Aelodaeth
6.—(1) Aelodau CBC y De-orllewin yw—
(a)y 4 aelod cyngor,
(b)aelod Bannau Brycheiniog, a
(c)aelod Arfordir Penfro.
(2) Mae gan yr aelodau hawl i bleidleisio mewn perthynas ag unrhyw fater sydd i’w benderfynu gan CBC y De-orllewin.
(3) Ond nid yw paragraff (2) ond yn gymwys i aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro i’r graddau y mae’r mater sydd i’w benderfynu yn ymwneud â swyddogaethau cynllunio strategol.
(4) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn, ac mewn unrhyw ddeddfiad arall, at aelod o CBC y De-orllewin (sut bynnag y’u mynegir) yn cynnwys aelod Bannau Brycheiniog ac aelod Arfordir Penfro i’r graddau a ddisgrifir ym mharagraff (3), oni bai bod—
(a)darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu
(b)y cyd-destun yn mynnu fel arall.