- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Addysg, Cymru
Gwnaed
12 Awst 2021
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1. Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygio Gorchymyn Cychwyn Rhif 2 a Dirymu Gorchymyn Cychwyn Rhif 3 a Gorchymyn Cychwyn Rhif 4) 2021.
2.—(1) Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 1(2), yn y lle priodol mewnosoder—
“ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 16 oed;”
“mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579(3) o Ddeddf 1996;”
“ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;”.
(3) Yn erthygl 4, o flaen paragraff (a) mewnosoder—
“(za)sydd ym mlwyddyn 11;
(zb)nad yw mewn ysgol ac a fydd yn cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022;”.
(4) Yn erthygl 6, ar ôl “o fewn” mewnosoder “y naill neu’r llall o’r paragraffau yn”.
(5) Yn lle erthygl 7 rhodder—
“7. Person y mae cynllun datblygu unigol—
(a)yn cael ei lunio o dan adran 40 neu ei gadw o dan adran 42 o’r Ddeddf mewn perthynas ag ef;
(b)yn cael ei lunio neu ei gynnal o dan adran 14 o’r Ddeddf o ganlyniad i reoliad 23 o Reoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021(4).”
3. Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021(5) wedi ei ddirymu.
4. Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021(6) wedi ei ddirymu.
5. Mae Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Diwygio) 2021(7) wedi ei ddirymu.
Jeremy Miles
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
12 Awst 2021
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 2) 2021 mewn cysylltiad â’r rheini sydd ym mlwyddyn 11 neu a fydd yn cyrraedd 16 oed yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022 (os nad ydynt mewn ysgol).
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn dirymu Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021, Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 3 a Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Diwygio) 2021.
2018 dccc 2.
O.S. 2021/373 (Cy. 116) (C. 12) a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/735 (Cy. 184) (C. 34).
Mewnosodwyd diffiniad o “school year” gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 57, paragraff 43 o Atodlen 7.
O.S. 2021/381 (Cy. 120) (C. 13) a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/516 (Cy. 153) (C. 17) ac O.S. 2021/735 (Cy. 184) (C. 34).
O.S. 2021/383 (Cy. 121) (C. 14) a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/516 (Cy. 153) (C. 17) ac O.S. 2021/735 (Cy. 184) (C. 34).
O.S. 2021/516 (Cy. 153) (C. 17).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: