei chreu sydd—
(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 45;
(b)yn ffurfio ward etholiadol Croes Cil-y-coed.
51. Yng nghymuned Caldicot, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Croes Cil-y-coed yw 3;
(b)ward Llanddewi yw 3;
(c)ward Hafren yw 2;
(d)ward The Village yw 2.
52. Mae ward etholiadol bresennol Green Lane wedi ei diddymu.
53. Mae ward etholiadol newydd Hafren wedi ei chreu sy’n cynnwys ardal wardiau cymunedol Hafren a The Village o gymuned Caldicot.
54. Nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Hafren yw 1.
55. Mae ward etholiadol newydd Croes Cil-y-coed wedi ei chreu sy’n cynnwys ardal ward gymunedol Caldicot Cross o gymuned Caldicot.
56. Nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Croes Cil-y-coed yw 1.
57. Mae’r rhan o gymuned Matharn a ddangosir â llinellau ar Fap 46—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Cas-gwent;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Larkfield;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.
58. Mae’r rhan o gymuned Matharn a ddangosir â llinellau ar Fap 47—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Cas-gwent;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Thornwell;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.
59. Mae’r rhan o gymuned St Arvans a ddangosir â llinellau ar Fap 48—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Cas-gwent;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol St Kingsmark;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.
60. Mae’r rhan o gymuned Matharn a ddangosir â llinellau ar Fap 49—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Cas-gwent;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol St Kingsmark;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.
61. Mae’r rhan o ward St Kingsmark o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 50—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Larkfield o gymuned Cas-gwent;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.
62. Mae’r rhan o ward Larkfield o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 51—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Mount Pleasant o gymuned Cas-gwent;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.
63. Mae’r rhan o ward Larkfield o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 52—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward St Mary’s o gymuned Cas-gwent;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol St Mary’s.
64. Mae’r rhan o ward St Christophers o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 53—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Larkfield o gymuned Cas-gwent;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.
65. Mae’r rhan o ward St Christophers o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 54—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Thornwell o gymuned Cas-gwent;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.
66. Mae’r rhan o ward St Christophers o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 55—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Maple Avenue o gymuned Cas-gwent;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.
67. Mae’r rhan o ward St Christophers o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 56—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Bulwark o gymuned Cas-gwent;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.
68. Mae’r rhan o ward St Mary’s o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 57—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward St Kingsmark o gymuned Cas-gwent;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.
69. Mae’r rhan o ward St Kingsmark o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 58—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Mount Pleasant o gymuned Cas-gwent;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.
70. Mae’r rhan o ward St Mary’s o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 59—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Mount Pleasant o gymuned Cas-gwent;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.
71. Mae’r rhan o ward Thornwell o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 60—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Maple Avenue o gymuned Cas-gwent;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.
72. Mae’r rhan o ward Thornwell o gymuned Cas-gwent a ddangosir â llinellau ar Fap 61—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Bulwark o gymuned Cas-gwent;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.
73. Mae ward bresennol St Christophers o gymuned Cas-gwent fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu ac mae ward gymunedol newydd Bulwark wedi ei chreu.
74. Mae ward gymunedol newydd Bulwark o gymuned Cas-gwent—
(a)yn cynnwys yr ardal a ddangosir â llinellau ar Fap 62;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.
75. Mae ward gymunedol newydd Maple Avenue o gymuned Cas-gwent wedi ei chreu sydd—
(a)yn cynnwys yr ardal a ddangosir â llinellau ar Fap 63;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell.
76. Mae ward gymunedol newydd Mount Pleasant o gymuned Cas-gwent wedi ei chreu sydd—
(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 64;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch.
77. Mae ward bresennol St Mary’s o gymuned Cas-gwent fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 65—
(a)wedi ei hailenwi yn Castell Cas-gwent;
(b)yn ffurfio ward etholiadol newydd Castell Cas-gwent.
78. Yng nghymuned Cas-gwent, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Larkfield yw 2;
(b)ward Bulwark yw 4;
(c)ward Castell Cas-gwent yw 3;
(d)ward Maple Avenue yw 1;
(e)ward Mount Pleasant yw 3.
79. Mae ward etholiadol newydd Bulwark a Thornwell wedi ei chreu sy’n cynnwys ardaloedd wardiau cymunedol Bulwark, Maple Avenue a Thornwell o gymuned Cas-gwent.
80. Nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Bulwark a Thornwell yw 2.
81. Mae ward etholiadol newydd Larkfield a Llangynfarch wedi ei chreu sy’n cynnwys ardaloedd wardiau cymunedol Mount Pleasant, Larkfield a St Kingsmark o gymuned Cas-gwent.
82. Nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Larkfield a Llangynfarch yw 2.
83. Mae ward etholiadol St Mary’s wedi ei hailenwi yn Castell Cas-gwent ac mae’n cynnwys ardal ward gymunedol Castell Cas-gwent o gymuned Cas-gwent.
84. Nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Castell Cas-gwent yw 1.
85. Mae ward etholiadol St Christophers wedi ei diddymu.
86. Mae’r rhan o gymuned Crucornau a ddangosir â llinellau ar Fap 66—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Grysmwnt;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llangatwg Lingoed;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Crucornau Fawr.
87. Mae’r rhan o gymuned Crucornau a ddangosir â llinellau ar Fap 67—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned newydd Ynysgynwraidd;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Llanwytherin;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
88. Mae’r rhan o ward Llanfihangel Crucornau o gymuned Crucornau a ddangosir â llinellau ar Fap 68—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Pandy o gymuned Crucornau;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Crucornau Fawr.
89. Mae ward newydd Cwm-iou wedi ei chreu yng nghymuned Crucornau sydd—
(a)yn cynnwys ardaloedd cyfun wardiau Cwm-iou Uchaf a Chwm-iou Isaf o gymuned Crucornau a ddangosir â llinellau ar Fap 69;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Crucornau Fawr.
90. Mae ward gymunedol newydd Pandy wedi ei chreu yng nghymuned Crucornau sydd—
(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 68;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Crucornau Fawr.
91. Yng nghymuned Crucornau, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Cwm-iou yw 1;
(b)ward Fforest a Ffwddog yw 1;
(c)ward Llanfihangel Crucornau yw 2;
(d)ward Pandy yw 2.
92. Mae’r rhan o gymuned Tyndyrn a ddangosir â llinellau ar Fap 70—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Devauden;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Devauden;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Devauden.
93. Mae’r rhan o gymuned St Arvans a ddangosir â llinellau ar Fap 71—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Devauden;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanddinol;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Devauden.
94. Mae’r rhan o gymuned Drenewydd Gelli-farch a ddangosir â llinellau ar Fap 72—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Devauden;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanddinol;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Devauden.
95. Mae’r rhan o gymuned Devauden a ddangosir â llinellau ar Fap 73—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned St Arvans;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanarfan.
96. Mae’r rhan o ward Llanfihangel Wolvesnewton o gymuned Devauden a ddangosir â llinellau ar Fap 74—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Devauden o gymuned Devauden;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Devauden.
97. Mae ward bresennol Llanfihangel Wolvesnewton o gymuned Devauden fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 75—
(a)wedi ei hailenwi yn Llanfihangel Tor-y-Mynydd;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Devauden.
98. Yng nghymuned Devauden, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Cilgwrrwg yw 1;
(b)ward Llanfihangel Tor-y-Mynydd yw 1.
99. Mae’r rhan o gymuned Llanofer a ddangosir â llinellau ar Fap 76—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Goetre Fawr;
(b)yn ffurfio ward gymunedol Llanofer;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Goetre Fawr.
100. Mae’r rhan o gymuned Llanofer a ddangosir â llinellau ar Fap 77—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Goetre Fawr;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Nant-y-Deri;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Goetre Fawr.
101. Mae’r rhan o gymuned Goetre Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 78—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanbadog;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Monkswood;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanbadog.
102. Mae’r rhan o ward gymunedol Mamhilad o gymuned Goetre Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 79—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanbadog;
(b)yn ffurfio ward gymunedol Little Mill;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanbadog.
103. Mae’r rhan o ward Goetre Fawr o gymuned Goetre Fawr a ddangosir â llinellau a’r rhif 1 ar Fap 80—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Nant-y-Deri o gymuned Goetre Fawr;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Goetre Fawr.
104. Mae’r rhan o ward Goetre Fawr o gymuned Goetre Fawr a ddangosir â llinellau a’r rhif 1 ar Fap 81—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Mamhilad o gymuned Goetre Fawr;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Goetre Fawr.
105. Mae ward bresennol Goetre o gymuned Goetre Fawr fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 82—
(a)wedi ei hailenwi yn Goetre Fawr;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Goetre Fawr.
106. Mae ward bresennol Mamhilad o gymuned Goetre Fawr fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau, ac a rifwyd 1 a 2 ar Fap 81—
(a)wedi ei hailenwi yn Goetre Wharf;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Goetre Fawr.
107. Mae ward gymunedol newydd Nant-y-Deri wedi ei chreu yng nghymuned Goetre Fawr sydd—
(a)yn cynnwys yr ardal a ddangosir â llinellau, a rifwyd 1 a 2 ar Fap 80;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Goetre Fawr.
108. Yng nghymuned Goetre Fawr, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Goetre Wharf yw 2;
(b)ward Goetre Fawr yw 4;
(c)ward Llanofer yw 1;
(d)ward Nant-y-Deri yw 1.
109. Mae’r rhan o gymuned Grysmwnt a ddangosir â llinellau ar Fap 83—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned newydd Ynysgynwraidd;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Llanwytherin;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
110. Mae ward Llangua o gymuned Grysmwnt a ddangosir â llinellau ar Fap 84—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Grysmwnt o gymuned Grysmwnt;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Crucornau Fawr.
111. Mae ward bresennol Llangua o gymuned Grysmwnt fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
112. Yng nghymuned Grysmwnt, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Grysmwnt yw 6.
113. Mae’r rhannau o gymuned Gwehelog Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 85 a Map 86—
(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned Llan-arth;
(b)yn ffurfio ward gymunedol Cemais Comawndwr a Llancayo;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanofer.
114. Mae’r rhan o gymuned Gwehelog Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 87—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Rhaglan;
(b)yn ffurfio ward gymunedol Gwehelog;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rhaglan.
115. Mae’r rhan o gymuned Gwehelog Fawr a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 87—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Rhaglan;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llandenni;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rhaglan.
116.—(1) Mae cymuned bresennol Gwehelog Fawr fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
(2) Mae cyngor cymuned Gwehelog Fawr wedi ei ddiddymu.
117. Mae’r rhan o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 88—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanofer;
(b)yn ffurfio ward gymunedol Llanfable;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanofer.
118. Mae’r rhan o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 89—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanofer;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanddewi Rhydderch;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanofer.
119. Mae’r rhan o gymuned Llanofer a ddangosir â llinellau ar Fap 90—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llan-arth;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llan-arth;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Gobion Fawr.
120. Mae’r rhan o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 91—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned newydd Castell-gwyn;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Pen-rhos;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
121. Mae’r rhan o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 92—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Rhaglan;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Rhaglan;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rhaglan.
122. Mae’r rhan o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 93—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Rhaglan;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Rhaglan;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rhaglan.
123. Mae’r rhan o ward Cleidda o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 94—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Llan-arth o gymuned Llan-arth;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanofer.
124. Yng nghymuned Llan-arth, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Bryngwyn yw 2;
(b)ward Cleidda yw 1;
(c)ward Cemais Comawndwr a Llancayo yw 2;
(d)ward Llan-arth yw 3.
125. Yng nghymuned Llanbadog, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Glasgoed yw 2;
(b)ward Little Mill yw 3;
(c)ward Llanbadog yw 2;
(d)ward Monkswood yw 2.
126. Mae’r rhan o gymuned Llan-ffwyst Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 95—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanelli;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Gilwern;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Bryn Llanelli.
127. Mae’r rhan o ward Gilwern o gymuned Llanelli a ddangosir â llinellau ar Fap 96—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Clydach o gymuned Llanelli;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Bryn Llanelli.
128. Mae’r rhan o ward Clydach o gymuned Llanelli a ddangosir â llinellau ar Fap 97—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Gilwern o gymuned Llanelli;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Bryn Llanelli.
129. Yng nghymuned Llanelli, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Gilwern yw 9.
130. Mae ward etholiadol Bryn Llanelli fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei hailenwi yn Llanelli.
131. Mae’r rhan o gymuned Llanofer a ddangosir â llinellau ar Fap 98—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llan-ffwyst Fawr;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanelen;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llan-ffwyst Fawr.
132. Mae’r rhan o ward Llan-ffwyst o gymuned Llan-ffwyst Fawr a ddangosir â llinellau ar Fap 99—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Llanwenarth Tu Draw o gymuned Llan-ffwyst Fawr;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanwenarth Tu Draw.
133. Mae ward bresennol Llanwenarth Tu Draw o gymuned Llan-ffwyst Fawr fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 100—
(a)wedi ei hailenwi yn ward gymunedol Gofilon;
(b)yn ffurfio ward etholiadol Llanwenarth Tu Draw.
134. Yng nghymuned Llan-ffwyst Fawr, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Llan-ffwyst yw 5;
(b)ward Gofilon yw 6.
135. Mae ward etholiadol bresennol Llanwenarth Tu Draw fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei hailenwi yn Gofilon.
136.—(1) Mae ardaloedd cymunedau Llangybi a Llanhenwg fel y’i dangosir â llinellau ar Fap 101 wedi eu cyfuno i ffurfio cymuned Llangybi, sy’n ffurfio rhan o ward etholiadol Llangybi Fawr.
(2) Mae cynghorau cymuned Llangybi a Llanhenwg wedi eu diddymu.
137. Mae cyngor ar gyfer cymuned Llangybi wedi ei sefydlu.
138. Mae cymuned Llangybi yn cynnwys chwe ward—
(a)Coed-y-paen;
(b)Llandegfedd;
(c)Llangattock Nigh Caerleon;
(d)Llangybi;
(e)Llanhenwg;
(f)Tredynog.
139. Yng nghymuned Llangybi, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Coed-y-paen yw 1;
(b)ward Llandegfedd yw 1;
(c)ward Llangattock Nigh Caerleon yw 1;
(d)ward Llangybi yw 3;
(e)ward Llanhenwg yw 1;
(f)ward Tredynog yw 1.
140. Mae’r rhan o gymuned Llan-arth a ddangosir â llinellau ar Fap 102—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanofer;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Llanddewi Rhydderch;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Llanofer.
141. Mae cymuned bresennol Llanofer fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 103—
(a)wedi ei hailenwi yn Gobion Fawr;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanofer.
142. Mae cymuned Gobion Fawr yn cynnwys pedair ward—
(a)Llanddewi Rhydderch;
(b)Llanfair Cilgydyn;
(c)Llangattock-nigh-Usk;
(d)Llanfable.
143. Yng nghymuned Gobion Fawr, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Llanddewi Rhydderch yw 2;
(b)ward Llanfair Cilgydyn yw 1;
(c)ward Llangattock-nigh-Usk yw 3;
(d)ward Llanfable yw 1.
144. Mae ward etholiadol Llanofer fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei hailenwi yn Gobion Fawr.
145. Mae’r rhan o ward Dwyrain Croesonnen o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 104—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Gorllewin Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Maerdy.
146. Mae’r rhan o ward Gorllewin Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 105—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Croesonnen o gymuned Llandeilo Bertholau;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Croesonnen.
147. Mae’r rhan o ward Gorllewin Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 106—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Croesonnen o gymuned Llandeilo Bertholau;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Croesonnen.
148. Mae wardiau presennol Dwyrain Croesonnen a Gorllewin Croesonnen o gymuned Llandeilo Bertholau fel y’u newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 107—
(a)wedi eu cyfuno ac yn ffurfio ward gymunedol Croesonnen;
(b)yn ffurfio ward etholiadol Croesonnen.
149. Mae’r rhan o ward y Maerdy o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 108—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Croesonnen o gymuned Llandeilo Bertholau;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Croesonnen.
150. Mae’r rhan o ward Gorllewin Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau a ddangosir â llinellau ar Fap 109—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward y Maerdy o gymuned Llandeilo Bertholau;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Maerdy.
151. Mae wardiau presennol Dwyrain Ysgyryd a Gorllewin Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau fel y’u newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 110—
(a)wedi eu cyfuno ac yn ffurfio ward gymunedol Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol y Maerdy.
152. Yng nghymuned Llandeilo Bertholau, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Croesonnen yw 6;
(b)ward Ysgyryd yw 2.
153. Mae’r ardaloedd o gymunedau presennol Llantrisant Fawr a Llan-gwm fel y’u dangosir â llinellau ar Fap 111 wedi eu cyfuno i ffurfio cymuned Llantrisant Fawr.
154. Mae’r ardaloedd o wardiau Gwernesni a Llantrisant o gymuned Llantrisant Fawr yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llangybi Fawr.
155. Mae’r ardaloedd o wardiau Llan-gwm a Llan-soe o gymuned Llantrisant Fawr yn ffurfio rhan o ward etholiadol Devauden.
156. Mae cynghorau cymuned Llantrisant Fawr a Llan-gwm wedi eu diddymu.
157. Mae cyngor ar gyfer cymuned Llantrisant Fawr wedi ei sefydlu.
158. Mae cymuned Llantrisant Fawr yn cynnwys pedair ward—
(a)Gwernesni;
(b)Llan-gwm;
(c)Llan-soe;
(d)Llantrisant.
159. Yng nghymuned Llantrisant Fawr, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Gwernesni yw 1;
(b)ward Llan-gwm yw 3;
(c)ward Llan-soe yw 1;
(d)ward Llantrisant yw 3.
160. Mae’r rhan o ward Salisbury o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 112—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Rogiet;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rogiet.
161. Mae’r rhan o ward The Elms o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 113—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Rogiet;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rogiet.
162. Mae’r rhan o ward Mill o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 114—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Rogiet;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rogiet.
163. Mae’r rhan o ward Denny o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 115—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Gorllewin Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Gorllewin Magwyr.
164. Mae’r rhan o ward Denny o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 116—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Dwyrain Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Dwyrain Magwyr.
165. Mae’r rhan o ward Mill o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 117—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Gorllewin Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Gorllewin Magwyr.
166. Mae’r rhan o ward Mill o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 118—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Dwyrain Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Dwyrain Magwyr.
167. Mae’r rhan o ward Salisbury o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 119—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Gorllewin Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Gorllewin Magwyr.
168. Mae’r rhan o ward The Elms o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 120—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Gwndy o gymuned Magwyr gyda Gwndy;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Dwyrain Magwyr.
169. Mae’r rhan o ward The Elms o gymuned Magwyr gyda Gwndy a ddangosir â llinellau ar Fap 121—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Dwyrain Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol newydd Dwyrain Magwyr.
170. Mae ward bresennol Denny o gymuned Magwyr gyda Gwndy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
171. Mae ward bresennol Mill o gymuned Magwyr gyda Gwndy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
172. Mae ward bresennol Salisbury o gymuned Magwyr gyda Gwndy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
173. Mae ward bresennol The Elms o gymuned Magwyr gyda Gwndy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
174. Mae ward gymunedol newydd Gorllewin Magwyr wedi ei chreu yng nghymuned Magwyr gyda Gwndy sydd—
(a)yn cynnwys yr ardaloedd a ddangosir â llinellau ar Fapiau 115, 117 a 119;
(b)yn ffurfio ward etholiadol Gorllewin Magwyr.
175. Mae ward gymunedol newydd Dwyrain Magwyr wedi ei chreu yng nghymuned Magwyr gyda Gwndy sydd—
(a)yn cynnwys yr ardaloedd a ddangosir â llinellau ar Fapiau 116, 118 a 121;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Dwyrain Magwyr.
176. Mae ward gymunedol newydd Gwndy wedi ei chreu yng nghymuned Magwyr gyda Gwndy sydd—
(a)yn cynnwys yr ardaloedd a ddangosir â llinellau ar Fap 120;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Dwyrain Magwyr.
177. Mae cymuned Magwyr gyda Gwndy yn cynnwys tair ward—
(a)Dwyrain Magwyr;
(b)Gorllewin Magwyr;
(c)Gwndy.
178. Yng nghymuned Magwyr gyda Gwndy, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Dwyrain Magwyr yw 4;
(b)ward Gorllewin Magwyr yw 3;
(c)ward Gwndy yw 3.
179. Mae ward etholiadol bresennol Mill fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
180. Mae ward etholiadol newydd Dwyrain Magwyr wedi ei chreu sy’n cynnwys ardaloedd wardiau Dwyrain Magwyr a Gwndy o gymuned Magwyr gyda Gwndy.
181. Nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Dwyrain Magwyr yw 2.
182. Mae ward etholiadol bresennol The Elms wedi ei diddymu.
183. Mae ward etholiadol newydd Gorllewin Magwyr wedi ei chreu sy’n cynnwys ardal ward Gorllewin Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy.
184. Nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Gorllewin Magwyr yw 1.
185. Mae’r rhan o ward Mounton o gymuned Matharn a ddangosir â llinellau ar Fap 122—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Pwllmeurig o gymuned Matharn;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drenewydd Gelli-farch.
186. Yng nghymuned Matharn, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Matharn yw 3.
187. Mae’r rhan o gymuned Rhaglan a ddangosir â llinellau ar Fap 123—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanfihangel Troddi;
(b)yn ffurfio ward gymunedol Pen-y-clawdd;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanfihangel Troddi.
188. Mae’r rhan o gymuned Rhaglan a ddangosir â llinellau ar Fap 124—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Llanfihangel Troddi;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Tre’r-gaer;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanfihangel Troddi.
189. Mae’r rhan o gymuned Llanfihangel Troddi a ddangosir â llinellau ar Fap 125—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Trefynwy;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol Overmonnow;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Overmonnow.
190. Mae’r rhan o gymuned Llanfihangel Troddi a ddangosir â llinellau ar Fap 126—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned newydd Castell-gwyn;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Llanfihangel Ystum Llewern;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
191. Yng nghymuned Llanfihangel Troddi, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Cwmcarfan yw 1;
(b)ward Llanfihangel Troddi yw 2;
(c)ward Pen-y-clawdd yw 1.
192. Mae’r rhan o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 127—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned newydd Castell-gwyn;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Rockfield a Llanfocha;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
193. Mae’r rhan o ward y Dref o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 128—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Dixton gydag Osbaston o gymuned Trefynwy;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Dixton gydag Osbaston.
194. Mae’r rhan o ward Dixton gydag Osbaston o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 129—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward y Dref o gymuned Trefynwy;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drybridge.
195. Mae’r rhan o ward y Dref o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 130—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Drybridge o gymuned Trefynwy;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drybridge.
196. Mae’r rhan o ward Drybridge o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 131—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Overmonnow o gymuned Trefynwy;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Overmonnow.
197. Mae’r rhan o ward Drybridge o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 132—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward y Dref o gymuned Trefynwy;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drybridge.
198. Mae’r rhan o ward Overmonnow o gymuned Trefynwy a ddangosir â llinellau ar Fap 133—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward y Dref o gymuned Trefynwy;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drybridge.
199. Mae ward bresennol Dixton gydag Osbaston o gymuned Trefynwy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 134—
(a)wedi ei hailenwi yn Osbaston;
(b)yn ffurfio ward etholiadol Dixton gydag Osbaston.
200. Mae ward etholiadol Dixton gydag Osbaston fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei hailenwi yn Osbaston.
201. Yng nghymuned Trefynwy, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Drybridge yw 4;
(b)ward Osbaston yw 4;
(c)ward Overmonnow yw 3;
(d)ward y Dref yw 4.
202. Yng nghymuned Trefynwy, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros ward Drybridge yw 2.
203. Mae’r rhan o ward Leechpool o gymuned Porth Sgiwed a ddangosir â llinellau ar Fap 135—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Pentref Porth Sgiwed o gymuned Porth Sgiwed;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Porthsgiwed.
204. Mae’r rhan o ward Llandenni o gymuned Rhaglan a ddangosir â llinellau ar Fap 136—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Cyncoed o gymuned Rhaglan;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rhaglan.
205. Mae ward newydd Cyncoed o gymuned Rhaglan wedi ei chreu sydd—
(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 136;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Rhaglan.
206. Yng nghymuned Rhaglan, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Gwehelog yw 1;
(b)ward Cyncoed yw 1;
(c)ward Llandenni yw 1;
(d)ward Rhaglan yw 6.
207. Yng nghymuned Rogiet, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros Rogiet yw 7.
208. Mae’r rhan o gymuned St Arvans a ddangosir â llinellau ar Fap 137—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Drenewydd Gelli-farch;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drenewydd Gelli-farch.
209. Mae’r rhan o ward Earlswood o gymuned Drenewydd Gelli-farch a ddangosir â llinellau ar Fap 138—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach o gymuned Drenewydd Gelli-farch;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drenewydd Gelli-farch.
210. Mae’r rhan o ward Drenewydd Gelli-farch o gymuned Drenewydd Gelli-farch a ddangosir â llinellau ar Fap 139—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward newydd Earlswood a’r Eglwys Newydd ar y Cefn o gymuned Drenewydd Gelli-farch;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Drenewydd Gelli-farch.
211. Mae ardal ward bresennol Earlswood o gymuned Drenewydd Gelli-farch fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei chyfuno ag ardal ward bresennol yr Eglwys Newydd ar y Cefn o gymuned Drenewydd Gelli-farch i ffurfio ward gymunedol newydd Earlswood a’r Eglwys Newydd ar y Cefn o gymuned Drenewydd Gelli-farch fel y’i dangosir â llinellau ar Fap 140.
212. Mae ardal ward bresennol Drenewydd Gelli-farch o gymuned Drenewydd Gelli-farch fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei chyfuno ag ardal ward bresennol Mynydd-bach o gymuned Drenewydd Gelli-farch i ffurfio ward gymunedol newydd Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach o gymuned Drenewydd Gelli-farch fel y’i dangosir â llinellau ar Fap 141.
213. Yng nghymuned Drenewydd Gelli-farch, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Earlswood a’r Eglwys Newydd ar y Cefn yw 2;
(b)ward Drenewydd Gelli-farch a Mynydd-bach yw 5.
214. Mae’r rhan o ward Penterry o gymuned Tyndyrn a ddangosir â llinellau ar Fap 142—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned St Arvans;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanarfan.
215. Yng nghymuned St Arvans, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros Lanarfan yw 7.
216. Mae’r rhan o gymuned Tryleg Unedig a ddangosir â llinellau ar Fap 143—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Tyndyrn;
(b)yn ffurfio ward gymunedol Llandogo;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanarfan.
217. Mae’r rhan o gymuned Tyndyrn a ddangosir â llinellau ar Fap 144—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Tryleg Unedig;
(b)yn ffurfio ward gymunedol Plasdy Tryleg;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Tryleg Unedig.
218. Mae cymuned bresennol Tyndyrn fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau ar Fap 145—
(a)wedi ei hailenwi yn Dyffryn Gwy;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanarfan.
219. Mae’r rhan o ward Penterry o gymuned Tyndyrn a ddangosir â llinellau ar Fap 146—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Allt y Capel o gymuned Dyffryn Gwy;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llanarfan.
220. Mae ward bresennol Allt y Capel o gymuned Dyffryn Gwy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei chyfuno â ward bresennol Tyndyrn Parva o gymuned Dyffryn Gwy i ffurfio ward gymunedol newydd Tyndyrn o gymuned Dyffryn Gwy fel y’i dangosir â llinellau ar Fap 147.
221. Mae ward bresennol Penterry o gymuned Dyffryn Gwy fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
222. Yng nghymuned Dyffryn Gwy, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Llandogo yw 3;
(b)ward Tyndyrn yw 4.
223. Mae’r rhan o ward Llanisien o gymuned Tryleg Unedig a ddangosir â llinellau ar Fap 148—
(a)wedi ei throsglwyddo i ward Tref Tryleg o gymuned Tryleg Unedig;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Tryleg Unedig.
224. Yng nghymuned Tryleg Unedig, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Pen-allt yw 3;
(b)ward Tref Tryleg yw 3;
(c)ward Plasdy Tryleg yw 1.
225. Mae cymuned newydd Ynysgynwraidd wedi ei chreu sydd—
(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 149;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
226. Mae’r rhan o gymuned Llandeilo Gresynni a ddangosir â llinellau ar Fap 150—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Ynysgynwraidd;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Cross Ash;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
227. Mae’r rhan o gymuned Llangatwg Feibion Afel a ddangosir â llinellau ar Fap 151—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Ynysgynwraidd;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Ynysgynwraidd;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
228. Mae’r rhan o gymuned Llangatwg Feibion Afel a ddangosir â llinellau ar Fap 152—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Ynysgynwraidd;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Cross Ash;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
229. Mae ward gymunedol newydd Cross Ash wedi ei chreu yng nghymuned Ynysgynwraidd sydd—
(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 153;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
230. Mae ward gymunedol newydd Llanwytherin wedi ei chreu yng nghymuned Ynysgynwraidd sydd—
(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 154;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
231. Mae ward gymunedol newydd Ynysgynwraidd wedi ei chreu yng nghymuned Ynysgynwraidd sydd—
(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 155;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
232. Mae cyngor ar gyfer cymuned Ynysgynwraidd wedi ei sefydlu.
233. Mae cymuned Ynysgynwraidd yn cynnwys tair ward—
(a)Cross Ash;
(b)Llanwytherin;
(c)Ynysgynwraidd.
234. Yng nghymuned Ynysgynwraidd, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Cross Ash yw 3;
(b)ward Llanwytherin yw 2;
(c)ward Ynysgynwraidd yw 2.
235. Mae cymuned newydd Castell-gwyn wedi ei chreu sydd—
(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 156;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
236. Mae’r rhan o gymuned Llandeilo Gresynni a ddangosir â llinellau ar Fap 157—
(a)wedi ei throsglwyddo i gymuned Castell-gwyn;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Castell-gwyn;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
237. Mae’r rhannau o gymuned Llangatwg Feibion Afel a ddangosir â llinellau ar Fap 158—
(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned Castell-gwyn;
(b)yn ffurfio rhan o ward gymunedol newydd Castellnewydd;
(c)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
238. Mae’r rhannau o gymuned Llangatwg Feibion Afel a ddangosir â llinellau ar Fap 159—
(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned Castell-gwyn;
(b)mae’r rhan â arlliwiwyd wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol newydd Castellnewydd;
(c)mae’r rhan â llinellau wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol newydd Llangatwg Feibion Afel;
(d)mae’r rhan â chroeslinellau wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol newydd Rockfield a Llanfocha;
(e)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
239. Mae’r rhannau o gymuned Llangatwg Feibion Afel a ddangosir â llinellau ar Fap 160—
(a)wedi eu trosglwyddo i gymuned Castell-gwyn;
(b)mae’r rhan â arlliwiwyd wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol newydd Castellnewydd;
(c)mae’r rhan â llinellau wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol newydd Llangatwg Feibion Afel;
(d)mae’r rhan â chroeslinellau wedi ei throsglwyddo i ward gymunedol newydd Rockfield a Llanfocha;
(e)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
240. Mae ward gymunedol newydd Llangatwg Feibion Afel wedi ei chreu yng nghymuned Castell-gwyn sydd—
(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 161;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
241. Mae ward gymunedol newydd Llanfihangel Ystum Llewern wedi ei chreu yng nghymuned Castell-gwyn sydd—
(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 162;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
242. Mae ward gymunedol newydd Castellnewydd wedi ei chreu yng nghymuned Castell-gwyn sydd—
(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 163;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
243. Mae ward gymunedol newydd Pen-rhos wedi ei chreu yng nghymuned Castell-gwyn sydd—
(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 164;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
244. Mae ward gymunedol newydd Rockfield a Llanfocha wedi ei chreu yng nghymuned Castell-gwyn sydd—
(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 165;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
245. Mae ward gymunedol newydd Castell-gwyn wedi ei chreu yng nghymuned Castell-gwyn sydd—
(a)yn cynnwys yr ardal â ddangosir â llinellau ar Fap 166;
(b)yn ffurfio rhan o ward etholiadol Llandeilo Gresynni.
246. Mae cyngor ar gyfer cymuned Castell-gwyn wedi ei sefydlu.
247. Mae cymuned Castell-gwyn yn cynnwys chwe ward—
(a)Llangatwg Feibion Afel;
(b)Llanfihangel Ystum Llewern;
(c)Castellnewydd;
(d)Pen-rhos;
(e)Rockfield a Llanfocha;
(f)Castell-gwyn.
248. Yng nghymuned Castell-gwyn, nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol dros—
(a)ward Llangatwg Feibion Afel yw 1;
(b)ward Llanfihangel Ystum Llewern yw 1;
(c)ward Castellnewydd yw 2;
(d)ward Pen-rhos yw 2;
(e)ward Rockfield a Llanfocha yw 3;
(f)ward Castell-gwyn yw 2.
249.—(1) Mae cymuned bresennol Llangatwg Feibion Afel fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
(2) Mae cyngor cymuned Llangatwg Feibion Afel wedi ei ddiddymu.
250.—(1) Mae cymuned bresennol Llandeilo Gresynni fel y’i newidir gan y Gorchymyn hwn wedi ei diddymu.
(2) Mae cyngor cymuned Llandeilo Gresynni wedi ei ddiddymu.
251.—(1) Yn yr erthygl hon—
ystyr “yr awdurdod bilio arfaethedig” (“the prospective billing authority”) yw Cyngor Sir Fynwy;
ystyr “y cynghorau cymuned newydd” (“the new community councils”) yw’r cynghorau cymuned newydd a sefydlir gan y Gorchymyn hwn;
ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(8);
ystyr “y gymuned newydd” (“the new community”) yw ardal gymunedol briodol y cynghorau cymuned newydd a sefydlir gan y Gorchymyn hwn;
ystyr “y flwyddyn ariannol berthnasol” (“the relevant financial year”) yw’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022.
(2) Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, mae adran 32 o Ddeddf 1992 (cyfrifo anghenion cyllideb gan awdurdodau bilio) yn gymwys i’r cynghorau cymuned newydd a’r awdurdod bilio arfaethedig ond fel pe bai—
(a)at ddibenion gwneud cyfrifiad yn unol ag adran 32(2)(a) o Ddeddf 1992—
(i)y swm yr hysbyswyd amdano yn unol â pharagraff (6) o’r erthygl hon yn eitem a grybwyllwyd yn adran 35(1) o Ddeddf 1992 (eitemau arbennig) a oedd yn ymwneud â’r gymuned newydd, a
(ii)ardal yr awdurdod bilio arfaethedig yn cynnwys y gymuned newydd.
(b)is-adran (6) wedi ei hepgor.
(3) Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, mae adran 41 o Ddeddf 1992 (dyroddi praeseptau gan awdurdodau praeseptio lleol) yn gymwys i’r cynghorau cymuned newydd a’r awdurdod bilio arfaethedig ond fel pe bai ei bod yn ofynnol i’r awdurdod bilio arfaethedig, wrth wneud cyfrifiadau yn unol ag adran 32 o Ddeddf 1992 (yn wreiddiol neu drwy amnewidiad) at ddibenion ei amcangyfrif o dan adran 32(2)(a) o Ddeddf 1992, gymryd i ystyriaeth swm sy’n hafal i’r swm hwnnw yr hysbyswyd iddo yn unol â pharagraff (6) o’r erthygl hon.
(4) Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, mae adran 52X(1) (cyfrifiadau i fod yn net o braeseptau) a 52Y(2) (gwybodaeth at ddibenion Pennod 4A) o Ddeddf 1992 yn gymwys i’r cynghorau cymuned newydd a’r awdurdod bilio arfaethedig ond fel pe bai cyfanswm y praeseptau a ragwelir gan yr awdurdod bilio arfaethedig yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 41 o Ddeddf 1992 yn cynnwys y symiau a hysbyswyd i’r cynghorau cymuned newydd yn unol â pharagraff (6) o’r erthygl hon.
(5) Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, mae adran 50 o Ddeddf 1992 (cyfrifo anghenion cyllideb gan awdurdodau praeseptio lleol) yn gymwys i’r cynghorau cymuned newydd a’r awdurdod bilio arfaethedig fel pe bai’n ofynnol i bob un o’r cynghorau cymuned newydd sicrhau nad yw’r swm a gyfrifir fel ei ofyniad cyllideb am y flwyddyn honno yn fwy na’r swm a hysbyswyd i’r cyngor cymuned newydd hwnnw yn unol â pharagraff (6) o’r erthygl hon.
(6) Rhaid i’r swm priodol sydd i’w hysbysu i bob un o’r cynghorau cymuned newydd yn unol â’r paragraff hwn gael ei hysbysu gan Weinidogion Cymru yn ysgrifenedig i’r awdurdod bilio arfaethedig ac i bob un o’r cynghorau cymuned newydd.
(7) Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Praeseptau) (Cymru) 1995(9) yn gymwys i’r cynghorau cymuned newydd a’r awdurdod bilio arfaethedig fel pe bai—
(a)rheoliad 5 (gwybodaeth am amserlenni talu) wedi ei hepgor;
(b)ym mharagraff 8 o’r Atodlen (rheolau i benderfynu’r cyfnodau amser ar gyfer rhandaliadau)—
(i)yn is-baragraffau (1), (2) a (3), bod y geiriau sy’n dilyn y cyfeiriad cyntaf at “that financial year” wedi eu hepgor;
(ii)yn is-baragraff (1)(a) bod y cyfeiriad at “April” yn gyfeiriad at “May”.
252. Rhaid i swyddog priodol Cyngor Sir Fynwy alw cyfarfod cyntaf pob un o’r cynghorau cymuned newydd a sefydlir gan erthyglau 137, 157, 232 a 246.
253. At ddibenion unrhyw ddarpariaeth o’r Rheoliadau sy’n cyfeirio at olynydd gweddilliol awdurdod a ddiddymwyd—
(a)mewn perthynas â chynghorau cymuned presennol Llan-gwm a Llantrisant Fawr, mae cyngor cymuned newydd Llantrisant Fawr wedi ei bennu yn olynydd gweddilliol;
(b)mewn perthynas â chynghorau cymuned presennol Llangybi a Llanhenwg, mae cyngor cymuned newydd Llangybi wedi ei bennu yn olynydd gweddilliol.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
2 Tachwedd 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, yn gweithredu cynigion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Ionawr 2019 ar adolygiad o drefniadau cymunedol yn Sir Fynwy a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Fynwy. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn argymell newidiadau i ffiniau presennol cymunedau yn ardal Cyngor Sir Fynwy a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol, ac mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn heb addasiad.
Effaith y Gorchymyn hwn yw gwneud newidiadau i nifer o ardaloedd cymunedol a newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol. Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn diddymu nifer o gymunedau a’u cynghorau cymuned, yn creu cymunedau newydd a chynghorau cymuned newydd ac yn gwneud darpariaeth weinyddol ar gyfer gweithrediad y cynghorau cymuned newydd hynny, a gosod praeseptau sy’n ymwneud â hwy.
Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 y cyfeirir atynt yn erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, darpariaethau canlyniadol, darpariaethau trosiannol a darpariaethau atodol ynghylch effaith a gweithrediad gorchmynion o’r math hwn.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “166” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Sir Fynwy. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Sir Fynwy yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.
Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”), ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”) ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).
1972 p. 70. Diddymwyd adrannau 54 a 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73 o Ddeddf 2013, ac Atodlen 2 iddi, ond fe’u harbedwyd gan adran 74 o Ddeddf 2013 mewn perthynas ag adolygiad a oedd yn cael ei gynnal o dan Ddeddf 1972 pan ddaeth Deddf 2013 i rym.
Diddymwyd adran 67 o Ddeddf 1972 gan adran 73 o Ddeddf 2013, ac Atodlen 2 iddi, ond fe’i harbedwyd gan adran 74 o Ddeddf 2013 mewn perthynas ag adolygiad a oedd yn cael ei gynnal o dan Ddeddf 1972 pan ddaeth Deddf 2013 i rym.
Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac maent bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (2006 p. 32).
Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.
O.S. 1976/246 (fel y’i diwygiwyd gan offerynnau statudol amrywiol. Nid yw’r diwygiadau hynny yn berthnasol at ddibenion y Gorchymyn hwn).
1992 p. 14. Diwygiwyd adrannau 32 a 35, o ran Cymru, gan baragraffau 4 a 6 yn y drefn honno o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19). Diwygiwyd adran 50 gan Ran 1 o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26). Mewnosodwyd adrannau 52X a 52Y gan Ran 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p. 27).
O.S. 1995/2562 (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2001/3649).
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
The Whole Instrument you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download.
Would you like to continue?
Yr Offeryn Cyfan you have selected contains over 200 provisions and might take some time to download. You may also experience some issues with your browser, such as an alert box that a script is taking a long time to run.
Would you like to continue?
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys