Chwilio Deddfwriaeth

Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Enwi a chychwynLL+C

1.  Enw’r Rheolau hyn yw Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021 a deuant i rym ar 17 Rhagfyr 2021.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rule 1 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Darpariaeth drosiannolLL+C

2.  Nid yw dod â’r Rheolau hyn i rym yn effeithio ar gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned pe bai’r bleidlais yn cael ei chynnal, pe ceid gornest yn yr etholiad, cyn 5 Mai 2022.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rule 2 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

DehongliLL+C

3.—(1Yn y Rheolau hyn—

ystyr “Deddf 1983” (“the 1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983;

ystyr “diwrnod eithriedig” (“excluded day”) yw diwrnod sydd—

(a)

yn ddydd Sadwrn;

(b)

yn ddydd Sul;

(c)

yn Noswyl Nadolig;

(d)

yn Ddydd Nadolig;

(e)

yn ddydd Gwener y Groglith;

(f)

yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(1);

mae i “gwybodaeth am gyfeiriad cartref” (“home address information”) o ran person a enwebir—

(a)

yn Atodlen 1, yr ystyr a roddir gan reol 13(3) o’r Atodlen honno, a

(b)

yn Atodlen 2, yr ystyr a roddir gan reol 13(3) o’r Atodlen honno;

ystyr “Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau” (“the Combination of Polls Regulations”) yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cyfuno Pleidleisiau) (Cymru a Lloegr) 2004(2).

(2At ddibenion y Rheolau hyn, mae etholiad yn “etholiad perthnasol” os yw’n un o’r etholiadau a ganlyn a bod y bleidlais yn yr etholiad yn cael ei chynnal ynghyd â’r bleidlais mewn etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned—

(a)etholiad seneddol;

(b)etholiad cynghorwyr i gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

(c)etholiad maer, hynny yw, etholiad a gynhelir o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Etholiadau Maerol) (Cymru a Lloegr) 2007(3);

(d)etholiad comisiynydd heddlu a throseddu, hynny yw, etholiad comisiynydd heddlu a throseddu yn unol â Phennod 6 o Ran 1 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011(4).

(3Yn y Rheolau hyn, oni nodir yn wahanol, mae i’r geiriau a’r ymadroddion Cymraeg a ganlyn sy’n cyfateb i eiriau ac ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Neddf 1983 yr un ystyr â’r geiriau a’r ymadroddion hynny yn y Ddeddf honno (gweler adrannau 202(1) a 203(1)(5) o’r Ddeddf honno)—

anabledd” (“disability”);

ardal etholiadol” (“electoral area”);

cofnod cofnodion dienw” (“record of anonymous entries”);

cofnod dienw” (“anonymous entry”);

deiseb etholiad” (“election petition”);

etholwr” (“elector”);

llys etholiad” (“election court”);

pleidleisiwr” (“voter”);

rhestr dirprwyon” (“list of proxies”);

rhestr pleidleiswyr post” (“postal voters list”);

rhestr pleidleiswyr post drwy ddirprwy” (“proxy postal voters list”);

swyddog priodol” (“proper officer”).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rule 3 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Cynnal etholiadau i gyngor cymunedLL+C

4.—(1Mae Atodlen 1 yn nodi’r rheolau sy’n gymwys wrth gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned pan na chynhelir y bleidlais yn yr etholiad ynghyd â’r bleidlais mewn etholiad arall.

(2Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 1 at y swyddog canlyniadau yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau yn yr etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned.

(3Mae Atodlen 2 yn nodi’r rheolau sy’n gymwys wrth gynnal etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned pan gynhelir y bleidlais yn yr etholiad ynghyd â’r bleidlais mewn un neu ragor o etholiadau perthnasol.

(4Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 2 at y swyddog canlyniadau cydlynol yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau sydd, o dan reoliad 4 o’r Rheoliadau Cyfuno Pleidleisiau, yn gyfrifol am gyflawni swyddogaethau a bennir yn rheoliad 5 o’r Rheoliadau hynny.

(5Mae cyfeiriadau yn y rheolau yn Atodlen 2 at y swyddog canlyniadau yn gyfeiriadau at y swyddog canlyniadau yn yr etholiad cynghorwyr i gyngor cymuned (p’un a yw’r person hwnnw hefyd yn swyddog canlyniadau cydlynol ai peidio), oni bai bod rheol benodol yn darparu fel arall.

(6Pan fo rheol yn Atodlen 1 neu 2 yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau gyhoeddi dogfen, rhaid i’r ddogfen gael ei chyhoeddi—

(a)ar-lein, a

(b)mewn unrhyw ffordd arall y mae’r swyddog canlyniadau o’r farn ei bod yn briodol er mwyn dod â chynnwys y ddogfen i sylw’r cyhoedd.

(7Pan fo rheol yn Atodlen 1 neu 2 yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad gael ei roi, neu’n awdurdodi rhoi hysbysiad, caniateir i’r hysbysiad—

(a)cael ei anfon drwy’r post,

(b)cael ei anfon yn electronig, neu

(c)cael ei ddanfon yn bersonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rule 4 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Llenwi seddi sydd wedi digwydd dod yn wagLL+C

5.—(1Mae’r rheol hon yn gymwys pan roddir hysbysiad cyhoeddus o sedd sydd wedi digwydd dod yn wag i gynghorydd cymuned yn unol ag adran 87(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

(2Caniateir gwneud cais am etholiad i lenwi’r swydd wag cyn diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau drannoeth ar ôl i hysbysiad cyhoeddus o’r swydd wag gael ei roi.

(3Rhaid i unrhyw gais o’r fath gael ei wneud gan ddeg o etholwyr i swyddog priodol cyngor y sir neu’r fwrdeistref sirol y lleolir y gymuned ynddo.

(4Caniateir i’r cais gael ei wneud—

(a)drwy i’r deg etholwr ddarparu i’r swyddog priodol un ddogfen sy’n cynnwys y cais a honno wedi ei llofnodi gan bob un ohonynt, neu

(b)drwy i bob un o’r deg etholwr ddarparu dogfen i’r swyddog priodol sy’n cynnwys y cais a honno wedi ei llofnodi gan yr etholwr hwnnw.

(5Pan wneir cais, rhaid cynnal etholiad i lenwi’r swydd sydd wedi digwydd dod yn wag oni bai bod y swydd wag wedi digwydd yn ystod chwe mis olaf y cynghorydd (ynglŷn â hynny gweler paragraff (12)).

(6Pan fo etholiad yn ofynnol, rhaid ei gynnal ar ddiwrnod a benodir gan y swyddog canlyniadau, sy’n gorfod bod cyn diwedd y cyfnod o 60 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddir hysbysiad cyhoeddus o’r swydd wag.

(7Pan nad yw etholiad yn ofynnol—

(a)os digwyddodd y swydd wag yn ystod chwe mis olaf y cynghorydd, caiff y cyngor cymuned gyfethol person i lenwi’r swydd wag;

(b)fel arall, rhaid i’r cyngor cymuned gyfethol person i lenwi’r swydd wag.

(8Pan fo’r cyngor cymuned yn penderfynu cyfethol person neu pan fo’n ofynnol iddo gyfethol person, rhaid gwneud hyn cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o 14 diwrnod sy’n dechrau drannoeth ar ôl i hysbysiad cyhoeddus o’r swydd wag gael ei roi.

(9Pan na fydd swydd wag yn cael ei llenwi drwy etholiad neu drwy gyfethol person, rhaid ei llenwi yn yr etholiad cyffredin nesaf o gynghorwyr ar gyfer y gymuned.

(10Ym mharagraff (3), ystyr “etholwr” yw person sydd, ar y diwrnod y gwneir y cais, wedi ei gofrestru yn y gofrestr etholwyr llywodraeth leol ar gyfer yr ardal etholiadol y mae’r swydd wag wedi digwydd ynddi, ac eithrio person nad yw o oedran pleidleisio ar y diwrnod hwnnw neu sydd â chofnod dienw.

(11Wrth gyfrifo’r cyfnod o 14 diwrnod a grybwyllir ym mharagraffau (2) ac (8), a’r cyfnod o 60 niwrnod a grybwyllir ym mharagraff (6), mae unrhyw ddiwrnod sy’n ddiwrnod eithriedig i’w ddiystyru.

(12Mae cyfeiriadau yn y rheol hon at chwe mis olaf cynghorydd yn gyfeiriadau at y cyfnod o chwe mis sy’n dod i ben gyda diwrnod disgwyliedig yr etholiad cyffredin nesaf o gynghorwyr ar gyfer y gymuned.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rule 5 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Addasiadau i Ddeddf 1983LL+C

6.—(1Mae darpariaethau Deddf 1983 y cyfeirir atynt yn adran 187(1) o’r Ddeddf honno (darpariaethau sy’n gymwys mewn etholiadau lleol penodol) yn gymwys i etholiad cynghorwyr cymuned gyda’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad at swyddog priodol yr awdurdod i’w ddarllen fel cyfeiriad at y swyddog canlyniadau.

(2Mae adran 136(2)(b) o Ddeddf 1983(6) (swm gwarant costau ar ddeiseb etholiad) yn gymwys i etholiad cynghorwyr cymuned gyda’r addasiad bod y cyfeiriad at “£2,500” i’w ddarllen fel cyfeiriad at “£1,500”.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rule 6 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Ffurf treuliau etholiadLL+C

7.  Rhaid i ddatganiad ynglŷn â threuliau etholiad mewn etholiad cynghorwyr cymuned fod yn y ffurf yn Atodlen 3 i’r Rheolau hyn neu ffurf i’r un perwyl.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rule 7 mewn grym ar 17.12.2021, gweler rheol 1

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

15 Rhagfyr 2021

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill