- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
9 Tachwedd 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
mae i “addysg feithrin” yr un ystyr â “nursery education” yn adran 117 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty” yn—
adran 312(2)(2) o Ddeddf 1996—
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel pe bai “a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;
mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 579(3) o Ddeddf 1996;
ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 6 oed;
ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 8 oed;
ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 9 oed;
ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 10 oed;
[F1ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 11 oed;]
ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 12 oed;
ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 13 oed;
ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 14 oed;
ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 15 oed;
ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 16 oed;
mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579(4) o Ddeddf 1996;
ystyr “cod” (“code”) yw cod ar anghenion dysgu ychwanegol a ddyroddir o dan adran 4 o’r Ddeddf;
mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC Plan” yn adran 37(2)(5) o Ddeddf 2014;
ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun a lunnir ac a gynhelir o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;
mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision” yn—
adran 312(4)(6) o Ddeddf 1996—
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,
mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru fel pe bai “in relation to a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,
adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(7);
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014(8);
mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434(9) o Ddeddf 1996;
mae i “diwrnod ysgol” yr un ystyr â “school day” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
ystyr “dosbarth meithrin” (“nursery class”) yw dosbarth o ddisgyblion y mae addysg feithrin yn cael ei darparu iddynt;
ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf 1996;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond nid yw’n cynnwys person sydd ym mlwyddyn 11;
mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr â “plentyn yn derbyn gofal gan awdurdod lleol” yn adran 15 o’r Ddeddf;
ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012(10);
mae i “rhiant” yr un ystyr â “parent” yn adran 576 o Ddeddf 1996;
mae i “sefydliad yn y sector addysg bellach” (“institution in the further education sector”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf;
ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru(11);
mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in Wales” yn adran 579(3B)(12) o Ddeddf 1996;
mae i “yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr” yr un ystyr ag “in the area of a local authority in England” yn adran 579(3A)(13) o Ddeddf 1996;
mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf;
mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.
(3) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr hen gyfraith” yn gyfeiriadau at Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996 ond ac eithrio—
(a)adran 323;
(b)adran 329;
(c)adran 329A.
(4) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “y gyfraith newydd” yn gyfeiriadau at—
(a)y Ddeddf,
(b)rheoliad neu’r cod a wneir o dan y Ddeddf honno, ac
(c)unrhyw ddarpariaeth arall o Ddeddf neu a wneir o dan Ddeddf sy’n cael effaith at ddibenion y canlynol neu mewn perthynas â’r canlynol—
(i)darpariaeth o’r Ddeddf honno neu reoliadau neu god o’r fath, neu
(ii)person y mae’r Ddeddf honno neu reoliadau neu god o’r fath yn gymwys iddo.
(5) At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—
(a)os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
(b)os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei dwyn.
(6) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw yn ardal yr awdurdod.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn ergl. 1(2) wedi eu mewnosod (21.8.2023) gan Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchmynion Cychwyn Rhif 5, Rhif 6, Rhif 8, Rhif 13 a Rhif 14) 2023 (O.S. 2023/932), ergl. 2(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 1 mewn grym ar y dyddiad gwneud
2.—(1) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan blentyn (“P”) “anghenion addysgol arbennig a nodwyd” os yw P yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru a bod ganddo anhawster dysgu a nodwyd gan y corff llywodraethu sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer P.
(2) Ond nid yw’n cynnwys plentyn—
(a)y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996;
(b)y mae awdurdod lleol yn cynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef;
(c)sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru ac—
(i)sy’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach), a
(ii)y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am y plentyn hwnnw;
(d)sy’n blentyn sy’n derbyn gofal ond nid yn blentyn sy’n derbyn gofal sydd yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr;
(e)y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;
(f)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i asesu ai peidio;
(g)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—
(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu
(iii)dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;
(h)y mae awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996;
(i)y mae awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad mewn perthynas ag ef yn dilyn asesiad ac—
(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(iii)dygwyd apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
(aa)gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn; neu
(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
(j)y mae rhaid i awdurdod lleol wneud datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996 ond nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn;
(k)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â chynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan baragraff 11(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 mwyach ac—
(i)nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben; neu
(ii)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(l)y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo;
(m)nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 140 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000(14)—
(i)yn mynd rhagddo; neu
(ii)wedi arwain at adroddiad ar anghenion addysgol a hyfforddi y person a’r ddarpariaeth sy’n ofynnol i’w diwallu;
(n)y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);
(o)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36, beidio â sicrhau asesiad o anghenion AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;
(p)y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—
(i)nad yw’r asesiad wedi cychwyn,
(ii)bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu
(iii)nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;
(q)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
(v)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
(aa)gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn; neu
(bb)ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
(r)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 ei bod yn angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ond nad yw’r cynllun hwnnw wedi ei lunio;
(s)y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 45 o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol mwyach gynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
(i)nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(ii)bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
(iii)bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
(iv)bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(f) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 2 mewn grym ar y dyddiad gwneud
3. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ionawr 2022 mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022—
(a)adrannau 2 i 4;
(b)adrannau 6 i 14;
(c)adrannau 17 i 36;
(d)adran 38;
(e)adrannau 40 i 44;
(f)adrannau 47 i 49;
(g)adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
(h)adran 50(4) i (5);
(i)adrannau 51 i 53;
(j)adran 55;
(k)adran 59;
(l)adrannau 63 i 66;
(m)adrannau 68 i 69;
(n)adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
(o)yn yr Atodlen—
(i)paragraff 1;
(ii)paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (x);
(iii)paragraff 4(2) i 4(8);
(iv)paragraff 4(9);
(v)paragraff 4(10);
(vi)paragraff 4(13) i 4(18);
(vii)paragraff 4(19)(b);
(viii)paragraff 4(20) a 4(21);
(ix)paragraff 4(23) i 4(29);
(x)paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);
(xi)paragraff 7;
(xii)paragraff 8;
(xiii)paragraff 11(a);
(xiv)paragraff 12(a);
(xv)paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvi);
(xvi)paragraff 14(2) a (3);
(xvii)paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xviii);
(xviii)paragraff 19(5)(e)(ii);
(xix)paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xx);
(xx)paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);
(xxi)paragraff 22;
(xxii)paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiii);
(xxiii)paragraff 23(4);
(xxiv)paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxv);
(xxv)paragraff 24(3) a (6)(a).
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 3 mewn grym ar y dyddiad gwneud
4. Yn ddarostyngedig i erthyglau 9 i 12 ac erthyglau 14 i 20, er bod Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996(15) wedi ei datgymhwyso gan adran 96 o’r Ddeddf a pharagraff 4(9) o’r Atodlen iddi mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd—
(a)mae’r hen gyfraith yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw; a
(b)nid yw’r gyfraith newydd yn cael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 4 mewn grym ar y dyddiad gwneud
5. Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad CDU sy’n cadarnhau—
(a)bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf; a
(b)y bydd cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ar gyfer y plentyn (oni bai ei bod yn ofynnol i awdurdod lleol sicrhau cynllun AIG yn dilyn cais o dan adran 12(2)(c) o’r Ddeddf).
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 5 mewn grym ar y dyddiad gwneud
6. Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad Dim CDU sy’n cadarnhau bod y corff llywodraethu wedi penderfynu nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf.
Gwybodaeth Cychwyn
I6A. 6 mewn grym ar y dyddiad gwneud
7. Effaith yr hysbysiad CDU yw—
(a)y bernir bod y corff llywodraethu wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;
(b)bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw; ac
(c)bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 7 mewn grym ar y dyddiad gwneud
8. Effaith yr hysbysiad Dim CDU yw—
(a)y bernir bod y corff llywodraethu wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;
(b)bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw; ac
(c)bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I8A. 8 mewn grym ar y dyddiad gwneud
9.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022 ac sydd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 3, blwyddyn 5, blwyddyn 7 neu flwyddyn 10.
(2) Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r corff llywodraethu sy’n darparu’r ddarpariaeth addysgol arbennig i’r plentyn roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022 [F2neu’r flwyddyn ysgol 2022-2023].
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn ergl. 9(2) wedi eu mewnosod (10.6.2022) gan Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 5 a Gorchymyn Cychwyn Rhif 6) 2022 (O.S. 2022/663), ergl. 2(2)
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 9 mewn grym ar y dyddiad gwneud
10.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022 ac sydd [F3ym mlwyddyn] 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023.LL+C
(2) Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r corff llywodraethu sy’n darparu’r ddarpariaeth addysgol arbennig i’r plentyn roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023.
Diwygiadau Testunol
F3Geiriau yn ergl. 10(1) wedi eu amnewid (10.6.2022) yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 5 a Gorchymyn Cychwyn Rhif 6) 2022 (O.S. 2022/663), ergl. 2(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 10 mewn grym ar y dyddiad gwneud
[F410A.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2023 ac sydd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.LL+C
(2) Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r corff llywodraethu sy’n darparu’r ddarpariaeth addysgol arbennig i’r plentyn roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024.]
Diwygiadau Testunol
11.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2023 ac nad oedd yn dod o fewn erthygl [F59, 10 na 10A].LL+C
(2) Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r corff llywodraethu sy’n darparu’r ddarpariaeth addysgol arbennig i’r plentyn roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024 [F6neu’r flwyddyn ysgol 2024-2025].
Diwygiadau Testunol
F5Geiriau yn ergl. 11(1) wedi eu hamnewid (21.8.2023) gan Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchmynion Cychwyn Rhif 5, Rhif 6, Rhif 8, Rhif 13 a Rhif 14) 2023 (O.S. 2023/932), ergl. 2(4)(a)
F6Geiriau yn ergl. 11(2) wedi eu mewnosod (21.8.2023) gan Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchmynion Cychwyn Rhif 5, Rhif 6, Rhif 8, Rhif 13 a Rhif 14) 2023 (O.S. 2023/932), ergl. 2(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I11A. 11 mewn grym ar y dyddiad gwneud
12. Caiff plentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022 neu riant y plentyn hwnnw ofyn i gorff llywodraethu’r ysgol y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU a rhaid i’r corff llywodraethu roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU o fewn 15 niwrnod ysgol i’r cais.
Gwybodaeth Cychwyn
I12A. 12 mewn grym ar y dyddiad gwneud
13.—(1) Pan fo hysbysiad CDU wedi ei roi yn unol ag erthyglau 9, 10, [F710A,] 11 neu 12, rhaid i’r corff llywodraethu roi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 35 o ddiwrnodau ysgol i ddyddiad yr hysbysiad oni bai—
(a)bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau yn adran 12(2) o’r Ddeddf yn gymwys; neu
(b)bod amgylchiadau eithriadol.
(2) Os oes amgylchiadau eithriadol, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(3) Nid yw unrhyw amserlenni yn y cod sy’n ymwneud â llunio cynllun datblygu unigol gan gorff llywodraethu yn gymwys pan gaiff cynllun datblygu unigol ei lunio yn dilyn rhoi hysbysiad CDU.
Diwygiadau Testunol
F7Gair yn ergl. 13(1) wedi ei fewnosod (21.8.2023) gan Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchmynion Cychwyn Rhif 5, Rhif 6, Rhif 8, Rhif 13 a Rhif 14) 2023 (O.S. 2023/932), ergl. 2(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 13 mewn grym ar y dyddiad gwneud
14.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad ADY i blentyn a rhiant y plentyn hwnnw ar unrhyw adeg.
(3) Caiff plentyn sydd wedi peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru ac nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys iddo, neu riant y plentyn hwnnw, ofyn i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad ADY, a rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad ADY o fewn 10 niwrnod gwaith i’r cais.
(4) Effaith yr hysbysiad ADY yw—
(a)bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddyddiad yr hysbysiad; a
(b)bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddyddiad yr hysbysiad.
(5) Ni chaiff yr awdurdod lleol priodol ond rhoi hysbysiad ADY o dan amgylchiadau eithriadol, oni bai bod yr hysbysiad ADY yn cael ei roi o ganlyniad i gais a wneir o dan baragraff (3).
(6) Yn yr erthygl hon ystyr “awdurdod lleol priodol” yw—
(a)yr awdurdod lleol yng Nghymru sy’n gyfrifol am y plentyn,
(b)pan na fo awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am y plentyn, awdurdod lleol yng Nghymru y mae’r ysgol a gynhelir y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi yn ei ardal.
Gwybodaeth Cychwyn
I14A. 14 mewn grym ar y dyddiad gwneud
15.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
(a)a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022,
(b)a oedd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 3, blwyddyn 5, blwyddyn 7 neu flwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022, ac
(c)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst [F82023].
(2) Ar 31 Awst [F92023] —
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
Diwygiadau Testunol
F8Gair yn ergl. 15(1)(c) wedi ei amnewid (10.6.2022) gan Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 5 a Gorchymyn Cychwyn Rhif 6) 2022 (O.S. 2022/663), ergl. 2(4)(a)
F9Gair yn ergl. 15(2) wedi ei amnewid (10.6.2022) gan Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 5 a Gorchymyn Cychwyn Rhif 6) 2022 (O.S. 2022/663), ergl. 2(4)(b)
Gwybodaeth Cychwyn
I15A. 15 mewn grym ar y dyddiad gwneud
16.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—LL+C
(a)a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022,
(b)a oedd [F10ym mlwyddyn] ysgol 2022-2023, ac
(c)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023.
(2) Ar 31 Awst 2023—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
Diwygiadau Testunol
F10Geiriau yn ergl. 16(1)(b) wedi eu hepgor (10.6.2022) yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 5 a Gorchymyn Cychwyn Rhif 6) 2022 (O.S. 2022/663), ergl. 2(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I16A. 16 mewn grym ar y dyddiad gwneud
[F1116A.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—LL+C
(a)a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022,
(b)a oedd ym mlwyddyn 6 neu ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2023-2024, ac
(c)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2024.
(2) Ar 31 Awst 2024—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.]
Diwygiadau Testunol
17.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—LL+C
(a)a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022, a
(b)nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst [F122025].
(2) Ar 31 Awst [F122025]—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
Diwygiadau Testunol
F12Gair yn ergl. 17 wedi ei amnewid (21.8.2023) gan Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchmynion Cychwyn Rhif 5, Rhif 6, Rhif 8, Rhif 13 a Rhif 14) 2023 (O.S. 2023/932), ergl. 2(7)
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 17 mewn grym ar y dyddiad gwneud
18.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022—
(a)sy’n peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru,
(b)nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad Dim CDU ar ei gyfer, ac
(c)y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2) Ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol honno—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
(3) Yn yr erthygl hon ystyr “peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig” yw bod enw’r disgybl wedi ei ddileu o gofrestr dderbyn yr ysgol yn unol â Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010(16) ond nid yw’n cynnwys disgybl sy’n peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig o ganlyniad i un neu ragor o’r canlynol—
(i)cyrraedd diwedd trydydd tymor y flwyddyn olaf y mae’r ysgol yn darparu addysg yn gyffredinol;
(ii)bod yr ysgol yn cael ei therfynu o ganlyniad i weithredu cynnig a wneir o dan adran 43 (cynigion i derfynu ysgolion prif ffrwd), adran 44 (cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion arbennig cymunedol), adran 59 (gwneud a chyhoeddi cynigion gan Weinidogion Cymru), adran 68 (cynigion gan Weinidogion Cymru) neu adran 80 (hysbysiad gan gorff llywodraethu am derfynu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol) o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013(17);
(iii)bod yr ysgol yn cael ei therfynu o ganlyniad i gyfarwyddyd a wneir o dan adran 16 (pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod ysgol yn cael ei chau) neu adran 81 (cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol bod ysgol arbennig gymunedol yn cael ei therfynu) o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013
(iv)bod yr uned cyfeirio disgyblion yn cael ei chau yn barhaol.
Gwybodaeth Cychwyn
I18A. 18 mewn grym ar y dyddiad gwneud
19.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022—
(a)sy’n dod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach),
(b)y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol amdano,
(c)nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad Dim CDU ar ei gyfer, a
(d)y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2) Ar y dyddiad y daw’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I19A. 19 mewn grym ar y dyddiad gwneud
20.—(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022—
(a)sy’n dod yn blentyn sy’n derbyn gofal,
(b)nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad Dim CDU ar ei gyfer, ac
(c)y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
(2) Ar y dyddiad y daw’r plentyn yn blentyn sy’n derbyn gofal—
(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I20A. 20 mewn grym ar y dyddiad gwneud
21. Pan fo’n ofynnol i gorff llywodraethu lunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn o fewn 35 o ddiwrnodau ysgol i symud i’r gyfraith newydd, rhaid i’r corff llywodraethu roi sylw i’r ddarpariaeth addysgol arbennig a ddarparwyd i’r plentyn yn union cyn symud i’r gyfraith newydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I21A. 21 mewn grym ar y dyddiad gwneud
22. Pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol lunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn o fewn 12 wythnos i symud i’r gyfraith newydd, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i’r ddarpariaeth addysgol arbennig a ddarparwyd i’r plentyn yn union cyn symud i’r gyfraith newydd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I22A. 22 mewn grym ar y dyddiad gwneud
23.—(1) Mae paragraff (2) yn gymwys—
(a)i’r ddyletswydd i roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i blentyn yn erthyglau 9(2), 10(2) [F14, 10A(2)] ac 11(2);
(b)i’r ddyletswydd i roi hysbysiad yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 12;
(c)i’r ddyletswydd i roi copi o’r cynllun datblygu unigol i blentyn o fewn 35 o ddiwrnodau ysgol yn erthygl 13(1);
(d)i’r pŵer i roi hysbysiad ADY i blentyn yn erthygl 14(2);
(e)i’r ddyletswydd i roi hysbysiad ADY yn dilyn cais gan blentyn o dan erthygl 14(3).
(2) Nid yw’r ddyletswydd neu’r pŵer yn gymwys os yw’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol priodol (yn ôl y digwydd) yn ystyried nad oes gan y plentyn alluedd i ddeall y mater o dan sylw.
(3) Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r ddyletswydd ym mharagraff (1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 5 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.
(4) Pan fo paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r ddyletswydd ym mharagraff (1)(a) neu (b), mae’r cyfeiriad cyntaf at blentyn yn erthygl 6 i’w ddarllen fel pe bai wedi ei hepgor.]
Diwygiadau Testunol
Jeremy Mile
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
9 Tachwedd 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).
Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.
Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 1 Ionawr 2022 mewn perthynas â’r rheini sydd ym mlwyddyn 10 ac is, sy’n mynychu ysgol a gynhelir (gan gynnwys uned cyfeirio disgyblion) ac sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd. Mae’n eithrio rhai eraill sy’n ymwneud â’r fframwaith statudol presennol, gan gynnwys y rheini sydd â datganiad anghenion addysgol arbennig.
Mae erthygl 1 yn cynnwys diffiniadau, gan gynnwys y “gyfraith newydd” yn y Ddeddf a’r “hen gyfraith” yn Rhan 4 o Ddeddf Addysg 1996. Hyd nes y caiff plentyn ei drosglwyddo i’r gyfraith newydd, bydd yr hen gyfraith yn parhau i fod yn gymwys i’r plentyn ac ni fydd y gyfraith newydd yn cael effaith. Mae’r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu roi hysbysiad i blentyn mewn grŵp blwyddyn penodol mewn blwyddyn ysgol benodol (erthyglau 9 i 11). Er enghraifft, bydd plentyn sydd mewn dosbarth meithrin, neu sydd ym mlwyddyn 1, 3, 5, 7, neu 10 yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022. Dyddiad yr hysbysiad a roddir i blentyn penodol fydd y dyddiad y bydd y plentyn hwnnw yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd.
Caiff y corff llywodraethu roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn. Mae hysbysiad CDU yn golygu y bernir bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf ar ddyddiad yr hysbysiad ac y bwriedir llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn (erthygl 5). Mae hysbysiad Dim CDU yn golygu y bernir nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf ar ddyddiad yr hysbysiad (erthygl 6).
Caiff plentyn ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd neu riant y plentyn ofyn bod hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU yn cael ei roi (erthygl 12).
Pan fo cynllun datblygu unigol wedi ei lunio yn dilyn hysbysiad CDU, rhaid i’r corff llywodraethu roi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhieni’r plentyn o fewn 35 o ddiwrnodau ysgol i ddyddiad yr hysbysiad oni bai bod amgylchiadau penodol yn gymwys (erthygl 13).
Os nad yw’r plentyn wedi trosglwyddo i’r gyfraith newydd erbyn diwedd y flwyddyn ysgol y dylai’r plentyn fod wedi trosglwyddo ynddi, mae’r hen gyfraith yn peidio â chael effaith ac mae’r gyfraith newydd yn cael effaith ar ddiwrnod olaf y flwyddyn ysgol berthnasol (erthyglau 15 i 17).
Mae erthyglau 18 i 20 yn ymdrin â’r sefyllfa pan fo amgylchiadau’r plentyn yn newid ar ôl 1 Ionawr 2022.
Os nad yw’r plentyn wedi ei gofrestru mwyach mewn ysgol a gynhelir (ac nad yw wedi trosglwyddo i’r gyfraith newydd), caiff y plentyn neu riant y plentyn ofyn i’r awdurdod lleol priodol am hysbysiad ADY, a fydd yn golygu bod y plentyn yn cael ei drosglwyddo i’r gyfraith newydd ar ddyddiad yr hysbysiad (erthygl 14). Rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad ADY o fewn 10 niwrnod gwaith i’r cais.
Caiff yr awdurdod lleol priodol hefyd, o dan amgylchiadau eithriadol, roi hysbysiad ADY i unrhyw blentyn a rhiant y plentyn hwnnw a fydd yn trosglwyddo’r plentyn i’r gyfraith newydd.
Wrth lunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd, o dan amgylchiadau penodol rhaid rhoi sylw i’r ddarpariaeth addysgol arbennig yr oedd y plentyn yn ei chael yn union cyn trosglwyddo i’r gyfraith newydd (erthygl 21 a 22).
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn(18):
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adrannau 2 i 3 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 4 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 5 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adran 6 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 7 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 8 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adrannau 10 i 14 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 15 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adran 16 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adrannau 17 i 20 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 21 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adrannau 22 i 31 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 32 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adrannau 33 i 35 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | O.S. 2021/373 (Cy. 116)(C. 12) |
Adran 36 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 37 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adran 38 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 39 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adrannau 40 i 44 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 45 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adran 46 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adran 47 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adrannau 48 i 49 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 50(1), (4) a (5) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 50(1), (2) a (3) (yn llawn) | 1 Medi 2021 | |
Adrannau 51 i 53 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 54 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 55 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 56 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 56(1) | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adran 56(4) i (6) | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adrannau 57 i 58 | 1 Medi 2021 | |
Adran 59 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 60 | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adran 61 | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adran 62 | 4 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adrannau 63 i 64 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 65 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 66 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adran 67 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adrannau 68 i 69 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Adrannau 70 i 73 | 1 Medi 2021 | |
Adran 74 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adran 75 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 76 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 77 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adrannau 78 i 81 | 1 Medi 2021 | |
Adran 82 | 2 Tachwedd 2020 | O.S. 2020/1182 (Cy. 267)(C. 33) |
Adran 83 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 84 | 1 Medi 2021 | |
Adran 85 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adrannau 86 i 90 | 1 Medi 2021 | |
Adran 91 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 92 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adrannau 93 i 94 | 1 Medi 2021 | |
Adran 95 (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Adran 96 (yn rhannol) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 1 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 2(1), 2(2)(b) a 2(3) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 3 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 4(1), 4(2) i 4(8), 4(9), 4(10), 4(13) i 4(18), 4(19)(b), 4(20), 4(21), 4(23) i 4(29), 4(32)(a)(i) a (ii), 4(32)(b) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 4(9) (i’r graddau y mae’n hepgor adrannau 333(1ZA), 333(2) i 333(6) a 334 i 335), 4(12), 4(19)(a), 4(22), 4(30)(a)(ii), 4(30)(b), 4(31), 4(32)(a)(iii), 4(33)(a), 4(33)(b) (i’r graddau y mae’n hepgor diffiniadau penodol), 4(33)(d), 4(33)(e) a 4(33)(g) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 6(d)(v), 6(f), 6(g), 6(j)(i), 6(l)(i), 6(l)(iii), 6(n)(ii) (i’r graddau y mae’n hepgor paragraff 11 o Atodlen 2), a 6(t) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 7 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 8 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraffau 9 a 10 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 11(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 11(b) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 12(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 12(b) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 13 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 14(1) i (3) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 14(1) a 14(4) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 15(1) a 15(3) i 15(4) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraffau 17 a 18 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (2), (3), (5)(a) i (d), (5)(e)(i), (5)(f) a (6) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (4) a (5)(g) ac (h) (yn rhannol) (yn llawn) | 2 Tachwedd 2020 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 19(1), (5)(e)(ii) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 20 | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 21(1), (2)(a)(i) a (2)(b)(ii) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 21(1) ac 21(b)(i) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 22 (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 23(1), 23(3)(a) i (c) a (5) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 23(1) a (4) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 24(1) a 24(3) a (6)(a) (yn rhannol) | 1 Medi 2021 | |
Yr Atodlen, paragraff 24(1), 24(2), (5) a (6)(b) ac (c) | 1 Medi 2021 |
Diwygiwyd gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 59 a pharagraffau 1 a 6 o Atodlen 2, gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 ac 11 o Atodlen 3, gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 a pharagraff 7 o Atodlen 2, gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 57, paragraff 23 o Atodlen 7 ac Atodlen 8.
Amnewidiwyd y diffiniad o “awdurdod lleol” gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 3.
Mewnosodwyd diffiniad o “school year” gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 57, paragraff 43 o Atodlen 7.
Diwygiwyd gan Ddeddf Gofal 2014 a Gorchymyn Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2015 (O.S. 2015/914), erthygl 2 a pharagraff 97 o’r Atodlen.
Diwygiwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 ac 11 o Atodlen 3, gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 a pharagraff 7 o Atodlen 2, gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 71 o Atodlen 30 ac Atodlen 31.
Diwygiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 111 o Atodlen 30 a chan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 3.
Arferai Tribiwnlys Addysg Cymru gael ei alw’n Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Gweler adran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
Mewnosodwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 a 59 o Atodlen 3 a ddiwygiwyd gan adran 95 o’r Ddeddf.
Mewnosodwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 a 59 o Atodlen 3 a ddiwygiwyd gan adran 95 o’r Ddeddf.
Gweler erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn a gychwynnodd y darpariaethau hynny.
Gweler Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 (O.S. 2021/1244 (Cy. 316) (C. 69)) a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 7) 2021 (O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)) sy’n dwyn i rym ddarpariaethau at ddibenion penodol ar yr un dyddiad â’r Gorchymyn hwn.
Diwygiwyd gan O.S. 2021/735 (Cy. 184) (C. 34).
Diwygiwyd gan O.S. 2021/735 (Cy. 184) (C. 34).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys