
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Schedule
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
28. Caiff yr ymgymerwr a Network Rail, yn ddarostyngedig i gydymffurfiaeth Network Rail â thelerau ei drwydded rhwydwaith, ymrwymo i gytundebau, a’u gweithredu, ar gyfer trosglwyddo i’r ymgymerwr—
(a)unrhyw eiddo rheilffordd a ddangosir ar blaniau gweithfeydd a phlan y tir ac a ddisgrifir yn y cyfeirlyfr;
(b)unrhyw diroedd, gweithfeydd neu eiddo arall a ddelir mewn cysylltiad ag unrhyw gyfryw eiddo rheilffordd; ac
(c)unrhyw hawliau a rhwymedigaethau (boed yn rhai statudol ai peidio) sydd gan Network Rail sy’n ymwneud ag unrhyw eiddo rheilffordd.
Yn ôl i’r brig