Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about advanced features

Nodweddion Uwch

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Paragraff 7

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain (Cymru) 2021, Paragraff 7. Help about Changes to Legislation

Mabwysiadu gweithdrefn bleidleisio wahanolLL+C

7.—(1Yn ddarostyngedig i ofynion y paragraff hwn, caiff CBC y De-ddwyrain fabwysiadu system bleidleisio wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu ganddo.

(2Ond ni chaiff CBC y De-ddwyrain fabwysiadu gweithdrefn wahanol mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu o dan—

(a)rheoliad 17, neu

(b)y paragraff hwn.

(3Mewn perthynas â gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn—

(a)rhaid iddi bennu pa rai o blith y materion sydd i’w penderfynu gan CBC y De-ddwyrain y mae’n gymwys iddynt;

(b)ni chaiff addasu effaith paragraff 6(3).

[F1(3A) Caiff gweithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gynnwys darpariaeth i aelod cyngor neu aelod Bannau Brycheiniog o CBC y De-ddwyrain bleidleisio drwy ddirprwy.]

[F2(4) Rhaid i weithdrefn a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei mabwysiadu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau sydd â hawl i bleidleisio ar fabwysiadu’r weithdrefn.]

(5Rhaid i unrhyw weithdrefn bleidleisio wahanol a fabwysiedir o dan y paragraff hwn gael ei nodi yn y rheolau sefydlog.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth