- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
6 Ionawr 2021
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
7 Ionawr 2021
Yn dod i rym
28 Ionawr 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983(1) ac adrannau 22(2)(a) a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(2) sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy(3), a phwerau a roddir iddynt o dan adrannau 5(5)(b) a 55(2) o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015(4) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd Myfyrwyr, Dyfarndaliadau a Chymorth) (Preswylfa Arferol) (Cymru) 2021.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Ionawr 2021.
2. Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007(5) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.
3. Yn yr Atodlen, ym mharagraff 4A (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd)—
(a)yn lle is-baragraff (1) rhodder—
“(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (2)(a)(ii) mewnosoder “a”;
(c)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;
(d)hepgorer is-baragraff (2)(c);
(e)ar ddiwedd is-baragraff (3)(b) mewnosoder “ac”;
(f)ar ddiwedd is-baragraff (3)(c) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;
(g)hepgorer is-baragraff (3)(ch).
4. Yn yr Atodlen, ym mharagraff 5A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67)—
(a)ar ddiwedd is-baragraff (1)(a) mewnosoder “a”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (1)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;
(c)hepgorer is-baragraff (1)(c);
(d)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) mewnosoder “ac”;
(e)ar ddiwedd is-baragraff (2)(c) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;
(f)hepgorer is-baragraff (2)(ch).
5. Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014(6) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 6 i 11.
6. Yn rheoliad 3, yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”, ym mharagraff (a)(i), yn lle “diogelwch dyngarol neu ganiatâd” rhodder “caniatâd”.
7. Ar ôl rheoliad 6(9A) mewnosoder—
“(9B) Pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, neu’n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
(b)y cyfnod y caniateir i’r person, y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002(7),
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.”
8. Yn rheoliad 6(11), ar ôl “(9A),” mewnosoder “(9B),”.
9. Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid) mewnosoder—
4ZA.—(1) Person—
(a)y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person; ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir; ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)(i)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir; a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros; ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person gais am ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig sy’n arwain at berson yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” yw person sydd â chaniatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo.”
10. Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4A (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd)—
(a)yn lle is-baragraff (1) rhodder—
“(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (2)(a)(ii) mewnosoder “a”;
(c)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;
(d)hepgorer is-baragraff (2)(c);
(e)ar ddiwedd is-baragraff (3)(b) mewnosoder “ac”;
(f)ar ddiwedd is-baragraff (3)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;
(g)hepgorer is-baragraff (3)(d).
11. Yn Atodlen 1, ym mharagraff 5A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67)—
(a)ar ddiwedd is-baragraff (1)(a) mewnosoder “a”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (1)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;
(c)hepgorer is-baragraff (1)(c);
(d)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) mewnosoder “ac”;
(e)ar ddiwedd is-baragraff (2)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;
(f)hepgorer is-baragraff (2)(d).
12. Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015(8) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 13 a 14.
13. Yn yr Atodlen, ym mharagraff 4A (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teulu)—
(a)yn lle is-baragraff (1) rhodder—
“(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (2)(a)(ii) mewnosoder “a”;
(c)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;
(d)hepgorer is-baragraff (2)(c);
(e)ar ddiwedd is-baragraff (3)(b) mewnosoder “ac”;
(f)ar ddiwedd is-baragraff (3)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;
(g)hepgorer is-baragraff (3)(d).
14. Yn yr Atodlen, ym mharagraff 5A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67)—
(a)ar ddiwedd is-baragraff (1)(a) mewnosoder “a”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (1)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;
(c)hepgorer is-baragraff (1)(c);
(d)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) mewnosoder “ac”;
(e)ar ddiwedd is-baragraff (2)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;
(f)hepgorer is-baragraff (2)(d).
15. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017(9) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 16 i 34.
16. Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”, ym mharagraff (a)(i), yn lle “diogelwch dyngarol neu ganiatâd” rhodder “caniatâd”.
17. Ar ôl rheoliad 4(9A) mewnosoder—
“(9B) Os bydd—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, neu yn rhinwedd bod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson—
(i)yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs presennol, mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs y mae’r cwrs presennol yn gwrs penben mewn perthynas ag ef, neu’n gais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr dysgu o bell cymwys neu fyfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs presennol; neu
(ii)yn fyfyriwr cymhwysol mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynt o’r cwrs cymhwysol neu o gwrs cymhwysol arall y mae statws A fel myfyriwr cymhwysol wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs cymhwysol y mae’r myfyriwr yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas ag ef; a
(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i’r person, y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo, aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002,
bydd statws A fel myfyriwr cymwys neu fyfyriwr cymhwysol yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.”
18. Yn rheoliad 4(11), ar ôl “(9A),” mewnosoder “(9B),”.
19. Yn lle rheoliad 15(b) rhodder—
“(b)bod y myfyriwr, neu briod neu bartner sifil y myfyriwr, neu riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros, neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;”.
20. Yn lle rheoliad 23(12)(b) rhodder—

21. Yn lle rheoliad 49(2)(b) rhodder—

22. Ar ôl rheoliad 64(10A) mewnosoder—
“(10B) Pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr dysgu o bell cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs dysgu o bell presennol, neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn perthynas â chwrs dynodedig, cwrs rhan-amser dynodedig, neu gwrs dysgu o bell dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr cymwys, myfyriwr rhan-amser cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs dysgu o bell presennol; a
(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i’r person, y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002,
bydd statws A fel myfyriwr dysgu o bell cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.”
23. Yn rheoliad 64(12), ar ôl “(10A),” mewnosoder “(10B),”.
24. Yn lle rheoliad 65(4)(b) rhodder—
“(b)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod fel ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;”.
25. Ar ôl rheoliad 81(9A) mewnosoder—
“(9B) Os bydd—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo neu fod yn briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs rhan-amser presennol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig, cwrs dysgu o bell dynodedig neu gwrs rhan-amser dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys, myfyriwr cymwys neu fyfyriwr dysgu o bell cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs rhan-amser presennol; a
(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i’r person, y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo, aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002,
bydd statws A fel myfyriwr rhan-amser cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.”
26. Yn rheoliad 81(11), ar ôl “(9A),” mewnosoder “(9B),”.
27. Yn lle rheoliad 82(4)(b) rhodder—
“(b)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod fel ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;”.
28. Ar ôl rheoliad 110(11A) mewnosoder—
“(11B) Os bydd—
(a)Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd bod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, neu fod yn briod, partner sifil, plentyn neu’n llysblentyn i’r cyfryw berson, yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn gynharach o’r cwrs ôl-radd presennol neu mewn cysylltiad â chais mewn cysylltiad â chwrs ôl-radd dynodedig arall y mae statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi ei drosglwyddo oddi wrtho i’r cwrs ôl-radd presennol; a
(b)ar y diwrnod cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, y cyfnod y caniateir i’r person, y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, aros yn y Deyrnas Unedig wedi dod i ben ac nad oes unrhyw hawl bellach i aros wedi ei rhoi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth o fewn yr ystyr yn adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002,
bydd statws A fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dod i ben yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi.”
29. Yn rheoliad 110(13), ar ôl “(11A),” mewnosoder “(11B),”.
30. Yn lle rheoliad 111(2)(b) rhodder—
“(b)y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;”.
31. Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—
4ZA.—(1) Person—
(a)y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person; ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir; ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)(i)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir; a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros; ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person gais am ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig sy’n arwain at berson yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo.”
32. Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4A (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd)—
(a)yn lle is-baragraff (1) rhodder—
“(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (2)(a)(ii) mewnosoder “a”;
(c)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;
(d)hepgorer is-baragraff (2)(c);
(e)ar ddiwedd is-baragraff (3)(b) mewnosoder “ac”;
(f)ar ddiwedd is-baragraff (3)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;
(g)hepgorer is-baragraff (3)(d).
33. Yn Atodlen 1, ym mharagraff 5A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67)—
(a)ar ddiwedd is-baragraff (1)(a) mewnosoder “a”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (1)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;
(c)hepgorer is-baragraff (1)(c);
(d)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) mewnosoder “ac”;
(e)ar ddiwedd is-baragraff (2)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;
(f)hepgorer is-baragraff (2)(d).
34. Yn Atodlen 4, yn lle paragraff 6(a) rhodder—
“(a)bod y myfyriwr, neu briod, partner sifil neu riant (fel y’i diffinnir yn Rhan 1 o Atodlen 1) y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;”.
35. Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017(10) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 36 i 40.
36. Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”, ym mharagraff (a)(i), yn lle “diogelwch dyngarol neu ganiatâd” rhodder “caniatâd”.
37. Yn lle rheoliad 8(b) rhodder—
“(b)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant, priod ei riant neu bartner sifil ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;”.
38. Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—
4ZA.—(1) Person—
(a)y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person; ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir; ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)(i)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir; a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros; ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person gais am ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig sy’n arwain at berson yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo.”
39. Yn Atodlen 1, ym mharagraff 4A (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teulu)—
(a)yn lle is-baragraff (1) rhodder—
“(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (2)(a)(ii) mewnosoder “a”;
(c)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;
(d)hepgorer is-baragraff (2)(c);
(e)ar ddiwedd is-baragraff (3)(b) mewnosoder “ac”;
(f)ar ddiwedd is-baragraff (3)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;
(g)hepgorer is-baragraff (3)(d).
40. Yn Atodlen 1, ym mharagraff 5A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67)—
(a)ar ddiwedd is-baragraff (1)(a) mewnosoder “a”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (1)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;
(c)hepgorer is-baragraff (1)(c);
(d)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) mewnosoder “ac”;
(e)ar ddiwedd is-baragraff (2)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;
(f)hepgorer is-baragraff (2)(d).
41. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018(11) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 42 i 51.
42. Yn rheoliad 23—
(a)ym mharagraff (1)(a), yn lle “yn fyfyriwr cymwys Categori 3 (gweler Atodlen 2)” rhodder “yn fyfyriwr cymwys Categori 3 neu’n fyfyriwr cymwys ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo (gweler Atodlen 2)”;
(b)ym mharagraff (1)(b)(ii), ar ôl “fyfyriwr cymwys Categori 3” mewnosoder “neu’n fyfyriwr cymwys ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo”.
43. Yn rheoliad 80—
(a)yn lle paragraff (2)(b)(i) rhodder—
“(i)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;”;
(b)ym mharagraff (3), yn y lle priodol mewnosoder ““rheolau mewnfudo” (“immigration rules”);”.
44. Yn lle rheoliad 81(3)(b)(i) rhodder—
“(i)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;”.
45. Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 2 (Categori 2 - ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—
2ZA.—(1) Person—
(a)y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person, ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)(i)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,
(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person gais am ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig sy’n arwain at berson yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo.”
46. Yn Atodlen 2, ym mharagraff 2A (Categori 2A - personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd)—
(a)yn lle is-baragraff (1) rhodder—
“(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (2)(a)(ii) mewnosoder “a”;
(c)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) yn lle “, ac” rhodder atalnod llawn;
(d)hepgorer is-baragraff (2)(c);
(e)ar ddiwedd is-baragraff (3)(b) mewnosoder “ac”;
(f)ar ddiwedd is-baragraff (3)(c) yn lle “, a” rhodder atalnod llawn;
(g)hepgorer is-baragraff (3)(d).
47. Yn Atodlen 2, ym mharagraff 3 (Categori 3 - personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd), yn is-baragraff (4)(a)(i), yn lle “diogelwch dyngarol neu ganiatâd” rhodder “caniatâd”.
48. Yn Atodlen 2, ym mharagraff 3A (Categori 3A - personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67)—
(a)ar ddiwedd is-baragraff (1)(a) mewnosoder “a”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (1)(b) yn lle “, ac” rhodder atalnod llawn;
(c)hepgorer is-baragraff (1)(c);
(d)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) mewnosoder “ac”;
(e)ar ddiwedd is-baragraff (2)(c) yn lle “, a” rhodder atalnod llawn;
(f)hepgorer is-baragraff (2)(d).
49. Yn Atodlen 4 (grant myfyriwr ôl-raddedig anabl), ym mharagraff 13 (personau eraill y mae eu caniatâd i ddod i mewn neu i aros wedi dod i ben)—
(a)yn is-baragraff (1)(a), yn lle “yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 3 (gweler Atodlen 2)” rhodder “yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 3 neu’n fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo (gweler Atodlen 2)”;
(b)yn is-baragraff (1)(b)(ii), ar ôl “yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys categori 3” mewnosoder “neu’n fyfyriwr ôl-raddedig cymwys ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo”.
50. Yn Atodlen 4, ym mharagraff 14 (dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd)—
(a)yn lle is-baragraff (3)(b)(i) rhodder—
“(i)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;”;
(b)yn is-baragraff (4), yn y lle priodol mewnosoder ““rheolau mewnfudo” (“immigration rules”);”.
51. Yn Atodlen 5, ym mharagraff 4 (myfyrwyr sy’n dod yn gymwys yn ystod blwyddyn academaidd)—
(a)yn lle is-baragraff (2)(a) rhodder—
“(a)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;”;
(b)yn is-baragraff (3), yn y lle priodol mewnosoder ““rheolau mewnfudo” (“immigration rules”);”.
52. Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018(12) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 53 i 57.
53. Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”, ym mharagraff (a)(i), yn lle “diogelwch dyngarol neu ganiatâd” rhodder “caniatâd”.
54. Yn lle rheoliad 8(b) rhodder—
“(b)bod y myfyriwr, neu ei briod, ei bartner sifil, ei riant, priod ei riant neu bartner sifil ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;”.
55. Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 4 (ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—
4A.—(1) Person—
(a)y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person; ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir; ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)(i)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir; a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros; ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person gais am ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig sy’n arwain at berson yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo.”
56. Yn Atodlen 1, ym mharagraff 5 (personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd)—
(a)yn lle is-baragraff (1) rhodder—
“(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (2)(a)(ii) mewnosoder “a”;
(c)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;
(d)hepgorer is-baragraff (2)(c);
(e)ar ddiwedd is-baragraff (3)(b) mewnosoder “ac”;
(f)ar ddiwedd is-baragraff (3)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;
(g)hepgorer is-baragraff (3)(d).
57. Yn Atodlen 1, ym mharagraff 6A (personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67)—
(a)ar ddiwedd is-baragraff (1)(a) mewnosoder “a”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (1)(b) yn lle “; ac” rhodder atalnod llawn;
(c)hepgorer is-baragraff (1)(c);
(d)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) mewnosoder “ac”;
(e)ar ddiwedd is-baragraff (2)(c) yn lle “; a” rhodder atalnod llawn;
(f)hepgorer is-baragraff (2)(d).
58. Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019(13) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 59 i 63.
59. Yn rheoliad 16—
(a)yn lle paragraff (1)(b)(i) rhodder—
“(i)bod y myfyriwr neu ei briod, ei bartner sifil neu ei riant yn cael ei gydnabod yn ffoadur, yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, yn dod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n dod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo;”;
(b)ym mharagraff (2), yn y lle priodol mewnosoder ““rheolau mewnfudo” (“immigration rules”);”.
60. Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff 2 (Categori 2 - ffoaduriaid ac aelodau o’u teuluoedd) mewnosoder—
2A.—(1) Person—
(a)y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,
(b)sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly ers i’r caniatâd hwnnw gael ei roi i’r person, ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(2) Person—
(a)sy’n briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,
(b)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(3) Person—
(a)(i)sy’n blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, neu’n blentyn i briod neu i bartner sifil person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir, a
(ii)a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn blentyn i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir neu’n blentyn i berson a oedd, ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, yn briod neu’n bartner sifil i berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir,
(b)a oedd o dan 18 oed ar ddyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros, ac
(c)sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.
(4) Yn y paragraff hwn—
(a)ystyr “dyddiad y cais i gael caniatâd i ddod i mewn neu i aros” yw’r dyddiad y gwnaeth person gais am ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig sy’n arwain at berson yn dod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir;
(b)ystyr “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel person a ddiogelir” yw person a chanddo ganiatâd cyfredol i ddod i mewn neu i aros ar sail diogelwch dyngarol o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo.”
61. Yn Atodlen 2, ym mharagraff 3 (Categori 3 - personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd)—
(a)yn lle is-baragraff (1) rhodder—
“(1) Person y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs.”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (2)(a)(ii) mewnosoder “a”;
(c)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) yn lle “, ac” rhodder atalnod llawn;
(d)hepgorer is-baragraff (2)(c);
(e)ar ddiwedd is-baragraff (3)(b) mewnosoder “ac”;
(f)ar ddiwedd is-baragraff (3)(c) yn lle “, a” rhodder atalnod llawn;
(g)hepgorer is-baragraff (3)(d).
62. Yn Atodlen 2, ym mharagraff 4 (Categori 4 - personau sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros ac aelodau o’u teuluoedd), yn is-baragraff (4)(a)(i), yn lle “diogelwch dyngarol neu ganiatâd” rhodder “caniatâd”.
63. Yn Atodlen 2, ym mharagraff 5 (Categori 5 - personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67)—
(a)ar ddiwedd is-baragraff (1)(a) mewnosoder “a”;
(b)ar ddiwedd is-baragraff (1)(b) yn lle “, ac” rhodder atalnod llawn;
(c)hepgorer is-baragraff (1)(c);
(d)ar ddiwedd is-baragraff (2)(b) mewnosoder “ac”;
(e)ar ddiwedd is-baragraff (2)(c) yn lle “, a” rhodder atalnod llawn;
(f)hepgorer is-baragraff (2)(d).
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
6 Ionawr 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio—
(a)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 (“y Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau”),
(b)Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 (“Rheoliadau’r ABE”),
(c)Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 (“y Rheoliadau CPC”),
(d)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau 2017”),
(e)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017 (“Rheoliadau Graddau Meistr 2017”),
(f)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”),
(g)Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 (“y Rheoliadau Graddau Doethurol”), ac
(h)Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 (“Rheoliadau Graddau Meistr 2019”).
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau. Mae’r Rheoliadau Ffioedd a Dyfarniadau yn darparu, o dan amgylchiadau penodol, ei bod yn gyfreithlon i sefydliadau wahaniaethu rhwng rhai neu bob un o’r personau hynny a grybwyllir yn yr Atodlen ac unrhyw berson arall, drwy godi ffioedd uwch ar bersonau nas crybwyllir yn yr Atodlen na’r ffioedd a godir ar bersonau a grybwyllir felly. Er mwyn dod o fewn yr Atodlen honno, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 (“caniatâd i aros o dan adran 67”) a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio paragraffau 4A a 5A o’r Atodlen er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r ABE. Mae Rheoliadau’r ABE yn darparu ar gyfer cymorth i un myfyriwr cymwys sy’n dilyn cwrs addysg uwch dynodedig yn yr Athrofa Brifysgol Ewropeaidd. Er mwyn ennill statws myfyriwr cymwys, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt ac aelodau o’u teuluoedd, personau sydd â chaniatâd i aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod categori newydd (paragraff 4ZA) yn Atodlen 1 i Reoliadau’r ABE ac yn diwygio paragraffau 4A a 5A o’r Atodlen honno er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw. Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i reoliadau 3 a 6 o Reoliadau’r ABE.
Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau CPC. Mae’r Rheoliadau CPC yn rhagnodi’r cyrsiau cymhwysol a’r personau cymhwysol at ddibenion adran 5 o Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015, sy’n nodi bod rhaid i gynlluniau ffioedd a mynediad bennu terfynau ffioedd, neu ddarparu ar gyfer penderfynu ar derfynau ffioedd, mewn perthynas â chyrsiau cymhwysol. Terfyn ffioedd yw’r uchafswm sy’n daladwy gan berson cymhwysol mewn perthynas â chwrs cymhwysol ac mae’r Atodlen i’r Rheoliadau CPC yn rhestru’r personau hynny a all fod yn bersonau cymhwysol. Er mwyn dod o fewn yr Atodlen honno, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio paragraffau 4A a 5A o’r Atodlen er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw.
Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2017. Mae Rheoliadau 2017 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Medi 2018. Er mwyn ennill statws myfyriwr cymwys, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt ac aelodau o’u teuluoedd, personau sydd â chaniatâd i aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod categori newydd (paragraff 4ZA) yn Atodlen 1 i Reoliadau 2017 ac yn diwygio paragraffau 4A a 5A o’r Atodlen honno er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw. Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i Reoliadau 2017.
Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Graddau Meistr 2017. Mae Rheoliadau Graddau Meistr 2017 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau gradd feistr ôl-raddedig dynodedig sy’n dechrau cyn 1 Awst 2019. Er mwyn ennill statws myfyriwr cymwys, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt ac aelodau o’u teuluoedd, personau sydd â chaniatâd i aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod categori newydd (paragraff 4ZA) yn Atodlen 1 i Reoliadau Graddau Meistr 2017 ac yn diwygio paragraffau 4A a 5A o’r Atodlen honno er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw. Mae Rhan 6 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i Reoliadau Graddau Meistr 2017.
Mae Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2018. Mae Rheoliadau 2018 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018. Er mwyn ennill statws myfyriwr cymwys, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt ac aelodau o’u teuluoedd, personau sydd â chaniatâd i aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod categori newydd (paragraff 2ZA) yn Atodlen 2 i Reoliadau 2018 ac yn diwygio paragraffau 2A, 3 a 3A o’r Atodlen honno er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw. Mae Rhan 7 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i Reoliadau 2018.
Mae Rhan 8 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Graddau Doethurol. Mae’r Rheoliadau Graddau Doethurol yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau gradd ddoethurol ôl-raddedig dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018. Er mwyn ennill statws myfyriwr cymwys, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt ac aelodau o’u teuluoedd, personau sydd â chaniatâd i aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 8 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod categori newydd (paragraff 4A) yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau Graddau Doethurol ac yn diwygio paragraffau 5 a 6A o’r Atodlen honno er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw. Mae Rhan 8 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i’r Rheoliadau Graddau Doethurol.
Mae Rhan 9 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Graddau Meistr 2019. Mae Rheoliadau Graddau Meistr 2019 yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau gradd feistr ôl-raddedig dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2019. Er mwyn ennill statws myfyriwr cymwys, mae’n ofynnol bod personau y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddynt ac aelodau o’u teuluoedd, personau sydd â chaniatâd i aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd a phersonau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 a’u plant wedi bod yn preswylio fel arfer naill ai yn y Deyrnas Unedig neu yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs. Mae Rhan 9 o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod categori newydd (paragraff 2A) yn Atodlen 2 i Reoliadau Graddau Meistr 2019 ac yn diwygio paragraffau 3, 4 a 5 o’r Atodlen honno er mwyn dileu’r gofyniad hwnnw. Mae Rhan 9 o’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud diwygiadau cysylltiedig i Reoliadau Graddau Meistr 2019.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
1983 p. 40; diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p. 40), Atodlen 12, paragraff 91; Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p. 13), Atodlen 8, paragraff 19; Deddf Addysg 1994 (p. 30), Atodlen 2, paragraff 7; Deddf Addysg 1996 (p. 56), Atodlen 37, paragraff 57; Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), Atodlen 9, paragraffau 1 ac 11; Deddf Addysg 2002 (p. 32), Atodlen 21, paragraff 5 ac Atodlen 22; Deddf Addysg 2005 (p. 18), Atodlen 14, paragraff 9; O.S. 2005/3238 (Cy. 243), Atodlen 1, paragraff 9; O.S. 2010/1080, Atodlen 1, paragraff 12; O.S. 2010/1158, Atodlen 2, paragraff 1; Deddf Addysg 2011 (p. 21), Atodlen 5, paragraff 5 ac Atodlen 16, paragraff 5; a Deddf Dadreoleiddio 2015 (p. 20), Atodlen 14, paragraff 33. Diwygiwyd adran 2 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44 ac Atodlen 4.
1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, adran 146 ac Atodlen 11; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6; Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147; Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7; Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 257; Deddf Addysg 2011, adran 76; O.S. 2013/1881 a Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 88. Gweler adran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.
Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 1 o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarndaliadau) 1983 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan O.S. 2006/1458 gydag effaith o 8 Mehefin 2006. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 2 o’r Ddeddf honno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru gan O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(2)(a) i (i) a (k) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), ac mae is-adran (2)(a), (c) a (k) yn arferadwy yn gydredol â’r Ysgrifennydd Gwladol. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd holl swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru uchod i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
2015 dccc 1. Gweler adran 57(1) am y diffiniadau o “rhagnodedig” ac ”a ragnodir”, a “rheoliadau”.
O.S. 2007/2310 (Cy. 181), a ddiwygiwyd gan O.S. 2008/1259 (Cy. 126); O.S. 2010/1142 (Cy. 101); O.S. 2011/1043; O.S. 2011/1978 (Cy. 218); O.S. 2013/1792 (Cy. 179); O.S. 2018/814 (Cy. 165); O.S. 2019/235 (Cy. 54); O.S. 2019/1192 (Cy. 209); ac O.S. 2020/1302 (Cy. 287) (o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y diffinnir “IP completion day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), adran 39(1) i (5)).
O.S. 2014/3037 (Cy. 303), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/211 (Cy. 84); O.S. 2018/814 (Cy. 165); O.S. 2019/235 (Cy. 54); O.S. 2019/1192 (Cy. 209); ac O.S. 2020/1302 (Cy. 287) (o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y diffinnir “IP completion day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), adran 39(1) i (5)).
O.S. 2015/1484 (Cy. 163), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/276 (Cy. 100); O.S. 2018/814 (Cy. 165); O.S. 2019/235 (Cy. 54); O.S. 2019/1192 (Cy. 209); ac O.S. 2020/1302 (Cy. 287) (o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y diffinnir “IP completion day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), adran 39(1) i (5)).
O.S. 2017/47 (Cy. 21), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/191 (Cy. 42); O.S. 2018/814 (Cy. 165); O.S. 2019/235 (Cy. 54); O.S. 2019/1094; O.S. 2019/1192 (Cy. 209); O.S. 2020/142 (Cy. 25); O.S. 2020/153 (Cy. 27); O.S. 2020/708 (Cy. 159); ac O.S. 2020/1302 (Cy. 287) (o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y diffinnir “IP completion day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), adran 39(1) i (5)).
O.S. 2017/523 (Cy. 109), a ddiwygiwyd gan O.S. 2017/712 (Cy. 169); O.S. 2018/277 (Cy. 53); O.S. 2018/814 (Cy. 165); O.S. 2019/895 (Cy. 161); O.S. 2019/1094; ac O.S. 2020/1302 (Cy. 287) (o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y diffinnir “IP completion day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), adran 39(1) i (5)).
O.S. 2018/191 (Cy. 42), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/813 (Cy. 164); O.S. 2018/814 (Cy. 165); O.S. 2019/235 (Cy. 54); O.S. 2019/1094; O.S. 2019/1192 (Cy. 209); O.S. 2020/142 (Cy. 25); O.S. 2020/153 (Cy. 27); O.S. 2020/708 (Cy. 159); ac O.S. 2020/1302 (Cy. 287) (o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y diffinnir “IP completion day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), adran 39(1) i (5)).
O.S. 2018/656 (Cy. 124), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/814 (Cy. 165); O.S. 2019/235 (Cy. 54); O.S. 2019/1094; O.S. 2019/1192 (Cy. 209); O.S. 2020/153 (Cy. 27); ac O.S. 2020/1302 (Cy. 287) (o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y diffinnir “IP completion day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), adran 39(1) i (5)).
O.S. 2019/895 (Cy. 161), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/1094; O.S. 2019/1192 (Cy. 209); O.S. 2020/142 (Cy. 25); O.S. 2020/153 (Cy. 27); O.S. 2020/918 (Cy. 206); ac O.S. 2020/1302 (Cy. 287) (o ddiwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel y diffinnir “IP completion day” gan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), adran 39(1) i (5)).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys