- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ymadael Â’r Undeb Ewropeaidd, Cymru
Iechyd Planhigion, Cymru
Hadau, Cymru
Gwnaed
16 Mehefin 2021
Yn dod i rym
17 Mehefin 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018(1).
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi yn unol â pharagraff 1(8) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno(2).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2021 a deuant i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
2.—(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (ffioedd arolygu mewnforio)—
(a)yn lle paragraff (2) rhodder—
“(2) Y ffi sy’n daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad mewn cysylltiad â gwiriad dogfennol o bob tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n mynd gyda’r llwyth yw £5.25. ”
(b)ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
“(2A) Y ffioedd sy’n daladwy gan fewnforiwr llwyth o drydedd wlad mewn cysylltiad ag atebolrwydd am wiriad ffisegol a gwiriad adnabod y caniateir eu cynnal ar y llwyth (pa un a gynhelir unrhyw wiriad o’r fath ai peidio) yw—
(a)(yn ddarostyngedig i baragraffau (2B) i (2E)) yn achos llwyth sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir, pan fo’r llwyth yn cynnwys planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o un neu ragor o ddisgrifiadau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1A, ac sy’n tarddu o wlad a bennir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw—
(i)y ffi neu’r ffioedd a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o blanhigion neu gynhyrchion planhigion o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth; a
(ii)y ffi neu’r ffioedd a bennir yng ngholofn 4 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad adnabod o blanhigion neu gynhyrchion planhigion o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth;
(b)yn achos llwyth sy’n tarddu o unrhyw wlad arall—
(i)yn achos llwyth o flodau wedi eu torri Atodlen 2 sy’n cynnwys un lot o flodau wedi eu torri—
(aa)y ffi a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2 mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o’r blodau wedi eu torri hynny; a
(bb)y ffi a bennir yng ngholofn 4 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad adnabod o’r blodau wedi eu torri hynny;
(ii)yn achos llwyth o flodau wedi eu torri Atodlen 2 sy’n cynnwys dau neu ragor o lotiau o flodau wedi eu torri—
(aa)ffi sy’n cyfateb i’r ffi uchaf a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2 mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o unrhyw un o’r lotiau hynny; a
(bb)y ffi a bennir yng ngholofn 4 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad adnabod sy’n cyfateb i’r ffi sy’n daladwy o dan is-baragraff (aa);
(iii)yn achos llwyth o ffrwythau neu lysiau Atodlen 2 sy’n cynnwys un lot o ffrwythau neu lysiau—
(aa)y ffi a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2 mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o’r ffrwythau hynny neu’r llysiau hynny; a
(bb)y ffi a bennir yng ngholofn 4 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad adnabod o’r ffrwythau hynny neu’r llysiau hynny;
(iv)yn achos llwyth o ffrwythau neu lysiau Atodlen 2 sy’n cynnwys dau neu ragor o lotiau o ffrwythau neu lysiau—
(aa)ffi sy’n cyfateb i’r ffi uchaf a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl yn Atodlen 2 mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o unrhyw un o’r lotiau hynny; a
(bb)y ffi a bennir yng ngholofn 4 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad adnabod sy’n cyfateb i’r ffi sy’n daladwy o dan is-baragraff (aa);
(v)yn achos llwyth sy’n cynnwys—
(aa)planhigion neu gynhyrchion planhigion o unrhyw ddisgrifiad arall a bennir yn y tabl yng ngholofn 1 o Atodlen 2, neu
(bb)peiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth,
i’r graddau y maent (yn y naill achos neu’r llall) yn tarddu o wlad a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw, y ffi neu’r ffioedd a bennir yng ngholofnau 3 a 4 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol a gwiriad adnabod, yn y drefn honno, o’r planhigion neu’r cynhyrchion planhigion o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth (ac eithrio unrhyw rai a bennir hefyd yn Atodlen 1), ac (i’r graddau y maent yn berthnasol) peiriannau neu gerbydau;
(vi)pan fo’r llwyth yn cynnwys planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o un neu ragor o’r disgrifiadau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1—
(aa)y ffi neu’r ffioedd a bennir yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth;
(bb)y ffi neu’r ffioedd a bennir yng ngholofn 3 o’r tabl hwnnw mewn cysylltiad â gwiriad adnabod o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill o bob disgrifiad o’r fath a geir yn y llwyth.
(2B) Y ffioedd sy’n daladwy o dan baragraff (2A)(a) mewn cysylltiad ag atebolrwydd i gynnal gwiriad ffisegol a gwiriad adnabod o flodau wedi eu torri neu ffrwythau neu lysiau yw, ni waith faint o lotiau a geir yn y llwyth—
(a)yn achos llwyth sydd ond yn cynnwys blodau wedi eu torri neu ond yn cynnwys ffrwythau neu lysiau, y ffioedd hynny sy’n daladwy mewn cysylltiad ag un lot o’r math o dan sylw;
(b)yn achos llwyth sy’n cynnwys blodau wedi eu torri a ffrwythau neu lysiau, y ffioedd hynny sy’n daladwy mewn cysylltiad ag un lot o bob math.
(2C) Y ffioedd sy’n daladwy o dan baragraff (2A)(a) mewn cysylltiad ag atebolrwydd i gynnal gwiriad ffisegol a gwiriad adnabod o blanhigion neu gynhyrchion planhigion, i’r graddau y mae’r planhigion neu’r cynhyrchion planhigion o un categori perthnasol ac yn tarddu o’r un wlad ond yn dod o fewn dau neu ragor o’r disgrifiadau a bennir yng ngholofn 1 o’r tabl yn Atodlen 1A, yw’r ffioedd uchaf o’r ffioedd a bennir mewn cysylltiad â phlanhigion neu gynhyrchion planhigion o unrhyw ddisgrifiad o’r fath.
(2D) At ddibenion paragraff (2C), ystyr “categori perthnasol”, mewn perthynas â phlanhigion neu gynhyrchion planhigion, yw unrhyw un o’r categorïau a ganlyn o blanhigion neu gynhyrchion planhigion—
(a)rhisgl;
(b)bylbiau;
(c)cormau;
(d)planhigion a fwriedir ar gyfer eu plannu;
(e)rhisomau;
(f)hadau;
(g)meithriniad meinwe;
(h)cloron (ac eithrio cloron tatws).
(2E) Nid yw ffi yn daladwy o dan baragraff (2A)(a) mewn cysylltiad ag unrhyw lwyth a fewnforir cyn 1 Mawrth 2022, pan fyddai wedi bod yn daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw blanhigion neu gynhyrchion planhigion a bennir yn Atodlen 2A a geir yn y llwyth hwnnw.”.
(3) Yn rheoliad 5A (gwasanaethau tystysgrifau allforio a gwasanaethau cyn-allforio: ffioedd)—
(a)Ar ddechrau paragraff (1), mewnosoder “Yn ddarostyngedig i baragraff (4A),”;
(b)Ar ôl paragraff (4), mewnosoder—
“(4A) Nid yw’r ffioedd a bennir yn Atodlen 4A yn daladwy mewn cysylltiad â llwyth sydd i’w gludo i Ogledd Iwerddon—
(a)gan berson sy’n gweithredu ac eithrio yng nghwrs busnes, pan na fo’r llwyth i’w roi ar y farchnad; neu
(b)i’w ddanfon i—
(i)gweithredwr proffesiynol y mae ei brif fan busnes yng Ngogledd Iwerddon; neu
(ii)unrhyw berson sy’n preswylio yng Ngogledd Iwerddon, pan na fo’r llwyth i’w roi ar y farchnad na’i ddefnyddio at ddiben unrhyw fusnes.
(4B) Mae paragraff (4A) yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 31 Rhagfyr 2022.”.
(c)ym mharagraff (5), yn y lle priodol, mewnosoder—
“ystyr “gweithredwr proffesiynol” yw unrhyw berson a lywodraethir gan y gyfraith gyhoeddus neu’r gyfraith breifat, sy’n ymwneud yn broffesiynol ag un neu ragor o’r gweithgareddau a ganlyn sy’n ymwneud â phlanhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill, ac sydd â chyfrifoldeb proffesiynol amdanynt—
plannu;
bridio;
cynhyrchu, gan gynnwys tyfu, lluosogi a chynnal;
cyflwyno i Ogledd Iwerddon, symud o fewn Gogledd Iwerddon a symud allan o Ogledd Iwerddon;
eu cynnig ar y farchnad;
storio, casglu, anfon a phrosesu.”.
(4) Yn lle Atodlen 1 rhodder—
Rheoliad 3(1) a (2A)(b)(vi)
Colofn 1 Disgrifiad o’r Planhigyn, y cynnyrch planhigion neu wrthrych arall | Colofn 2 Ffi: Gwiriad ffisegol (£) | Colofn 3 Ffi: Gwiriad adnabod (£) |
---|---|---|
Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd lluosogi coedwigaeth), planhigion ifanc mefus neu lysiau | 173.91 | 5.25 |
Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi eu torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill gan gynnwys deunydd lluosogi coedwigaeth (ac eithrio hadau) | 182.38 | 5.25 |
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron, a fwriedir ar gyfer eu plannu (ac eithrio cloron tatws) | 205.04 | 5.25 |
Hadau, meithriniad meinwe | 128.13 | 5.25 |
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu, nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn | 182.38 | 5.25 |
Blodau wedi eu torri | 42.75 | 5.25 |
Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio coed Nadolig sydd wedi eu torri) | 33.99 | 5.25 |
Coed Nadolig wedi eu torri | 119.64 | 5.25 |
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog | 71.68 | 5.25 |
Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog) | 53.10 | 5.25 |
Cloron tatws | 156.69 | 5.25 |
Pridd a chyfrwng tyfu, rhisgl | 119.64 | 5.25 |
Grawn | 142.98 | 5.25 |
Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn, ac eithrio coed fforestydd | 22.73 | 5.25.”. |
(5) Ar ôl Atodlen 1, mewnosoder yr Atodlen a ganlyn—
Rheoliad 3(2A)(a)
Colofn 1 Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a’i genws (os yw’n gymwys) | Colofn 2 Gwlad tarddiad | Colofn 3 Ffi: Gwiriad ffisegol (£) | Colofn 4 Ffi: Gwiriad adnabod (£) |
---|---|---|---|
(1) Mae “a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol” yn cynnwys deunydd sydd wedi ei becynnu’n glir ac yn barod i’w gyflenwi i ddefnyddwyr terfynol, ac y gellir adnabod ei fod yn barod i’w ddefnyddio gan weithwyr tirlunio neu gontractwyr ar gyfer ei blannu yn safle terfynol y planhigion a phan fo angen pecynnu ychwanegol neu waith paratoi ychwanegol (ac eithrio lluosogi, neu dyfu pellach) cyn bod y planhigion ar gael i ddefnyddwyr terfynol. | |||
(2) ystyr “Pob” yw unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir.”. | |||
Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd lluosogi coedwigaeth), planhigion ifanc mefus neu lysiau, nas bwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1) | |||
Pob genera | Pob(2) | 173.91 | 5.25 |
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron, (ac eithrio cloron tatws), nas bwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1) | |||
Pob genera | Pob(2) | 205.04 | 5.25 |
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron, (ac eithrio cloron tatws), a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1) | |||
Pob genera | Pob(2) | 20.50 | 0.52 |
Hadau, nas bwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1) | |||
Allium cepa L. | Pob(2) | 128.13 | 5.25 |
Allium porrum L. | Pob(2) | 128.13 | 5.25 |
Castanea Mill. | Pob(2) | 128.13 | 5.25 |
Capsicum spp. L. | Pob(2) | 128.13 | 5.25 |
Helianthus annuus L. | Pob(2) | 128.13 | 5.25 |
Medicago sativa L. | Pob(2) | 128.13 | 5.25 |
Phaseolus cocineus | Pob(2) | 128.13 | 5.25 |
Phaseolus vulgaris L. | Pob(2) | 128.13 | 5.25 |
Solanum lycopersicum L. | Pob(2) | 128.13 | 5.25 |
Solanum tuberosum L. (Gwir hadau tatws) | Pob(2) | 128.13 | 5.25 |
Hadau llysiau Pisum sativum L. a Vicia faba L. | Pob(2) | 128.13 | 5.25 |
Hadau planhigion olew a ffibr — | |||
Brassica napus L. | Pob(2) | 128.13 | 5.25 |
Brassica rapa L. | Pob(2) | 128.13 | 5.25 |
Sinapis alba L. | Pob(2) | 128.13 | 5.25 |
Glycine max (L.) Merrill | Pob(2) | 128.13 | 5.25 |
Linum usitatissimum L. | Pob(2) | 128.13 | 5.25 |
Hadau, a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1) | |||
Allium cepa L. | Pob(2) | 6.40 | 0.26 |
Allium porrum L. | Pob(2) | 6.40 | 0.26 |
Castanea Mill. | Pob(2) | 6.40 | 0.26 |
Capsicum spp. L. | Pob(2) | 6.40 | 0.26 |
Helianthus annuus L. | Pob(2) | 6.40 | 0.26 |
Medicago sativa L. | Pob(2) | 6.40 | 0.26 |
Phaseolus cocineus | Pob(2) | 6.40 | 0.26 |
Phaseolus vulgaris L. | Pob(2) | 6.40 | 0.26 |
Solanum lycopersicum L. | Pob(2) | 6.40 | 0.26 |
Solanum tuberosum L. (Gwir hadau tatws) | Pob(2) | 6.40 | 0.26 |
Hadau llysiau Pisum sativum L. a Vicia faba L. | Pob(2) | 6.40 | 0.26 |
Hadau planhigion olew a ffibr — | |||
Brassica napus L. | Pob(2) | 6.40 | 0.26 |
Brassica rapa L. | Pob(2) | 6.40 | 0.26 |
Sinapis alba L. | Pob(2) | 6.40 | 0.26 |
Glycine max (L.) Merrill | Pob(2) | 6.40 | 0.26 |
Linum usitatissimum L. | Pob(2) | 6.40 | 0.26 |
Hadau eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn | |||
Pob genera | Pob(2) | 3.84 | 0.15 |
Meithriniad meinwe, nas bwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1) | |||
Pob genera | Pob(2) | 128.13 | 5.25 |
Meithriniad meinwe, a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1) | |||
Pob genera | Pob(2) | 6.40 | 0.26 |
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu (ac eithrio coed Nadolig sydd wedi eu torri), nas bwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1) | |||
Pob genera | Pob(2) | 182.38 | 5.25 |
Planhigion eraill a fwriedir ar gyfer eu plannu nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn, a fwriedir ar gyfer defnyddwyr terfynol(1) | |||
Pob genera | Pob(2) | 18.23 | 0.52 |
Blodau wedi eu torri | |||
Pob genera | Pob(2) | 1.28 | 0.15 |
Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd ac eithrio rhisgl a choed Nadolig sydd wedi eu torri | |||
Pob genera | Pob(2) | 1.02 | 0.15 |
Coed Nadolig wedi eu torri | |||
Pob genera | Pob(2) | 3.58 | 0.15 |
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog | |||
Pob genera | Pob(2) | 2.15 | 0.15 |
Ffrwythau neu lysiau | |||
Pob genera | Pob(2) | 1.59 | 0.15 |
Cloron tatws | |||
Solanum tuberosum L. a fwriedir ar gyfer eu plannu (tatws hadyd) | Pob(2) | 156.69 | 5.25 |
Solanum tuberosum L. (tatws bwyta) | Gwlad Pwyl, Portiwgal neu Rwmania | 78.34 | 2.62 |
Solanum tuberosum L. (tatws bwyta) | Sbaen | 156.69 | 5.25 |
Solanum tuberosum L. (tatws bwyta) | Unrhyw un arall o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 4.70 | 0.15 |
Pridd a chyfrwng tyfu, rhisgl | |||
Rhisgl— | |||
Castanea Mill. | Pob(2) | 5.98 | 0.26 |
Conwydd (Pinales) | Pob(2) | 5.98 | 0.26 |
Juglans L. | Pob(2) | 5.98 | 0.26 |
Pterocarya Kunth. | Pob(2) | 5.98 | 0.26 |
Pridd a chyfrwng tyfu, rhisgl | |||
Rhisgl pob genera nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn | Pob(2) | 3.58 | 0.15 |
Grawn | |||
Pob genera | Pob(2) | 4.28 | 0.15 |
Planhigion neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn, ac eithrio coed fforestydd, pridd a chyfrwng tyfu | |||
Pob genera | Pob(2) | 0.68 | 0.15 |
Peiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth | |||
— | Pob(2) | 5.98 | 0.26 |
(6) Yn lle Atodlen 2 rhodder—
Rheoliad 3(2A)(b)(i) i (v) a (3)
Colofn 1 Planhigyn, cynnyrch planhigion neu wrthrych arall a’i genws (os yw’n gymwys) | Colofn 2 Gwlad tarddiad | Colofn 3 Ffi: Gwiriad ffisegol (£) | Colofn 4 Ffi: Gwiriad adnabod (£) |
---|---|---|---|
(1) Mae “drydedd wlad yn Ewrop” yn cynnwys Albania, Andorra, Armenia, Azerbaijan, Belarws, | |||
Bosnia-Herzegovina, Yr Ynysoedd Dedwydd, Ynysoedd Faröe, Georgia, Gwlad yr Iâ, Moldofa, Monaco, Montenegro, Gogledd Macedonia, Norwy, Rwsia (dim ond y rhannau a ganlyn: Y Rhanbarth Ffederal Canolog (Tsentralny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal y Gogledd-orllewin (Severo-Zapadny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal y De (Yuzhny federalny okrug), Rhanbarth Ffederal Gogledd y Cawcasws (Severo-Kavkazsky federalny okrug) a Rhanbarth Ffederal y Folga (Privolzhsky | |||
federalny okrug), San Marino, Serbia, Twrci ac Ukrain.”. | |||
Blodau wedi eu torri | |||
Aster | Zimbabwe | 32.06 | 3.93 |
Dianthus | Columbia | 1.28 | 0.15 |
Ecuador | 6.41 | 0.78 | |
Kenya | 2.14 | 0.26 | |
Twrci | 6.41 | 0.78 | |
Rosa | Columbia | 1.28 | 0.15 |
Ecuador | 0.43 | 0.05 | |
Ethiopia | 2.14 | 0.26 | |
Kenya | 4.28 | 0.52 | |
Tanzania | 21.38 | 2.62 | |
Zambia | 4.28 | 0.52 | |
Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd (ac eithrio coed Nadolig sydd wedi eu torri) | |||
Phoenix | Costa Rica | 17.00 | 2.62 |
Ffrwythau | |||
Carica papaya | Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.66 | 0.26 |
Cydonia | Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1) ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.66 | 0.26 |
Fragaria | Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.66 | 0.26 |
Malus | Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1) ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.66 | 0.26 |
Yr Ariannin | 18.59 | 1.83 | |
Brasil | 26.55 | 2.62 | |
Chile | 2.66 | 0.26 | |
Seland Newydd | 5.31 | 0.52 | |
De Affrica | 2.66 | 0.26 | |
Persea Americana | Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.66 | 0.26 |
Prunus | Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1) ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.66 | 0.26 |
Yr Ariannin | 39.83 | 3.93 | |
Chile | 5.31 | 0.53 | |
Moroco | 26.55 | 2.62 | |
Twrci | 18.59 | 1.83 | |
Prunus ac eithrio prunus persica | De Affrica | 5.31 | 0.26 |
Pyrus | Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1) ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.66 | 0.26 |
Yr Ariannin | 7.97 | 0.78 | |
Chile | 7.97 | 0.78 | |
Tsieina | 26.55 | 2.62 | |
De Affrica | 5.31 | 0.53 | |
Ribes | Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1) ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.66 | 0.26 |
Rubus | Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.66 | 0.26 |
Vaccinium | Unrhyw drydedd wlad yn Ewrop(1) ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.66 | 0.26 |
Yr Ariannin | 13.28 | 1.31 | |
Chile | 5.31 | 0.53 | |
Periw | 5.31 | 0.53 | |
Vitis | Unrhyw drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir | 2.66 | 0.26 |
Llysiau | |||
Solanum lycopersicon | Yr Ynysoedd Dedwydd | 2.66 | 0.26 |
Moroco | 2.66 | 0.26 | |
Solanum melongena | Twrci | 7.97 | 1.31 |
Peiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth | |||
— | Unrhyw drydedd wlad | 5.98 | 0.26 |
(7) Ar ôl Atodlen 2, mewnosoder yr Atodlen a ganlyn—
Rheoliad 3(2E)
1. Hadau y cyfeirir atynt yn Atodlen 1A sy’n dod o fewn y disgrifiad “Hadau eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn”.
2. Blodau wedi eu torri.
3. Canghennau gyda deiliant, rhannau o goed conwydd ac eithrio rhisgl neu goed Nadolig sydd wedi eu torri.
4. Coed Nadolig wedi eu torri.
5. Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog.
6. Ffrwythau.
7. Llysiau.
8. Cloron tatws sy’n tarddu o unrhyw un o Aelod-wladwriaethau’r UE (ac eithrio Portiwgal, Gwlad Pwyl, Rwmania a Sbaen), Liechtenstein neu’r Swistir.
9. Rhisgl pob genera ac eithrio Castanea Mill, conwydd (Pinales), Juglans L a Pterocarya Kunth.
10. Grawn.
11. Planhigion neu gynhyrchion planhigion y cyfeirir atynt yn Atodlen 1A sy’n dod o fewn y disgrifiad “Planhigion neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir yn unman arall yn y tabl hwn, ac eithrio coed fforestydd, pridd a chyfrwng tyfu”.”.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
16 Mehefin 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud drwy arfer y pwerau a roddir gan baragraff 7 o Atodlen 4 a pharagraff 21(b) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) ac maent yn diwygio Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1179) (Cy. 238) (“Rheoliadau 2018”).
Mae’r Rheoliadau yn gwneud addasiadau, o ganlyniad i ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd, i ffioedd penodol sy’n daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag arolygu mewnforio planhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill.
Yn benodol—
(a)mae’r ffi sy’n daladwy gan fewnforiwr mewn cysylltiad â phob tystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n mynd gyda llwyth yn cael ei rhannu’n ffioedd ar wahân sy’n daladwy mewn cysylltiad â gwiriad dogfennol a gwiriad adnabod (rheoliad 2(2)(a) a (b));
(b)mae Atodlen 1A newydd wedi ei mewnosod yn Rheoliadau 2018 i ddarparu ar gyfer ffioedd sy’n daladwy gan fewnforiwr mewn cysylltiad â gwiriad ffisegol a gwiriad adnabod o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n tarddu o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, y Swistir neu Liechtenstein, gan gynnwys y rheini sy’n ddarostyngedig i wiriadau llai manwl, gan adlewyrchu lefel yr arolygu, yn seiliedig ar y risgiau sy’n gysylltiedig â’r planhigion hynny, y cynhyrchion planhigion hynny neu’r gwrthrychau eraill hynny (rheoliad 2(2)(b) a (5)); ac
(c)mae Atodlen 2 wedi ei amnewid yn Rheoliadau 2018 i ddarparu ar gyfer ffioedd gostyngedig mewn cysylltiad â gwiriad adnabod o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu wrthrychau eraill sy’n tarddu o drydedd wlad ac eithrio un o Aelod-wladwriaethau’r UE, y Swistir neu Liechtenstein, gan adlewyrchu’r lefel bresennol o arolygu (rheoliad 2(2)(b) a (6)).
Nid yw’r ffioedd sy’n daladwy yn rhinwedd rheoliad 3(2A)(a) newydd Rheoliadau 2018 yn daladwy mewn cysylltiad â llwythi a fewnforir cyn 1 Mawrth 2022, mewn cysylltiad â phlanhigion penodol neu gynhyrchion planhigion penodol.
Mae’r ffioedd sy’n gymwys mewn cysylltiad â gwiriadau ffisegol a gwiriadau adnabod llwythi o blanhigion penodol, cynhyrchion planhigion penodol neu wrthrychau eraill penodol o un o Aelod-wladwriaethau’r UE, Liechtenstein neu’r Swistir yn adlewyrchu cyfraddau amlder y gwiriadau hynny fel y’u nodir yn Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol, Iechyd Planhigion, Hadau a Thatws Hadyd (Diwygio etc.) 2021 (O.S. 2021/426).
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu esemptiad rhag talu ffioedd sydd fel arall yn daladwy mewn cysylltiad ag ardystio a gwasanaethau cyn-allforio o ran llwythi ffytoiechydol o dan amgylchiadau penodol. Mae’r esemptiad yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 31 Rhagfyr 2022 (rheoliad 2(3)).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2018 p. 16; gweler paragraff 8 o Atodlen 4 am ystyr “appropriate authority”. Diwygiwyd paragraff 21 o Atodlen 7 gan adran 41(4) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1) a pharagraffau 38 a 53(2) o Atodlen 5 iddi.
Mae’r cyfeiriad yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
O.S. 2018/1179 (Cy. 238); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S 2019/1378 (Cy. 244), O.S. 2020/44 (Cy. 5), O.S. 2020/69 (Cy. 10) ac O.S. 2020/1628 (Cy. 342).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys