Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Diwygio) (Cymru) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

PENNOD 2Hawliau dinasyddion a meini prawf preswyliad

Diwygiad i reoliad 23

34.  Yn rheoliad 23E(a)(i), yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.

Diwygiadau i Atodlen 1

35.  Yn Atodlen 1 paragraff 6(1), yn y diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”—

(a)mae’r testun presennol ar ôl “yw—” wedi ei rifo’n baragraff (1);

(b)yn y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, hepgorer y “neu” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (a)(iii), ac ar ôl is-baragraff (a)(iv) mewnosoder—

(v)sydd fel arall â hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw ddarpariaethau tybio hawliau dinasyddion; neu;

(c)ar ôl y paragraff hwnnw fel y’i rhifwyd felly, mewnosoder—

(2) Ym mharagraff (1)(a)(v) ystyr “darpariaethau tybio hawliau dinasyddion” yw—

(a)Erthygl 18(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE;

(b)Erthygl 17(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio yn ystod y cyfnod pontio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020); neu

(c)Erthygl 16(2) a (3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

Diwygiadau i Atodlen 2

36.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 1—

(a)yn is-baragraff (2)(a)(iv)—

(i)ym mharagraff (bb), ar ôl “2020” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawliau y bernir eu bod yn gymwys yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (5)”;

(ii)yn is-baragraff (cc), ar ôl “cyfnod perthnasol” mewnosoder “neu fel arall mae ganddo hawl dybiedig i breswylio’n barhaol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau hawliau dinasyddion a bennir ym mharagraff (5)”;

(b)yn is-baragraff (3)—

(i)ym mharagraff (a), yn lle “ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs” rhodder “ar y diwrnod y mae tymor cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf yn dechrau mewn gwirionedd”;

(ii)ym mharagraff (c), ar ôl “cwrs” mewnosoder “ac sydd wedi bod yn preswylio fel arfer yng Ngweriniaeth Iwerddon am o leiaf ran o’r cyfnod hwnnw”, hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd y paragraff hwnnw a mewnosoder “ac” ar ddiwedd paragraff (d);

(iii)ar ôl paragraff (d) mewnosoder—

(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs presennol, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn y cwrs presennol.

(c)ar ôl is-baragraff (4) mewnosoder—

(5) At ddibenion is-baragraff (2)(a)(iv), y darpariaethau hawliau dinasyddion y cyfeirir atynt yw—

(a)Erthygl 18(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ymadael â’r UE,

(b)Erthygl 17(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o gytundeb gwahanu EFTA yr AEE (fel y diffinnir “EEA EFTA separation agreement” yn adran 39(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020), neu

(c)Erthygl 16(3) (dyroddi dogfennau preswylio) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd.

37.  Yn Atodlen 2, ym mharagraff 6C hepgorer yr “a” terfynol ar ddiwedd is-baragraff (c), mewnosoder “ac” ar ddiwedd is-baragraff (d), ac ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

(e)na symudodd i Gymru o’r Ynysoedd at ddiben ymgymryd â’r cwrs dynodedig, neu gwrs yr ymgymerodd y person ag ef, gan ddiystyru unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union cyn ymgymryd â’r cwrs dynodedig.

Diwygiad i Atodlen 4

38.  Yn Atodlen 4, ym mharagraff 13E(a)(i) yn lle “paragraff (a)(iii) neu (iv)” rhodder “paragraff (1)(a)(iii), (iv) neu (v)”.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill