Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) (Rhif 2) 2021

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 1228 (Cy. 310)

Llywodraeth Leol, Cymru

Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) (Rhif 2) 2021

Gwnaed

2 Tachwedd 2021

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(1), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013(2) (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Mehefin 2020 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir y Fflint.

Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.

Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.

Enwi, cychwyn a dirymu

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) (Rhif 2) 2021.

(2At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o’r Rheoliadau, daw’r Gorchymyn hwn i rym drennydd y diwrnod y’i gwneir.

(3At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022(3).

(4Mae Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) 2021(4) wedi ei ddirymu.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(5);

ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir y Fflint;

mae unrhyw gyfeiriad at fap yn gyfeiriad at un o’r 10 map a farciwyd “Map ar gyfer Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) (Rhif 2) 2021” a adneuwyd yn unol â rheoliad 5 o’r Rheoliadau, a labelwyd “1” i “10”, ac mae cyfeiriad at fap â rhif yn gyfeiriad at y map sy’n dwyn y rhif hwnnw;

pan ddangosir bod ffin ar fap yn rhedeg ar hyd ffordd, rheilffordd, troetffordd, cwrs dŵr neu nodwedd ddaearyddol debyg, mae i’w thrin fel un sy’n rhedeg ar hyd llinell ganol y nodwedd;

mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.

Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir y Fflint

3.—(1Mae wardiau etholiadol Sir y Fflint, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.

(2Mae Sir y Fflint wedi ei rhannu’n 45 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(3Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(4Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.

(5Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(6).

Tref Bwcle: newidiadau i wardiau cymunedol

4.  Yn nhref Bwcle—

(a)mae’r rhan o ward Pentrobin a ddangosir â llinellau ar Fap 1 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain Bistre;

(b)mae’r rhan o ward Mynydd a ddangosir â llinellau ar Fap 2 wedi ei throsglwyddo i ward Pentrobin.

Tref Bwcle: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

5.  Yn nhref Bwcle—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Mynydd yw 3;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Pentrobin yw 7.

Tref y Fflint: newidiadau i wardiau cymunedol

6.  Yn nhref y Fflint—

(a)mae’r rhan o ward Oakenholt a ddangosir â llinellau ar Fap 3 wedi ei throsglwyddo i ward y Castell;

(b)mae’r rhan o ward Oakenholt a ddangosir â llinellau ar Fap 4 wedi ei throsglwyddo i ward Trelawny.

Tref y Fflint: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

7.  Yn nhref y Fflint—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Oakenholt yw 3;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Trelawny yw 4.

Tref Cei Connah: newidiadau i wardiau cymunedol

8.  Yn nhref Cei Connah—

(a)mae’r rhan o ward De Cei Connah a ddangosir â llinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Cei Connah;

(b)mae’r rhan o ward Golftyn a ddangosir â chroeslinellau ar Fap 5 wedi ei throsglwyddo i ward Canol Cei Connah.

Tref Cei Connah: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

9.  Yn nhref Cei Connah—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Canol Cei Connah yw 5;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward De Cei Connah yw 6.

Cymuned yr Wyddgrug: newidiadau i wardiau cymunedol

10.  Yng nghymuned yr Wyddgrug—

(a)mae’r rhan o ward Gorllewin yr Wyddgrug a ddangosir â llinellau ar Fap 6 wedi ei throsglwyddo i ward Dwyrain yr Wyddgrug;

(b)mae’r rhan o ward Broncoed a ddangosir â llinellau ar Fap 7 wedi ei throsglwyddo i ward y De;

(c)mae’r rhan o ward De’r Wyddgrug a ddangosir â llinellau ar Fap 8 wedi ei throsglwyddo i ward Gorllewin yr Wyddgrug.

Cymuned Penarlâg: newidiadau i wardiau cymunedol a diddymu ward gymunedol Penarlâg

11.  Mae ward gymunedol Penarlâg, fel y mae’n bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi ei diddymu ac—

(a)mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 9 wedi ei throsglwyddo i ward Mancot;

(b)mae’r rhan o’r ward honno a ddangosir â llinellau ar Fap 10 wedi ei throsglwyddo i ward Aston.

Cymuned Penarlâg: newidiadau canlyniadol i drefniadau etholiadol

12.  Yng nghymuned Penarlâg—

(a)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Aston yw 7;

(b)nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros ward Mancot yw 7.

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

2 Tachwedd 2021

Erthygl 3

YR ATODLENENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR

Tabl

Colofn (1)Colofn (2)Colofn (3)Colofn (4)
Enw Saesneg y ward etholiadolEnw Cymraeg y ward etholiadolArdal y ward etholiadolNifer aelodau’r cyngor
Argoed and New BrightonArgoed a New BrightonCymuned Argoed2
BagilltBagilltTref Bagillt2
Broughton North EastGogledd-ddwyrain BrychdynWard y Gogledd-ddwyrain o gymuned Brychdyn a Bretton1
Broughton SouthDe BrychdynWard y De o gymuned Brychdyn a Bretton2
Brynford and HalkynBrynffordd a HelygainCymunedau Brynffordd a Helygain2
Buckley: Bistre EastBwcle: Dwyrain BistreWard Dwyrain Bistre o dref Bwcle2
Buckley: Bistre WestBwcle: Gorllewin BistreWard Gorllewin Bistre o dref Bwcle2
Buckley: MountainBwcle: MynyddWard Bwcle: Mynydd o dref Bwcle1
Buckley: PentrobinBwcle: PentrobinWard Pentrobin o dref Bwcle2
CaergwrleCaergwrleWard Caergwrle o gymuned yr Hôb1
CaerwysCaerwysCymuned Caerwys a chymuned Ysceifiog1
CilcainCilcainCymunedau Cilcain a Nannerch1
Connah’s Quay CentralCanol Cei ConnahWard Canol Cei Connah o dref Cei Connah2
Connah’s Quay: GolftynCei Connah: GolftynWard Golftyn o dref Cei Connah2
Connah’s Quay SouthDe Cei ConnahWard De Cei Connah o dref Cei Connah2
Connah’s Quay: WepreCei Connah: GwepraWard Gwepra o dref Cei Connah1
Flint: CastleY Fflint: Y CastellWard y Castell o dref y Fflint1
Flint: Coleshill and TrelawnyY Fflint: Cynswllt a ThrelawnyWardiau Cynswllt a Threlawny o dref y Fflint3
Flint: OakenholtY Fflint: OakenholtWard Oakenholt o dref y Fflint1
GreenfieldMaes-glasWard Maes-glas o dref Treffynnon1
Gwernaffield and GwernymynyddY Waun a GwernymynyddCymunedau’r Waun a Phant-y-mwyn, Gwernymynydd a Nercwys2
Hawarden: AstonPenarlâg: AstonWard Aston o gymuned Penarlâg2
Hawarden: EwloePenarlâg: EwloeWard Ewloe o gymuned Penarlâg2
Hawarden: MancotPenarlâg: MancotWard Mancot o gymuned Penarlâg2
Higher KinnertonKinnerton UchafCymuned Kinnerton Uchaf1
Holywell CentralCanol TreffynnonWard Canol Treffynnon o dref Treffynnon1
Holywell EastDwyrain TreffynnonWard Dwyrain Treffynnon o dref Treffynnon1
Holywell WestGorllewin TreffynnonWard Gorllewin Treffynnon o dref Treffynnon1
HopeYr HôbWard yr Hôb o gymuned yr Hôb1
LeeswoodCoed-llaiCymuned Coed-llai1
Llanasa and TrelawnydLlanasa a ThrelawnydCymunedau Llanasa, a Gwaunysgor a Threlawnyd2
LlanfynyddLlanfynyddCymuned Llanfynydd1
Mold: BroncoedYr Wyddgrug: BroncoedWard Broncoed o gymuned yr Wyddgrug1
Mold EastDwyrain yr WyddgrugWard Dwyrain yr Wyddgrug o gymuned yr Wyddgrug1
Mold SouthDe’r WyddgrugWard De’r Wyddgrug o gymuned yr Wyddgrug1
Mold WestGorllewin yr WyddgrugWard Gorllewin yr Wyddgrug o gymuned yr Wyddgrug1
MostynMostynCymuned Mostyn1
NorthopLlaneurgainCymunedau Llaneurgain a Northop Hall2
Pen-y-fforddPen-y-fforddCymuned Pen-y-ffordd2
Saltney FerrySaltney FerryTref Saltney2
Queensferry and SealandQueensferry a SealandCymunedau Queensferry a Sealand2
Shotton East and Shotton HigherDwyrain Shotton a Shotton UchafWard Dwyrain Shotton a ward Shotton Uchaf o gymuned Shotton2
Shotton WestGorllewin ShottonWard Gorllewin Shotton o gymuned Shotton1
TreuddynTreuddynCymuned Treuddyn1
WhitfordChwitfforddCymuned Chwitffordd1

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mehefin 2020 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir y Fflint. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 57 i 42, a lleihau nifer y cynghorwyr o 70 i 66.

Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.

Mae erthygl 1(4) o’r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Sir y Fflint (Trefniadau Etholiadol) 2021.

Mae erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir y Fflint ac yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir y Fflint.

Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn gweithredu argymhellion ynghylch newidiadau i wardiau cymunedol a threfniadau etholiadol ar gyfer rhai cymunedau yn Sir y Fflint.

Mae erthygl 4 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Pentrobin, Dwyrain Bistre a Mynydd yn nhref Bwcle. Mae erthygl 5 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Mynydd a Phentrobin o dref Bwcle.

Mae erthygl 6 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Oakenholt, y Castell a Threlawny yn nhref y Fflint. Mae erthygl 7 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Oakenholt a Threlawny o dref y Fflint.

Mae erthygl 8 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol De Cei Connah, Canol Cei Connah a Golftyn yn nhref Cei Connah. Mae erthygl 9 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Canol Cei Connah a De Cei Connah yn nhref Cei Connah.

Mae erthygl 10 yn gwneud newidiadau i’r ffiniau rhwng wardiau cymunedol Gorllewin yr Wyddgrug, Dwyrain yr Wyddgrug, Broncoed a De’r Wyddgrug yng nghymuned yr Wyddgrug.

Mae erthygl 11 yn diddymu ward gymunedol Penarlâg yng nghymuned Penarlâg ac yn trosglwyddo rhannau o’r ward honno i wardiau Mancot ac Aston o gymuned Penarlâg. Mae erthygl 12 yn nodi nifer yr aelodau sydd i’w hethol dros wardiau Aston a Mancot o gymuned Penarlâg.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.

Mae printiau o’r mapiau a labelwyd “1” i “10” y mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â hwy wedi eu hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol), a chyda Chyngor Sir y Fflint. Mae’r printiau sydd wedi eu hadneuo gyda Chyngor Sir y Fflint yn agored i gael eu harchwilio gan unrhyw un y bydd darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn effeithio arnynt.

(1)

Sefydlwyd y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gan adran 53 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (“Deddf 1972”), ac Atodlen 8 iddi. Diddymwyd adran 53 ac Atodlen 8 gan adran 73(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (dccc 4) (“Deddf 2013”), ac Atodlen 2 iddi. Mae Deddf 2013 yn ailenwi’r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (gweler adran 2).

(3)

Mae Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Newid Blynyddoedd Etholiadau Cyffredin) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/1269 (Cy. 220)) yn diwygio adran 26(1) o Ddeddf 1972 i ddarparu y bydd etholiadau cyffredin cynghorwyr awdurdodau lleol yn cael eu cynnal yn y flwyddyn 2022 yn hytrach na 2021.

(5)

O.S. 1976/246. Mae adran 74(3) o Ddeddf 2013 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn parhau i gael effaith mewn perthynas â gorchmynion a wnaed o dan Ran 3 o Ddeddf 2013, fel pe bai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(6)

1972 p. 70; diddymwyd adran 58 o Ddeddf 1972 gan adran 73(2) o Ddeddf 2013 ac Atodlen 2 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau arbed a bennir yn adran 74 o Ddeddf 2013.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill