Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2021 Rhif 668 (Cy. 169)

Iechyd Y Cyhoedd, Cymru

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021

Cymeradwywyd gan Senedd Cymru

Gwnaed

am 3.46 p.m. ar 4 Mehefin 2021

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

am 6.30 p.m. ar 4 Mehefin 2021

Yn dod i rym

am 6.00 a.m. ar 7 Mehefin 2021

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c), 45F(2) a 45P(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(1).

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y cyfyngiadau a’r gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn yn gymesur â’r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni, sef ymateb iechyd y cyhoedd i’r bygythiad hwnnw.

Yn unol ag adran 45R o’r Ddeddf honno, oherwydd brys, mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei bod yn angenrheidiol gwneud yr offeryn hwn heb fod drafft wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

Enwi a dod i rym

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 11) 2021.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 6.00 a.m. ar 7 Mehefin 2021.

Diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020

2.—(1Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 17—

(a)ym mharagraff (1)(a), ar ôl “fangre” mewnosoder “, ac eithrio mewn sinemâu, meysydd chwaraeon a theatrau”;

(b)yn lle paragraff (4A) rhodder—

(4A) Nid yw is-baragraffau (b)(i) a (ii) o baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag—

(a)cwsmeriaid mewn—

(i)sinemâu,

(ii)meysydd chwaraeon, neu

(iii)theatrau,

pan fo’r cwsmeriaid hynny yn eistedd fel arfer yn y fangre (ac eithrio pan fyddant yn archebu bwyd neu ddiod neu pan weinir bwyd neu ddiod iddynt) ar gyfer arddangosiad ffilm, digwyddiad chwaraeon byw neu berfformiad theatraidd byw, neu

(b)personau sy’n mynd i gynulliad neu ddigwyddiad rheoleiddiedig sy’n cael ei gynnal yn yr awyr agored.

(4B) At ddiben paragraff (4A), mae digwyddiad chwaraeon neu berfformiad theatraidd “byw” yn un y mae’r cwsmer yn dyst iddo ac eithrio drwy ddarllediad.

(3Yn rheoliad 28(3)(a), ar ôl “2(1)” mewnosoder “neu (1A)”.

(4Yn rheoliad 37(1)(a), ar ôl “2(1)” mewnosoder “neu (1A)”.

(5Yn rheoliad 57—

(a)ym mharagraff (7)—

(i)yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “yn gynulliad” rhodder “neu ddigwyddiad yn gynulliad neu ddigwyddiad”;

(ii)yn is-baragraff (b)(ii), yn lle “rheoliadau 16 ac 18(1)” rhodder “Rhan 4”;

(b)ym mharagraff (8)—

(i)ym mhob lle y mae’n digwydd, ar ôl “cynulliad” mewnosoder “neu’r digwyddiad”;

(ii)yn is-baragraff (b)—

(aa)yn y geiriau o flaen paragraff (i), yn lle “rheoliad 16” rhodder “Rhan 4”;

(bb)ym mharagraff (i), yn lle “at ddibenion y rheoliad hwnnw” rhodder “o fewn yr ystyr a roddir gan reoliad 15”;

(c)ar ôl paragraff (8) mewnosoder—

(9) At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw cynulliad neu ddigwyddiad rheoleiddiedig i’w drin fel pe na bai’n cael ei gynnal “yn yr awyr agored” am y rhesymau a ganlyn yn unig—

(a)y darperir cyfleusterau o dan do ar gyfer gwerthu bwyd a diod i’w fwyta neu i’w hyfed yn yr awyr agored;

(b)y darperir cyfleusterau o dan do eraill sy’n angenrheidiol er mwyn cynnal y cynulliad neu’r digwyddiad.

(6Yn Atodlen 1—

(a)ym mharagraff 1—

(i)yn is-baragraff (1), hepgorer “sy’n cynnwys mwy na 6 o bobl”;

(ii)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad yw’r cynulliad yn cynnwys mwy na 30 o bobl.;

(iii)yn is-baragraff (2)—

(aa)yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “(1)” rhodder “(1A)”;

(bb)ym mharagraff (a), yn lle “6 aelwyd” rhodder “30 o aelwydydd”;

(iv)yn is-baragraff (5), ar ôl paragraff (c) mewnosoder—

(d)cymryd rhan mewn cynulliad o ddim mwy na 4 o bobl pan fo’r holl bersonau yn y cynulliad—

(i)yn byw yn yr un fangre, a

(ii)yn rhannu cyfleusterau toiled, ymolchi, bwyta neu goginio gyda’i gilydd.;

(b)ym mharagraff 2—

(i)yn is-baragraff (1)—

(aa)yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “annedd breifat” mewnosoder “neu mewn llety gwyliau neu lety teithio”;

(bb)ym mharagraff (a), hepgorer “neu yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig,”;

(cc)ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

(aa)yn yr awyr agored mewn mangre reoleddiedig, sy’n cynnwys mwy na 30 o bobl oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd;;

(ii)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, gymryd rhan mewn cynulliad sy’n digwydd mewn llety gwyliau neu lety teithio oni bai bod yr holl bersonau sy’n cymryd rhan yn y cynulliad yn aelodau o’r un aelwyd neu aelwyd estynedig.

(1B) Ond caiff person gymryd rhan mewn cynulliad o’r fath yn yr awyr agored os nad yw’r cynulliad yn cynnwys mwy na 30 o bersonau.;

(iii)yn is-baragraff (2)—

(aa)yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “is-baragraff (1)” rhodder “is-baragraffau (1) ac (1B)”;

(bb)ym mharagraff (a)(i), hepgorer “, neu yn yr awyr agored mewn mangre reoleiddiedig”;

(cc)ym mharagraff (a)(ii), hepgorer “mewn mangre nad yw’n fangre reoleiddiedig”;

(iv)yn is-baragraff (5)—

(aa)ym mharagraff (e)—

(i)yn lle “50” rhodder “30”;

(ii)hepgorer “neu gynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 100 o bobl mewn mangre o’r fath,”;

(iii)hepgorer “(yn y naill achos na’r llall)”;

(bb)ym mharagraff (i)—

(i)yn y geiriau o flaen is-baragraff (i), yn lle “yn gyfan gwbl neu’n bennaf” rhodder “i unrhyw raddau”;

(ii)yn is-baragraff (i), yn lle “50” rhodder “30”;

(cc)yn lle paragraff (j) rhodder—

(j)cymryd rhan mewn cynulliad neu ddigwyddiad rheoleiddiedig sy’n digwydd yn yr awyr agored, yn mynd i gynulliad neu ddigwyddiad o’r fath neu’n hwyluso cynulliad neu ddigwyddiad o’r fath;;

(dd)ym mharagraff (k), ar ôl “cynulliad rheoleiddiedig” mewnosoder “, mewn mangre ac eithrio llety gwyliau neu lety teithio,”;

(c)ym mharagraff 4—

(i)yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu digwyddiad oni bai—

(a)bod y digwyddiad yn ddigwyddiad rheoleiddiedig (gweler rheoliad 57(7)),

(b)bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn yr awyr agored, ac

(c)nad yw mwy na nifer y bobl a ganiateir yn bresennol ar unrhyw adeg.

(1A) Nifer y bobl a ganiateir yw—

(a)pan fo pob person sy’n bresennol yn eistedd fel arfer yn ystod y digwyddiad, 10000;

(b)fel arall, 4000.

(1B) At ddibenion y paragraff hwn, nid yw person sy’n gweithio, neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol, mewn perthynas â chynnal digwyddiad i’w drin fel pe bai’n bresennol yn y digwyddiad.;

(ii)yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ymwneud â threfnu—

(a)digwyddiad a gynhelir mewn annedd breifat lle nad yw pobl yn cymryd rhan mewn cynulliad yn groes i baragraff 1;

(b)digwyddiad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5;

(c)gweinyddu priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall;

(d)angladd;

(e)cynulliad o dan do o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre reoleiddiedig heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—

(i)dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

(ii)dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

(f)cynulliad rheoleiddiedig sy’n digwydd i unrhyw raddau o dan do ac—

(i)lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y cynulliad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo, a

(ii)lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

(g)cynulliad rheoleiddiedig, mewn mangre ac eithrio llety gwyliau neu lety teithio, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).;

(iii)yn is-baragraff (3)(b), yn lle “50 neu 100 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd” rhodder “nifer y bobl a ganiateir yn bresennol yn y digwyddiad ar unrhyw adeg”;

(d)ym mharagraff 7(1), yn lle “neu 10” rhodder “, 10 neu 11”;

(e)ar ôl paragraff 10 mewnosoder—

11.  Rinciau sglefrio iâ.

(7Yn Atodlen 2—

(a)ym mharagraff 2(6)—

(i)ym mharagraff (i), yn y geiriau o flaen is-baragraff (i), yn lle “yn gyfan gwbl neu’n bennaf” rhodder “i unrhyw raddau”;

(ii)ym mharagraff (j), yn y geiriau o flaen is-baragraff (i), hepgorer “yn gyfan gwbl neu’n bennaf”;

(b)ym mharagraff 4—

(i)yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu digwyddiad oni bai—

(a)bod y digwyddiad yn ddigwyddiad rheoleiddiedig (gweler rheoliad 57(7)),

(b)bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn yr awyr agored, ac

(c)nad yw mwy na 50 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg.

(1A) At ddibenion y paragraff hwn, nid yw person sy’n gweithio, neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol, mewn perthynas â chynnal digwyddiad i’w drin fel pe bai’n bresennol yn y digwyddiad.;

(ii)yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ymwneud â threfnu—

(a)digwyddiad a gynhelir mewn annedd breifat lle nad yw pobl yn cymryd rhan mewn cynulliad yn groes i baragraff 1;

(b)digwyddiad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5;

(c)gweinyddu priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall;

(d)angladd;

(e)cynulliad o dan do o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, neu gynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 50 o bobl mewn mangre o’r fath, heb gyfrif (yn y naill achos na’r llall) bersonau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—

(i)dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

(ii)dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

(f)cynulliad rheoleiddiedig sy’n digwydd i unrhyw raddau o dan do ac—

(i)lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y cynulliad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo, a

(ii)lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

(g)cynulliad rheoleiddiedig sy’n digwydd yn yr awyr agored ac—

(i)lle nad yw mwy na 50 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y cynulliad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo, oni bai bod y cynulliad wedi ei drefnu at ddibenion protestio, neu bicedu a gynhelir yn unol â Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992(3), a

(ii)lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

(h)cynulliad rheoleiddiedig, mewn mangre ac eithrio llety gwyliau neu lety teithio, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).;

(iii)yn is-baragraff (3)(b), yn lle “30 neu 50 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd” rhodder “50 o bobl yn bresennol yn y digwyddiad ar unrhyw adeg”.

(8Yn Atodlen 3—

(a)ym mharagraff 2(6)—

(i)ym mharagraff (g), yn y geiriau o flaen is-baragraff (i), yn lle “yn gyfan gwbl neu’n bennaf” rhodder “i unrhyw raddau”;

(ii)ym mharagraff (h), yn y geiriau o flaen is-baragraff (i), hepgorer “yn gyfan gwbl neu’n bennaf”;

(b)ym mharagraff 3(6)—

(i)ym mharagraff (j), yn y geiriau o flaen is-baragraff (i), yn lle “yn gyfan gwbl neu’n bennaf” rhodder “i unrhyw raddau”;

(ii)ym mharagraff (k), yn y geiriau o flaen is-baragraff (i), hepgorer “yn gyfan gwbl neu’n bennaf”;

(c)ym mharagraff 5—

(i)yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu digwyddiad oni bai—

(a)bod y digwyddiad yn ddigwyddiad rheoleiddiedig (gweler rheoliad 57(7)),

(b)bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn yr awyr agored, ac

(c)nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg.

(1A) At ddibenion y paragraff hwn, nid yw person sy’n gweithio, neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol, mewn perthynas â chynnal digwyddiad i’w drin fel pe bai’n bresennol yn y digwyddiad.;

(ii)yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ymwneud â threfnu—

(a)digwyddiad a gynhelir mewn annedd breifat lle nad yw pobl yn cymryd rhan mewn cynulliad yn groes i baragraff 1;

(b)digwyddiad a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 6;

(c)gweinyddu priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall;

(d)angladd;

(e)cynulliad o dan do o ddim mwy na 15 o bobl mewn mangre reoleiddiedig, neu gynulliad yn yr awyr agored o ddim mwy na 30 o bobl mewn mangre o’r fath, heb gyfrif (yn y naill achos na’r llall) bersonau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y fangre, i—

(i)dathlu gweinyddiad priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall a ddigwyddodd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

(ii)dathlu bywyd person ymadawedig y cynhelir ei angladd ar neu ar ôl 26 Mawrth 2020;

(f)cynulliad rheoleiddiedig sy’n digwydd i unrhyw raddau o dan do ac—

(i)lle nad yw mwy na 15 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y cynulliad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo, a

(ii)lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

(g)cynulliad rheoleiddiedig sy’n digwydd yn yr awyr agored ac—

(i)lle nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol, heb gyfrif personau o dan 11 oed na phersonau sy’n gweithio yn y cynulliad neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol ynddo, oni bai bod y cynulliad wedi ei drefnu at ddibenion protestio, neu bicedu a gynhelir yn unol â Deddf yr Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992, a

(ii)lle nad oes unrhyw alcohol yn cael ei yfed;

(h)cynulliad rheoleiddiedig, mewn mangre ac eithrio llety gwyliau neu lety teithio, er datblygiad neu lesiant plant (gan gynnwys chwaraeon, cerddoriaeth a gweithgareddau hamdden eraill megis y rheini a ddarperir ar gyfer plant y tu allan i oriau’r ysgol ac yn ystod gwyliau’r ysgol).;

(iii)yn is-baragraff (3)(b), yn lle “15 neu 30 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd” rhodder “30 o bobl yn bresennol yn y digwyddiad ar unrhyw adeg”.

(9Yn Atodlen 4, paragraff 4—

(a)yn lle is-baragraff (1) rhodder—

(1) Ni chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, ymwneud â threfnu digwyddiad oni bai—

(a)bod y digwyddiad yn ddigwyddiad rheoleiddiedig (gweler rheoliad 57(7)),

(b)bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn yr awyr agored, ac

(c)nad yw mwy na 30 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg.

(1A) At ddibenion y paragraff hwn, nid yw person sy’n gweithio, neu sy’n darparu gwasanaethau gwirfoddol, mewn perthynas â chynnal digwyddiad i’w drin fel pe bai’n bresennol yn y digwyddiad.;

(b)yn lle is-baragraff (2) rhodder—

(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i berson sy’n ymwneud â threfnu—

(a)digwyddiad a gynhelir mewn annedd breifat lle nad yw pobl yn cymryd rhan mewn cynulliad yn groes i baragraff 2,

(b)digwyddiad chwaraeon elît a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 5;

(c)gweinyddu priodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall;

(d)angladd.;

(c)yn is-baragraff (3)(b), yn lle “15 neu 30 o bobl yn bresennol, yn ôl y digwydd” rhodder “30 o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg”.

(10Yn Atodlen 5, paragraff 1, yng Ngholofn 3 o’r tabl, yn lle “2” rhodder “1”.

Mark Drakeford

Y Prif Weinidog, un o Weinidogion Cymru

Am 3.46 p.m. ar 4 Mehefin 2021

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud mewn ymateb i’r bygythiad difrifol ac uniongyrchol i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder a lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2) yng Nghymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1609 (Cy. 335)) (“y prif Reoliadau”).

Mae’r Rheoliadau yn darparu bod Cymru gyfan yn symud o Lefel Rhybudd 2 i Lefel Rhybudd 1 o 6.00 a.m. ar 7 Mehefin 2021. Mae hyn yn golygu bod y cyfyngiadau a’r gofynion yn Atodlen 1 i’r prif Reoliadau yn cymryd effaith.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn diwygio Atodlen 1 i’r prif Reoliadau er mwyn—

  • cyfyngu ar gynulliadau o dan do mewn anheddau preifat i aelodau o un aelwyd neu aelwyd estynedig yn unig. Caiff aelwydydd estynedig gynnwys hyd at dair aelwyd ac un aelwyd anghenion llesiant;

  • darparu y caiff hyd at 30 o bobl ymgynnull mewn unrhyw fangre yn yr awyr agored, gan gynnwys yn yr awyr agored mewn gerddi preifat a mangreoedd rheoleiddiedig;

  • darparu na chaiff mwy na 30 o bobl fynd i ddathliad o dan do o briodas, ffurfiad partneriaeth sifil neu seremoni briodas arall, neu ddathliad o dan do o fywyd person ymadawedig;

  • darparu na chaiff mwy na 30 o bobl fynd i gynulliad rheoleiddiedig o dan do;

  • darparu y caiff person mewn digwyddiad rheoleiddiedig a gynhelir yn yr awyr agored gymryd rhan mewn cynulliad sy’n cynnwys mwy na 30 o bobl;

  • darparu na chaiff unrhyw berson, heb esgus rhesymol, drefnu digwyddiad oni bai ei fod yn ddigwyddiad rheoleiddiedig, yn cael ei gynnal yn yr awyr agored, a lle nad yw mwy na 10,000 (pan fo pob person sy’n bresennol yn eistedd fel arfer) neu 4,000 (ar gyfer digwyddiadau eraill) o bobl yn bresennol ar unrhyw adeg. Mae eithriadau cyfyngedig sy’n parhau i ganiatáu, er enghraifft, priodasau, angladdau, dathliadau o briodasau etc., cynulliadau rheoleiddiedig bach, a digwyddiadau mewn anheddau preifat (ym mhob achos, pa un a ydynt yn digwydd o dan do ai peidio). Mae newidiadau cyfatebol wedi eu gwneud hefyd i’r paragraffau perthnasol yn Atodlenni 2 i 4, ond gyda niferoedd llai o bobl a gaiff fod yn bresennol;

  • ei gwneud yn ofynnol i rinciau sglefrio iâ barhau i fod ar gau.

Mae’r Rheoliadau hefyd yn gwneud yn glir effaith diwygiad sydd wedi ei wneud gan O.S. 2021/583 (Cy. 160) i’r rheolau ar weini bwyd a diod mewn sinemâu, meysydd chwaraeon a theatrau trwyddedig ac yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol eraill.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 22. Mewnosodwyd adrannau 45C, 45F a 45P gan adran 129 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2008 (p. 14). Mae’r swyddogaethau o dan yr adrannau hyn wedi eu rhoi i “the appropriate Minister” (“y Gweinidog priodol”). O dan adran 45T(6) o Ddeddf 1984, y Gweinidog priodol, o ran Cymru, yw Gweinidogion Cymru.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys