Search Legislation

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 3(2)

ATODLEN 1GORCHMYNION ETC. SY’N YMWNEUD Â GOFALU AM BLANT

Gorchmynion gofal, goruchwylio a sefydlogrwydd

1.  Gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o Ddeddf 1989 (gorchymyn gofal).

2.  Gorchymyn o dan adran 31(1)(b) o Ddeddf 1989 (gorchymyn goruchwylio).

3.  Gorchymyn o dan Erthygl 50(1)(a) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995(1) (gorchymyn gofal).

4.  Gorchymyn o dan Erthygl 50(1)(b) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (gorchymyn goruchwylio).

5.  Gorchymyn o dan adran 3(3) o Gyfraith Plant a Phobl Ifanc (Guernsey) 1967(2) (gorchymyn person addas neu orchymyn gofal arbennig).

6.  Gorchymyn a wnaed yn dilyn cais fel y’i caniatawyd o dan adran 48(3) o Gyfraith Plant (Guernsey ac Alderney) 2008(3) (gorchymyn rhianta cymunedol).

7.  Gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald)(4) (gorchymyn gofal).

8.  Gorchymyn o dan adran 31(1)(b) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (gorchymyn goruchwylio).

9.  Gorchymyn neu benderfyniad a bennir yn Atodlen 4 i Gyfraith Plant (Jersey) 2002(5).

10.  Unrhyw orchymyn a fyddai wedi cael ei farnu’n orchymyn gofal yn rhinwedd paragraff 15 o Atodlen 14 i Ddeddf 1989 (darpariaethau trosiannol ar gyfer plant mewn gofal gorfodol) pe bai wedi bod mewn grym yn union cyn y diwrnod y daeth Rhan 4 o Ddeddf 1989 i rym.

11.  Gorchymyn cyfrifoldeb rhiant a wneir o dan Erthygl 7 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.

12.  Gorchymyn amddiffyn plant o dan adran 57 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(6) neu o dan adran 37 o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011(7).

13.  Gorchymyn sefydlogrwydd a wnaed, neu a drinnir fel pe bai wedi ei wneud, o dan adran 80 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007(8).

Gorchmynion sy’n gosod gofyniad preswylio neu wahardd

14.  Gorchymyn goruchwylio sy’n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 6 i Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(9), adran 12AA o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969(10) (gofyniad i fyw mewn llety awdurdod lleol), paragraff 17 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008(11) neu baragraff 25 o Atodlen 6 i’r Cod Dedfrydu.

15.  Gorchymyn person addas, gorchymyn hawliau rhiant neu orchymyn ysgol hyfforddi o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(12).

16.  Gorchymyn gwahardd o dan adran 76 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

17.  Gorchymyn goruchwylio sy’n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (gofyniad i fyw mewn llety a ddarperir gan yr Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol).

18.  Gorchymyn a wneir ar unrhyw adeg, sy’n gosod gofyniad goruchwylio mewn cysylltiad â phlentyn er mwyn symud y plentyn hwnnw o ofal P, o dan—

(a)adran 44 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(13), neu

(b)adran 70 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(14).

19.  Gorchymyn a wneir ar unrhyw adeg, sy’n breinio hawliau a phwerau P mewn cysylltiad â phlentyn mewn awdurdod lleol yn yr Alban—

(a)o dan adran 16 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(15), neu

(b)yn unol â gorchymyn cyfrifoldebau rhiant o dan adran 86 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(16).

20.  Gorchymyn goruchwylio gorfodol, o fewn ystyr “compulsory supervision order” yn adran 83 o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011, neu orchymyn goruchwylio gorfodol interim, o fewn ystyr “interim compulsory supervision order” yn adran 86 o’r Ddeddf honno, a wneir ar unrhyw adeg mewn cysylltiad â phlentyn er mwyn symud y plentyn hwnnw o ofal P.

Penderfyniadau mewn perthynas ag addasrwydd P i ddarparu gofal

21.  Mewn perthynas â chofrestru cartref plant—

(a)gwrthod cais P i gofrestru o dan adran 13 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(17),

(b)canslo cofrestriad P o dan adran 14 neu 20(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000,

(c)canslo cofrestriad unrhyw berson o dan adran 14 neu 20(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas â chartref plant y mae P wedi bod yn ymwneud â’i reoli, neu y mae gan P unrhyw fuddiant ariannol ynddo, neu

(d)gwrthod cais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003(18).

22.  Mewn perthynas â chofrestru gwasanaeth cartref gofal, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel (mae i bob un yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(19) (“Deddf 2016”))—

(a)gwrthod cais P i gofrestru o dan adran 7 o Ddeddf 2016,

(b)gwrthod o dan adran 12 o Ddeddf 2016 gais P i amrywio cofrestriad P (a wneir yn unol ag adran 11(1)(a)(i) neu (ii) o’r Ddeddf honno),

(c)canslo cofrestriad P o dan adran 15(1)(b) i (f) neu 23(1) o Ddeddf 2016,

(d)canslo cofrestriad unrhyw berson o dan adran 15(1)(b) i (f) neu 23(1) o Ddeddf 2016 mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel, y mae P wedi bod yn ymwneud â’i reoli, neu yr oedd gan P fuddiant ariannol ynddo, neu

(e)gwrthod cais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003.

23.  Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru mewn perthynas â chartref gwirfoddol neu gartref plant, neu ganslo cofrestriad cartref gwirfoddol neu gartref plant a oedd yn cael ei gynnal gan P neu yr oedd P fel arall yn ymwneud â’i reoli, neu yr oedd gan P unrhyw fuddiant ariannol ynddo, o dan, yn ôl y digwydd—

(a)paragraff 1 o Atodlen 5 i Ddeddf 1989(20),

(b)paragraff 1 neu 4 o Atodlen 6 i Ddeddf 1989(21),

(c)adran 127 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(22),

(d)Erthygl 80, 82, 96 neu 98 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995(23),

(e)Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(24) (gwasanaethau cartrefi gofal),

(f)paragraff 2 neu 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald)(25), neu

(g)Rhan 5 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010(26).

24.  Gwaharddiad a osodir ar unrhyw adeg o dan—

(a)adran 69 o Ddeddf 1989, adran 10 o Ddeddf Plant Maeth 1980(27) neu adran 4 o Ddeddf Plant 1958 (pŵer i wahardd maethu preifat)(28),

(b)Erthygl 110 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (pŵer i wahardd maethu preifat),

(c)adran 10 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (pŵer i wahardd cadw plant maeth)(29), neu

(d)adran 59 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (pŵer i wahardd neu osod gwaharddiadau o dan faethu preifat).

25.  Hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Fwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan adran 1(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(30) (gwrthod cydsynio i berson ofalu am y plentyn a’i gynnal).

26.  Gwrthod ar unrhyw adeg gofrestriad mewn cysylltiad â darparu meithrinfeydd, gofal dydd, gwarchod plant neu ddarpariaeth gofal plant arall, anghymhwyso rhag cofrestru o’r fath neu ganslo unrhyw gofrestriad o’r fath o dan—

(a)adran 1 neu 5 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1948(31),

(b)Rhan 10 neu 10A o Ddeddf 1989(32),

(c)Pennod 2, 3 neu 4 o Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006(33),

(d)Rhan 11 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995,

(e)adran 11(5) neu 15 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968,

(f)Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(34),

(g)adran 1 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1974(35) (Deddf Tynwald),

(h)adran 65 neu 66(36) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) neu Atodlen 7(37) iddi,

(i)Rhan III o Gyfraith Amddiffyn Plant (Guernsey) 1972, neu

(j)Rhan 2 o’r Mesur.

27.  Anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant ar unrhyw adeg o dan Ddeddf Amddiffyn Plant (Yr Alban) 2003(38).

28.  Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan adran 62 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(39) (cofrestru sefydliadau preswyl a sefydliadau eraill).

29.  Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru yn ddarparwr asiantaeth gofal plant o dan adran 7 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 neu ganslo unrhyw gofrestriad o’r fath o dan adran 12 neu 18 o’r Ddeddf honno(40).

30.  Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru yn ddarparwr asiantaeth gofal plant o dan adran 59 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 neu ganslo unrhyw gofrestriad o’r fath o dan adran 64 neu 65 o’r Ddeddf honno.

31.  Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan adran 60 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010.

32.  Cynnwys enw P ar unrhyw adeg ar restr o bersonau sy’n anaddas i weithio gyda phlant o dan Erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2003 neu anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Gorchymyn hwnnw(41).

(2)

Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXI, t. 34. Diddymwyd adran 3(3) gan adran 3 o Ordinhad Plant (Diwygiadau Canlyniadol etc.) (Guernsey ac Alderney), 2009 (Rhif VII 2010), a pharagraff 15(1) o Atodlen 1 iddo, yn ddarostyngedig i arbedion a darpariaethau trosiannol yn adran 4 o’r Ordinhad hwnnw ac Atodlen 2 iddo.

(3)

Rhif XIV 2009.

(4)

2001 p. 20 (Deddf Tynwald).

(5)

Cyfraith Jersey 50/2002.

(6)

1995 p. 36. Diddymwyd adran 57 gan baragraff 1 o Atodlen 26 i Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011 (dsa 1).

(9)

2000 p. 6. Fe’i diddymwyd gan baragraff 1 o Atodlen 28(1) i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4), yn ddarostyngedig i arbedion a darpariaethau trosiannol a bennir ym mharagraff 1(1) o Atodlen 27 i’r Ddeddf honno.

(10)

1969 p. 54. Fe’i diddymwyd gan baragraff 1 o Atodlen 12 i Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (p. 6).

(11)

Fe’i diddymwyd gan baragraff 1 o Atodlen 28 i Ddeddf Dedfrydu 2020, yn ddarostyngedig i arbedion a darpariaethau trosiannol a bennir yn adrannau 412 a 416 o’r Ddeddf honno, a pharagraffau 1, 2, 4 a 5 o Atodlen 27 iddi.

(12)

Diddymwyd y darpariaethau sy’n ymwneud â’r gorchmynion hyn gan O.S. 1995/755 (G.I. 2) ac O.S. 1998/1504 (G.I. 9).

(13)

1968 p. 49. Diddymwyd adran 44 gan baragraff 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

(14)

Diddymwyd adran 70 gan baragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011.

(15)

Diddymwyd adran 16 gan baragraff 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

(16)

Diddymwyd adran 86 gan baragraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007 (dsa 4).

(20)

Fe’i diddymwyd o ran Cymru a Lloegr gan adran 117(2) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 1 o Atodlen 6 iddi.

(21)

Fe’i diddymwyd o ran Cymru a Lloegr gan adran 117(2) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 1 o Atodlen 6 iddi.

(22)

Diddymwyd adran 127 gan Erthygl 117(2) o O.S. 1995/755 (G.I. 2) a pharagraff 1 o Atodlen 10 iddo.

(23)

Diddymwyd Erthyglau 80, 82, 96 a 98 gan Erthygl 50(2) o O.S. 2003/431 (G.I. 9) a pharagraff 1 o Atodlen 5 iddo.

(24)

2001 dsa 8. Diddymwyd Rhan 1 gan baragraff 37 o Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 (dsa 8), gydag arbedion a bennir yn erthygl 2 o O.S.A. 2011/169.

(25)

Diddymwyd Atodlen 6 gan adran 199 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal 2013 (Deddf Tynwald) (p. 10).

(27)

1980 p. 6. Diddymwyd adran 10 gan adran 108 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 15 iddi.

(28)

1958 p. 65. Diddymwyd Deddf Plant 1958, gydag arbedion, gan adran 23 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 3 iddi ac adran 22 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (p. 56) ac Atodlen 3 iddi. Mae Deddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 yn cael effaith yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a nodir yn y Ddeddf honno.

(30)

Diddymwyd adran 1 gan Erthygl 185(2) o O.S. 1995/755 (G.I. 2) a pharagraff 1 o Atodlen 10 iddo.

(31)

1948 p. 53. Diddymwyd y Ddeddf hon, gydag arbedion, gan adran 108 o Ddeddf 1989 a pharagraffau 33 a 34 o Atodlen 14 a pharagraff 1 o Atodlen 15 iddi.

(32)

Diddymwyd Rhan 10 o ran Cymru a Lloegr gan adran 79 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac o ran yr Alban gan adran 80 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 (dsa 8) ac Atodlen 4 iddi. Diddymwyd Rhan 10A o ran Cymru gan adran 73 o’r Mesur ac Atodlen 2 iddo.

(34)

Diddymwyd Rhan 1 gan baragraff 37 o Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010, gydag arbedion a bennir yn erthygl 2 o O.S.A. 2011/169.

(35)

1974 p. 12 (Deddf Tynwald). Diddymwyd y Ddeddf hon gan adran 105 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) ac Atodlen 13 iddi.

(36)

2001 p. 20. Diddymwyd adrannau 65 a 66 gan adran 196 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal 2013 (Deddf Tynwald) (p. 10).

(37)

Diddymwyd Atodlen 7 gan adran 199 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal 2013 (Deddf Tynwald).

(38)

2003 dsa 5. Diddymwyd y Ddeddf hon gan baragraff 42 o Atodlen 4 i Ddeddf Amddiffyn Grwpiau Hyglwyf (Yr Alban) 2007 (dsa 14) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a nodir yn erthyglau 3 i 12 o O.S.A. 2010/180.

(39)

1968 p. 49. Diddymwyd adran 62 gan adran 80(1) o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 a pharagraff 1 o Atodlen 4 iddi, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn erthygl 21 o O.S.A. 2011/121.

(40)

Diddymwyd adrannau 7, 12 a 18 yn yr Alban gan baragraff 37 o Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn erthygl 21 o O.S.A. 2011/121.

(41)

O.S. 2003/417 (G.I. 4). Dirymwyd Erthygl 3 a Phennod 2 o Ran 2 o’r Gorchymyn hwnnw yn rhannol gan Erthygl 60(2) o O.S. 2007/1351 (G.I. 11), a pharagraff 1 o Atodlen 8 iddo, at ddibenion a bennir yn Erthygl 4 o Rh.S. 2009/346 ac Erthygl 3 o Rh.S. 2010/145.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources