- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliad 3(2)
1. Gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o Ddeddf 1989 (gorchymyn gofal).
2. Gorchymyn o dan adran 31(1)(b) o Ddeddf 1989 (gorchymyn goruchwylio).
3. Gorchymyn o dan Erthygl 50(1)(a) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995(1) (gorchymyn gofal).
4. Gorchymyn o dan Erthygl 50(1)(b) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (gorchymyn goruchwylio).
5. Gorchymyn o dan adran 3(3) o Gyfraith Plant a Phobl Ifanc (Guernsey) 1967(2) (gorchymyn person addas neu orchymyn gofal arbennig).
6. Gorchymyn a wnaed yn dilyn cais fel y’i caniatawyd o dan adran 48(3) o Gyfraith Plant (Guernsey ac Alderney) 2008(3) (gorchymyn rhianta cymunedol).
7. Gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald)(4) (gorchymyn gofal).
8. Gorchymyn o dan adran 31(1)(b) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (gorchymyn goruchwylio).
9. Gorchymyn neu benderfyniad a bennir yn Atodlen 4 i Gyfraith Plant (Jersey) 2002(5).
10. Unrhyw orchymyn a fyddai wedi cael ei farnu’n orchymyn gofal yn rhinwedd paragraff 15 o Atodlen 14 i Ddeddf 1989 (darpariaethau trosiannol ar gyfer plant mewn gofal gorfodol) pe bai wedi bod mewn grym yn union cyn y diwrnod y daeth Rhan 4 o Ddeddf 1989 i rym.
11. Gorchymyn cyfrifoldeb rhiant a wneir o dan Erthygl 7 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.
12. Gorchymyn amddiffyn plant o dan adran 57 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(6) neu o dan adran 37 o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011(7).
13. Gorchymyn sefydlogrwydd a wnaed, neu a drinnir fel pe bai wedi ei wneud, o dan adran 80 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007(8).
14. Gorchymyn goruchwylio sy’n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 6 i Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(9), adran 12AA o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969(10) (gofyniad i fyw mewn llety awdurdod lleol), paragraff 17 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008(11) neu baragraff 25 o Atodlen 6 i’r Cod Dedfrydu.
15. Gorchymyn person addas, gorchymyn hawliau rhiant neu orchymyn ysgol hyfforddi o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(12).
16. Gorchymyn gwahardd o dan adran 76 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.
17. Gorchymyn goruchwylio sy’n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (gofyniad i fyw mewn llety a ddarperir gan yr Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol).
18. Gorchymyn a wneir ar unrhyw adeg, sy’n gosod gofyniad goruchwylio mewn cysylltiad â phlentyn er mwyn symud y plentyn hwnnw o ofal P, o dan—
(a)adran 44 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(13), neu
(b)adran 70 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(14).
19. Gorchymyn a wneir ar unrhyw adeg, sy’n breinio hawliau a phwerau P mewn cysylltiad â phlentyn mewn awdurdod lleol yn yr Alban—
(a)o dan adran 16 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(15), neu
(b)yn unol â gorchymyn cyfrifoldebau rhiant o dan adran 86 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(16).
20. Gorchymyn goruchwylio gorfodol, o fewn ystyr “compulsory supervision order” yn adran 83 o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011, neu orchymyn goruchwylio gorfodol interim, o fewn ystyr “interim compulsory supervision order” yn adran 86 o’r Ddeddf honno, a wneir ar unrhyw adeg mewn cysylltiad â phlentyn er mwyn symud y plentyn hwnnw o ofal P.
21. Mewn perthynas â chofrestru cartref plant—
(a)gwrthod cais P i gofrestru o dan adran 13 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(17),
(b)canslo cofrestriad P o dan adran 14 neu 20(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000,
(c)canslo cofrestriad unrhyw berson o dan adran 14 neu 20(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas â chartref plant y mae P wedi bod yn ymwneud â’i reoli, neu y mae gan P unrhyw fuddiant ariannol ynddo, neu
(d)gwrthod cais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003(18).
22. Mewn perthynas â chofrestru gwasanaeth cartref gofal, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel (mae i bob un yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(19) (“Deddf 2016”))—
(a)gwrthod cais P i gofrestru o dan adran 7 o Ddeddf 2016,
(b)gwrthod o dan adran 12 o Ddeddf 2016 gais P i amrywio cofrestriad P (a wneir yn unol ag adran 11(1)(a)(i) neu (ii) o’r Ddeddf honno),
(c)canslo cofrestriad P o dan adran 15(1)(b) i (f) neu 23(1) o Ddeddf 2016,
(d)canslo cofrestriad unrhyw berson o dan adran 15(1)(b) i (f) neu 23(1) o Ddeddf 2016 mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel, y mae P wedi bod yn ymwneud â’i reoli, neu yr oedd gan P fuddiant ariannol ynddo, neu
(e)gwrthod cais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003.
23. Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru mewn perthynas â chartref gwirfoddol neu gartref plant, neu ganslo cofrestriad cartref gwirfoddol neu gartref plant a oedd yn cael ei gynnal gan P neu yr oedd P fel arall yn ymwneud â’i reoli, neu yr oedd gan P unrhyw fuddiant ariannol ynddo, o dan, yn ôl y digwydd—
(a)paragraff 1 o Atodlen 5 i Ddeddf 1989(20),
(b)paragraff 1 neu 4 o Atodlen 6 i Ddeddf 1989(21),
(c)adran 127 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(22),
(d)Erthygl 80, 82, 96 neu 98 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995(23),
(e)Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(24) (gwasanaethau cartrefi gofal),
(f)paragraff 2 neu 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald)(25), neu
(g)Rhan 5 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010(26).
24. Gwaharddiad a osodir ar unrhyw adeg o dan—
(a)adran 69 o Ddeddf 1989, adran 10 o Ddeddf Plant Maeth 1980(27) neu adran 4 o Ddeddf Plant 1958 (pŵer i wahardd maethu preifat)(28),
(b)Erthygl 110 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (pŵer i wahardd maethu preifat),
(c)adran 10 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (pŵer i wahardd cadw plant maeth)(29), neu
(d)adran 59 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (pŵer i wahardd neu osod gwaharddiadau o dan faethu preifat).
25. Hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Fwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan adran 1(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(30) (gwrthod cydsynio i berson ofalu am y plentyn a’i gynnal).
26. Gwrthod ar unrhyw adeg gofrestriad mewn cysylltiad â darparu meithrinfeydd, gofal dydd, gwarchod plant neu ddarpariaeth gofal plant arall, anghymhwyso rhag cofrestru o’r fath neu ganslo unrhyw gofrestriad o’r fath o dan—
(a)adran 1 neu 5 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1948(31),
(b)Rhan 10 neu 10A o Ddeddf 1989(32),
(c)Pennod 2, 3 neu 4 o Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006(33),
(d)Rhan 11 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995,
(e)adran 11(5) neu 15 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968,
(f)Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(34),
(g)adran 1 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1974(35) (Deddf Tynwald),
(h)adran 65 neu 66(36) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) neu Atodlen 7(37) iddi,
(i)Rhan III o Gyfraith Amddiffyn Plant (Guernsey) 1972, neu
(j)Rhan 2 o’r Mesur.
27. Anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant ar unrhyw adeg o dan Ddeddf Amddiffyn Plant (Yr Alban) 2003(38).
28. Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan adran 62 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(39) (cofrestru sefydliadau preswyl a sefydliadau eraill).
29. Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru yn ddarparwr asiantaeth gofal plant o dan adran 7 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 neu ganslo unrhyw gofrestriad o’r fath o dan adran 12 neu 18 o’r Ddeddf honno(40).
30. Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru yn ddarparwr asiantaeth gofal plant o dan adran 59 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 neu ganslo unrhyw gofrestriad o’r fath o dan adran 64 neu 65 o’r Ddeddf honno.
31. Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan adran 60 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010.
32. Cynnwys enw P ar unrhyw adeg ar restr o bersonau sy’n anaddas i weithio gyda phlant o dan Erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2003 neu anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Gorchymyn hwnnw(41).
Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXI, t. 34. Diddymwyd adran 3(3) gan adran 3 o Ordinhad Plant (Diwygiadau Canlyniadol etc.) (Guernsey ac Alderney), 2009 (Rhif VII 2010), a pharagraff 15(1) o Atodlen 1 iddo, yn ddarostyngedig i arbedion a darpariaethau trosiannol yn adran 4 o’r Ordinhad hwnnw ac Atodlen 2 iddo.
Rhif XIV 2009.
2001 p. 20 (Deddf Tynwald).
Cyfraith Jersey 50/2002.
1995 p. 36. Diddymwyd adran 57 gan baragraff 1 o Atodlen 26 i Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011 (dsa 1).
2000 p. 6. Fe’i diddymwyd gan baragraff 1 o Atodlen 28(1) i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4), yn ddarostyngedig i arbedion a darpariaethau trosiannol a bennir ym mharagraff 1(1) o Atodlen 27 i’r Ddeddf honno.
1969 p. 54. Fe’i diddymwyd gan baragraff 1 o Atodlen 12 i Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (p. 6).
Fe’i diddymwyd gan baragraff 1 o Atodlen 28 i Ddeddf Dedfrydu 2020, yn ddarostyngedig i arbedion a darpariaethau trosiannol a bennir yn adrannau 412 a 416 o’r Ddeddf honno, a pharagraffau 1, 2, 4 a 5 o Atodlen 27 iddi.
Diddymwyd y darpariaethau sy’n ymwneud â’r gorchmynion hyn gan O.S. 1995/755 (G.I. 2) ac O.S. 1998/1504 (G.I. 9).
1968 p. 49. Diddymwyd adran 44 gan baragraff 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.
Diddymwyd adran 70 gan baragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011.
Diddymwyd adran 16 gan baragraff 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.
Diddymwyd adran 86 gan baragraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007 (dsa 4).
Fe’i diddymwyd o ran Cymru a Lloegr gan adran 117(2) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 1 o Atodlen 6 iddi.
Fe’i diddymwyd o ran Cymru a Lloegr gan adran 117(2) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 1 o Atodlen 6 iddi.
Diddymwyd adran 127 gan Erthygl 117(2) o O.S. 1995/755 (G.I. 2) a pharagraff 1 o Atodlen 10 iddo.
Diddymwyd Erthyglau 80, 82, 96 a 98 gan Erthygl 50(2) o O.S. 2003/431 (G.I. 9) a pharagraff 1 o Atodlen 5 iddo.
2001 dsa 8. Diddymwyd Rhan 1 gan baragraff 37 o Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 (dsa 8), gydag arbedion a bennir yn erthygl 2 o O.S.A. 2011/169.
Diddymwyd Atodlen 6 gan adran 199 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal 2013 (Deddf Tynwald) (p. 10).
1980 p. 6. Diddymwyd adran 10 gan adran 108 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 15 iddi.
1958 p. 65. Diddymwyd Deddf Plant 1958, gydag arbedion, gan adran 23 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 3 iddi ac adran 22 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (p. 56) ac Atodlen 3 iddi. Mae Deddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 yn cael effaith yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a nodir yn y Ddeddf honno.
Diddymwyd adran 1 gan Erthygl 185(2) o O.S. 1995/755 (G.I. 2) a pharagraff 1 o Atodlen 10 iddo.
1948 p. 53. Diddymwyd y Ddeddf hon, gydag arbedion, gan adran 108 o Ddeddf 1989 a pharagraffau 33 a 34 o Atodlen 14 a pharagraff 1 o Atodlen 15 iddi.
Diddymwyd Rhan 10 o ran Cymru a Lloegr gan adran 79 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac o ran yr Alban gan adran 80 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 (dsa 8) ac Atodlen 4 iddi. Diddymwyd Rhan 10A o ran Cymru gan adran 73 o’r Mesur ac Atodlen 2 iddo.
Diddymwyd Rhan 1 gan baragraff 37 o Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010, gydag arbedion a bennir yn erthygl 2 o O.S.A. 2011/169.
1974 p. 12 (Deddf Tynwald). Diddymwyd y Ddeddf hon gan adran 105 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) ac Atodlen 13 iddi.
2001 p. 20. Diddymwyd adrannau 65 a 66 gan adran 196 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal 2013 (Deddf Tynwald) (p. 10).
Diddymwyd Atodlen 7 gan adran 199 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal 2013 (Deddf Tynwald).
2003 dsa 5. Diddymwyd y Ddeddf hon gan baragraff 42 o Atodlen 4 i Ddeddf Amddiffyn Grwpiau Hyglwyf (Yr Alban) 2007 (dsa 14) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a nodir yn erthyglau 3 i 12 o O.S.A. 2010/180.
1968 p. 49. Diddymwyd adran 62 gan adran 80(1) o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 a pharagraff 1 o Atodlen 4 iddi, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn erthygl 21 o O.S.A. 2011/121.
Diddymwyd adrannau 7, 12 a 18 yn yr Alban gan baragraff 37 o Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn erthygl 21 o O.S.A. 2011/121.
O.S. 2003/417 (G.I. 4). Dirymwyd Erthygl 3 a Phennod 2 o Ran 2 o’r Gorchymyn hwnnw yn rhannol gan Erthygl 60(2) o O.S. 2007/1351 (G.I. 11), a pharagraff 1 o Atodlen 8 iddo, at ddibenion a bennir yn Erthygl 4 o Rh.S. 2009/346 ac Erthygl 3 o Rh.S. 2010/145.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys