Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021 (heb Atodlenni)

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Enwi a dod i rymLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (Cymru) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3), i rym ar 1 Ebrill 2021.

(3Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2022—

(a)rheoliad 11;

(b)rheoliad 12;

(c)rheoliad 13;

(d)rheoliad 15 i’r graddau y mae’n ymwneud â swyddogaethau a roddir i Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin gan reoliad F1..., 12 neu 13.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

DehongliLL+C

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod Arfordir Penfro” (“the Pembrokeshire Coast member”) yw’r aelod a benodir o dan reoliad 8(1);

ystyr “aelod Bannau Brycheiniog” (“the Brecon Beacons member”) yw’r aelod a benodir o dan [F2reoliad 8(1)] ;

[F3mae i “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) yr ystyr a roddir gan reoliad 9(1); ]

ystyr “aelod cyngor” (“council member”) yw person y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1) neu berson a benodir o dan reoliad 7(3);

[F4ystyr “aelod dirprwyol” (“substitute member”) yw person a benodir o dan reoliad 7(2) neu 8(4);]

F5...(1)

ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw—

(a)

y cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth 2022 (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y flwyddyn ariannol gyntaf”);

(b)

wedi hynny, cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth;

ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”) yw—

(a)

cyngor sir Abertawe;

(b)

cyngor Castell-nedd Port Talbot

(c)

cyngor sir Gaerfyrddin;

(d)

cyngor sir Penfro;

F3...

ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir;

ystyr “rheolau sefydlog” (“standing orders”) yw’r rheolau sefydlog a wneir o dan baragraff 8 o’r Atodlen;

ystyr “swyddogaethau cynllunio strategol” (“strategic planning functions”) yw—

(a)

swyddogaethau Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin o dan Ran 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004(2) (gweler rheoliad 13), a

(b)

unrhyw swyddogaethau sy’n gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau hynny neu’n ffafriol iddynt.

RHAN 1LL+CSefydlu ac ardal

SefydluLL+C

3.—(1Mae corff corfforedig o’r enw Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin (“CBC y De-orllewin”) wedi ei sefydlu.

(2Mae gan CBC y De-orllewin y swyddogaethau—

(a)a roddir iddo gan y Rheoliadau hyn, a

(b)a roddir iddo, a osodir arno neu a ddirprwyir iddo, gan unrhyw ddeddfiad arall.

(3Mae’r swyddogaethau a roddir i CBC y De-orllewin gan y Rheoliadau hyn yn arferadwy mewn perthynas â’i ardal.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

ArdalLL+C

4.  Mae ardal CBC y De-orllewin wedi ei ffurfio o ardaloedd y cynghorau cyfansoddol.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CCyfansoddiad

CyfansoddiadLL+C

5.  Mae’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad CBC y De-orllewin.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CAelodaeth

AelodaethLL+C

6.—(1Aelodau CBC y De-orllewin yw—

(a)y 4 aelod cyngor,

(b)aelod Bannau Brycheiniog, F6...

(c)aelod Arfordir Penfro [F7, a]

[F8(d)unrhyw aelod cyfetholedig.]

(2Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y De-orllewin [F9, yn ddarostyngedig i reoliadau 8(3A) a 9(2)] .

F10(3. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y De-orllewin (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Bannau Brycheiniog [F11, ]aelod Arfordir Penfro [F12ac unrhyw aelod cyfetholedig], oni bai bod—

(a)darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

(b)y cyd-destun yn mynnu fel arall.

Aelodau cyngorLL+C

7.—(1Yn achos pob cyngor cyfansoddol—

(a)yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;

(b)y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,

yw’r aelod cyngor o CBC y De-orllewin.

[F13(2) Pan fo person sy’n aelod cyngor o dan baragraff (1) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod cyngor am unrhyw gyfnod, caiff y cyngor cyfansoddol y mae P yn aelod ohono benodi aelod o’i weithrediaeth i fod yn aelod dirprwyol o CBC y De-orllewin am y cyfnod hwnnw.

(2A) At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (2) i’w drin fel pe bai’n aelod cyngor o CBC y De-orllewin.

(2B) Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod cyngor fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.

(2C) Ym mharagraff (2) ystyr “wedi ei atal dros dro” yw—

(a)wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y De-orllewin, neu

(b)wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o’r cyngor cyfansoddol y mae P hefyd yn aelod ohono.]

(3Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y De-orllewin hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Aelod Bannau Brycheiniog ac Aelod Arfordir PenfroLL+C

8.—(1Rhaid i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (3) yn aelod o CBC y De-orllewin (“aelod Bannau Brycheiniog”).

(2Rhaid i Awdurdod Parc Arfordir Penfro benodi deiliad swydd a grybwyllir ym mharagraff (3) yn aelod o CBC y De-orllewin (“aelod Arfordir Penfro”).

(3Y deiliaid swyddi sy’n gymwys i fod yn aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro yw—

(a)cadeirydd yr Awdurdod,

(b)dirprwy gadeirydd yr Awdurdod, neu

(c)cadeirydd unrhyw bwyllgor sy’n gyfrifol am faterion cynllunio a all gael ei sefydlu gan yr Awdurdod.

[F14(3A) Ni chaiff aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd, weithredu fel aelod ond mewn perthynas ag—

(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y De-orllewin o dan reoliad 13;

(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy.

(3B) Ond caiff aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd, hefyd weithredu fel aelod mewn perthynas ag unrhyw swyddogaeth arall sydd gan CBC y De-orllewin—

(a)os yw’r aelodau cyngor ac aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) yn cytuno [F15yn unfrydol], neu

(b)os caniateir i aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) weithredu mewn perthynas â’r swyddogaeth honno, neu os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, yn rhinwedd darpariaeth ddatganedig yn y Rheoliadau hyn neu mewn unrhyw ddeddfiad arall.

(3C) Rhaid i gytundeb o dan baragraff (3B)(a) bennu’r telerau y caiff aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) weithredu odanynt mewn perthynas â’r swyddogaeth o dan sylw, gan gynnwys pennu’r cyfnod pan fo aelod Bannau Brycheiniog neu aelod Arfordir Penfro i weithredu.]

[F16(4) Pan fo person sy’n aelod Bannau Brycheiniog neu’n aelod Arfordir Penfro o dan baragraff (1) neu (2) (“P”) wedi ei atal dros dro neu pan nad yw’n gallu gweithredu fel aelod am unrhyw gyfnod, caiff yr Awdurdod benodi un arall o’r deiliaid swyddi a grybwyllir ym mharagraff (3) i fod yn aelod dirprwyol o CBC y De-orllewin am y cyfnod hwnnw.

(5) At ddibenion y Rheoliadau hyn (ac eithrio’r rheoliad hwn), ac unrhyw ddeddfiad arall, mae aelod dirprwyol a benodir o dan baragraff (4) i’w drin fel pe bai’n aelod Bannau Brycheiniog neu’n aelod Arfordir Penfro (yn ôl y digwydd) o CBC y De-orllewin.

(6) Ond nid oes gan yr aelod dirprwyol hawl i bleidleisio, nac i weithredu fel aelod fel arall, mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin y gall P bleidleisio neu weithredu mewn perthynas â hi.

(7) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “yr Awdurdod” (“the Authority”) yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd;

ystyr “wedi ei atal dros dro” (“suspended”) yw—

(i)

wedi ei atal dros dro neu ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o CBC y De-orllewin, neu

(ii)

wedi ei atal dros dro yn rhannol o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 rhag bod yn aelod o’r Awdurdod Parc Cenedlaethol y mae P hefyd yn aelod ohono.]

(5Yn is-baragraffau (3) a (4) ystyr yr “Awdurdod” yw Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog neu Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, yn ôl y digwydd.

Diwygiadau Testunol

F16Rhl. 8(4)-(7) wedi ei amnewid ar gyfer rhl. 8(4)(5) (25.3.2022) gan Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/372), rhlau. 1(2), 8(3)

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

[F17Aelodau cyfetholedigLL+C

9.(1) Caiff CBC y De-orllewin gyfethol un neu ragor o unigolion i fod yn aelodau o CBC y De-orllewin (“aelod cyfetholedig”) ar y telerau hynny y mae’n eu pennu.

(2) Rhaid i’r telerau hynny—

(a)pennu—

(i)swyddogaethau CBC y De-orllewin y caiff yr aelod cyfetholedig weithredu mewn perthynas â hwy fel aelod o’r CBC, a

(ii)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy;

(b)cael eu cytuno gan yr aelod cyfetholedig a’r aelodau eraill [F18sydd â hawl i bleidleisio ar y penderfyniad], ac

(c)cael eu nodi mewn cytundeb cyfethol.

(3) Pan fo gan aelod cyfetholedig, o dan baragraff (1), hawl i weithredu mewn perthynas ag—

(a)y swyddogaethau a roddir i CBC y De-orllewin o dan reoliad 13, a

(b)unrhyw swyddogaeth sydd gan CBC y De-orllewin sy’n ategol i’r swyddogaethau hynny neu’n gysylltiedig â hwy,

caiff aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro weithredu fel aelod at ddibenion y paragraff hwnnw.

(4) Caiff aelod cyfetholedig ei gyfethol—

(a)am gyfnod a bennir yn y cytundeb cyfethol, neu

(b)hyd nes—

(i)y bydd yr aelod cyfetholedig yn ymddiswyddo o CBC y De-orllewin, neu

(ii)y bydd CBC y De-orllewin yn terfynu’r cyfetholiad.

(5) Mewn perthynas â chytundeb cyfethol—

(a)caniateir ei amrywio ar unrhyw adeg;

(b)rhaid iddo gael ei gyhoeddi’n electronig gan CBC y De-orllewin.]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

[F19Anghymhwysiad rhag bod yn aelod cyfetholedigLL+C

9A.(1) Mae person wedi ei anghymhwyso rhag cael ei gyfethol yn aelod o CBC y De-orllewin os yw’r person—

(a)yn dal swydd daledig neu gyflogaeth y gwneir neu y cadarnheir penodiad neu etholiad iddi, neu y caniateir gwneud neu gadarnhau penodiad neu etholiad iddi, gan—

(i)CBC y De-orllewin;

(ii)is-bwyllgor i CBC y De-orllewin;

(iii)deiliad swydd daledig neu gyflogaeth o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (i) neu (ii), neu

(b)wedi ei anghymhwyso o dan adran 80B o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 rhag bod yn aelod o—

(i)cyngor cyfansoddol;

(ii)Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog;

(iii)Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sydd wedi ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (anghymhwysiad yn rhinwedd dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol).]

Rhannu swyddLL+C

10.  Pan fo swydd y cyfeirir ati yn—

(a)rheoliad 7(1), neu

(b)rheoliad 8(3),

yn cael ei rhannu gan 2 berson neu ragor, mae’r personau hynny i’w trin fel pe baent yn 1 person at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CSwyddogaethau

Llesiant economaiddLL+C

11.  Rhoddir y swyddogaeth llesiant economaidd i CBC y De-orllewin (gweler adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021).

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(a)

Trosglwyddo etc. y swyddogaeth o ddatblygu polisïau trafnidiaethLL+C

12.—(1Mae’r swyddogaeth o ddatblygu polisïau o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(3), mewn cysylltiad ag ardal pob cyngor cyfansoddol, i’w harfer gan CBC y De-orllewin, ac nid gan y cyngor cyfansoddol.

(2Mae Rhan 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 yn gymwys mewn perthynas â CBC y De-orllewin a’i gynghorau cyfansoddol yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn yr Atodlen i Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Swyddogaethau Trafnidiaeth) (Cymru) 2021(4).

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(b)

Swyddogaethau cynllunio strategolLL+C

13.  Mae gan CBC y De-orllewin y swyddogaeth o lunio cynllun datblygu strategol (ac yn unol â hynny mae Rhan 6 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 yn gymwys i CBC y De-orllewin (gweler yn enwedig adrannau 60K i 60N o’r Ddeddf honno)).

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 30.6.2022, gweler rhl. 1(3)(c)

Is-bwerauLL+C

14.—(1Caniateir i CBC y De-orllewin wneud unrhyw beth—

(a)i hwyluso, neu

(b)sy’n gysylltiedig â, neu’n ffafriol i,

arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall.

(2Mae’r pethau y caniateir eu gwneud o dan baragraff (1) yn cynnwys—

(a)mynd i wariant;

(b)codi ffioedd;

(c)caffael neu waredu eiddo neu hawliau.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

[F20Cyfyngiad ar gyflawni swyddogaethau gan bersonau eraillLL+C

15.  Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i—

(a)cymeradwyo polisi trafnidiaeth, neu ddiwygio polisi o’r fath a ddatblygwyd yn rhinwedd rheoliad 12(1) o dan adran 108(1)(a) a (2A)(a) o Ran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000;

(b)y gweithredoedd a ganlyn sy’n gysylltiedig â llunio cynllun datblygu strategol, neu ddiwygio cynllun, o dan reoliad 13—

(i)mabwysiadu cytundeb cyflawni, neu ddiwygio cytundeb o’r fath (gweler rheoliad 11(2) ac (8) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021 (“y Rheoliadau CDS”));

(ii)cymeradwyo dogfennau cynigion cyn-adneuo a datganiad o faterion cyn-adneuo (gweler rheoliadau 17 a 18 o’r Rheoliadau CDS);

(iii)cymeradwyo adroddiad ymgynghori cychwynnol, dogfen cynigion yr CDS a datganiad o faterion adneuo (gweler rheoliad 20 o’r Rheoliadau CDS);

(iv)cymeradwyo dogfennau i’w hanfon at Weinidogion Cymru o dan adran 64(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004;

(v)tynnu cynllun datblygu strategol yn ôl o dan adran 66A(2) o’r Ddeddf honno;

(vi)mabwysiadu cynllun datblygu strategol o dan adran 60M(9)(a) o’r Ddeddf honno;

(vii)cymeradwyo adroddiad monitro blynyddol sydd i’w wneud o dan adran 76(1) o’r Ddeddf honno;

(viii)cymeradwyo adroddiad adolygiad o gynllun datblygu strategol sydd i’w wneud o dan adran 69(2) o’r Ddeddf honno;

(c)cytuno ar gyfrifiadau o ofynion cyllideb neu gyfrifiadau diwygiedig o dan reoliad 16(6)(b) a (9).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 1.4.2021 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)

I16Rhl. 15 mewn grym ar 30.6.2022 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(3)(d)

RHAN 5LL+CAriannu

Cyfrifo gofynion cyllidebLL+C

16.—(1Ar gyfer pob blwyddyn ariannol rhaid i CBC y De-orllewin gyfrifo’r symiau a ddisgrifir ym mharagraff (2) sydd i’w priodoli i—

(a)ei swyddogaethau cynllunio strategol (gan gynnwys cyfran briodol o gostau gweinyddu a gorbenion eraill), a

(b)ei swyddogaethau eraill.

(2Y symiau y mae rhaid i’r CBC eu cyfrifo yw—

(a)y swm y mae’r CBC yn amcangyfrif y bydd yn ei wario mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol wrth arfer ei swyddogaethau (gan gynnwys gwariant ar weinyddu a gorbenion eraill);

(b)y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei godi ar gyfer cronfa ariannol wrth gefn mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol;

(c)y swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn briodol ei gadw fel cronfa wrth gefn i dalu am y gwariant y mae’n ystyried yr eir iddo mewn cysylltiad â blynyddoedd ariannol i ddod;

(d)unrhyw swm y mae’r CBC yn ystyried ei fod yn angenrheidiol i dalu unrhyw rwymedigaethau sydd heb eu talu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn ariannol gynharach.

(3Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i CBC y De-orllewin hefyd gyfrifo cyfanswm cyfanredol unrhyw symiau y mae’n amcangyfrif y bydd yn eu cael o ffynonellau eraill ac eithrio’r cynghorau cyfansoddol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Benfro sydd i’w priodoli i—

(a)ei swyddogaethau cynllunio strategol, a

(b)ei swyddogaethau eraill.

(4Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(a) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(a), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y De-orllewin ar gyfer y flwyddyn ariannol.

(5Pan fo cyfanswm y symiau a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol o dan baragraff (1)(b) yn fwy na’r swm a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn honno o dan baragraff (3)(b), y swm ychwanegol hwnnw yw gofyniad cyllideb cyffredinol CBC y De-orllewin ar gyfer y flwyddyn ariannol.

(6Rhaid i CBC y De-orllewin—

(a)cynnal y cyfrifiadau o dan baragraffau (1) a (3), a

(b)cytuno ar y cyfrifiadau hynny mewn cyfarfod,

yn ddim hwyrach na 31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol.

(7Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol gyntaf, mae paragraff (6) yn gymwys fel pe bai “31 Ionawr 2022” wedi ei roi yn lle “31 Ionawr ym mhob blwyddyn ariannol flaenorol”.

(8Caiff CBC y De-orllewin ddiwygio’r cyfrifiadau a gynhelir o dan baragraffau (1) a (3) ar unrhyw adeg cyn diwedd y flwyddyn ariannol y maent yn ymwneud â hi a chaniateir diwygio gofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, CBC y De-orllewin o ganlyniad i hynny.

(9Rhaid cytuno ar unrhyw gyfrifiadau diwygiedig mewn cyfarfod o CBC y De-orllewin.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 16 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

Ariannu gofyniad cyllidebLL+C

17.—(1Rhaid i ofyniad cyllideb cyffredinol CBC y De-orllewin gael ei dalu i CBC y De-orllewin gan y cynghorau cyfansoddol, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol i’w phennu drwy gytundeb unfrydol yr aelodau cyngor.

(2Rhaid i ofyniad cyllideb cynllunio strategol CBC y De-orllewin gael ei dalu i CBC y De-orllewin gan y cynghorau cyfansoddol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, ac mae’r gyfran o’r swm hwnnw sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol a chan [F21bob Awdurdod] i’w phennu drwy gytundeb unfrydol [F22yr aelodau cyngor, aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro].

(3Pan na fo’n bosibl dod i gytundeb o ran y cyfrannau sy’n daladwy o dan baragraff (1) neu (2), caiff Gweinidogion Cymru drwy gyfarwyddyd bennu’r gyfran sy’n daladwy gan bob cyngor cyfansoddol neu bob cyngor cyfansoddol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

(4Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ofyniad cyllideb cyffredinol, neu ofyniad cyllideb cynllunio strategol, a ddiwygiwyd o dan baragraff (8) o reoliad 16 fel y mae’n gymwys i ofyniad cyllideb a bennwyd yn wreiddiol o dan y rheoliad hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 17 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(2)

[F23Cronfa GyffredinolLL+C

17A.(1) Rhaid i CBC y De-orllewin sefydlu a chynnal cronfa o’r enw cronfa gyffredinol CBC y De-orllewin.

(2) Rhaid i unrhyw symiau a geir gan CBC y De-orllewin (gan gynnwys symiau a geir o dan reoliad 17(1) neu (2)) gael eu talu i mewn i’w gronfa gyffredinol.

(3) Rhaid i bob taliad a wneir gan CBC y De-orllewin gael ei wneud allan o’i gronfa gyffredinol.

(4) Rhaid i CBC y De-orllewin gadw cyfrif o dderbyniadau a delir i mewn i’w gronfa gyffredinol, a thaliadau a wneir allan o’r gronfa honno.

(5) Nid yw paragraffau (2) a (3) yn gymwys i unrhyw symiau sydd i’w talu i mewn i, neu allan o, gronfa allanol o fewn yr ystyr a roddir i “external fund” gan adran 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (cronfeydd allanol).]

Julie James

Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

17 Mawrth 2021

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill