Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 325 (Cy. 84)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

16 Mawrth 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

17 Mawrth 2021

Yn dod i rym

1 Ebrill 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 45C(1), (2), (3)(c) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno(2), oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4Yn y Rheoliadau hyn, mae i “tŷ annedd” yr un ystyr ag a roddir i “dwelling-house” yn Neddf Tai 1985(3), Deddf Tai 1988(4) neu Ddeddf Rhenti 1977(5), yn ôl y digwydd.

Tenantiaethau preswyl (gwarchodaeth rhag troi allan)

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), ni chaiff unrhyw berson fod yn bresennol mewn tŷ annedd at ddiben—

(a)gweithredu gwrit neu warant meddiant,

(b)gweithredu gwrit neu warant adfer, neu

(c)danfon hysbysiad troi allan.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo’r llys wedi ei fodloni bod y writ, y warant neu’r hysbysiad yn ymwneud â gorchymyn meddiant a wneir—

(a)yn erbyn tresmaswyr yn unol â hawliad y mae rheol 55.6 (cyflwyno hawliadau yn erbyn tresmaswyr) o Reolau’r Drefniadaeth Sifil 1998(6) yn gymwys iddo,

(b)yn llwyr neu’n rhannol o dan adran 84A (sail absoliwt ar gyfer meddiannu am ymddygiad gwrthgymdeithasol) o Ddeddf Tai 1985(7),

(c)yn llwyr neu’n rhannol ar Sail 2 neu Sail 2A yn Atodlen 2 (seiliau ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau diogel) i Ddeddf Tai 1985(8),

(d)yn llwyr neu’n rhannol ar Sail 7A, Sail 14 neu Sail 14A yn Atodlen 2 (seiliau ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau sicr) i Ddeddf Tai 1988(9),

(e)yn llwyr neu’n rhannol ar Sail 7 (sail ar gyfer meddiannu pan fo tenant yn marw ac na cheir hawl olyniaeth) yn Atodlen 2 i Ddeddf Tai 1988(10), neu

(f)yn llwyr neu’n rhannol o dan Achos 2 o Atodlen 15 (sail ar gyfer meddiannu tai annedd sy’n cael eu gosod o dan denantiaethau gwarchodedig neu statudol, neu sy’n ddarostyngedig iddynt) i Ddeddf Rhenti 1977.

(3Pan fo paragraff (2)(e) yn gymwys, rhaid i’r person sy’n bresennol yn y tŷ annedd gymryd camau rhesymol i’w fodloni ei hun nad yw’r tŷ annedd wedi ei feddiannu cyn cyflawni’r materion hynny a nodir ym mharagraff (1)(a), (b) neu (c).

Adolygu a dod i ben

3.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, a pha un a yw’r cyfyngiadau hynny yn gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—

(a)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 1 Ebrill 2021 i 23 Ebrill 2021;

(b)o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 o ddiwrnodau.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd y dydd ar 30 Mehefin 2021.

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

16 Mawrth 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 45C o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru fel “the appropriate Minister”, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn ailddeddfu Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2021.

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021 a deuant i ben ar ddiwedd y dydd ar 30 Mehefin 2021. Mae rheoliad 3 yn darparu bod rhaid adolygu’r Rheoliadau’n rheolaidd er mwyn sicrhau bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir yn parhau i fod yn gymesur.

Mae’r Rheoliadau hyn yn atal, ac eithrio o dan amgylchiadau penodedig, bod yn bresennol mewn tŷ annedd at ddiben gweithredu gwrit neu warant meddiant, gweithredu gwrit neu warant adfer neu ddanfon hysbysiad troi allan.

Yr amgylchiadau penodedig yw pan fo’r llys wedi ei fodloni bod yr hawliad yn un yn erbyn tresmaswyr sy’n bersonau anhysbys; neu pan y’i gwnaed yn llwyr neu’n rhannol ar sail trais domestig, troseddau difrifol, ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu niwsans; neu, mewn achosion pan fo’r person sy’n bresennol wedi ei fodloni nad yw’r tŷ annedd wedi ei feddiannu ar yr adeg pan fo’n bresennol a phan fo’r gorchymyn meddiant wedi ei wneud yn llwyr neu’n rhannol ar sail marwolaeth y meddiannydd.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14) (“Deddf 2008”). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

(2)

Mewnosodwyd adran 45R gan adran 129 o Ddeddf 2008.

(6)

O.S. 1998/3132 (Cyfr. 17). Mewnosodwyd rheol 55.6 gan Atodlen 1 i O.S. 2001/256 (Cyfr. 7).

(7)

Mewnosodwyd adran 84A gan adran 94(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) (“Deddf 2014”) ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 84 o Atodlen 24 i Ddeddf Dedfrydu 2020 (p. 17) (“Deddf 2020”).

(8)

Amnewidiwyd Sail 2 gan adran 144 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) (“Deddf 1996”) ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 45 o Atodlen 7 i Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15) (“Deddf 2005”) ac adran 98(1) o Ddeddf 2014. Mewnosodwyd Sail 2A gan adran 145 o Ddeddf 1996 ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 33 o Atodlen 8 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) (“Deddf 2004”) a chan O.S. 2019/1458.

(9)

Mewnosodwyd Sail 7A gan adran 97(1) o Ddeddf 2014 ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 97 o Atodlen 24 i Ddeddf 2020. Amnewidiwyd Sail 14 gan adran 148 o Ddeddf 1996 ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 46 o Atodlen 7 i Ddeddf 2005 ac adran 98(2) o Ddeddf 2014. Mewnosodwyd Sail 14A gan adran 149 o Ddeddf 1996 ac fe’i diwygiwyd gan baragraff 43(3) o Atodlen 8 i Ddeddf 2004, O.S. 2010/866, O.S. 2011/1396 ac O.S. 2019/1458.

(10)

Mae diwygiadau i Sail 7 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill