Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 25/03/2022

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 03/12/2021. Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Instrument yn cynnwys darpariaethau nad ydynt yn ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn. Help about Status

Close

Statws

 Nid yw'n ddilys ar gyfer y pwynt mewn amser hwn yn golygu yn gyffredinol nad oedd darpariaeth mewn grym ar gyfer y pwynt mewn amser rydych wedi dewis.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 342 (Cy. 96)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021

Gwnaed

17 Mawrth 2021

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 74, 83 a 174 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021(1).

Mae gofynion Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (sy’n ymwneud ag ymgynghori) wedi eu bodloni.

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddi yn unol ag adran 174(4) a (5)(i) a (k) o’r Ddeddf honno.

Enwi a dod i rymLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3), i rym ar 1 Ebrill 2021.

(3Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2022—

(a)rheoliad 11;

(b)rheoliad 12;

(c)rheoliad 13;

(d)rheoliad 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau a roddir i Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth gan reoliad 11, 12 neu 13.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

DehongliLL+C

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod Bannau Brycheiniog” (“the Brecon Beacons member”) yw’r aelod a benodir o dan reoliad 8;

[F1mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(1); ]

ystyr “aelod cyngor” (“council member”) yw person y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1) neu berson a benodir o dan reoliad 7(3);

ystyr “Awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park Authority”) yw awdurdod yng Nghymru a sefydlir o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(2);

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw—

(a)

y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2022 (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y flwyddyn ariannol gyntaf”);

(b)

wedi hynny, cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth;

ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”) yw—

(a)

cyngor sir Ceredigion;

(b)

cyngor sir Powys;

F1...

ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir;

ystyr “rheolau sefydlog” (“standing orders”) yw’r rheolau sefydlog a wneir o dan baragraff 8 o’r Atodlen;

ystyr “swyddogaethau cynllunio strategol” (“strategic planning functions”) yw—

(a)

swyddogaethau Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth o dan Ran 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004(3) (gweler rheoliad 13), a

(b)

unrhyw swyddogaethau sy’n gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol iddynt.

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn rhl. 2 wedi eu hamnewid a hepgorer (3.12.2021) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (O.S. 2021/1349), rhlau. 1(2), 34(2)

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 1LL+CSefydlu ac ardal

SefydluLL+C

3.—(1Mae corff corfforedig o’r enw Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth (“CBC y Canolbarth”) wedi ei sefydlu.

(2Mae gan CBC y Canolbarth y swyddogaethau—

(a)a roddir iddo gan y Rheoliadau hyn, a

(b)a roddir iddo, a osodir arno neu a ddirprwyir iddo, gan unrhyw ddeddfiad arall.

(3Mae’r swyddogaethau a roddir i CBC y Canolbarth gan y Rheoliadau hyn yn arferadwy mewn perthynas â’i ardal.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

ArdalLL+C

4.  Mae ardal CBC y Canolbarth wedi ei ffurfio o ardaloedd y cynghorau cyfansoddol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CCyfansoddiad

CyfansoddiadLL+C

5.  Mae’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad CBC y Canolbarth.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CAelodaeth

AelodaethLL+C

6.—(1Aelodau CBC y Canolbarth yw—

(a)y 2 aelod cyngor, F2...

(b)aelod Bannau Brycheiniog. [F3, ac]

[F4(c)unrhyw aelod cyfetholedig.]

(2Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y Canolbarth [F5, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(2A) a 9(2)].

F6(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y Canolbarth (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Bannau Brycheiniog [F7ac unrhyw aelod cyfetholedig] oni bai bod—

(a)darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

(b)y cyd-destun yn mynnu fel arall.

Aelodau cyngorLL+C

7.—(1Yn achos pob cyngor cyfansoddol—

(a)yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;

(b)y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,

yw’r aelod cyngor o CBC y Canolbarth.

(2Pan fo aelod cyngor yn anabl i [F8weithredu fel aelod cyngor] am unrhyw gyfnod, rhaid i’r cyngor cyfansoddol y mae’n aelod ohono benodi aelod arall o’i weithrediaeth i [F9weithredu] ar ran yr aelod cyngor am y cyfnod hwnnw.

(3Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y Canolbarth hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Aelod Bannau BrycheiniogLL+C

8.—(1Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (“yr Awdurdod”) benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (2) yn aelod o CBC y Canolbarth (“aelod Bannau Brycheiniog”).

(2Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Bannau Brycheiniog yw—

(a)cadeirydd yr Awdurdod,

(b)dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu

(c)cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.

[F10(2A) Ni chaiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—

(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Canolbarth o dan reoliad 13;

(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.

(2B) Ond caiff aelod Bannau Brycheiniog hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y Canolbarth—

(a)os yw’r aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog yn cytuno, neu

(b)os caniateir i aelod Bannau Brycheiniog weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.

(2C) Rhaid i gytundeb o dan baragraff (2B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Bannau Brycheiniog i weithredu.]

(3Pan fo aelod Bannau Brycheiniog yn anabl i [F11weithredu fel aelod] am unrhyw gyfnod, rhaid i’r Awdurdod benodi un o’r deiliaid swyddi eraill a grybwyllir ym mharagraff (2) i [F12weithredu] ar ran aelod Bannau Brycheiniog am y cyfnod hwnnw.

[F13Aelodau cyfetholedigLL+C

9.(1) Caiff CBC y Canolbarth gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y Canolbarth (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.

(2) Rhaid i’r telerau hynny—

(a)pennu—

(i)swyddogaethau CBC y Canolbarth y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a

(ii)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy;

(b)cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill, ac

(c)cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.

(3) Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—

(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y Canolbarth o dan reoliad 13, a

(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y Canolbarth sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,

caiff aelod Bannau Brycheiniog weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.

(4) Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—

(a)am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu

(b)hyd nes—

(i)y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y Canolbarth, neu

(ii)y bydd CBC y Canolbarth yn terfynu’r cyfetholiad.

(5) Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—

(a)caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;

(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y Canolbarth.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Rhannu swyddLL+C

10.  Pan fo swydd y cyfeirir ati yn—

(a)rheoliad 7(1), neu

(b)rheoliad 8(2),

yn cael ei rhannu gan 2 berson neu ragor, mae’r personau hynny i’w trin fel pe baent yn 1 person at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CSwyddogaethau

Yn ddilys o 30/06/2022

Llesiant economaiddLL+C

11.  Rhoddir y swyddogaeth llesiant economaidd i CBC y Canolbarth (gweler adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(a)

Yn ddilys o 30/06/2022

Trosglwyddo etc. y swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaethLL+C

12.—(1Mae’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(4), mewn cysylltiad ag ardal pob cyngor cyfansoddol, i’w harfer gan CBC y Canolbarth, ac nid gan y cyngor cyfansoddol.

(2Mae Rhan 2 o Ddeddf Trefnidiaeth 2000 yn gymwys mewn perthynas â CBC y Canolbarth a’i gynghorau cyfansoddol yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn yr Atodlen i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021(5).

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(b)

Yn ddilys o 30/06/2022

Swyddogaethau cynllunio strategolLL+C

13.  Mae gan CBC y Canolbarth y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (ac yn unol â hynny mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gymwys i CBC y Canolbarth (gweler yn enwedig adrannau 60K i 60N o’r Ddeddf honno)).

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(c)

Is-bwerauLL+C

14.—(1Caniateir i CBC y Canolbarth wneud unrhyw beth—

(a)i hwyluso, neu

(b)sy’n gysylltiedig â, neu’n ffafriol i,

arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall.

(2Mae’r pethau y caniateir eu gwneud o dan baragraff (1) yn cynnwys—

(a)mynd i wariant;

(b)codi ffioedd;

(c)caffael neu waredu eiddo neu hawliau.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

[F14Cyfyngiad ar gyflawni swyddogaethau gan bersonau eraillLL+C

15.  Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i—

(a)cymeradwyo polisi trafnidiaeth, neu ddiwygio polisi o’r fath a ddatblygwyd yn rhinwedd rheoliad 12(1) o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;

(b)y gweithredoedd a ganlyn sy’n gysylltiedig â llunio cynllun datblygu strategol, neu ddiwygio cynllun, o dan reoliad 13—

(i)mabwysiadu cytundeb cyflawni, neu ddiwygio cytundeb o’r fath (gweler rheoliad 11(2) ac (8) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021 (“y Rheoliadau CDS”));

(ii)cymeradwyo dogfennau cynigion cyn-adneuo a datganiad o faterion cyn-adneuo (gweler rheoliadau 17 a 18 o’r Rheoliadau CDS);

(iii)cymeradwyo adroddiad ymgynghori cychwynnol, dogfen cynigion yr CDS a datganiad o faterion adneuo (gweler rheoliad 20 o’r Rheoliadau CDS);

(iv)cymeradwyo dogfennau i’w hanfon at Weinidogion Cymru o dan adran 64(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;

(v)tynnu cynllun datblygu strategol yn ôl o dan adran 66A(2) o’r Ddeddf honno;

(vi)mabwysiadu cynllun datblygu strategol o dan adran 60M(9)(a) o’r Ddeddf honno;

(vii)cymeradwyo adroddiad monitro blynyddol sydd i’w wneud o dan adran 76(1) o’r Ddeddf honno;

(viii)cymeradwyo adroddiad adolygiad o gynllun datblygu strategol sydd i’w wneud o dan adran 69(2) o’r Ddeddf honno;

(c)cytuno ar gyfrifiadau o ofynion cyllideb neu gyfrifiadau diwygiedig o dan reoliad 16(6)(b) a (9).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 30.6.2022 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(3)(d)

I16Rhl. 15 mewn grym ar 1.4.2021 (heblaw fel y crybwyllwyd yn rhl. 1(3)(d)), gweler rhl. 1(2)

RHAN 5LL+CAriannu

Cyfrifo gofynion cyllidebLL+C

16.—(1Ar gyfer pob blwyddyn ariannol rhaid i CBC y Canolbarth gyfrifo’r symiau a ddisgrifir ym mharagraff (2) sydd i’w priodoli i—

(a)ei swyddogaethau cynllunio strategol (gan gynnwys cyfran briodol o gostau gweinyddu a gorbenion eraill), a

(b)ei swyddogaethau eraill.

(2Y symiau y mae rhaid i’r CBC eu cyfrifo yw—

(a)y swm y mae’r CBC yn amcangyfrif y bydd yn ei wario mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys gwariant ar weinyddu a gorbenion eraill);

(b)y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei godi ar gyfer cronfa ariannol wrth gefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol;

(c)y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei gadw fel cronfa wrth gefn i dalu am y gwariant y mae’n ystyried yr eir iddo mewn cysylltiad â blynyddoedd ariannol i ddod;

(d)unrhyw swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn angenrheidiol i dalu unrhyw rwymedigaethau sydd heb eu talu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol gynharach.

(3Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i CBC y Canolbarth hefyd gyfrifo cyfanswm cyfanredol unrhyw symiau y mae’n amcangyfrif y bydd yn eu cael o ffynonellau eraill ac eithrio’r cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog sydd i’w priodoli i—

(a)ei swyddogaethau cynllunio strategol, a

(b)ei swyddogaethau eraill.

(4Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(a) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(a), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y Canolbarth ar gyfer y flwyddyn ariannol.

(5Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(b) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(b), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cyffredinol CBC y Canolbarth ar gyfer y flwyddyn ariannol.

(6Rhaid i CBC y Canolbarth —

(a)cynnal y cyfrifiadau o dan baragraffau (1) a (3), a

(b)cytuno ar y cyfrifiadau hynny mewn cyfarfod,

yn ddim hwyrach na 31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol.

(7Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyntaf, mae paragraff (6) yn gymwys fel pe bai “31 Ionawr 2022” wedi ei roi yn lle “31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol”.

(8Caiff CBC y Canolbarth ddiwygio’r cyfrifiadau a gynhelir o dan baragraffau (1) a (3) ar unrhyw adeg cyn diwedd y flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi a chaniateir diwygio gofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, CBC y Canolbarth o ganlyniad i hynny.

(9Rhaid cytuno ar unrhyw gyfrifiadau diwygiedig mewn cyfarfod o CBC y Canolbarth.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 16 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Ariannu gofyniad cyllidebLL+C

17.—(1Rhaid i ofyniad cyllideb cyffredinol CBC y Canolbarth gael ei dalu i CBC y Canolbarth gan y cynghorau cyfansoddol, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol i’w phennu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau cyngor.

(2Rhaid i ofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC Canolbarth gael ei dalu i CBC y Canolbarth gan y cynghorau cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol a chan yr Awdurdod i’w phennu drwy gytundeb unfrydol [F15yr aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog].

(3Pan na fo’n bosibl dod i gytundeb o ran y cyfrannau sy’n daladwy o dan baragraff (1) neu (2), caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu’r gyfran sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol neu bob cyngor cyfansoddol ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

(4Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, a ddiwygiwyd o dan baragraff (8) o reoliad 16 fel y mae’n gymwys i ofyniad cyllideb a bennwyd yn wreiddiol o dan y rheoliad hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 17 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

17 Mawrth 2021

Rheoliad 5

YR ATODLENLL+CCyfansoddiad

RHAN 1LL+CGweithdrefn, cyfarfodydd a phleidleisio

Cadeirio cyfarfodyddLL+C

1.  Rhaid i gyfarfodydd CBC y Canolbarth gael eu cadeirio gan—

(a)y cadeirydd a benodir o dan baragraff 2, neu

(b)os yw’r cadeirydd yn absennol, yr is-gadeirydd a benodir o dan y paragraff hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Penodi cadeirydd ac is-gadeiryddLL+C

2.—(1Yng nghyfarfod cyntaf CBC y Canolbarth—

(a)penodi cadeirydd ac is-gadeirydd fydd y busnes cyntaf a drafodir, a

(b)rhaid i’r aelod cyngor ar gyfer cyngor sir Ceredigion gadeirio’r cyfarfod hyd nes y penodir y cadeirydd (ac mae’r cadeirydd i gadeirio gweddill y cyfarfod).

(2Ym mhob cyfarfod cyffredinol blynyddol o CBC y Canolbarth —

(a)rhaid cadarnhau bod penodiad y cadeirydd a’r is-gadeirydd yn parhau, neu

(b)rhaid penodi cadeirydd newydd, is-gadeirydd, neu’r ddau.

(3Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi o blith yr aelodau cyngor.

(4Rhaid i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd gael eu penodi, neu eu cadarnhau gan—

(a)yr aelodau cyngor, a

(b)unrhyw [F16aelodau eraill] sydd â hawl i bleidleisio ar y mater.

(5Os yw swydd cadeirydd neu is-gadeirydd yn dod yn wag, rhaid penodi i lenwi’r swydd wag yn y cyfarfod cyntaf CBC y Canolbarth a gynhelir ar ôl i’r swydd ddod yn wag.

(6Os yw swydd y cadeirydd yn wag, caniateir i’r is-gadeirydd gyflawni swyddogaethau cadeirydd hyd nes y llenwir y swydd wag.

(7Er gwaethaf paragraff 1, pan fo swyddi’r cadeirydd a’r is-gadeirydd yn wag ar yr un pryd, rhaid i’r cyfarfod y cyfeirir ato yn is-baragraff (5) gael ei gadeirio, hyd nes y llenwir un o’r swyddi gwag, gan aelod cyngor a bennir gan gyngor sir Ceredigion.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Cyfarfodydd cyffredinol blynyddolLL+C

3.  Rhaid i CBC y Canolbarth gynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol ym mhob blwyddyn ariannol ar ddyddiad a bennir gan y CBC.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Cyfarfodydd eraillLL+C

4.—(1Caiff CBC y Canolbarth gynnal cyfarfodydd eraill ar ddyddiadau a bennir yn y rheolau sefydlog.

(2Caniateir i gyfarfod eithriadol o CBC y Canolbarth gael ei alw ar unrhyw adeg gan unrhyw berson sydd â hawl i bleidleisio ar fater sydd i’w benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. para. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

CworwmLL+C

5.  Nid oes unrhyw fusnes i’w drafod mewn perthynas â mater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y Canolbarth onid yw—

(a)yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—

(i)rheoliad 17, neu

(ii)paragraff 7 o’r Atodlen hon,

yr holl bersonau sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad yn bresennol, a

(b)mewn unrhyw achos arall, dim llai na 70% o’r personau sydd â hawl i bleidleisio yn bresennol.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. para. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Y weithdrefn bleidleisioLL+C

6.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3) o’r paragraff hwn a pharagraff 7 o’r Atodlen hon, mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu mewn cyfarfod o CBC y Canolbarth—

[F17(a)ni chaiff nifer yr aelodau cyfetholedig sydd â hawl i bleidleisio fod yn fwy na nifer yr aelodau eraill sydd â hawl i bleidleisio,]

(b)un bleidlais sydd gan bob person sydd â hawl i bleidleisio,

(c)mae’r mater i’w benderfynu drwy fwyafrif syml, a

(d)os yw nifer y pleidleisiau yn gyfartal nid yw’r mater yn cael ei dderbyn.

(2Yn achos mater sydd i’w benderfynu o dan—

(a)rheoliad 17, neu

(b)paragraff 7 o’r Atodlen hon,

nid yw is-baragraff (1)(c) a (d) yn gymwys.

(3Pan fo’r mater sydd i’w benderfynu yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio strategol, nid yw is-baragraff 1(d) yn gymwys a’r cadeirydd (neu’r is-gadeirydd os yw’n cadeirio) sydd â’r bleidlais fwrw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. para. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Mabwysiadu gweithdrefn bleidleisio wahanolLL+C

7.—(1Yn ddarostyngedig i ofynion y paragraff hwn, caiff CBC y Canolbarth fabwysiadu system bleidleisio wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu ganddo.

(2Ond ni chaiff CBC y Canolbarth fabwysiadu gweithdrefn wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu o dan—

(a)rheoliad 17, neu

(b)y paragraff hwn.

(3Mewn perthynas â gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn—

(a)rhaid iddi bennu pa rai o blith y materion sydd i’w penderfynu gan CBC y Canolbarth y mae’n gymwys iddynt;

(b)ni chaiff addasu effaith paragraff 6(3).

[F18(4) Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.]

(5Rhaid i unrhyw weithdrefn bleidleisio wahanol a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei nodi yn y rheolau sefydlog.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. para. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Rheolau sefydlogLL+C

8.—(1Rhaid i CBC y Canolbarth wneud rheolau sefydlog ar gyfer rheoleiddio ei drafodion a’i fusnes i’r graddau nad ydynt wedi eu rheoleiddio gan y Rheoliadau hyn nac unrhyw ddeddfiad arall.

(2Caniateir amrywio’r rheolau sefydlog neu caniateir eu dirymu a’u hamnewid.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. para. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CStaff

CyffredinolLL+C

9. [F19(1)]  Caiff CBC y Canolbarth wneud unrhyw drefniadau ar gyfer staffio y mae’n ystyried eu bod yn briodol yn ddarostyngedig i—

(a)darpariaethau’r Rhan hon o’r Atodlen hon, a

(b)paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021(6).

[F20(2) Rhaid i CBC y Canolbarth sicrhau bod trefniadau a wneir o dan is-baragraff (1) yn rhai sy’n angenrheidiol er mwyn i CBC y Canolbarth gyflawni ei swyddogaethau’n briodol.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. para. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Telerau ac amodauLL+C

10.—(1Pan fo CBC y Canolbarth yn penodi staff o dan baragraff 9, maent i’w penodi o dan delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran taliadau cydnabyddiaeth) sy’n sylweddol debyg i delerau ac amodau swyddogion yn un o’r cynghorau cyfansoddol sy’n ymgymryd â dyletswyddau a bennir yn rhesymol gymharol gan CBC y Canolbarth.

[F21(2) Ond o ran is-baragraff (1)—

(a)mae’n ddarostyngedig i adran 41 o Ddeddf Lleoliaeth 2011, a

(b)nid yw’n atal CBC y Canolbarth rhag addasu telerau ac amodau staff y mae’n eu penodi os yw hynny’n ofynnol yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. para. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Staff o awdurdodau eraillLL+C

11.—(1Caniateir i awdurdod Cymreig datganoledig (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006(7)) ymrwymo i gytundeb gyda CBC y Canolbarth ar gyfer rhoi staff yr awdurdod at ddefnydd CBC y Canolbarth at ddibenion arfer ei swyddogaethau, o dan unrhyw delerau a ddarperir gan y cytundeb.

(2Pan fo aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig yn cael ei roi at ddefnydd CBC y Canolbarth yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1), mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff CBC y Canolbarth at ddibenion—

(a)y Rheoliadau hyn;

(b)paragraff 2 o Atodlen 1 i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2021;

(c)unrhyw ddeddfiad arall sy’n ymwneud â gweinyddu CBC y Canolbarth neu ag arfer ei swyddogaethau.

[F22(3) Ond, yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth i’r gwrthwyneb mewn unrhyw ddeddfiad arall, at ddibenion blwydd-daliadau mae gwasanaeth a ddarperir gan aelod o staff awdurdod Cymreig datganoledig sydd wedi ei roi at ddefnydd CBC y Canolbarth yn rhinwedd cytundeb o’r fath yn wasanaeth a ddarperir i’r awdurdod.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. para. 11 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Rhoi staff at ddefnydd awdurdodau eraillLL+C

12.—(1Caiff CBC y Canolbarth ymrwymo i gytundeb gydag—

(a)cyd-bwyllgor corfforedig arall (o fewn yr ystyr a roddir gan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021);

(b)awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006),

ar gyfer rhoi staff CBC y Canolbarth at ddefnydd y pwyllgor arall neu’r awdurdod arall at ddibenion swyddogaethau’r pwyllgor neu’r awdurdod hwnnw, o dan delerau a ddarperir gan y cytundeb.

(2Pan fo aelod o staff CBC y Canolbarth yn cael ei roi at ddefnydd corff arall yn rhinwedd cytundeb o dan is-baragraff (1)—

(a)at ddibenion blwydd-daliadau, mae gwasanaeth a ddarperir gan yr aelod o staff yn wasanaeth a ddarperir i CBC y Canolbarth, a

(b)at ddibenion unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â gweinyddu’r awdurdod Cymreig datganoledig arall neu arfer ei swyddogaethau, mae’r aelod o staff i’w drin fel aelod o staff yr awdurdod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. para. 12 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Ymgynghori â staff ynghylch cytundebau o dan baragraff 11 neu 12LL+C

13.  Ni chaniateir ymrwymo i unrhyw gytundeb o dan baragraff 11(1) neu 12(1) oni bai yr ymgynghorir â phob aelod o staff y mae’r cytundeb yn ymwneud â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. para. 13 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Trosglwyddo staffLL+C

14.  Pan fo aelod o staff a benodir gan CBC y Canolbarth wedi ei drosglwyddo i’r CBC o gyngor cyfansoddol, mae darpariaethau Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006(8) ac eithrio rheoliadau 4(6) a 10 yn gymwys i’r trosglwyddiad, pa un a yw’n drosglwyddiad perthnasol at ddibenion y rheoliadau hynny ai peidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. para. 14 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CIs-bwyllgorau

Is-bwyllgorauLL+C

F2315.  . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. para. 15 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Is-bwyllgor Llywodraethu ac ArchwilioLL+C

16.—(1Rhaid i CBC y Canolbarth sefydlu is-bwyllgor (o’r enw yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio) i—

(a)adolygu materion ariannol CBC y Canolbarth a chraffu arnynt;

(b)llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion mewn perthynas â materion ariannol CBC y Canolbarth;

(c)adolygu ac asesu trefniadau CBC y Canolbarth ar gyfer rheoli risg, rheolaeth fewnol a llywodraethu corfforaethol;

(d)llunio adroddiadau a chyflwyno argymhellion i CBC y Canolbarth ar ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny;

(e)goruchwylio trefniadau archwilio mewnol ac allanol CBC y Canolbarth;

(f)adolygu unrhyw ddatganiadau ariannol a lunnir gan CBC y Canolbarth;

(g)arfer unrhyw swyddogaethau eraill a bennir gan CBC y Canolbarth.

(2Pan fydd yn penodi aelodau o’r is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio, rhaid i CBC y Canolbarth sicrhau—

(a)bod o leiaf un aelod o’r is-bwyllgor yn berson nad yw’n aelod o gyngor sir, nac o gyngor bwrdeistref sirol, yng Nghymru,

(b)y cyfansoddir o leiaf ddau draean o’r aelodaeth [F24o] aelodau o’r cynghorau cyfansoddol (ond nid aelodau o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol), ac

[F25(c)nad yw unrhyw un o aelodau o’r is-bwyllgor—

(i)yn aelod cyngor,

(ii)yn aelod cyfetholedig,

(iii)yn aelod o is-bwyllgor arall i CBC y Canolbarth, neu

(iv)yn aelod o weithrediaethau’r cynghorau cyfansoddol.]

F26(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4Ni chaiff yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio arfer ei swyddogaethau os yw aelodaeth yr is-bwyllgor yn torri gofynion is-baragraff (2).

(5Rhaid i’r rheolau sefydlog gynnwys darpariaeth sy’n rheoleiddio dull yr is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio o arfer ei swyddogaethau.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i sefydlu cyrff corfforedig a elwir yn gyd-bwyllgorau corfforedig. Sefydlir y cyrff hyn er mwyn arfer swyddogaethau penodol a bennir yn y rheoliadau sy’n eu sefydlu, mewn perthynas ag ardal sy’n cynnwys ardaloedd yr awdurdodau lleol sy’n ffurfio aelodaeth y cyd-bwyllgor corfforedig (yn ogystal â hynny, pan roddir swyddogaethau mewn perthynas â chynllunio strategol i gyd-bwyllgor corfforedig, caiff awdurdod Parc Cenedlaethol fod yn aelod o’r pwyllgor hefyd).

Mae’r Rheoliadau hyn yn sefydlu corff corfforedig a elwir yn Gyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth, ac yn pennu’r swyddogaethau a ganlyn fel rhai sy’n arferadwy gan y corff hwn—

(1y swyddogaeth llesiant economaidd (gweler adran 76 o Ddeddf 2021),

(2datblygu polisïau trafnidiaeth a llunio cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol o dan Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000, a

(3llunio cynlluniau datblygu strategol (gweler Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004).

Mae 5 Rhan i’r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 1 yn sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth, a’i ardal, ac yn diffinio rhai termau allweddol.

Mae Rhan 2 yn cyflwyno’r Atodlen i’r Rheoliadau. Mae’r Atodlen hon yn cynnwys trefniadau cyfansoddiadol Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth, gan gynnwys trefniadau ynghylch cynnal a chadeirio cyfarfodydd, pleidleisio ar benderfyniadau, sefydlu is-bwyllgorau a staffio.

Mae Rhan 3 yn nodi aelodaeth Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth. Yn unol â’r Rhan hon, bydd y corff wedi ei ffurfio o 2 aelod cyngor, un ar gyfer pob awdurdod lleol yn y canolbarth, ac aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, nad oes ganddo ond hawl i bleidleisio ar faterion sy’n ymwneud â llunio cynlluniau datblygu strategol. Caiff y Pwyllgor gyfethol personau eraill (a elwir yn “cyfranogwyr cyfetholedig”) i gyfranogi ym musnes y Pwyllgor a chaiff roi hawliau pleidleisio i gyfranogwyr cyfetholedig.

Mae Rhan 4 yn pennu y caniateir arfer y 3 swyddogaeth a grybwyllir uchod gan Gyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth ac y caiff y Pwyllgor wneud pethau eraill i hwyluso arfer y swyddogaethau hynny neu bethau sy’n gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol iddynt.

Mae Rhan 5 yn cynnwys darpariaeth ynghylch sut y mae Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth i gyfrifo ei gyllideb a sut y mae i’w ariannu.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(3)

2004 p. 5. Mae Rhan 6 wedi ei diwygio gan Atodlen 9 i Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1).

(7)

2006 p. 32. Gweler adran 157A ac Atodlen 9A fel y’u mewnosodwyd gan adran 4 o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) ac Atodlen 3 iddi.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill