Aelodau cyngor
7.—(1) Yn achos pob cyngor cyfansoddol—
(a)yr arweinydd gweithrediaeth, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth arweinydd a chabinet;
(b)y maer etholedig, pan fo’r cyngor cyfansoddol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet,
yw’r aelod cyngor o CBC y De-orllewin.
(2) Pan fo aelod cyngor yn anabl i gyflawni ei swyddogaethau am unrhyw gyfnod, rhaid i’r cyngor cyfansoddol y mae’n aelod ohono benodi aelod arall o’i weithrediaeth i gyflawni’r swyddogaethau hynny ar ran yr aelod cyngor am y cyfnod hwnnw.
(3) Pan fo swydd y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn wag o fewn cyngor cyfansoddol, rhaid i’r cyngor cyfansoddol benodi aelod arall o’i weithrediaeth yn aelod cyngor o CBC y De-orllewin hyd nes y bydd y swydd wag wedi ei llenwi.