Offerynnau Statudol Cymru
2021 Rhif 1232 (Cy. 311)
Llywodraeth Leol, Cymru
Gorchymyn Sir Fynwy (Trefniadau Etholiadol) 2021
Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2) a (3)
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru(), yn unol ag adran 36(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013() (“Deddf 2013”), wedi cyflwyno i Weinidogion Cymru adroddiad dyddiedig Mehefin 2021 yn cynnwys ei argymhellion ar gyfer newid a manylion ei adolygiad o’r trefniadau etholiadol ar gyfer Sir Fynwy.
Mae Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried y materion y cyfeirir atynt ac a nodir yn adran 37(2)(a) ac (c) o Ddeddf 2013, wedi penderfynu rhoi effaith i’r argymhellion hynny gydag addasiadau.
Yn unol ag adran 37(3) o Ddeddf 2013, mae mwy na 6 wythnos wedi mynd heibio ers i’r argymhellion hynny gael eu cyflwyno i Weinidogion Cymru.
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer eu pwerau a roddir gan adran 37(1) o Ddeddf 2013.
Enwi, cychwyn a dehongliLL+C
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Fynwy (Trefniadau Etholiadol) 2021.
(2) At unrhyw ddiben a nodir yn rheoliad 4(1) o Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(), daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 9 Tachwedd 2021.
(3) At bob diben arall, daw’r Gorchymyn hwn i rym ar y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022().
(4) Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ward etholiadol” (“electoral ward”) yw unrhyw ardal yr etholir aelodau drosti i Gyngor Sir Fynwy;
mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Gorchymyn hwn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Trefniadau etholiadol ar gyfer Sir FynwyLL+C
2.—(1) Mae wardiau etholiadol Sir Fynwy, fel y maent yn bodoli yn union cyn y diwrnod arferol ar gyfer ethol cynghorwyr yn 2022, wedi eu diddymu.
(2) Mae Sir Fynwy wedi ei rhannu’n 39 o wardiau etholiadol, a phob un ohonynt yn dwyn yr enw Saesneg a restrir yng ngholofn 1 a’r enw Cymraeg a restrir yng ngholofn 2 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(3) Mae pob ward etholiadol yn cynnwys yr ardaloedd a bennir mewn perthynas â’r ward etholiadol honno yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(4) Nifer yr aelodau o’r cyngor sydd i’w hethol dros bob ward etholiadol yw’r nifer a bennir yng ngholofn 4 o’r Tabl yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Mae’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn yn cymryd blaenoriaeth dros unrhyw ddarpariaeth wrthdrawiadol mewn unrhyw offeryn statudol blaenorol a wnaed o dan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972().
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
3 Tachwedd 2021
Erthygl 2
YR ATODLENLL+CENWAU AC ARDALOEDD WARDIAU ETHOLIADOL A NIFER AELODAU’R CYNGOR
Tabl
Colofn (1) | Colofn (2) | Colofn (3) | Colofn (4) |
---|
Enw Saesneg y ward etholiadol | Enw Cymraeg y ward etholiadol | Ardal y ward etholiadol | Nifer aelodau’r cyngor |
---|
Bulwark and Thornwell | Bulwark a Thornwell | Wardiau Bulwark, Thornwell a Maple Avenue o gymuned Cas-gwent | 2 |
Caerwent | Caer-went | Cymuned Caer-went | 1 |
Caldicot Castle | Castell Cil-y-coed | Ward Castell Caldicot o gymuned Caldicot | 1 |
Caldicot Cross | Croes Cil-y-coed | Ward Caldicot Cross o gymuned Caldicot | 1 |
Cantref | Cantref | Wardiau Cantref and Llanwenarth Citra o gymuned y Fenni | 1 |
Chepstow Castle and Larkfield | Castell Cas-gwent a Larkfield | Wardiau Castell Cas-gwent a Larkfield o gymuned Cas-gwent | 2 |
Croesonen | Croesonnen | Ward Croesonnen o gymuned Llandeilo Bertholau | 1 |
Crucorney | Crucornau Fawr | Cymunedau Crucornau a Grysmwnt | 1 |
Devauden | Devauden | Cymuned Devauden a wardiau Llan-gwm a Llan-soe o gymuned Llantrisant Fawr | 1 |
Dewstow | Llanddewi | Ward Llanddewi o gymuned Caldicot | 1 |
Drybridge | Drybridge | Ward Drybridge o gymuned Trefynwy | 1 |
Gobion Fawr | Gobion Fawr | Cymunedau Gobion Fawr a Llan-arth | 1 |
Goetre Fawr | Goetre Fawr | Cymuned Goetre Fawr | 1 |
Grofield | Grofield | Ward Grofield o gymuned y Fenni | 1 |
Lansdown | Lansdown | Ward Lansdown o gymuned y Fenni | 1 |
Llanbadoc and Usk | Llanbadog a Brynbuga | Cymunedau Llanbadog a Brynbuga | 2 |
Llanelly | Llanelli | Cymuned Llanelli | 2 |
Llanfoist Fawr and Govilon | Llan-ffwyst Fawr a Gofilon | Cymuned Llan-ffwyst Fawr | 2 |
Llangybi Fawr | Llangybi Fawr | Cymuned Llangybi a wardiau Gwernesni a Llantrisant o gymuned Llantrisant Fawr | 1 |
Llantilio Crossenny | Llandeilo Gresynni | Cymunedau Ynysgynwraidd a Chastell-gwyn | 1 |
Magor East with Undy | Dwyrain Magwyr gyda Gwndy | Wardiau Dwyrain Magwyr a Gwndy o gymuned Magwyr gyda Gwndy | 2 |
Magor West | Gorllewin Magwyr | Ward Gorllewin Magwyr o gymuned Magwyr gyda Gwndy | 1 |
Mardy | Y Maerdy | Wardiau’r Maerdy, Pantygelli ac Ysgyryd o gymuned Llandeilo Bertholau | 1 |
Mitchel Troy and Trellech United | Llanfihangel Troddi a Thryleg Unedig | Cymunedau Llanfihangel Troddi a Thryleg Unedig | 2 |
Mount Pleasant | Mount Pleasant | Ward Mount Pleasant o gymuned Cas-gwent | 1 |
Osbaston | Osbaston | Ward Osbaston o gymuned Trefynwy | 1 |
Overmonnow | Overmonnow | Ward Overmonnow o gymuned Trefynwy | 1 |
Park | Y Parc | Ward y Parc o gymuned y Fenni | 1 |
Pen Y Fal | Pen-y-fâl | Ward Pen-y-fâl o gymuned y Fenni | 1 |
Portskewett | Porthsgiwed | Cymuned Porth Sgiwed | 1 |
Raglan | Rhaglan | Cymuned Rhaglan | 1 |
Rogiet | Rogiet | Cymuned Rogiet | 1 |
Severn | Hafren | Wardiau Hafren a The Village o gymuned Caldicot | 1 |
Shirenewton | Drenewydd Gelli-farch | Cymunedau Matharn a Drenewydd Gelli-farch | 1 |
St Arvans | Llanarfan | Cymunedau St Arvans a Dyffryn Gwy | 1 |
St Kingsmark | Llangynfarch | Ward St Kingsmark o gymuned Cas-gwent | 1 |
Town | Y Dref | Ward y Dref o gymuned Trefynwy | 1 |
West End | West End | Ward West End o gymuned Caldicot | 1 |
Wyesham | Wyesham | Ward Wyesham o gymuned Trefynwy | 1 |
NODYN ESBONIADOL
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”), a roddodd adroddiad ym mis Mehefin 2021 ar ei adolygiad o drefniadau etholiadol Sir Fynwy. Roedd Adroddiad y Comisiwn yn cynnig lleihau nifer y wardiau etholiadol o 40 i 39, ond cynyddu nifer y cynghorwyr o 45 i 46.
Mae’r Gorchymyn hwn yn gweithredu argymhellion y Comisiwn, gydag addasiadau.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diddymu’r trefniadau etholiadol presennol ar gyfer Sir Fynwy ac yn cyflwyno’r Atodlen sy’n nodi’r trefniadau etholiadol newydd ar gyfer Sir Fynwy.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.