Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (heb Atodlenni)

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/10/2023.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.

RHAN 1LL+CRhagarweiniad

Enwi, cymhwyso a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2021.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradauLL+C

2.  Mewn daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel a ddangosir ar y map perthnasol o’r enw “Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2013”(1) [F1(y “map mynegai PPN”)]

[F2(a)nid yw rheoliadau 5 i 11, 15, 23, 27, 33 i 35, na 37 i 43 yn gymwys hyd nes 1 Ionawr 2023,

(b)nid yw rheoliadau 4 nac 36 yn gymwys hyd nes [F331 Hydref 2023], ac

(c)nid yw rheoliadau 17 i 21, 25, 26, nac 28 i 31 yn gymwys hyd nes 1 Awst 2024.]

DehongliLL+C

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae “adeiladu” (“construct”) yn cynnwys gosod;

mae i “amaethyddiaeth” yr ystyr a roddir i “agriculture” yn adran 109(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1947(2);

ystyr “ardal amaethyddol” (“agricultural area”) yw unrhyw dir amaethyddol a ddefnyddir at ddibenion amaethyddol;

ystyr “CANC” (“NRBW”) yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru;

mae “cnwd â galw mawr am nitrogen” (“crop with high nitrogen demand”) yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt, porfa, tatws, betys siwgr, indrawn, gwenith, rêp had olew, haidd, bresych, rhyg a rhygwenith;

mae i “cwrs dŵr” yr ystyr a roddir i “watercourse” yn adran 221 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991;

ystyr “cynllun gwrteithio” (“fertilisation plan”) yw cynllun a gafodd ei baratoi o dan reoliad 6(1)(c);

ystyr “da byw” (“livestock”) yw unrhyw anifail (gan gynnwys dofednod) a bennir yn Atodlen 1;

ystyr “da byw nad ydynt yn pori” (“non-grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 2 yn Atodlen 1;

ystyr “da byw sy’n pori” (“grazing livestock”) yw unrhyw anifail a bennir yn Nhabl 1 yn Atodlen 1;

ystyr “daliad” (“holding”) yw’r holl dir a’i adeiladau cysylltiedig sydd ar gael i’w defnyddio gan y meddiannydd ac a ddefnyddir i dyfu cnydau mewn pridd neu i fagu da byw at ddibenion amaethyddol;

ystyr “dofednod” (“poultry”) yw dofednod a bennir yn Atodlen 1;

mae i “dyfroedd a reolir” yr ystyr a roddir i “controlled waters” yn adran 104 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991

ystyr “elifiant silwair” (“silage effluent”) yw elifiant o silwair;

ystyr “gwrtaith ffosffad” (“phosphate fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy’n cynnwys un neu ragor o gyfansoddion ffosffad a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae’n cynnwys tail organig;

ystyr “gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd” (“manufactured phosphate fertiliser”) yw unrhyw wrtaith ffosffad (ac eithrio tail organig) sydd wedi ei weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;

ystyr “gwrtaith nitrogen” (“nitrogen fertiliser”) yw unrhyw sylwedd sy’n cynnwys un neu ragor o gyfansoddion nitrogen a ddefnyddir ar dir i wella twf y llystyfiant ac mae’n cynnwys tail organig;

ystyr “gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd” (“manufactured nitrogen fertiliser”) yw unrhyw wrtaith nitrogen (ac eithrio tail organig) sydd wedi ei weithgynhyrchu drwy broses ddiwydiannol;

ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;

[F4mae i “map mynegai PPN” (“NVZ index map”) yr ystyr a roddir gan reoliad 2;]

ystyr “porfa” (“grass”) yw—

(a)

glaswelltir parhaol neu laswelltir dros dro (ystyr dros dro yw am gyfnod o lai na phedair blynedd),

(b)

sy’n bodoli rhwng hau ac aredig y borfa, ac

(c)

mae’n cynnwys cnydau yr heuwyd porfa oddi tanynt,

ond nid yw’n cynnwys glaswelltir sydd â 50 % neu ragor o feillion;

ystyr “pridd tenau” (“shallow soil”) yw pridd y mae ei ddyfnder yn llai na 40 cm;

ystyr “pridd tywodlyd” (“sandy soil”) yw unrhyw bridd sy’n gorwedd ar dywodfaen, ac unrhyw bridd arall sy’n cynnwys—

(a)

yn yr haen hyd at ddyfnder o 40cm—

(i)

mwy na 50 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â diamedr o 0.06 i 2 mm,

(ii)

llai na 18 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â’u diamedr yn llai na 0.02 mm, a

(iii)

llai na 5 % yn ôl pwysau o garbon organig, a

(b)

yn yr haen sydd rhwng 40 a 80 cm o ddyfnder—

(i)

mwy na 70 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â diamedr o 0.06 i 2 mm,

(ii)

llai na 15 % yn ôl pwysau o ronynnau sydd â’u diamedr yn llai na 0.02 mm, a

(iii)

llai na 5 % yn ôl pwysau o garbon organig;

ystyr “pydew derbyn” (“reception pit”) yw pydew a ddefnyddir i gasglu slyri cyn ei drosglwyddo i danc storio slyri neu i gasglu slyri sy’n cael ei ollwng o danc o’r fath;

ystyr “seilo” (“silo”) yw adeiladwaith a ddefnyddir i wneud neu i storio silwair;

mae “silwair” (“silage”) yn cynnwys cnwd sy’n cael ei wneud yn silwair;

ystyr “slyri” (“slurry”) yw mater hylifol neu led hylifol a’i gynnwys yw—

(a)

carthion a gynhyrchir gan dda byw (ac eithrio dofednod) tra maent ar fuarth neu mewn adeilad (gan gynnwys da byw sy’n cael eu cadw mewn corlannau sglodion coed), neu

(b)

cymysgedd sy’n cynnwys yn gyfan gwbl neu’n bennaf carthion da byw, gwasarn da byw, dŵr glaw a golchion o adeilad neu fuarth a ddefnyddir gan dda byw,

ac o ddwyster sy’n caniatáu iddo gael ei bwmpio neu ei ollwng drwy ddisgyrchiant ar unrhyw gymal yn y broses o’i drin;

mae “taenu” (“spreading”) yn cynnwys dodi ar wyneb y tir, chwistrellu i mewn i’r tir neu gymysgu â haenau arwyneb y tir ond nid yw’n cynnwys dyddodi carthion yn uniongyrchol ar y tir gan anifeiliaid;

ystyr “tail organig” (“organic manure”) yw unrhyw wrtaith nitrogen neu wrtaith ffosffad sy’n deillio o anifeiliaid, planhigion neu fodau dynol, ac mae’n cynnwys tail da byw;

mae “tanc storio slyri” (“slurry storage tank”) yn cynnwys lagŵn, pydew (ac eithrio pydew derbyn) neu dŵr sy’n cael ei ddefnyddio i storio slyri;

ystyr “tir y mae’r risg o oferu drosto yn isel” (“land that has a low run-off risk”) yw tir—

(a)

y mae ei oleddf cyfartalog yn llai na 3º (3 gradd),

(b)

nad oes ynddo ddraeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi ei selio), ac

(c)

sydd o leiaf 50 metr i ffwrdd o gwrs dŵr neu ddyfrffos sy’n arwain at gwrs dŵr.

(2Mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at system storio slyri yn cynnwys tanc storio slyri ac—

(a)unrhyw bydew derbyn ac unrhyw danc elifiant sy’n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r tanc, a

(b)unrhyw sianelau a phibellau sy’n cael eu defnyddio mewn cysylltiad â’r tanc, ag unrhyw bydew derbyn neu ag unrhyw danc elifiant.

(3Bodlonir gofyniad yn y Rheoliadau hyn i seilo neu danc storio slyri gydymffurfio â Safon Brydeinig (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) os yw’r seilo neu’r tanc yn cydymffurfio â safon neu â manyleb sy’n darparu lefel gyfatebol o warchodaeth a pherfformiad ac sy’n cael ei chydnabod i’w defnyddio mewn Aelod-wladwriaeth, yn Ynys yr Iâ, Liechtenstein, Norwy neu Dwrci.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

RHAN 2LL+CCyfyngu ar ddodi tail organig

Dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliadLL+C

4.—(1Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, yn ystod [F5y cyfnod perthnasol] , na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yn fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.

(2Rhaid cyfrifo maint y nitrogen a gynhyrchir gan dda byw yn unol ag Atodlen 1.

(3Wrth gyfrifo arwynebedd y daliad at ddibenion canfod maint y nitrogen y caniateir ei daenu ar y daliad, diystyrir dyfroedd wyneb, unrhyw loriau caled, adeiladau, ffyrdd neu unrhyw goetir, oni ddefnyddir y coetir hwnnw ar gyfer pori.

[F6(4) Ym mharagraff (1), ystyr “y cyfnod perthnasol” yw—

(a)ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr;

(b)ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar [F731 Hydref].]

Taenu tail organig – terfynau nitrogen fesul hectarLL+C

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i feddiannydd daliad sicrhau, mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a daenir ar unrhyw hectar penodol ar y daliad yn fwy na 250 kg.

(2Rhaid i feddiannydd daliad sicrhau na fydd cyfanswm y nitrogen mewn tail organig, yn gyfan gwbl ar ffurf compost ardystiedig, a ddodir ar unrhyw hectar penodol o’r daliad, yn fwy nag—

(a)1000 kg mewn unrhyw gyfnod o bedair blynedd os dodir ef fel tomwellt ar dir perllan, neu

(b)500 kg mewn unrhyw gyfnod o ddwy flynedd os dodir ef ar unrhyw dir arall.

(3At ddibenion paragraffau (1) a (2), rhaid cyfrifo cyfanswm y nitrogen mewn tail organig drwy gyfeirio at y dulliau a ddisgrifir yn rheoliad 9 ar gyfer cadarnhau’r cynnwys nitrogen.

(4Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “tir perllan” yw tir y tyfir arno unrhyw ffrwyth a restrir yn Atodlen 2;

(b)ystyr “compost ardystiedig” yw compost gwyrdd neu gompost gwyrdd/bwyd y mae’r cyflenwr yn cadarnhau mewn ysgrifen ei fod yn bodloni’r safonau a bennir yn y cyhoeddiad PAS 100:2011 ar ddeunyddiau a gompostiwyd, dyddiedig Ionawr 2011 ac nad yw’n cynnwys unrhyw dail da byw;

(c)rhaid i’r meddiannydd gadw cadarnhad ysgrifenedig fod y tail organig yn cydymffurfio ag is-baragraff (b).

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

RHAN 3LL+CY gofynion o ran cnydau

Cynllunio’r modd y taenir gwrtaith nitrogenLL+C

6.—(1Rhaid i feddiannydd daliad sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen—

(a)cyfrifo faint o nitrogen yn y pridd sy’n debyg o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno yn ystod y tymor tyfu (“y cyflenwad nitrogen yn y pridd”),

(b)cyfrifo’r maint optimwm o nitrogen y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth y maint o nitrogen sydd ar gael o’r cyflenwad nitrogen yn y pridd, ac

(c)llunio cynllun ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen ar gyfer y tymor tyfu hwnnw.

(2Yn achos unrhyw gnwd nad yw’n laswelltir parhaol, rhaid i’r meddiannydd gydymffurfio â pharagraff (1) cyn taenu unrhyw wrtaith nitrogen am y tro cyntaf er mwyn gwrteithio cnwd sydd wedi ei blannu neu y bwriedir ei blannu.

(3Yn achos glaswelltir parhaol, rhaid i’r meddiannydd gydymffurfio â pharagraff (1) bob blwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr cyn taenu gwrtaith nitrogen am y tro cyntaf.

(4Rhaid i’r cynllun fod ar ffurf barhaol.

(5Rhaid i’r cynllun gofnodi—

(a)cyfeirnod neu enw’r cae perthnasol,

(b)y rhan o’r cae a blannwyd neu y bwriedir ei phlannu, ac

(c)y math o gnwd.

(6Yn achos y rhan a blannwyd neu y bwriedir ei phlannu, rhaid i’r cynllun gofnodi—

(a)y math o bridd,

(b)y cnwd blaenorol (ac os porfa oedd y cnwd blaenorol, a reolid y borfa drwy ei thorri ynteu ei phori),

(c)y cyflenwad nitrogen yn y pridd wedi ei gyfrifo’n unol â pharagraff (1) a’r dull a ddefnyddiwyd i gyrraedd y ffigur hwn,

(d)y mis y rhagwelir y caiff y cnwd ei blannu,

(e)maint y cynnyrch a ddisgwylir (os yw’n gnwd âr), ac

(f)y maint optimwm o nitrogen y dylid ei daenu ar y cnwd gan gymryd i ystyriaeth y maint o nitrogen sydd ar gael o’r cyflenwad nitrogen yn y pridd.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y flwyddynLL+C

7.—(1Cyn taenu tail organig, rhaid i’r meddiannydd, ar bob achlysur, gyfrifo maint y nitrogen o’r tail hwnnw sy’n debygol o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo.

(2Rhaid i’r meddiannydd, cyn taenu, gofnodi—

(a)y rhan y taenir y tail organig arni,

(b)y maint o dail organig sydd i’w daenu,

(c)y dyddiad arfaethedig ar gyfer taenu (y mis),

(d)y math o dail organig,

(e)cyfanswm y nitrogen sydd ynddo, ac

(f)cyfanswm y nitrogen sy’n debygol o fod ar gael, o’r tail organig y bwriedir ei daenu, i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo.

(3Cyn taenu gwrtaith nitrogen, rhaid i’r meddiannydd gofnodi—

(a)y maint sydd ei angen, a

(b)y dyddiad arfaethedig ar gyfer taenu (y mis).

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cyfanswm y nitrogen sydd i’w daenu ar ddaliadLL+C

8.  Ni waeth beth fo’r ffigur yn y cynllun, rhaid i feddiannydd sicrhau na fydd cyfanswm—

(a)y nitrogen o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd, a

(b)y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o dail organig yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo, a gyfrifir yn unol â rheoliad 9,

yn fwy yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis na’r terfynau a bennir yn rheoliad 10.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cyfrifo maint y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o dail organigLL+C

9.—(1Rhaid i’r meddiannydd gadarnhau cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw, at ddibenion rheoliad 8, drwy—

(a)defnyddio’r tabl yn Rhan 1 o Atodlen 3, neu

(b)samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.

(2Unwaith y bydd cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw wedi ei ganfod, rhagdybir y canrannau canlynol er mwyn cadarnhau maint y nitrogen yn y tail da byw sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo.

Y ganran sydd ar gael

Math o dail da bywMaint y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo
Slyri gwartheg40 %
Slyri moch50 %
Tail dofednod30 %
Tail da byw eraill10 %

(3Mewn perthynas â phob tail organig arall, rhaid i’r meddiannydd gadarnhau cyfanswm y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo, at ddibenion rheoliad 8—

(a)drwy gyfeirio at ddadansoddiadau technegol a ddarperir gan y cyflenwr,

(b)i’r graddau nad oes gwybodaeth o’r fath ar gael, drwy gyfeirio at y gwerthoedd a roddir yn y Canllawiau Rheoli Maethynnau (RB 209)(3), neu

(c)drwy samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Terfynau nitrogen uchaf fesul cnwdLL+C

10.  Cyfanswm y nitrogen y caniateir ei daenu ar unrhyw gnwd a restrir yn y golofn gyntaf isod yw’r ffigur a roddir yn yr ail golofn isod, wedi ei addasu yn unol â’r nodiadau i’r tabl, ac wedi ei luosi â chyfanswm yr arwynebedd, mewn hectarau, o’r cnwd hwnnw a heuwyd ar y daliad.

Uchafsymiau nitrogen

CnwdMaint y nitrogen a ganiateir (kg)(a)Cynnyrch safonol (tunnell/ha)
(a)

Caniateir 80 kg yr hectar yn ychwanegol ar gyfer pob cnwd a dyfir mewn caeau os dodwyd gwellt neu slwtsh papur ar y cnwd presennol neu’r cnwd blaenorol.

(b)

Caniateir 20 kg yr hectar yn ychwanegol ar gaeau sydd â phridd tenau (ac eithrio priddoedd tenau sy’n gorwedd ar dywodfaen).

(c)

Caniateir 20 kg yr hectar yn ychwanegol am bob tunnell y mae’r cynnyrch disgwyliedig yn uwch na’r cynnyrch safonol.

(d)

Caniateir 40 kg yr hectar yn ychwanegol ar gyfer rhywogaethau o wenith melino.

(e)

Mae hyn yn cynnwys unrhyw nitrogen a ddodir fel esemptiad o’r cyfnod gwaharddedig ar gyfer gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd. Ceir cynyddu’r maint a ganiateir hyd at 30 kg yr hectar am bob hanner tunnell y mae’r cynnyrch disgwyliedig yn uwch na’r cynnyrch safonol.

(f)

Caniateir 40 kg yr hectar yn ychwanegol ar gyfer porfa a dorrir deirgwaith, o leiaf, bob blwyddyn.

Merllys150dd/g
Gwenith a heuir yn yr hydref neu’r gaeaf cynnar220(b) (c) (d)8.0
Betys (coch)350dd/g
Ysgewyll Brwsel350dd/g
Bresych350dd/g
Calabrese350dd/g
Blodfresych350dd/g
Moron150dd/g
Seleri250dd/g
Courgettes250dd/g
Corffa250dd/g
Ffa maes0dd/g
Indrawn porthi150dd/g
Porfa300(f)dd/g
Cennin350dd/g
Letys250dd/g
Winwns250dd/g
Pannas250dd/g
Pys0dd/g
Tatws270dd/g
Radis150dd/g
Ffa dringo250dd/g
Gwenith a heuir yn y gwanwyn180(c) (d)7.0
Haidd y gwanwyn150(c)5.5
Betys siwgrSwêds120dd/g
India-corn250dd/g
Maip250dd/g
Haidd y gaeaf180(b) (c)6.5
Rêp had olew y gaeaf250(e)3.5

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

RHAN 4LL+CRheoli’r broses o daenu gwrtaith nitrogen

Mapiau risgLL+C

11.—(1Rhaid i feddiannydd daliad sy’n taenu tail organig ar y daliad hwnnw gynnal map o’r daliad (“map risg”) yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Os bydd amgylchiadau’n newid, rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r map risg o fewn tri mis i’r newid.

(3Rhaid i’r map risg ddangos—

(a)pob cae, ynghyd â’i arwynebedd mewn hectarau,

(b)yr holl ddyfroedd wyneb,

(c)unrhyw dyllau turio, ffynhonnau neu bydewau sydd ar y daliad neu sydd o fewn 50 metr i ffin y daliad,

(d)y rhannau â phriddoedd tywodlyd neu denau,

(e)tir sydd ar oleddf o fwy na 12°,

(f)tir sydd o fewn 10 metr i ddyfroedd wyneb,

(g)tir sydd o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew,

(h)draeniau tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi ei selio);

(i)safleoedd sy’n addas ar gyfer tomenni dros dro mewn caeau os bwriedir defnyddio’r dull hwn o storio tail, a

(j)tir y mae’r risg o oferu drosto yn isel (mae hyn yn ddewisol i feddiannydd nad yw’n bwriadu taenu tail ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel yn ystod y cyfnod storio yn unol â rheoliad 29).

(4Os yw meddiannydd yn taenu tail organig drwy ddefnyddio cyfarpar taenu manwl hyd at 6 metr oddi wrth ddŵr wyneb fel y caniateir gan reoliad 14(1), rhaid i’r map risg nodi’r tir sydd o fewn 6 metr i ddyfroedd wyneb.

(5Rhaid i’r meddiannydd gadw copi o’r map risg.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Pryd i daenu gwrtaithLL+C

12.—(1Rhaid i feddiannydd sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gynnal arolygiad o’r caeau yn gyntaf, er mwyn ystyried y risg y gallai nitrogen fynd i mewn i ddŵr wyneb.

(2Ni chaiff unrhyw berson daenu gwrtaith nitrogen ar y tir hwnnw os oes risg sylweddol y byddai nitrogen yn mynd i mewn i ddŵr wyneb, gan gymryd i ystyriaeth yn benodol—

(a)goleddf y tir, yn enwedig os yw’r goleddf yn fwy na 12°,

(b)unrhyw orchudd tir,

(c)pa mor agos yw’r tir at ddŵr wyneb,

(d)yr amodau tywydd,

(e)y math o bridd, ac

(f)presenoldeb draeniau tir.

(3Ni chaiff unrhyw berson daenu gwrtaith nitrogen os yw’r pridd yn ddyfrlawn, dan ddŵr, wedi ei orchuddio ag eira, wedi rhewi neu os oedd y pridd wedi rhewi am fwy na 12 awr yn ystod y 24 awr flaenorol.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Taenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd ger dŵr wynebLL+C

13.  Ni chaiff unrhyw berson daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd o fewn 2 fetr i ddŵr wyneb.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Taenu tail organig ger dŵr wyneb, tyllau turio, ffynhonnau neu bydewauLL+C

14.—(1Ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb oni ddefnyddir cyfarpar taenu manwl, ac yn yr achos hwnnw ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 6 metr i ddŵr wyneb.

(2Ond caniateir taenu tail da byw yno (ac eithrio slyri a thail dofednod)—

(a)os taenir ef ar dir a reolir ar gyfer bridio adar hirgoes neu fel glaswelltir lled-naturiol cyfoethog ei rywogaethau ac os yw’r tir—

(i)yn dir yr hysbyswyd ei fod yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(4), neu

(ii)yn ddarostyngedig i ymrwymiad amaeth-amgylcheddol a wnaed o dan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005(5), neu Reoliad (EU) 1305/2013(6),

(b)os taenir ef rhwng 1 Mehefin a 31 Hydref yn gynwysedig,

(c)os na thaenir ef yn uniongyrchol ar ddŵr wyneb, a

(d)os nad yw’r cyfanswm blynyddol yn fwy na 12.5 tunnell yr hectar.

(3Ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew.

(4At ddibenion y rheoliad hwn diffinnir “cyfarpar taenu manwl” fel system gwadnau llusg, bar diferion neu chwistrellydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Rheoli’r modd y taenir gwrtaith nitrogenLL+C

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i unrhyw berson sy’n taenu slyri ddefnyddio cyfarpar taenu sydd â thaflwybr taenu isel, sef is na 4 metr o’r ddaear.

(2Caniateir defnyddio cyfarpar taenu sydd â thaflwybr taenu sy’n fwy na 4 metr o’r ddaear ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel pan fydd cyfarpar o’r fath yn gallu cyflawni cyfartaledd cyflymder dodi slyri heb fod yn fwy na 2 mm yr awr pan fydd wrthi’n gweithredu’n ddi-dor.

(3Rhaid i unrhyw berson sy’n taenu gwrtaith nitrogen ei daenu mor fanwl gywir ag y bo modd.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Corffori tail organig yn y ddaearLL+C

16.—(1Rhaid i unrhyw berson sy’n dodi tail organig ar wyneb pridd moel neu sofl (ac eithrio pridd sydd wedi ei hau) sicrhau y corfforir y tail yn y pridd yn unol â’r rheoliad hwn.

(2Rhaid corffori tail dofednod cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan hwyraf.

(3Rhaid corffori slyri a hylif slwtsh carthion treuliedig (hynny yw, hylif sy’n dod o drin slwtsh carthion drwy dreulio anerobig) cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan hwyraf, oni ddodwyd y slyri a’r hylif gan ddefnyddio cyfarpar o fath a ddisgrifir yn rheoliad 14(4).

(4Rhaid corffori unrhyw dail organig arall (ac eithrio tail organig a daenir fel tomwellt ar bridd tywodlyd) yn y pridd cyn gynted ag y bo’n ymarferol, ac o fewn 24 awr fan hwyraf, os yw’r tir o fewn 50 metr i ddŵr wyneb ac yn goleddfu mewn modd a allai achosi goferu i’r dŵr hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

RHAN 5LL+CCyfnodau gwaharddedig ar gyfer taenu gwrtaith nitrogen

Ystyr “tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd”LL+C

17.  Yn y Rhan hon, ystyr “tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd” yw tail organig y mae mwy na 30 % o gyfanswm y nitrogen sydd ynddo ar gael i’r cnwd ar yr adeg y taenir y tail.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cyfnodau gwaharddedig ar gyfer taenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwyddLL+C

18.  Yn ddarostyngedig i reoliadau 19 ac 20, ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar dir rhwng y dyddiadau canlynol, sydd bob un ohonynt yn ddyddiadau cynwysedig (“y cyfnod gwaharddedig”)—

Y cyfnod gwaharddedig

Math o BriddGlaswelltirTir tro
Pridd tywodlyd neu denau1 Medi i 31 Rhagfyr1 Awst i 31 Rhagfyr
Pob math arall o bridd15 Hydref i 15 Ionawr1 Hydref i 31 Ionawr

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Esemptiadau: cnydau a heuir cyn 15 MediLL+C

19.  Caniateir taenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar dir tro lle mae’r pridd yn dywodlyd neu’n denau rhwng 1 Awst a 15 Medi yn gynwysedig, ar yr amod yr heuir y cnwd ar neu cyn 15 Medi.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 19 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Esemptiadau ar gyfer daliadau organigLL+C

20.  Caiff meddiannydd daliad sydd wedi cyflwyno ei ymgymeriad i’r system reoli y cyfeirir ati yn Erthygl 27 o Reoliad y Cyngor (EC) 834/2007(7) daenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd ar unrhyw adeg—

(a)ar gnydau a restrir yn y tabl yn Atodlen 4 (cnydau a ganiateir am y cyfnod gwaharddedig), neu

(b)ar gnydau eraill yn unol â chyngor ysgrifenedig gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau(8),

ar yr amod na fydd pob hectar y mae tail organig yn cael ei daenu arno yn cael mwy na chyfanswm o 150 kg o nitrogen rhwng dechrau’r cyfnod gwaharddedig a diwedd Chwefror.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Rhl. 20 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cyfyngiadau ar ôl y cyfnod gwaharddedigLL+C

21.  O ddiwedd y cyfnod gwaharddedig tan ddiwedd Chwefror—

(a)30 metr ciwbig yr hectar yw’r uchafswm o slyri y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg ac 8 tunnell yr hectar yw’r uchafswm o dail dofednod y caniateir ei daenu ar unrhyw un adeg, a

(b)rhaid bod o leiaf dair wythnos rhwng pob taeniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Rhl. 21 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Adegau pan waherddir taenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwydLL+C

22.—(1Ni chaiff unrhyw berson daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd ar dir yn ystod y cyfnodau canlynol (mae pob dyddiad yn gynwysedig)—

(a)yn achos glaswelltir, o 15 Medi i 15 Ionawr, neu

(b)yn achos tir tro, o 1 Medi i 15 Ionawr.

(2Caniateir taenu gwrtaith yn ystod y cyfnodau hyn ar y cnydau a bennir yn y Tabl yn Atodlen 4, ar yr amod nad eir dros ben y gyfradd uchaf yng ngholofn 2.

(3Caniateir taenu yn ystod y cyfnodau hyn ar gnydau nad ydynt yn Atodlen 4 ar sail cyngor ysgrifenedig gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Rhl. 22 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

RHAN 6LL+CStorio tail organig a silwair

Storio tail organigLL+C

23.  Rhaid i feddiannydd daliad sy’n storio unrhyw dail organig (ac eithrio slyri), neu unrhyw sarn sydd wedi ei halogi ag unrhyw dail organig, ei storio—

(a)mewn llestr,

(b)mewn adeilad dan do,

(c)ar wyneb anhydraidd, neu

(d)yn achos tail solet y gellir ei bentyrru’n domen ar ei phen ei hun, ac nad oes hylif yn draenio o’r deunydd, ar safle dros dro mewn cae.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Rhl. 23 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Gwneud neu storio silwairLL+C

24.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i berson sydd â silwair sy’n cael ei wneud neu ei storio dan ei ofal neu ei reolaeth sicrhau—

(a)bod y silwair yn cael ei gadw mewn seilo sy’n bodloni gofynion Atodlen 5, neu

(b)bod y silwair yn cael ei gywasgu i fyrnau–

(i)sydd wedi eu lapio a’u selio mewn pilennau anhydraidd, neu wedi eu cau mewn bagiau anhydraidd, a

(ii)sydd wedi eu storio o leiaf 10 metr oddi wrth unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol y gallai elifiant sy’n dianc o’r byrnau fynd i mewn iddynt, neu

(c)os mai cnwd yw’r silwair sy’n cael ei wneud yn silwair maes (hynny yw, silwair sy’n cael ei wneud ar dir agored drwy ddull gwahanol i’r dull byrnau y cyfeirir ato yn is-baragraff (b)), neu os mai silwair sy’n cael ei storio ar dir agored ydyw—

(i)bod CANC yn cael ei hysbysu o’r man lle bydd y silwair yn cael ei wneud neu ei storio o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn defnyddio’r fan honno at y diben hwnnw am y tro cyntaf, a

(ii)bod y fan honno o leiaf 10 metr oddi wrth unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol, ac o leiaf 50 metr oddi wrth fan tynnu dŵr perthnasol agosaf unrhyw ffynhonnell cyflenwi dŵr warchodedig y gallai elifiant silwair fynd i mewn iddynt pe bai’n dianc.

(2At ddibenion paragraff (1)(c)(ii), mae ffynhonnell cyflenwi dŵr yn ffynhonnell cyflenwi dŵr warchodedig—

(a)os oes unrhyw dynnu dŵr perthnasol o’r ffynhonnell wedi ei drwyddedu o dan Ran 2 o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(9), neu

(b)os yw’r person sy’n gwneud neu’n storio’r silwair yn ymwybodol o leoliad y ffynhonnell—

(i)cyn dechrau ar wneud y silwair, neu

(ii)os gwnaed y silwair mewn man arall, cyn ei storio ar y tir dan sylw.

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i silwair tra ei fod yn cael ei storio dros dro mewn cynhwysydd, ôl-gerbyd neu gerbyd mewn cysylltiad â’i gludo o gwmpas y fferm neu fan arall.

(4Ni chaiff person sydd â bwrn silwair dan ei ofal neu ei reolaeth agor na symud ymaith yr hyn sy’n lapio’r bwrn o fewn 10 metr i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd arfordirol y gallai elifiant silwair, o ganlyniad, fynd i mewn iddynt.

(5Yn y rheoliad hwn—

(a)ystyr “tynnu dŵr perthnasol” yw tynnu dŵr ar gyfer ei ddefnyddio—

(i)i’w yfed gan bobl, neu

(ii)at ddibenion domestig (o fewn yr ystyr a roddir i “domestic purposes” gan adran 218 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(10)) heblaw at ei yfed gan bobl, neu

(iii)i weithgynhyrchu bwyd neu ddiod i’w fwyta neu i’w yfed gan bobl, a

(b)ystyr “ffynhonnell cyflenwi dŵr” yw dyfroedd croyw mewndirol neu ddyfroedd daear y tynnir dŵr perthnasol ohonynt neu y trwyddedir tynnu dŵr perthnasol ohonynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Rhl. 24 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Storio slyriLL+C

25.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i berson sydd â slyri dan ei ofal neu ei reolaeth feddu ar system storio slyri sy’n bodloni gofynion Atodlen 6, a rhaid storio’r slyri yn y system honno.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i slyri tra bo’n cael ei storio dros dro mewn tancer sy’n cael ei ddefnyddio i gludo slyri ar ffyrdd neu o gwmpas fferm.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Rhl. 25 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Esemptiadau i’r gofynion storioLL+C

26.—(1Nid yw rheoliadau 24(1) a 25(1) yn gymwys i seilo neu system storio slyri—

(a)a ddefnyddid, cyn 1 Mawrth 1991, at y diben o wneud silwair neu storio slyri,

(b)onis defnyddid cyn 1 Mawrth 1991 at y diben hwnnw, a adeiladwyd cyn y dyddiad hwnnw ar gyfer y defnydd hwnnw, neu

(c)yr oedd, mewn perthynas ag ef neu hi–

(i)contract wedi ei wneud cyn 1 Mawrth 1991 i adeiladu, ehangu’n sylweddol neu ailadeiladu’n sylweddol y seilo neu’r system storio slyri, a

(ii)gwaith o’r fath wedi cychwyn cyn y dyddiad hwnnw, ac

yn y naill achos neu’r llall fod y gwaith wedi ei gwblhau cyn 1 Medi 1991.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Rhl. 26 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Safleoedd dros dro mewn caeauLL+C

27.—(1Ni chaiff safle dros dro mewn cae bod—

(a)mewn cae sy’n agored i lifogydd neu fynd yn ddyfrlawn,

(b)o fewn 50 metr i dwll turio, ffynnon neu bydew neu o fewn 10 metr i ddŵr wyneb neu ddraen tir (ac eithrio pibell anhydraidd sydd wedi ei selio),

(c)mewn unrhyw un lleoliad am fwy na 12 mis yn olynol, neu

(d)yn yr un man ag un cynharach a adeiladwyd o fewn y ddwy flynedd diwethaf.

(2Rhaid i unrhyw dail dofednod solet, nad oes sarn yn gymysg ag ef ac sy’n cael ei storio ar safle dros dro mewn cae, gael ei orchuddio â deunydd anhydraidd.

(3Yn ychwanegol—

(a)ni chaniateir symud uwchbridd o’r tir lle y bwriedir adeiladu safle dros dro mewn cae,

(b)ni chaiff safle dros dro mewn cae bod o fewn 30 metr i gwrs dŵr ar dir y nodir ar y map risg fod ei oleddf yn fwy na 12°, ac

(c)rhaid cadw arwyneb unrhyw safle dros dro mewn cae mor fach ag y bo’n rhesymol ymarferol, er mwyn lleihau effeithiau trwytholchi gan ddŵr glaw.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Rhl. 27 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Gwahanu slyriLL+C

28.  Rhaid i’r broses o wahanu slyri i’w ffracsiynau solet a hylifol gael ei chyflawni’n fecanyddol neu ar wyneb anhydraidd lle mae’r ffracsiwn hylifol yn draenio i mewn i gynhwysydd addas.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Rhl. 28 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Gofod ar gyfer storioLL+C

29.—(1Rhaid i feddiannydd daliad sy’n cadw unrhyw un o’r anifeiliaid a bennir yn Atodlen 1 ddarparu digon o ofod i storio’r holl slyri a gynhyrchir ar y daliad yn ystod y cyfnod storio, a’r holl dail dofednod a gynhyrchir mewn buarth neu adeilad ar y daliad yn ystod y cyfnod storio.

(2Rhaid cyfrifo cyfaint y tail a gynhyrchir gan yr anifeiliaid ar y daliad yn unol ag Atodlen 1.

(3Rhaid bod gan storfa slyri y gofod i storio, yn ychwanegol at y tail, unrhyw ddŵr glaw, golchion neu hylif arall sy’n dod i mewn i’r llestr (naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) yn ystod y cyfnod storio.

(4Nid yw cyfleusterau storio’n angenrheidiol ar gyfer slyri na thail dofednod—

(a)a anfonir oddi ar y daliad, neu

(b)a daenir ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel (ar yr amod bod hyn yn cael ei wneud yn unol â’r cyfyngiadau ar daenu yn y Rheoliadau hyn); ond yn yr achos hwn rhaid darparu cyfleusterau storio ar gyfer gwerth wythnos ychwanegol o dail fel mesur wrth gefn pe na bai’n bosibl taenu ar rai dyddiadau.

(5At ddibenion y rheoliad hwn y “cyfnod storio” (mae pob dyddiad yn gynwysedig) yw—

(a)y cyfnod rhwng 1 Hydref ac 1 Ebrill ar gyfer moch a dofednod;

(b)y cyfnod rhwng 1 Hydref ac 1 Mawrth ym mhob achos arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Rhl. 29 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Hysbysiad yn gwneud gwaith etc. yn ofynnolLL+C

30.—(1Caiff CANC, o dan amgylchiadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt, gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad rheoliad 30”) i berson sydd â silwair neu slyri dan ei ofal neu ei reolaeth, neu sydd yn gyfrifol am y seilo, neu’r system storio slyri, yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw wneud gwaith, neu gymryd rhagofalon neu gamau eraill, a bennir yn yr hysbysiad.

(2Rhaid i’r gwaith, y rhagofalon neu’r camau eraill fod, ym marn CANC, yn briodol, o ystyried gofynion y Rheoliadau hyn, er mwyn lleihau i’r eithaf unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd a reolir.

(3Rhaid i’r hysbysiad—

(a)pennu neu ddisgrifio’r gwaith y mae’n ofynnol i’r person ei wneud neu’r rhagofalon neu’r camau eraill y mae’n ofynnol iddo eu cymryd,

(b)datgan y cyfnod y mae rhaid cydymffurfio ag unrhyw ofyniad o’r fath o’i fewn, ac

(c)hysbysu’r person am effaith rheoliad 31.

(4Y cyfnod i gydymffurfio a ddatgenir yn yr hysbysiad yw—

(a)28 niwrnod, neu

(b)unrhyw gyfnod hwy sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau.

(5Rhaid i berson y cyflwynwyd iddo hysbysiad rheoliad 30 gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad hwnnw.

(6Caiff CANC ar unrhyw adeg (gan gynnwys adeg ar ôl i’r cyfnod i gydymffurfio ddod i ben)—

(a)tynnu’r hysbysiad yn ei ôl,

(b)estyn y cyfnod i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn yr hysbysiad, neu

(c)gyda chydsyniad y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, addasu gofynion yr hysbysiad.

(7Rhaid i CANC dynnu’r hysbysiad yn ei ôl, estyn y cyfnod i gydymffurfio, neu addasu gofynion yr hysbysiad os cyfarwyddir ef i wneud hynny gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 31(5).

Gwybodaeth Cychwyn

I30Rhl. 30 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Apelau yn erbyn hysbysiadau rheoliad 30LL+C

31.—(1Caiff person y cyflwynwyd iddo hysbysiad rheoliad 30, o fewn cyfnod o 28 niwrnod sy’n dechrau drannoeth y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo (neu unrhyw gyfnod hwy a ganiateir gan Weinidogion Cymru), apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn yr hysbysiad.

(2Rhaid i apêl o dan y rheoliad hwn gael ei gwneud drwy i’r apelydd gyflwyno hysbysiad i Weinidogion Cymru.

(3Rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad o sail yr apêl neu rhaid i ddatganiad o’r fath ddod gydag ef.

(4Cyn penderfynu ar apêl o dan y rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru, os gofyn yr apelydd neu CANC iddynt wneud hynny, roi cyfle i’r apelydd neu CANC ymddangos ger eu bron a chael gwrandawiad gan berson a benodwyd gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.

(5Wrth benderfynu ar apêl o dan y rheoliad hwn, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo CANC—

(a)i dynnu’r hysbysiad rheoliad 30 yn ei ôl,

(b)i addasu unrhyw un neu ragor o’i ofynion,

(c)i estyn y cyfnod i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad, neu

(d)i wrthod yr apêl.

(6Estynnir y cyfnod i gydymffurfio â hysbysiad rheoliad 30 y gwnaed apêl yn ei erbyn, yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd o dan baragraff (5), fel ei fod yn dod i ben ar y dyddiad pan fydd Gweinidogion Cymru’n penderfynu’n derfynol ar yr apêl neu, os tynnir yr apêl yn ei hôl, ar ddyddiad ei thynnu’n ôl.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Rhl. 31 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Hysbysiad o adeiladu etc.LL+C

32.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw seilo neu system storio slyri y mae ei adeiladu neu ei hadeiladu i ddechrau ar neu ar ôl 28 Ebrill 2021 (“storfa newydd neu storfa wedi ei gwella”).

(2Rhaid i berson sy’n bwriadu cael silwair neu slyri dan ei ofal neu ei reolaeth, a hwnnw i gael ei gadw mewn storfa newydd neu storfa wedi ei gwella, roi i CANC hysbysiad yn pennu’r math o seilo neu system storio a’i leoliad neu ei lleoliad, o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn y mae gwaith adeiladu’r storfa newydd neu storfa wedi ei gwella, i ddechrau.

(3Yn y rheoliad hwn, mae “adeiladu” yn cynnwys ehangu’n sylweddol ac ailadeiladu’n sylweddol.

Gwybodaeth Cychwyn

I32Rhl. 32 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

RHAN 7LL+CCyfrifiadau a chofnodion

Cofnodi maint y daliadLL+C

33.—(1Rhaid i feddiannydd daliad gynnal cofnod o faint cyfan y daliad wedi ei gyfrifo’n unol â rheoliad 4(3).

(2Os bydd maint y daliad yn newid, rhaid diweddaru’r cofnod hwn o fewn un mis.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Rhl. 33 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cofnodion ynglŷn â storio tail yn ystod y cyfnod storioLL+C

34.—(1Rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gynnal cofnod o’r canlynol—

(a)maint y tail y bydd y nifer disgwyliedig o anifeiliaid yn ei gynhyrchu, a gedwir mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio y cyfeiriwyd ato yn rheoliad 29, gan ddefnyddio’r ffigurau yn Atodlen 1;

(b)maint y gofod storio (llestri slyri a lloriau caled) y mae ei angen i’w gwneud yn bosibl cydymffurfio â rheoliad 29, gan gymryd i ystyriaeth—

(i)maint y tail y bwriedir ei allforio o’r daliad,

(ii)maint y tail y bwriedir ei daenu ar dir y mae’r risg o oferu drosto yn isel, a

(iii)yn achos llestr i ddal slyri, maint yr hylif ac eithrio slyri sy’n debygol o fynd i mewn i’r llestr;

(c)maint cyfredol y gofod storio ar y daliad.

(2Rhaid i feddiannydd sy’n dod ag anifeiliaid i ddaliad am y tro cyntaf gydymffurfio â pharagraff (1) o fewn mis ar ôl dod â’r anifeiliaid yno.

(3Os yw maint y gofod storio yn newid, rhaid i’r meddiannydd gofnodi’r newid o fewn wythnos.

Gwybodaeth Cychwyn

I34Rhl. 34 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cofnodion blynyddol ynglŷn â storioLL+C

35.—(1Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd daliad sydd â da byw gofnodi, am y cyfnod storio blaenorol y cyfeirir ato yn rheoliad 29, nifer a chategori’r anifeiliaid mewn adeilad neu ar lawr caled yn ystod y cyfnod storio.

(2Rhaid i’r meddiannydd gofnodi hefyd y safleoedd a ddefnyddiwyd ar gyfer tomenni mewn caeau a dyddiadau eu defnyddio.

Gwybodaeth Cychwyn

I35Rhl. 35 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cofnod o’r nitrogen a gynhyrchwyd gan anifeiliaid ar y daliadLL+C

36.—(1Cyn [F8y dyddiad perthnasol] bob blwyddyn rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o’r canlynol—

(a)nifer a chategori (yn unol â’r categorïau yn Atodlen 1) yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y [F9cyfnod o 12 mis blaenorol] , a

(b)nifer y diwrnodau a dreuliodd pob anifail ar y daliad.

(2Rhaid i’r meddiannydd gyfrifo wedyn faint y nitrogen sydd yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y flwyddyn honno gan ddefnyddio’r Tabl yn Atodlen 1.

(3Fel arall, yn achos moch neu ddofednod a letyir yn barhaol, caiff y meddiannydd ddefnyddio—

(a)meddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru, neu

(b)yn achos system cadw da byw sy’n cynhyrchu tail solet yn unig, dulliau samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3.

(4Rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o’r cyfrifiadau a’r modd y cyrhaeddwyd at y ffigurau terfynol.

(5Rhaid i feddiannydd a ddefnyddiodd feddalwedd a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru gadw allbrint o’r canlyniad.

[F10(6) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “cyfnod o 12 mis blaenorol” (“previous 12 month period”) yw—

(a)

ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr ac sy’n gorffen ar 31 Rhagfyr cyn y dyddiad perthnasol;

(b)

ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN—

(i)

y cyfnod o 12 mis cyntaf at y dibenion hyn yw [F1131 Hydref 2023 i 30 Hydref 2024], a

(ii)

wedi hynny, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar [F1231 Hydref ac sy’n gorffen ar 30 Hydref] cyn y dyddiad perthnasol;

ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw—

(a)

ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, 30 Ebrill;

(b)

ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, [F13rhodder “28 Chwefror 2025 ac ar gyfer pob blwyddyn ddilynol 28 Chwefror].]

Tail da byw a ddygwyd i’r daliad neu a anfonwyd ohonoLL+C

37.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i feddiannydd sy’n dod â thail da byw i’r daliad gofnodi, o fewn un wythnos—

(a)math a maint y tail da byw,

(b)y dyddiad y daethpwyd â’r tail da byw i’r daliad,

(c)maint y nitrogen sydd ynddo, a

(d)os yw’n hysbys, enw a chyfeiriad y cyflenwr.

(2Rhaid i feddiannydd sy’n anfon tail da byw o ddaliad gofnodi o fewn un wythnos—

(a)math a maint y tail da byw,

(b)y dyddiad y’i hanfonwyd o’r daliad,

(c)maint y nitrogen sydd ynddo,

(d)enw a chyfeiriad y derbynnydd, ac

(e)manylion cynllun wrth gefn sydd i’w ddefnyddio pe bai cytundeb i berson dderbyn y tail da byw yn methu.

(3Os nad yw maint y nitrogen sydd yn y tail da byw a ddygir i’r daliad yn hysbys, rhaid i’r meddiannydd ganfod y maint hwnnw cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol wedi i’r tail gyrraedd, a’i gofnodi o fewn un wythnos o’i ganfod.

(4Rhaid canfod maint cyfan y nitrogen sydd yn y tail da byw drwy ddefnyddio naill ai’r ffigurau safonol yn Rhan 1 o Atodlen 3 neu drwy samplu a dadansoddi yn y modd a nodir yn Rhan 2 o’r Atodlen honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I37Rhl. 37 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Samplu a dadansoddiLL+C

38.  Rhaid i unrhyw berson sy’n defnyddio samplu a dadansoddi i ganfod maint y nitrogen mewn tail organig gadw’r adroddiad gwreiddiol gan y labordy.

Gwybodaeth Cychwyn

I38Rhl. 38 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cofnodion o’r cnydau a heuwydLL+C

39.  Rhaid i feddiannydd sy’n bwriadu taenu gwrtaith nitrogen gofnodi, o fewn wythnos i hau cnwd—

(a)y cnwd a heuir, a

(b)dyddiad ei hau.

Gwybodaeth Cychwyn

I39Rhl. 39 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cofnodion o daenu gwrtaith nitrogenLL+C

40.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), o fewn un wythnos i daenu tail organig rhaid i’r meddiannydd gofnodi—

(a)y rhan y taenwyd y tail organig arni;

(b)faint o dail organig a daenwyd;

(c)y dyddiad neu’r dyddiadau;

(d)y dulliau o’i daenu;

(e)y math o dail organig;

(f)cyfanswm y nitrogen sydd ynddo;

(g)maint y nitrogen oedd ar gael i’r cnwd.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), o fewn un wythnos i daenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd rhaid i’r meddiannydd gofnodi—

(a)dyddiad ei daenu, a

(b)maint y nitrogen a daenwyd.

(3Nid yw paragraffau (1) a (2) yn gymwys i feddiannydd daliad mewn unrhyw flwyddyn galendr pan fo 80 % o arwynebedd amaethyddol y daliad wedi ei hau â phorfa, ac—

(a)nad yw cyfanswm y nitrogen mewn tail organig a ddodir ar y daliad, boed yn uniongyrchol gan anifeiliaid neu o ganlyniad i daenu, yn fwy na 100 kg yr hectar,

(b)nad yw cyfanswm y nitrogen mewn gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddodir ar y daliad yn fwy na 90 kg yr hectar, ac

(c)nad yw’r meddiannydd yn dod ag unrhyw dail organig i’r daliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I40Rhl. 40 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cofnodion dilynolLL+C

41.—(1Rhaid i feddiannydd sydd wedi defnyddio gwrtaith nitrogen gofnodi’r cynnyrch a gafwyd o gnwd âr o fewn wythnos i ganfod y cynnyrch hwnnw.

(2Cyn 30 Ebrill bob blwyddyn rhaid i feddiannydd gofnodi sut y cafodd unrhyw laswelltir ei reoli yn y flwyddyn galendr flaenorol.

Gwybodaeth Cychwyn

I41Rhl. 41 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cadw cyngorLL+C

42.  Rhaid i feddiannydd gadw copi o unrhyw gyngor gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau, ac y dibynnwyd arno at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau hyn, am bum mlynedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I42Rhl. 42 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Dal gafael ar gofnodionLL+C

43.  Rhaid i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo wneud cofnod o dan y Rheoliadau hyn gadw’r cofnod hwnnw am bum mlynedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Rhl. 43 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

RHAN 8LL+CMonitro ac adolygu

Monitro ac adolyguLL+C

44.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru sefydlu rhaglen fonitro i asesu effeithiolrwydd y mesurau a osodir gan y Rheoliadau hyn fel modd i leihau neu atal llygredd dŵr o ffynonellau amaethyddol.

(2O leiaf bob pedair blynedd, rhaid i Weinidogion Cymru adolygu effeithiolrwydd y mesurau a osodir gan y Rheoliadau hyn fel modd i leihau neu atal llygredd dŵr o ffynonellau amaethyddol ac, os yw’n angenrheidiol, eu diwygio.

(3Wrth gynnal adolygiad o dan baragraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—

(a)y data gwyddonol a thechnegol sydd ar gael, gan gyfeirio’n benodol at y priod gyfraniadau nitrogen sy’n dod o ffynonellau amaethyddol a ffynonellau eraill, a

(b)amodau amgylcheddol rhanbarthol.

Gwybodaeth Cychwyn

I44Rhl. 44 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Mesurau amgenLL+C

45.—(1Os ceir cynigion ar gyfer cyfres amgen o fesurau i sicrhau’r canlyniadau yn rheoliad 44(1) o fewn 18 mis i ddyfodiad i rym y Rheoliadau hyn, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried a fyddai’r mesurau hynny’n sicrhau’r canlyniadau yn fwy effeithiol na’r mesurau a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn.

(2Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y byddai cynigion a gyflwynwyd o dan baragraff (1) yn fwy effeithiol i sicrhau’r canlyniadau yn rheoliad 44(1), rhaid iddynt gyhoeddi datganiad o fewn dwy flynedd i ddyfodiad i rym y Rheoliadau hyn, gan esbonio pa gamau a gymerir.

Gwybodaeth Cychwyn

I45Rhl. 45 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

RHAN 9LL+CGorfodi

Troseddau a chosbauLL+C

46.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae unrhyw berson sy’n torri unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn euog o drosedd ac yn agored o’i euogfarnu’n ddiannod, neu o’i euogfarnu ar dditiad, i ddirwy.

(2Mae person sy’n torri rheoliad 32 yn euog o drosedd a bydd yn agored o’i euogfarnu’n ddiannod i ddirwy nad yw’n fwy na lefel 2 ar y raddfa safonol.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fo corff corfforedig yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y drosedd honno wedi ei chyflawni drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu berson arall tebyg yn y corff corfforedig, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swyddogaeth o’r fath,

bydd y person hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforedig, yn euog o’r drosedd a bydd yn agored i’w erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.

(4Nid yw paragraff (3) yn gymwys i unrhyw doriadau o dan reoliadau 24(1), 24(4), 25(1), 30(5) neu 32.

(5At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforedig y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I46Rhl. 46 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

GorfodiLL+C

47.  Gorfodir y Rheoliadau hyn gan CANC.

Gwybodaeth Cychwyn

I47Rhl. 47 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

RHAN 10LL+CAmrywiol

DirymuLL+C

48.—(1Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd) (Silwair a Slyri) (Cymru) 2010(11) wedi eu dirymu fel a ganlyn—

(a)mewn perthynas â daliad neu ran o ddaliad a oedd wedi ei leoli neu wedi ei lleoli mewn parth perygl nitradau fel a ddangosir ar y map perthnasol o’r enw “Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2013”(12), ar 1 Ebrill 2021;

(b)mewn perthynas â phob daliad arall—

(i)rheoliadau 3 a 9 ar 1 Ebrill 2021;

(ii)pob darpariaeth sy’n weddill ar 1 Awst 2024.

(2Mae’r canlynol wedi eu dirymu—

(a)Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) 2013;

(b)Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2015(13);

(c)Rheoliadau Atal Llygredd Nitradau (Cymru) (Diwygio) 2019(14).

Gwybodaeth Cychwyn

I48Rhl. 48 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Diwygiadau canlyniadolLL+C

49.—(1Yn Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016(15), yn Atodlen 2, ym mharagraff 17(b), yn lle “the Nitrate Pollution Prevention (Wales) Regulations 2013” rhodder “the Water Resources (Control of Agricultural Pollution) (Wales) Regulations 2021”.

(2Yn Rheoliadau’r Amgylchedd Dŵr (Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr) (Cymru a Lloegr) 2017(16), yn Rhan 2 o Atodlen 2—

(a)yn lle paragraff 21 rhodder—

21.  The Water Resources (Control of Agricultural Pollution) (Wales) Regulations 2021.;

(b)yn lle paragraff 24 rhodder—

24.  The Water Resources (Control of Agricultural Pollution) (Wales) Regulations 2021.

(3Yn Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau (Cymru a Lloegr) 2017(17), yn rheoliad 104, hepgorer paragraff (1)(b) a’r “neu” o’i flaen.

Gwybodaeth Cychwyn

I49Rhl. 49 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Lesley Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

21 Ionawr 2021

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill