Search Legislation

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 3(5)

ATODLEN 2TROSEDDAU STATUDOL SYDD WEDI EU DIDDYMU

1.—(1Trosedd o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1956(1)

(a)adran 1 (treisio);

(b)adran 2 neu 3 (caffael menyw drwy fygythiadau neu haeriadau anwir);

(c)adran 4 (rhoi cyffuriau i gael neu hwyluso cyfathrach);

(d)adran 5 (cyfathrach â merch o dan 13 oed);

(e)adran 6 (cyfathrach â merch o dan 16 oed);

(f)adran 14 neu 15 (ymosod anweddus);

(g)adran 16 (ymosod gan fwriadu cyflawni sodomiaeth);

(h)adran 17 (herwgydio menyw drwy rym neu oherwydd ei heiddo);

(i)adran 19 neu 20 (herwgydio merch o dan 18 neu 16 oed);

(j)adran 24 (cadw menyw mewn puteindy neu mewn mangre arall);

(k)adran 25 neu 26 (caniatáu i ferch o dan 13 oed, neu rhwng 13 ac 16 oed, ddefnyddio mangre i gael cyfathrach);

(l)adran 28 (achosi neu annog puteinio merch o dan 16 oed, cyfathrach â hi neu ymosodiad anweddus arni).

(2Trosedd o dan adran 1 o Ddeddf Anwedduster gyda Phlant 1960 (ymddygiad anweddus tuag at blentyn ifanc)(2).

(3Trosedd o dan adran 54 o Ddeddf Cyfraith Trosedd 1977 (ysgogi merch o dan 16 oed i gyflawni llosgach)(3).

(4Trosedd o dan adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (camfanteisio ar ymddiriedaeth)(4).

(5Trosedd o dan adran 70 o Ddeddf 1989, adran 16 o Ddeddf Plant Maeth 1980(5) neu adran 14 o Ddeddf Plant 1958(6) (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat).

(6Trosedd o dan adran 63(10) o Ddeddf 1989, paragraff 1(5) o Atodlen 5 iddi neu baragraff 2(3) o Atodlen 6 iddi (troseddau sy’n ymwneud â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant)(7).

(7Trosedd o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(8)

(a)adran 21 (troseddau mewn perthynas â chofrestru),

(b)adran 22 (datganiadau anwir mewn ceisiadau), neu

(c)adran 29(10) (troseddau o dan reoliadau).

(8Trosedd o dan adran 71 o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009(9) (caethwasiaeth, caethiwed a llafur o dan orfod neu lafur gorfodol).

2.  Mae P yn dod o fewn y paragraff hwn os yw P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn yn erbyn plentyn neu sy’n ymwneud â phlentyn—

(a)adran 7 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1956(10) (cyfathrach â pherson diffygiol),

(b)adran 9 o’r Ddeddf honno (caffael person diffygiol),

(c)adran 10 o’r Ddeddf honno (llosgach gan ddyn),

(d)adran 11 o’r Ddeddf honno (llosgach gan fenyw),

(e)adran 12 o’r Ddeddf honno (sodomiaeth) ac eithrio os oedd y parti arall i’r weithred o anwedduster garw yn 16 oed neu’n hŷn ac wedi cydsynio i’r weithred,

(f)adran 21 o’r Ddeddf honno (herwgydio person diffygiol oddi wrth riant neu warcheidwad),

(g)adran 22 oʼr Ddeddf honno (achosi puteinio menywod),

(h)adran 23 o’r Ddeddf honno (caffael merch o dan 21 oed),

(i)adran 27 o’r Ddeddf honno (caniatáu i berson diffygiol ddefnyddio mangre i gael cyfathrach),

(j)adran 29 oʼr Ddeddf honno (dyn yn byw ar enillion puteindra),

(k)adran 31 o’r Ddeddf honno (menyw yn arfer rheolaeth dros butain),

(l)adran 128 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1959 (cyfathrach rywiol â chleifion)(11),

(m)adran 4 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1967(12) (caffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrhywiol),

(n)adran 5 oʼr Ddeddf honno (byw ar enillion puteindra gwryw),

(o)adran 9(1)(a) o Ddeddf Dwyn 1968(13) (bwrgleriaeth), neu

(p)trosedd sy’n gysylltiedig â throsedd a bennir yn is-baragraffau (a) i (o).

(1)

1956 p. 69. Diddymwyd pob un o’r adrannau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (l) o’r is-baragraff hwn gan adran 140 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (“Deddf 2003”) a pharagraff 1 o Atodlen 7 iddi.

(2)

1960 p. 33. Diddymwyd adran 1 gan adran 140 o Ddeddf 2003 a pharagraff 1 o Atodlen 7 iddi.

(3)

1977 p. 45. Diddymwyd adran 54 gan adran 10 o Ddeddf 2003 a pharagraff 1 o Atodlen 7 iddi.

(4)

2000 p. 44. Diddymwyd adran 3 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gan adran 140 o Ddeddf 2003 a pharagraff 1 o Atodlen 7 iddi. Fe’i diddymwyd yn yr Alban gan adran 61(2) o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009 (dsa 9) a pharagraff 1 o Atodlen 6 iddi.

(5)

1980 p. 6. Diddymwyd y Ddeddf hon gan adran 108(5) o Ddeddf 1989 a pharagraff 1 o Atodlen 15 iddi.

(6)

1958 p. 65. Diddymwyd adran 14 gan Ddeddf Plant Maeth 1980.

(7)

Diddymwyd pob un o’r darpariaethau hyn gan adran 117(2) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 1 o Atodlen 6 iddi.

(8)

Diddymwyd pob un o’r darpariaethau ym mharagraffau (a) i (c) gan baragraff 37 o Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010.

(9)

2009 p. 25. Diddymwyd adran 71 gan adran 57(1) o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 a pharagraff 8 o Atodlen 5(1) iddi.

(10)

Diddymwyd pob un o’r darpariaethau yn is-baragraffau (a) i (k) gan adran 140 o Ddeddf 2003 a pharagraff 1 o Atodlen 7 iddi.

(11)

1959 p. 72. Diddymwyd adran 128 gan adran 140 o Ddeddf 2003 a pharagraff 1 o Atodlen 7 iddi.

(12)

1967 p. 60. Diddymwyd y darpariaethau yn is-baragraffau (m) ac (n) gan adran 140 o Ddeddf 2003 a pharagraff 1 o Atodlen 7 iddi.

(13)

1968 p. 60. Diwygiwyd adran 9(2) gan adrannau 139 a 140 o Ddeddf 2003, a pharagraff 17 o Atodlen 6 iddi ac Atodlen 7 iddi.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources