Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (Atodlenni yn unig)

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 31/12/2023

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 29/04/2023.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Rheoliadau 3, 4, 29, 34 a 36

ATODLEN 1LL+CMeintiau o dail, nitrogen a ffosffad a gynhyrchir gan dda byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Tabl 1

Da byw sy’n pori

CategoriTail a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (litrau)Nitrogen a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau)Ffosffad a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau)
(a)

Anifail gwryw wedi ei ysbaddu.

(b)

Yn achos mamog, mae’r ffigur hwn yn cynnwys un neu ragor o’i hŵyn sugno tan fod yr ŵyn yn chwe mis oed.

Gwartheg
Lloi (pob categori ac eithrio lloi cig llo) hyd at 3 mis:72312.7
Buchod godro—
O 3 mis ymlaen ac o dan 13 mis:209534
O 13 mis ymlaen tan y llo cyntaf:40167 [F169]
Ar ôl y llo cyntaf â’r—
cynnyrch llaeth blynyddol yn fwy na 9000 litr:64315142
cynnyrch llaeth blynyddol rhwng 6000 a 9000 litr:53276121
cynnyrch llaeth blynyddol yn llai na 6000 litr:4221193
Buchod neu fustych eidion(a)
O 3 mis ymlaen ac o dan 13 mis:209133
O 13 mis ymlaen ac o dan 25 mis:2613743
O 25 mis ymlaen—
gwartheg benyw neu fustych i’w cigydda:3113760
gwartheg benyw ar gyfer bridio—
sy’n pwyso 500 kg neu lai:3216765
sy’n pwyso mwy na 500 kg:4522786
Teirw
nad ydynt ar gyfer bridio, ac sy’n 3 mis a throsodd:2614824
Bridio—
o 3 mis ymlaen ac o dan 25 mis:2613743
o 25 mis ymlaen:2613260
Defaid
O 6 mis ymlaen hyd at 9 mis oed:1.85.50.76
O 9 mis hyd at wyna am y tro cyntaf, hwrdda am y tro cyntaf, neu gigydda:1.83.92.1
Ar ôl wyna neu hwrdda(b)
yn pwyso llai na 60 kg:3.3218.8
yn pwyso o 60 kg i fyny:5 [F233]10.0
Geifr, ceirw a cheffylau
Geifr:3.54118.8
Ceirw—
bridio:54217.6
eraill:3.53311.7
Ceffylau:245856

Tabl 2

Da byw nad ydynt yn pori

CategoriTail a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (litrau)Nitrogen a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau)Ffosffad a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau)
(a)

Sylwer: mae pob ffigur ar gyfer dofednod yn cynnwys sarn.

Gwartheg
Lloi cig llo:72312.7
Dofednod(a)
Ieir a ddefnyddir i gynhyrchu wyau ar gyfer eu bwyta gan bobl—
o dan 17 wythnos:0.040.640.47
o 17 wythnos ymlaen (mewn caets):0.121.131.0
o 17 wythnos ymlaen (nid mewn caets):0.121.51.1
Ieir a fegir ar gyfer cig:0.061.060.72
Ieir a fegir ar gyfer bridio—
o dan 25 wythnos:0.040.860.78
o 25 wythnos ymlaen:0.122.021.5
Tyrcwn—
gwryw:0.163.743.1
benyw:0.122.832.3
Hwyaid:0.102.482.4
Estrysiaid:1.63.8318.5
Moch
Yn pwyso o 7 kg i fyny ac yn llai na 13 kg:1.34.11.3
Yn pwyso o 13 kg i fyny ac yn llai na 31 kg:214.26.0
Yn pwyso o 31 kg i fyny ac yn llai na 66 kg—
porthir â bwyd sych:3.72412.1
porthir â hylifau:7.12412.1
Yn pwyso o 66 kg i fyny ac—
A fwriedir i’w cigydda—
porthir â bwyd sych:5.13317.9
porthir â hylifau:103317.9
hychod a fwriedir ar gyfer bridio ond nad ydynt eto wedi cael eu torllwyth cyntaf:5.63820
hychod (gan gynnwys eu torllwythi yn pwyso hyd at 7 kg pob porchell) a borthwyd ar ddeiet gydag ychwanegi-adau o asidau amino synthetig:10.94437
hychod (gan gynnwys eu torllwythi yn pwyso hyd at 7 kg pob porchell) a borthwyd ar ddeiet heb ychwanegi-adau o asidau amino synthetig:10.94937
baeddod bridio o 66 kg hyd at 150 kg:5.13317.9
baeddod bridio o 150 kg8.74828

Rheoliad 5

ATODLEN 2LL+CRhywogaethau o ffrwythau

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Enw BotanegolEnw Cyffredin
Cydonia oblongaCwins
Malus domesticaAfalau
Mespilus germanicaAfalau tindwll
Morus spp.Mwyar Mair
Prunus armenaicaBricyll
Prunus aviumCeirios melys
Prunus cerasusCeirios duon (coginio)
Prunus ceraciferaEirin myrobalan
Prunus domesticaEirin
Prunus domestica subsp. insititiaEirin hirion
Prunus persicaEirin gwlanog
Prunus persica var. nectarinaNectarinau
Prunus x gondouiniiCeirios y Dug
Prunus spinosaEirin duon bach
Pyrus communisGellyg
Pyrus pyrifoliaGellyg Asia

Rheoliadau 9, 36 a 37

ATODLEN 3LL+CCyfrifo’r nitrogen sydd mewn tail organig

RHAN 1LL+CY Tabl Safonol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 3 Rhn. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Cyfanswm y nitrogen mewn tail da byw

Tail ac eithrio slyriCyfanswm y nitrogen ym mhob tunnell (kg)
Tail ac eithrio slyri o’r anifeiliaid a ganlyn—
gwartheg:6
moch:7
defaid:7
hwyaid:6.5
ceffylau:7
geifr:6
Tail o ieir dodwy:19
Tail o dyrcwn neu ieir brwylio: [F330]
SlyriCyfanswm y nitrogen ym mhob metr ciwbig (kg)
gwartheg:2.6
moch:3.6
Slyri gwartheg a wahanwyd (ffracsiwn hylifol)—
blwch hidlo:1.5
wal hidlo:2
hidl fecanyddol:3
Slyri gwartheg a wahanwyd (ffracsiwn solet):4
Slyri moch a wahanwyd (ffracsiwn hylifol):3.6
Slyri moch a wahanwyd (ffracsiwn solet):5
Dŵr budr:0.5

RHAN 2LL+CSamplu a dadansoddi tail organig

Slyri a thail organig hylifol a lled-hylifol arallLL+C

1.—(1O ran slyri a thail organig hylifol a lled-hylifol arall, rhaid cymryd o leiaf bum sampl, pob un ohonynt yn 2 litr.

(2Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid cymryd y pum sampl allan o lestr, ac—

(a)os yw’n rhesymol ymarferol, rhaid cymysgu’r slyri’n drwyadl cyn cymryd y samplau, a

(b)rhaid cymryd pob sampl o le gwahanol.

(3Os defnyddir tancer sydd â falf addas arno ar gyfer taenu, caniateir i’r samplau gael eu cymryd wrth daenu, a rhaid cymryd pob sampl fesul ysbaid yn ystod y taenu.

(4Pa un a gymerwyd y samplau fel y disgrifir yn is-baragraff (2) neu (3), rhaid arllwys y pum sampl i mewn i gynhwysydd mwy, eu troi’n drwyadl, a rhaid cymryd sampl 2 litr allan o’r cynhwysydd hwnnw ac arllwys y sampl honno i gynhwysydd glân, llai o faint.

(5Yna, rhaid anfon y sampl 2 litr a baratowyd yn unol ag is-baragraff (4) i’w dadansoddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Tail soletLL+C

2.—(1O ran tail solet, rhaid cymryd y samplau allan o domen dail.

(2Rhaid cymryd o leiaf ddeg sampl 1 kg yr un, a phob un ohonynt o fan gwahanol mewn tomen.

(3Rhaid cymryd pob un o’r is-samplau 0.5 metr, o leiaf, o wyneb y domen.

(4Os cesglir y samplau i gyfrifo i ba raddau y cydymffurfiwyd â’r terfyn fferm gyfan ar gyfer moch a dofednod, rhaid cymryd pedair sampl i’w dadansoddi mewn blwyddyn galendr (gan gymryd un ym mhob chwarter) o domenni tail nad ydynt yn hŷn na 12 mis oed.

(5Rhaid gosod yr is-samplau ar hambwrdd neu ddalen sy’n lân a sych.

(6Rhaid i unrhyw dalpiau gael eu torri’n ddarnau mân, a rhaid cymysgu’r is-samplau yn drwyadl gyda’i gilydd.

(7Yna, rhaid i sampl gynrychiadol, sy’n pwyso 2 kg o leiaf, gael ei hanfon i’w dadansoddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Rheoliadau 20 a 22

ATODLEN 4LL+CY cnydau a ganiateir am y cyfnod gwaharddedig

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Y cnwdY gyfradd uchaf o nitrogen (kg/hectar)
(a)

Ni chaniateir taenu nitrogen ar gnydau ar ôl 31 Hydref.

(b)

Caniateir taenu 50 kg ychwanegol o nitrogen yr hectar bob pedair wythnos yn ystod y cyfnod gwaharddedig hyd at ddiwedd y cynhaeaf.

(c)

Caniateir taenu uchafswm o 40 kg o nitrogen yr hectar ar unrhyw un adeg.

Rêp had olew, gaeaf(a)30
Merllys50
Bresych(b)100
Porfa(a) (c)80
Sgaliwns wedi eu gaeafu40
Perllys40
Bylbiau winwns40

Rheoliad 24

ATODLEN 5LL+CY gofynion ar gyfer seilos

1.  Y gofyniad sydd i’w fodloni mewn perthynas â seilo yw ei fod yn cydymffurfio â’r darpariaethau a ganlyn yn yr Atodlen hon.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

2.  Rhaid i sylfaen y seilo—LL+C

(a)ymestyn y tu hwnt i unrhyw furiau sydd i’r seilo,

(b)cael o’i hamgylch sianelau sydd wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel eu bod yn casglu unrhyw elifiant silwair sy’n dianc o’r seilo, ac

(c)bod â darpariaeth ddigonol ar gyfer draenio’r elifiant hwnnw o’r sianelau hynny i danc elifiant drwy sianel neu bibell.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

3.  Ni chaiff tanc elifiant dal llai nag—LL+C

(a)yn achos seilo sy’n dal llai na 1,500 o fetrau ciwbig, 20 litr ar gyfer pob metr ciwbig o’r hyn y mae’r seilo yn ei ddal, a

(b)yn achos seilo sy’n dal 1,500 o fetrau ciwbig neu fwy, 30 o fetrau ciwbig ac yn ychwanegol 6.7 litr ar gyfer pob metr ciwbig o’r hyn y mae’r seilo yn ei ddal uwchlaw 1,500 o fetrau ciwbig.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

4.—(1Rhaid i sylfaen y seilo—LL+C

(a)bod wedi ei dylunio yn unol â’r cod ymarfer ar gyfer dylunio strwythurau concrit i gadw hylifau dyfrllyd a gyhoeddir gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 8007: 1987(1), neu

(b)bod wedi ei hadeiladu gan ddefnyddio asffalt wedi ei rolio’n boeth yn unol â’r cod ymarfer ar gyfer dewis a defnyddio deunyddiau adeiladu a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 21: 1990(2).

(2Rhaid i sylfaen y seilo, sylfaen a muriau ei danc elifiant a sianelau a muriau unrhyw bibellau fod yn anhydraidd.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

5.  Rhaid i sylfaen a muriau’r seilo, ei danc elifiant a’i sianelau a muriau unrhyw bibellau, i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol, allu gwrthsefyll ymosodiad gan elifiant silwair.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

6.  Ni chaniateir lleoli unrhyw ran o’r seilo, ei danc elifiant na’i sianelau nac unrhyw bibellau o fewn 10 metr i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol na dyfroedd arfordirol y gallai elifiant silwair fynd i mewn iddynt pe bai’n dianc.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

7.  Os oes gan y seilo furiau cynnal—LL+C

(a)rhaid i’r muriau cynnal allu gwrthsefyll lleiafswm o lwythi mur sydd wedi eu cyfrifo ar y rhagdybiaethau ac yn y dull a ddangosir gan baragraff 15.6 o’r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 22: 2003(3),

(b)ni chaniateir i’r seilo bod wedi ei lwytho ar unrhyw adeg i ddyfnder sydd uwchlaw’r dyfnder eithaf sy’n gyson â’r rhagdybiaeth ddyluniol a wnaed o ran llwythi y muriau cynnal, ac

(c)rhaid arddangos hysbysiadau ar y muriau cynnal yn unol â pharagraff 18 o’r cod ymarfer hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

8.  Yn ddarostyngedig i baragraff 9, rhaid i’r seilo, ei danc elifiant a’i sianelau ac unrhyw bibellau fod wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel y’u bod yn debygol, gyda’r gwaith cynnal a chadw priodol, o barhau i fodloni gofynion paragraffau 2 i 5 ac, os yw’n gymwys, paragraff 7(a) am o leiaf 20 mlynedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

9.  Os oes unrhyw ran o danc elifiant islaw wyneb y tir, rhaid i’r tanc fod wedi ei ddylunio a’i adeiladu fel ei fod yn debygol o barhau i fodloni gofynion paragraffau 4 a 5 am o leiaf 20 mlynedd heb waith cynnal a chadw.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

Rheoliad 25

ATODLEN 6LL+CY gofynion ar gyfer systemau storio slyri

1.  Mae’r gofynion sydd i’w bodloni mewn perthynas â system storio slyri fel a ganlyn.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

2.  Rhaid i sylfaen y tanc storio slyri, sylfaen a muriau unrhyw danc elifiant, sianelau a phydew derbyn, a muriau unrhyw bibellau fod yn anhydraidd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

3.  Rhaid i sylfaen a muriau’r tanc storio slyri, unrhyw danc elifiant, sianelau a phydew derbyn, a muriau unrhyw bibellau fod wedi eu diogelu rhag cyrydiad yn unol â pharagraff 7 o’r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 50: 1993(4).LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

4.  Rhaid i sylfaen a muriau’r tanc storio slyri ac unrhyw bydew derbyn allu gwrthsefyll llwythi nodweddiadol sydd wedi eu cyfrifo ar y rhagdybiaethau ac yn y dull a ddangosir gan baragraff 5 o’r cod ymarfer ar adeiladau a strwythurau ar gyfer amaethyddiaeth a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig dan rif BS 5502: Rhan 50: 1993.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

5.—(1Rhaid bod gan unrhyw gyfleusterau a ddefnyddir i storio slyri dros dro cyn iddo gael ei drosglwyddo i danc storio slyri ddigon o le i storio—LL+C

(a)yr uchafswm o slyri (gan ddiystyru unrhyw slyri a fydd yn cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i danc storio slyri) sy’n debygol o gael ei gynhyrchu yn y fangre mewn unrhyw gyfnod o ddau ddiwrnod, neu

(b)swm llai y mae CANC wedi cytuno’n ysgrifenedig ei fod yn ddigonol i osgoi unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd a reolir.

(2Pan fo slyri yn llifo i mewn i sianel cyn cael ei ollwng i bydew derbyn a bod llif y slyri allan o’r sianel yn cael ei reoli gan lifddor, rhaid i’r hyn y gall y pydew derbyn ei ddal fod yn ddigonol i ddal yr uchafswm o slyri y gellir ei ollwng drwy agor y llifddor.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

6.  Yn achos tanciau storio slyri sydd â muriau wedi eu gwneud o bridd, rhaid i’r tanc fod ag o leiaf 750 mm o fwrdd rhydd, a 300 mm o fwrdd rhydd ym mhob achos arall.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

7.  Ni chaniateir lleoli unrhyw ran o’r tanc storio slyri, nac unrhyw danc elifiant na sianelau na phydew derbyn o fewn 10 metr i unrhyw ddyfroedd croyw mewndirol na dyfroedd arfordirol y gallai slyri fynd i mewn iddynt pe bai’n dianc oni chymerir rhagofalon y mae CANC wedi cytuno’n ysgrifenedig eu bod yn ddigonol i osgoi unrhyw risg sylweddol o lygru dyfroedd a reolir.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

8.  Rhaid i’r tanc storio slyri ac unrhyw danc elifiant, sianelau, pibellau a phydew derbyn fod wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel y’u bod yn debygol, gyda’r gwaith cynnal a chadw priodol, o barhau i fodloni gofynion paragraffau 2 i 4 am o leiaf 20 mlynedd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

9.  Os nad yw muriau’r tanc storio slyri yn anhydraidd, rhaid i sylfaen y tanc—LL+C

(a)ymestyn y tu hwnt i’r muriau;

(b)cael o’i hamgylch sianelau sydd wedi eu dylunio a’u hadeiladu fel eu bod yn casglu unrhyw slyri sy’n dianc o’r tanc;

(c)bod â darpariaeth ddigonol ar gyfer draenio’r slyri o’r sianelau hynny i danc elifiant drwy sianel neu bibell.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

10.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), os oes pibell ddraenio wedi ei gosod yn y tanc storio slyri neu yn unrhyw danc elifiant neu bydew derbyn, rhaid bod dwy falf mewn cyfres ar y bibell a bod pellter o 1 metr o leiaf rhwng un falf a’r llall.LL+C

(2Rhaid i bob falf allu cau llif y slyri drwy’r bibell a rhaid eu cadw wedi eu cau ac wedi eu cloi yn y safle hwnnw pan nad ydynt yn cael eu defnyddio.

(3Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â thanc storio slyri sy’n draenio drwy’r bibell i danc storio slyri arall os yw’r tanc arall yn dal yr un faint neu fwy neu os yw topiau’r tanciau ar yr un lefel â’i gilydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)

(1)

Dyddiad cyhoeddi: 30 Hydref 1987. ISBN 0-580-16134-X.

(2)

Dyddiad cyhoeddi: 31 Rhagfyr 1990. ISBN 0-580-18348-3.

(3)

Dyddiad cyhoeddi: 10 Mehefin 2003. ISBN 0-580-38654-6.

(4)

Dyddiad cyhoeddi: 15 Ebrill 1993. ISBN 0-580-22053-2.

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill