- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
12.—(1) Rhaid i’r cais hawlio ddatgan—
(a)enw a chyfeiriad y person sy’n gwneud yr hawliad ac, os ydynt ar gael, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost y person hwnnw,
(b)enw a dyddiad geni’r plentyn neu’r person ifanc,
(c)os yw’n berthnasol, y berthynas neu’r cysylltiad rhwng y person sy’n gwneud yr hawliad a’r plentyn,
(d)enwau a chyfeiriadau pob person y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant neu sy’n rhannu cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sy’n gofalu am y plentyn, neu’r rhesymau pam na ddarperir enwau a chyfeiriadau’r personau hynny,
(e)enw a chyfeiriad unrhyw gynrychiolydd neu gyfaill achos a benodir gan y person sy’n gwneud yr hawliad ac, os ydynt ar gael, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost y cynrychiolydd neu’r cyfaill achos,
(f)cyfeiriad ac, os oes un ar gael, cyfeiriad e-bost, lle y dylid anfon hysbysiadau a dogfennau ar gyfer y person sy’n gwneud yr hawliad,
(g)enw a chyfeiriad—
(i)yr ysgol neu’r awdurdod lleol a wnaeth y penderfyniad a herir, neu
(ii)yr awdurdod ar gyfer yr ysgol a enwir o dan baragraff (1)(g)(i) os yw’r ysgol honno yn ysgol a gynhelir,
(h)manylion y penderfyniad a herir y mae’r hawliad yn ymwneud ag ef,
(i)y dyddiad neu’r dyddiadau y digwyddodd y penderfyniad a herir arno neu arnynt,
(j)y rheswm neu’r rhesymau dros wneud yr hawliad,
(k)y canlyniad a geisir, ac
(l)y camau, os oes rhai, a gymerwyd eisoes i ddatrys yr anghydfod.
(2) Rhaid i’r cais hawlio gynnwys disgrifiad o anabledd y disgybl ysgol.
(3) Rhaid i’r cais hawlio gynnwys disgrifiad o unrhyw ofynion a dymuniadau cyfathrebu y plentyn neu’r person ifanc.
(4) Os yw ar gael, dylid cyflwyno gyda’r cais hawlio dystiolaeth o ddiagnosis meddygol neu ddiagnosis proffesiynol arall mewn perthynas ag anabledd y disgybl.
(5) Rhaid cyflwyno gyda’r cais hawlio gadarnhad ysgrifenedig bod y person sy’n gwneud yr hawliad wedi hysbysu’r personau, os oes rhai, a enwir yn unol â pharagraff (1)(d), fod y person wedi gwneud hawliad i’r Tribiwnlys, neu gadarnhad ysgrifenedig sy’n esbonio pam nad yw’r person sy’n gwneud yr hawliad wedi hysbysu’r personau hynny.
(6) Rhaid i’r cais hawlio gael ei lofnodi gan y person sy’n gwneud yr hawliad neu gan unrhyw gynrychiolydd neu gyfaill achos ar ran y person hwnnw.
(7) Yn unol â rheoliad 35, caiff y cais hawlio gynnwys archiad i’r hawliad gael ei wrando ar y cyd ag apêl yn erbyn awdurdod lleol.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys