Search Legislation

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 1066 (Cy. 224)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022

Gwnaed

17 Hydref 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

19 Hydref 2022

Yn dod i rym

6 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 30(1), (3) a (4), 37(2)(a), 38(2), (3), (4) a (5) a 74(2) o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar 6 Rhagfyr 2022.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cyfarwyddyd” (“direction”) yw cyfarwyddyd a wneir, neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud, o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002(2) ar y sail a nodir yn is-adran (4)(a), (b) neu (d) o’r adran honno(3);

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989(4);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000(5);

ystyr “gorchymyn perthnasol” (“relevant order”) yw—

(a)

gorchymyn a wneir gan Lys y Goron, y Llys Apêl, y Llys Milwrol neu Lys Apêl y Llys Milwrol bod yr unigolyn o dan sylw yn cael ei dderbyn i’r ysbyty, neu

(b)

gorchymyn gwarcheidiaeth(6);

mae i “mangre ddomestig” (“domestic premises”) yr ystyr a roddir gan adran 19(6) o’r Mesur;

ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;

ystyr “wedi ei anghymhwyso” (“disqualified”) yw wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru yn warchodwr plant neu’n ddarparwr gofal dydd o dan Ran 2 o’r Mesur.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae person (“P”) wedi ei “gael wedi cyflawni” trosedd—

(a)os yw P wedi ei euogfarnu o drosedd;

(b)os yw P wedi ei ddyfarnu’n ddieuog o drosedd oherwydd gorffwylledd;

(c)os cafwyd bod P o dan anabledd a’i fod wedi gwneud y weithred y mae wedi ei gyhuddo ohoni mewn cysylltiad â throsedd o’r fath;

(d)os yw P, ar neu ar ôl 6 Ebrill 2007, wedi cael rhybuddiad gan swyddog heddlu mewn cysylltiad â throsedd;

(e)os yw P, ar neu ar ôl 8 Ebrill 2013, wedi cael rhybuddiad ieuenctid gan swyddog heddlu mewn cysylltiad â throsedd y mae P wedi ei chyfaddef(7).

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd sy’n “gysylltiedig â” throsedd os yw P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd fel a ganlyn—

(a)ceisio cyflawni’r drosedd honno, neu gynllwynio neu ysgogi i’w chyflawni, neu

(b)cynorthwyo i gyflawni’r drosedd honno, neu annog, cwnsela neu beri ei chyflawni.

Gofalu am blant a throseddau yn erbyn plant neu oedolion

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (9), (10) ac (11) a rheoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw unrhyw un neu ragor o baragraffau (2) i (8) yn gymwys.

(2Mae unrhyw un neu ragor o’r gorchmynion neu’r penderfyniadau eraill a bennir yn Atodlen 1 wedi eu gwneud—

(a)mewn cysylltiad â P,

(b)sy’n atal P rhag cael ei gofrestru mewn perthynas ag unrhyw gyfleuster y mae plant yn derbyn gofal ynddo neu rhag bod yn rhan o reoli unrhyw gyfleuster o’r fath neu rhag ymwneud fel arall â darparu unrhyw gyfleuster o’r fath, neu

(c)mewn cysylltiad â phlentyn sydd wedi bod yng ngofal P.

(3Mae gorchymyn wedi ei wneud mewn cysylltiad â P o dan adran 104 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003(8) er bod y drosedd wedi ei diddymu yng Nghymru a Lloegr.

(4Mae P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd yn erbyn plentyn o fewn ystyr “offence against a child” yn adran 26(1) o Ddeddf 2000(9) er bod y drosedd wedi ei diddymu.

(5Mae P—

(a)wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw drosedd a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 neu drosedd sy’n gysylltiedig â throsedd o’r fath, neu

(b)yn dod o fewn paragraff 2 o’r Atodlen honno,

er gwaethaf y ffaith bod y troseddau statudol yn yr Atodlen honno wedi eu diddymu.

(6Mae P wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw drosedd ac eithrio trosedd y cyfeirir ati ym mharagraff (4) neu (5) sy’n ymwneud ag anaf corfforol i blentyn neu farwolaeth plentyn.

(7Mae P wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw drosedd a bennir yn Atodlen 3 neu drosedd sy’n gysylltiedig â throsedd o’r fath.

(8Mae P—

(a)wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw drosedd, a gyflawnir yn erbyn person 18 oed neu’n hŷn, a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf 2000(10) neu drosedd sy’n gysylltiedig â throsedd o’r fath, neu

(b)wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd, a gyflawnir yn erbyn person 18 oed neu’n hŷn, a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf 2000 neu drosedd sy’n gysylltiedig â throsedd o’r fath y mae uwchlys wedi gosod gorchymyn perthnasol mewn cysylltiad â hi,

er gwaethaf y ffaith bod y troseddau statudol yn yr Atodlen honno wedi eu diddymu.

(9Nid yw P wedi ei anghymhwyso o dan baragraffau (1) i (8) mewn cysylltiad ag unrhyw orchymyn, penderfyniad neu drosedd—

(a)os yw P wedi apelio’n llwyddiannus yn erbyn y gorchymyn, y penderfyniad neu’r euogfarn,

(b)os yw rhybuddiad mewn cysylltiad â’r drosedd honno wedi ei dynnu’n ôl neu ei osod o’r neilltu,

(c)os yw cyfarwyddyd sy’n seiliedig yn gyfan gwbl neu’n rhannol ar y drosedd wedi ei ddirymu, neu

(d)os yw gorchymyn wedi ei wneud o dan adran 12 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(11) neu adran 79 neu 80 o’r Cod Dedfrydu(12) sy’n rhyddhau P yn ddiamod neu’n amodol mewn cysylltiad â’r drosedd honno.

(10Nid yw P wedi ei anghymhwyso yn rhinwedd paragraff (2)—

(a)os yw gorchymyn wedi ei wneud o dan Ddeddf 1989 y lleolwyd P ei hun yng ngofal awdurdod lleol dynodedig neu gorff tebyg neu o dan oruchwyliaeth corff o’r fath odano, oni bai bod gorchymyn hefyd wedi ei wneud o ganlyniad i ofal P am ei blentyn ei hun, neu

(b)pan fo P yn ofalwr maeth neu’n rhiant mabwysiadol i blentyn, a bo’r plentyn hwnnw yn cael neu wedi cael ei wneud yn destun gorchymyn gofal neu oruchwylio o dan Ddeddf 1989, oni bai bod y gorchymyn wedi ei wneud o ganlyniad i ofal P am y plentyn hwnnw.

(11Nid yw P wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru yn rhinwedd paragraff (2) mewn cysylltiad â gwrthod neu ganslo unrhyw gofrestriad o dan y darpariaethau a nodir ym mharagraff 23(c) o Atodlen 1—

(a)os yw’r gwrthod neu’r canslo mewn cysylltiad â chofrestru ag asiantaeth gwarchod plant, neu

(b)os yr unig reswm dros wrthod neu ganslo’r cofrestriad oedd methu â thalu unrhyw ffi a ragnodir o dan Ran 3 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(13).

Troseddau tramor

4.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw P wedi ei gael wedi gwneud gweithred—

(a)a oedd yn drosedd o dan y gyfraith a oedd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, a

(b)a fyddai’n drosedd a’i gwnâi’n ofynnol anghymhwyso person rhag cofrestru o dan y Rheoliadau hyn pe bai wedi ei gwneud mewn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig.

(2Ym mharagraff (1), mae P “wedi ei gael wedi gwneud gweithred a oedd yn drosedd” os yw’r canlynol wedi digwydd o dan y gyfraith a oedd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig—

(a)mae P wedi ei euogfarnu o drosedd (pa un a yw P wedi ei gosbi amdani ai peidio),

(b)mae P wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd,

(c)mae llys sy’n arfer awdurdodaeth o dan y gyfraith honno wedi gwneud mewn cysylltiad â throsedd ganfyddiad sy’n gyfwerth â chanfyddiad bod P yn ddieuog oherwydd gorffwylledd, neu

(d)mae llys o’r fath wedi gwneud mewn cysylltiad â throsedd ganfyddiad sy’n gyfwerth â chanfyddiad bod P o dan anabledd ac iddo wneud y weithred y cyhuddwyd P ohoni.

(3Nid yw P wedi ei anghymhwyso o dan baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw ganfyddiad os yw’r canfyddiad hwnnw, o dan y gyfraith sydd mewn grym yn y wlad o dan sylw, wedi ei wrthdroi.

(4Mae gweithred sydd i’w chosbi o dan y gyfraith sydd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn drosedd o dan y gyfraith honno at ddibenion y rheoliad hwn ym mha ffordd bynnag y’i disgrifir yn y gyfraith honno.

Rhestr y Ddeddf Amddiffyn Plant

5.  Mae person sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(14) (rhestr o’r rheini y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant) wedi ei anghymhwyso.

Cyfarwyddyd mewn perthynas â chyflogi athrawon etc.

6.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn yn y rheoliad hwn yn gymwys i P.

(2Mae P yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd.

(3Mae enw P ar unrhyw restr a gedwir at ddibenion rheoliadau a wneir o dan Erthygl 70(2)(e) neu 88A(1) a (2)(b) o Orchymyn Addysg a Llyfrgelloedd (Gogledd Iwerddon) 1986(15).

Personau sydd wedi eu gwahardd rhag gweithgarwch rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant

7.  Mae person sydd wedi ei wahardd rhag gweithgarwch rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant o fewn ystyr “barred from regulated activity relating to children” yn adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 wedi ei anghymhwyso.

Personau sy’n byw neu’n gweithio mewn mangre lle y mae person sydd wedi ei anghymhwyso yn byw

8.  Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw P—

(a)(i)yn byw ar yr un aelwyd â pherson arall sydd wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru, neu

(ii)yn byw ar aelwyd y mae unrhyw berson o’r fath wedi ei gyflogi ynddi, a

(b)yn gweithredu neu’n bwriadu gweithredu fel gwarchodwr plant mewn mangre ddomestig a ddefnyddir gan yr aelwyd y mae’n aelod ohoni.

Hepgoriadau

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fyddai person (“P”) wedi ei anghymhwyso yn rhinwedd rheoliad 3, 4, 6(1) a (3), neu 8 ond wedi datgelu i Weinidogion Cymru y ffeithiau a fyddai fel arall yn achosi bod P wedi ei anghymhwyso, a phan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig ac na fônt wedi tynnu’r cydsyniad hwnnw yn ôl, yna nid yw’r person, oherwydd y ffeithiau a ddatgelwyd felly, i’w ystyried fel pe bai wedi ei anghymhwyso at ddiben y Rheoliadau hyn.

(2Mewn perthynas â pherson a fyddai wedi ei anghymhwyso yn rhinwedd rheoliad 3(4), nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo llys wedi gwneud gorchymyn o dan adran 28(4), 29(4) neu 29A(2) o Ddeddf 2000(16).

(3Nid yw person wedi ei anghymhwyso os yw’r person, cyn 1 Ebrill 2002—

(a)wedi datgelu’r ffeithiau a fyddai’n anghymhwyso’r person o dan y Rheoliadau hyn i awdurdod lleol priodol o dan baragraff 2 o Atodlen 9 i Ddeddf 1989, a

(b)wedi cael cydsyniad ysgrifenedig yr awdurdod lleol hwnnw.

Apelau

10.  Mae unrhyw benderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru o ran pa un ai i roi cydsyniad i hepgor anghymhwyso o dan reoliad 9(1) yn benderfyniad rhagnodedig at ddibenion adran 37(2)(a) o’r Mesur (apelau).

Dyletswydd datgelu

11.—(1Rhaid i berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Mesur (“person cofrestredig”) ddarparu’r wybodaeth a ganlyn i Weinidogion Cymru—

(a)manylion unrhyw orchymyn, penderfyniad, euogfarn neu sail arall dros anghymhwyso rhag cofrestru a wneir neu sy’n gymwys mewn perthynas â pherson a restrir ym mharagraff (2) sy’n golygu bod y person hwnnw wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan y Rheoliadau hyn;

(b)y dyddiad pryd y gwnaed y gorchymyn, y penderfyniad neu’r euogfarn neu pryd y cododd unrhyw sail arall dros anghymhwyso rhag cofrestru;

(c)y corff neu’r llys a wnaeth y gorchymyn, y penderfyniad neu’r euogfarn a’r ddedfryd, os oes un, a osodwyd;

(d)mewn perthynas â gorchymyn neu euogfarn, copi o’r gorchymyn perthnasol neu’r gorchymyn llys perthnasol a ardystiwyd gan y corff dyroddi neu’r llys dyroddi.

(2Y personau y mae rhaid darparuʼr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) mewn cysylltiad â hwy yw—

(a)y person cofrestredig, a

(b)unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â’r person cofrestredig neu sydd wedi ei gyflogi yn yr aelwyd honno.

(3Rhaid darparu’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ond beth bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau i’r adeg pan ddaeth y person cofrestredig yn ymwybodol o’r wybodaeth honno neu pan ddylai fod wedi dod yn ymwybodol yn rhesymol ohoni pe bai’r person cofrestredig wedi gwneud ymholiadau rhesymol.

(4Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (2)(b) ond yn gymwys mewn cysylltiad ag aelodau’r aelwyd neu’r rheini sydd wedi eu cyflogi yn aelwyd gwarchodwr plant cofrestredig.

(5Caiff Gweinidogion Cymru ystyried unrhyw honiad bod person cofrestredig wedi methu â bodloni gofynion y rheoliad hwn wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 2 o’r Mesur (gan gynnwys canslo cofrestriad yn unol ag adran 31(1) o’r Mesur).

(6Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn yn euog o drosedd.

(7Mae person a ddyfernir yn euog o drosedd o dan y rheoliad hwn yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Dirymu a diwygiad canlyniadol

12.—(1Mae Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010(17) wedi eu dirymu(18).

(2Yn Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010(19), yn rheoliad 2(1), ym mharagraff (a) yn lle “2010” rhodder “2022”.

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

17 Hydref 2022

Rheoliad 3(2)

ATODLEN 1GORCHMYNION ETC. SY’N YMWNEUD Â GOFALU AM BLANT

Gorchmynion gofal, goruchwylio a sefydlogrwydd

1.  Gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o Ddeddf 1989 (gorchymyn gofal).

2.  Gorchymyn o dan adran 31(1)(b) o Ddeddf 1989 (gorchymyn goruchwylio).

3.  Gorchymyn o dan Erthygl 50(1)(a) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995(20) (gorchymyn gofal).

4.  Gorchymyn o dan Erthygl 50(1)(b) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (gorchymyn goruchwylio).

5.  Gorchymyn o dan adran 3(3) o Gyfraith Plant a Phobl Ifanc (Guernsey) 1967(21) (gorchymyn person addas neu orchymyn gofal arbennig).

6.  Gorchymyn a wnaed yn dilyn cais fel y’i caniatawyd o dan adran 48(3) o Gyfraith Plant (Guernsey ac Alderney) 2008(22) (gorchymyn rhianta cymunedol).

7.  Gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald)(23) (gorchymyn gofal).

8.  Gorchymyn o dan adran 31(1)(b) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (gorchymyn goruchwylio).

9.  Gorchymyn neu benderfyniad a bennir yn Atodlen 4 i Gyfraith Plant (Jersey) 2002(24).

10.  Unrhyw orchymyn a fyddai wedi cael ei farnu’n orchymyn gofal yn rhinwedd paragraff 15 o Atodlen 14 i Ddeddf 1989 (darpariaethau trosiannol ar gyfer plant mewn gofal gorfodol) pe bai wedi bod mewn grym yn union cyn y diwrnod y daeth Rhan 4 o Ddeddf 1989 i rym.

11.  Gorchymyn cyfrifoldeb rhiant a wneir o dan Erthygl 7 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.

12.  Gorchymyn amddiffyn plant o dan adran 57 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(25) neu o dan adran 37 o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011(26).

13.  Gorchymyn sefydlogrwydd a wnaed, neu a drinnir fel pe bai wedi ei wneud, o dan adran 80 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007(27).

Gorchmynion sy’n gosod gofyniad preswylio neu wahardd

14.  Gorchymyn goruchwylio sy’n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 6 i Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(28), adran 12AA o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969(29) (gofyniad i fyw mewn llety awdurdod lleol), paragraff 17 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008(30) neu baragraff 25 o Atodlen 6 i’r Cod Dedfrydu.

15.  Gorchymyn person addas, gorchymyn hawliau rhiant neu orchymyn ysgol hyfforddi o dan Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(31).

16.  Gorchymyn gwahardd o dan adran 76 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

17.  Gorchymyn goruchwylio sy’n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (gofyniad i fyw mewn llety a ddarperir gan yr Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol).

18.  Gorchymyn a wneir ar unrhyw adeg, sy’n gosod gofyniad goruchwylio mewn cysylltiad â phlentyn er mwyn symud y plentyn hwnnw o ofal P, o dan—

(a)adran 44 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(32), neu

(b)adran 70 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(33).

19.  Gorchymyn a wneir ar unrhyw adeg, sy’n breinio hawliau a phwerau P mewn cysylltiad â phlentyn mewn awdurdod lleol yn yr Alban—

(a)o dan adran 16 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(34), neu

(b)yn unol â gorchymyn cyfrifoldebau rhiant o dan adran 86 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(35).

20.  Gorchymyn goruchwylio gorfodol, o fewn ystyr “compulsory supervision order” yn adran 83 o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011, neu orchymyn goruchwylio gorfodol interim, o fewn ystyr “interim compulsory supervision order” yn adran 86 o’r Ddeddf honno, a wneir ar unrhyw adeg mewn cysylltiad â phlentyn er mwyn symud y plentyn hwnnw o ofal P.

Penderfyniadau mewn perthynas ag addasrwydd P i ddarparu gofal

21.  Mewn perthynas â chofrestru cartref plant—

(a)gwrthod cais P i gofrestru o dan adran 13 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(36),

(b)canslo cofrestriad P o dan adran 14 neu 20(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000,

(c)canslo cofrestriad unrhyw berson o dan adran 14 neu 20(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas â chartref plant y mae P wedi bod yn ymwneud â’i reoli, neu y mae gan P unrhyw fuddiant ariannol ynddo, neu

(d)gwrthod cais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003(37).

22.  Mewn perthynas â chofrestru gwasanaeth cartref gofal, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel (mae i bob un yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(38) (“Deddf 2016”))—

(a)gwrthod cais P i gofrestru o dan adran 7 o Ddeddf 2016,

(b)gwrthod o dan adran 12 o Ddeddf 2016 gais P i amrywio cofrestriad P (a wneir yn unol ag adran 11(1)(a)(i) neu (ii) o’r Ddeddf honno),

(c)canslo cofrestriad P o dan adran 15(1)(b) i (f) neu 23(1) o Ddeddf 2016,

(d)canslo cofrestriad unrhyw berson o dan adran 15(1)(b) i (f) neu 23(1) o Ddeddf 2016 mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel, y mae P wedi bod yn ymwneud â’i reoli, neu yr oedd gan P fuddiant ariannol ynddo, neu

(e)gwrthod cais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003.

23.  Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru mewn perthynas â chartref gwirfoddol neu gartref plant, neu ganslo cofrestriad cartref gwirfoddol neu gartref plant a oedd yn cael ei gynnal gan P neu yr oedd P fel arall yn ymwneud â’i reoli, neu yr oedd gan P unrhyw fuddiant ariannol ynddo, o dan, yn ôl y digwydd—

(a)paragraff 1 o Atodlen 5 i Ddeddf 1989(39),

(b)paragraff 1 neu 4 o Atodlen 6 i Ddeddf 1989(40),

(c)adran 127 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(41),

(d)Erthygl 80, 82, 96 neu 98 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995(42),

(e)Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(43) (gwasanaethau cartrefi gofal),

(f)paragraff 2 neu 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald)(44), neu

(g)Rhan 5 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010(45).

24.  Gwaharddiad a osodir ar unrhyw adeg o dan—

(a)adran 69 o Ddeddf 1989, adran 10 o Ddeddf Plant Maeth 1980(46) neu adran 4 o Ddeddf Plant 1958 (pŵer i wahardd maethu preifat)(47),

(b)Erthygl 110 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (pŵer i wahardd maethu preifat),

(c)adran 10 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (pŵer i wahardd cadw plant maeth)(48), neu

(d)adran 59 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (pŵer i wahardd neu osod gwaharddiadau o dan faethu preifat).

25.  Hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Fwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan adran 1(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(49) (gwrthod cydsynio i berson ofalu am y plentyn a’i gynnal).

26.  Gwrthod ar unrhyw adeg gofrestriad mewn cysylltiad â darparu meithrinfeydd, gofal dydd, gwarchod plant neu ddarpariaeth gofal plant arall, anghymhwyso rhag cofrestru o’r fath neu ganslo unrhyw gofrestriad o’r fath o dan—

(a)adran 1 neu 5 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1948(50),

(b)Rhan 10 neu 10A o Ddeddf 1989(51),

(c)Pennod 2, 3 neu 4 o Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006(52),

(d)Rhan 11 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995,

(e)adran 11(5) neu 15 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968,

(f)Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(53),

(g)adran 1 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1974(54) (Deddf Tynwald),

(h)adran 65 neu 66(55) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) neu Atodlen 7(56) iddi,

(i)Rhan III o Gyfraith Amddiffyn Plant (Guernsey) 1972, neu

(j)Rhan 2 o’r Mesur.

27.  Anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant ar unrhyw adeg o dan Ddeddf Amddiffyn Plant (Yr Alban) 2003(57).

28.  Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan adran 62 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(58) (cofrestru sefydliadau preswyl a sefydliadau eraill).

29.  Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru yn ddarparwr asiantaeth gofal plant o dan adran 7 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 neu ganslo unrhyw gofrestriad o’r fath o dan adran 12 neu 18 o’r Ddeddf honno(59).

30.  Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru yn ddarparwr asiantaeth gofal plant o dan adran 59 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 neu ganslo unrhyw gofrestriad o’r fath o dan adran 64 neu 65 o’r Ddeddf honno.

31.  Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan adran 60 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010.

32.  Cynnwys enw P ar unrhyw adeg ar restr o bersonau sy’n anaddas i weithio gyda phlant o dan Erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2003 neu anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Gorchymyn hwnnw(60).

Rheoliad 3(5)

ATODLEN 2TROSEDDAU STATUDOL SYDD WEDI EU DIDDYMU

1.—(1Trosedd o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1956(61)

(a)adran 1 (treisio);

(b)adran 2 neu 3 (caffael menyw drwy fygythiadau neu haeriadau anwir);

(c)adran 4 (rhoi cyffuriau i gael neu hwyluso cyfathrach);

(d)adran 5 (cyfathrach â merch o dan 13 oed);

(e)adran 6 (cyfathrach â merch o dan 16 oed);

(f)adran 14 neu 15 (ymosod anweddus);

(g)adran 16 (ymosod gan fwriadu cyflawni sodomiaeth);

(h)adran 17 (herwgydio menyw drwy rym neu oherwydd ei heiddo);

(i)adran 19 neu 20 (herwgydio merch o dan 18 neu 16 oed);

(j)adran 24 (cadw menyw mewn puteindy neu mewn mangre arall);

(k)adran 25 neu 26 (caniatáu i ferch o dan 13 oed, neu rhwng 13 ac 16 oed, ddefnyddio mangre i gael cyfathrach);

(l)adran 28 (achosi neu annog puteinio merch o dan 16 oed, cyfathrach â hi neu ymosodiad anweddus arni).

(2Trosedd o dan adran 1 o Ddeddf Anwedduster gyda Phlant 1960 (ymddygiad anweddus tuag at blentyn ifanc)(62).

(3Trosedd o dan adran 54 o Ddeddf Cyfraith Trosedd 1977 (ysgogi merch o dan 16 oed i gyflawni llosgach)(63).

(4Trosedd o dan adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (camfanteisio ar ymddiriedaeth)(64).

(5Trosedd o dan adran 70 o Ddeddf 1989, adran 16 o Ddeddf Plant Maeth 1980(65) neu adran 14 o Ddeddf Plant 1958(66) (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat).

(6Trosedd o dan adran 63(10) o Ddeddf 1989, paragraff 1(5) o Atodlen 5 iddi neu baragraff 2(3) o Atodlen 6 iddi (troseddau sy’n ymwneud â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant)(67).

(7Trosedd o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(68)

(a)adran 21 (troseddau mewn perthynas â chofrestru),

(b)adran 22 (datganiadau anwir mewn ceisiadau), neu

(c)adran 29(10) (troseddau o dan reoliadau).

(8Trosedd o dan adran 71 o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009(69) (caethwasiaeth, caethiwed a llafur o dan orfod neu lafur gorfodol).

2.  Mae P yn dod o fewn y paragraff hwn os yw P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn yn erbyn plentyn neu sy’n ymwneud â phlentyn—

(a)adran 7 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1956(70) (cyfathrach â pherson diffygiol),

(b)adran 9 o’r Ddeddf honno (caffael person diffygiol),

(c)adran 10 o’r Ddeddf honno (llosgach gan ddyn),

(d)adran 11 o’r Ddeddf honno (llosgach gan fenyw),

(e)adran 12 o’r Ddeddf honno (sodomiaeth) ac eithrio os oedd y parti arall i’r weithred o anwedduster garw yn 16 oed neu’n hŷn ac wedi cydsynio i’r weithred,

(f)adran 21 o’r Ddeddf honno (herwgydio person diffygiol oddi wrth riant neu warcheidwad),

(g)adran 22 oʼr Ddeddf honno (achosi puteinio menywod),

(h)adran 23 o’r Ddeddf honno (caffael merch o dan 21 oed),

(i)adran 27 o’r Ddeddf honno (caniatáu i berson diffygiol ddefnyddio mangre i gael cyfathrach),

(j)adran 29 oʼr Ddeddf honno (dyn yn byw ar enillion puteindra),

(k)adran 31 o’r Ddeddf honno (menyw yn arfer rheolaeth dros butain),

(l)adran 128 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1959 (cyfathrach rywiol â chleifion)(71),

(m)adran 4 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1967(72) (caffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrhywiol),

(n)adran 5 oʼr Ddeddf honno (byw ar enillion puteindra gwryw),

(o)adran 9(1)(a) o Ddeddf Dwyn 1968(73) (bwrgleriaeth), neu

(p)trosedd sy’n gysylltiedig â throsedd a bennir yn is-baragraffau (a) i (o).

Rheoliad 3(7)

ATODLEN 3TROSEDDAU PENODEDIG

Troseddau yng Nghymru a Lloegr

1.—(1Trosedd o dan adran 1 (trosedd anfon llythyrau etc. gan fwriadu achosi trallod neu bryder) o Ddeddf Cyfathrebiadau Maleisus 1988(74).

(2Trosedd o dan adran 49 neu 50(9) o Ddeddf 1989 (troseddau sy’n ymwneud â herwgydio plentyn mewn gofal).

(3Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997(75)

(a)adran 4 (rhoi pobl o dan ofn trais), neu

(b)adran 4A (stelcio sy’n cynnwys ofn trais neu ddychryn neu drallod difrifol)(76).

(4Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Terfysgaeth 2000(77)

(a)adran 11 (aelodaeth),

(b)adran 12 (cefnogaeth),

(c)adran 13 (lifrai),

(d)adran 15 (codi arian),

(e)adran 54 (hyfforddiant arfau)(78),

(f)adran 56 (sefydliad cyfarwyddo terfysgwyr),

(g)adran 58A (ennyn, cyhoeddi neu gyfathrebu gwybodaeth am aelodau o’r lluoedd arfog etc)(79),

(h)adran 59 (Cymru a Lloegr), neu

(i)adran 64 (cyllid terfysgwyr: awdurdodaeth).

(5Trosedd mewn perthynas â chartref plant o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Safonau Gofal 2000—

(a)adran 11(1) (methiant i gofrestru),

(b)adran 24 (methiant i gydymffurfio ag amodau),

(c)adran 25 (torri rheoliadau),

(d)adran 26 (disgrifiadau anwir o sefydliadau ac asiantaethau), neu

(e)adran 27 (datganiadau anwir mewn ceisiadau).

(6Trosedd o dan adran 127 (defnydd amhriodol o rwydwaith cyfathrebu electronig cyhoeddus) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003(80).

(7Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003—

(a)adran 15A (cyfathrebu rhywiol â phlentyn)(81),

(b)adran 62 neu 63 (cyflawni trosedd neu dresmasu gan fwriadu cyflawni trosedd rywiol),

(c)adran 64 neu 65 (rhyw â pherthynas sy’n oedolyn),

(d)adran 69 (cyfathrach ag anifail)(82),

(e)adran 67A (voyeuriaeth: troseddau ychwanegol), neu

(f)adran 70 (treiddio’n rhywiol i gorff marw).

(8Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Terfysgaeth 2006(83)

(a)adran 1 (annog terfysgaeth),

(b)adran 2 (lledaenu cyhoeddiadau terfysgol),

(c)adran 5 (paratoi gweithredoedd terfysgol a hyfforddiant terfysgwyr),

(d)adran 6 (hyfforddiant ar gyfer terfysgaeth)(84),

(e)adran 8 (presenoldeb mewn man a ddefnyddir ar gyfer hyfforddiant terfysgwyr),

(f)adran 9 (gwneud dyfeisiau neu ddeunyddiau a meddu arnynt), neu

(g)adran 11 (bygythiadau terfysgol sy’n ymwneud â dyfeisiau, deunyddiau neu gyfleusterau).

(9Trosedd o dan adran 62 (meddu ar ddelweddau gwaharddedig o blant) o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009(85).

(10Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd 2015(86)

(a)adran 20 (trin yn wael neu esgeulustod bwriadol: trosedd gan weithiwr gofal),

(b)adran 21 (trin yn wael neu esgeulustod bwriadol: trosedd gan ddarparwr gofal), neu

(c)adran 33 (datgelu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat gan fwriadu achosi trallod).

(11Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Troseddu Difrifol 2015(87)

(a)adran 69 (meddu ar lawlyfr i bedoffiliaid)(88), neu

(b)adran 76 (ymddygiad rheolaethol neu ymddygiad gorfodaethol mewn perthynas agos neu deuluol).

(12Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015(89)

(a)adran 1 (caethwasiaeth, caethiwed a llafur o dan orfod neu lafur gorfodol),

(b)adran 2 (masnachu pobl),

(c)adran 4 (cyflawni trosedd gan fwriadu cyflawni trosedd o dan adran 2), neu

(d)adran 30 (troseddau)(90).

(13Trosedd o dan adran 5 (cyflenwi, neu gynnig cyflenwi, sylwedd seicoweithredol) o Ddeddf Sylweddau Seicoweithredol 2016(91).

(14Trosedd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel (mae i bob un yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”)) o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016—

(a)adran 5 (gofyniad i gofrestru),

(b)adran 43 (methiant i gydymffurfio ag amod),

(c)adran 44 (disgrifiadau anwir),

(d)adran 45 (methiant gan ddarparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion mewn rheoliadau), neu

(e)adran 47 (datganiadau anwir).

(15Trosedd o dan adran 121 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (trosedd priodas o dan orfod: Cymru a Lloegr).

(16Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003—

(a)adran 1 (trosedd anffurfio organau cenhedlu benywod),

(b)adran 2 (cynorthwyo merch i anffurfio ei horganau cenhedlu ei hun),

(c)adran 23 (cynorthwyo person nad yw o’r DU i anffurfio dramor organau cenhedlu merch), neu

(d)adran 4 (methu ag amddiffyn merch rhag risg o anffurfio organau cenhedlu).

Troseddau yn yr Alban

2.—(1Trosedd treisio o dan adran 1 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009(92).

(2Trosedd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(93).

(3Trosedd plagiwm yn y gyfraith gyffredin (dwyn plentyn o dan oedran aeddfedrwydd).

(4Trosedd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 1982(94) (troseddau sy’n ymwneud â ffotograffau anweddus o blant).

(5Trosedd o dan adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Diwygio) 2000(95) (camfanteisio ar ymddiriedaeth).

(6Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr canlynol—

(a)adran 81, 83 neu 89 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(96), adran 59(1) neu 171(2) o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011 neu adran 17(8) neu 71 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(97) (troseddau llochesu);

(b)adran 6 o Ddeddf Herwgydio Plant 1984(98) (mynd â phlentyn neu anfon plentyn allan o’r Deyrnas Unedig);

(c)adran 15 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat).

(7Trosedd o dan neu yn rhinwedd adran 60(3), 61(3) neu 62(6) o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(99) (troseddau sy’n ymwneud â sefydliadau preswyl a sefydliadau eraill).

(8Trosedd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwarchod plant neu ofal dydd plant, o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010—

(a)adran 78 (rheoliadau: gwasanaethau gofal),

(b)adran 80 (troseddau mewn perthynas â chofrestru o dan Bennod 3), neu

(c)adran 81 (datganiadau anwir mewn cais o dan Bennod 3).

(9Trosedd o dan adran 122 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (trosedd priodas o dan orfod: yr Alban).

Troseddau yng Ngogledd Iwerddon

3.—(1Trosedd treisio o dan Erthygl 5 o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008(100).

(2Trosedd o dan adran 66, 69 neu 70 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003(101).

(3Trosedd o dan Erthygl 70, 73 neu 74 o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008.

(4Trosedd a bennir yn Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968 ac eithrio unrhyw droseddau a bennir o dan Ddeddf Cyfraith Trosedd (Diwygio) 1995 yn yr Atodlen honno.

(5Trosedd o dan Erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978(102) (ffotograffau anweddus).

(6Trosedd yn groes i Erthygl 9 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 1980(103) (ysgogi merch o dan 16 oed i gael cyfathrach rywiol losgachol).

(7Trosedd yn groes i Erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth etc.) (Gogledd Iwerddon) 1988(104) (meddu ar ffotograffau anweddus o blant).

(8Trosedd o dan adrannau 16 i 19 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003(105) (camfanteisio ar safle o ymddiriedaeth).

(9Trosedd o dan Ran 3 o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008 (troseddau rhywiol yn erbyn plant).

(10Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr canlynol—

(a)Erthygl 68 neu 69(9) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (troseddau sy’n ymwneud â herwgydio plentyn mewn gofal),

(b)Erthygl 132 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 14 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(106) (troseddau sy’n ymwneud â gwarchod plant a gofal dydd),

(c)Erthygl 117 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 9(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(107) (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat), neu

(d)erthygl 79(3), 81(4), 95(3) neu 97(4) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995(108), neu adran 127(5) neu 129(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(109) (troseddau sy’n ymwneud â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant).

(11Trosedd yn groes i adran 2 o Ddeddf Masnachu Pobl a Chamfanteisio ar Bobl (Cyfiawnder Troseddol a Chymorth i Ddioddefwyr) (Gogledd Iwerddon) 2015(110) (masnachu pobl).

(12Trosedd yn groes i adran 51 o Ddeddf Cyfiawnder (Gogledd Iwerddon) 2016(111) (datgelu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat gan fwriadu achosi trallod).

Troseddau yn Jersey

4.  Trosedd yn groes—

(a)i Ran 7 o Gyfraith Jersey 1969(112),

(b)i Atodlen 4 i Gyfraith Plant (Jersey) 2002(113), neu

(c)i Gyfraith Gofal Dydd Plant (Jersey) 2002(114).

Troseddau yn Guernsey

5.  Trosedd yn groes—

(a)i’r ‘Loi pour la Punition d’Inceste’ (Cyfraith Cosbi Llosgach) 1909(115);

(b)i’r ‘Loi relative à la protection des Femmes et des Filles Mineures’ (Cyfraith Amddiffyn Menywod a Merched Ifanc) 1914(116);

(c)i’r ‘Loi relative à la Sodomie’ (Cyfraith sy’n ymwneud â Sodomiaeth) 1929(117);

(d)erthygl 7, 9, 10, 11 neu 12, paragraff 1 o erthygl 41 neu baragraff 1, 2, 3 neu 4 o erthygl 51 o’r ‘Loi ayant rapport à la Protection des Enfants et des Jeunes Personnes’ (Cyfraith sy’n ymwneud ag Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc) 1917(118);

(e)Cyfraith Plant a Phobl Ifanc (Guernsey) 1967;

(f)Cyfraith Amddiffyn Plant (Beilïaeth Guernsey) 1985(119).

Troseddau ar Ynys Manaw

6.  Trosedd a bennir yn Atodlen 8 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald).

Troseddau eraill

7.—(1Trosedd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(120) mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876(121) (gwaharddiadau a chyfyngiadau) pan oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blentyn.

(2Trosedd yn rhinwedd—

(a)adran 72 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (troseddau y tu allan i’r Deyrnas Unedig)(122), neu

(b)adran 16B o Ddeddf Cyfraith Trosedd (Cydgrynhoi) (Yr Alban) 1995(123) (cyflawni troseddau rhywiol penodol y tu allan i’r Deyrnas Unedig).

(3Trosedd yn groes i adran 32(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969 (cadw pobl sy’n absennol yn gaeth).

(4Trosedd yn groes i erthygl 10(2) (trosedd sy’n ymwneud â dianc) neu erthygl 11(1) (trosedd rhwystro bwriadol) o Orchymyn Deddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2013(124).

NODYN ESBONIADOL

(Nid ywʼr nodyn hwn yn rhan oʼr Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn disodli, gydag addasiadau, Reoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1703) (Cy. 163) (“Rheoliadau 2010”). Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r categorïau o bersonau sydd wedi eu hanghymhwyso rhag cofrestru yng Nghymru yn warchodwyr plant neu’n ddarparwyr gofal dydd o dan Ran 2 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 (mccc 1) (“y Mesur”).

Ni chaiff personau sydd wedi eu hanghymhwyso o dan y Rheoliadau hyn weithredu fel gwarchodwyr plant yng Nghymru, darparu gofal dydd nac ymwneud â rheoli unrhyw ddarpariaeth gofal dydd. Ni chânt ychwaith fod wedi eu cyflogi mewn cysylltiad â gwarchod plant neu ddarparu gofal dydd.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn ynghyd ag Atodlen 1 iddynt yn nodi’r gorchmynion a’r penderfyniadau ynglŷn â gofalu am blant y mae person wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru mewn cysylltiad â hwy a goruchwylio’r plant hynny. Mae rheoliad 3, ynghyd ag Atodlenni 2 a 3, hefyd yn nodi categorïau o droseddau yn erbyn plant neu oedolion y mae person wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru mewn cysylltiad â hwy, neu droseddau sy’n ymwneud â’r plant hynny neu’r oedolion hynny. Mae rheoliad 3(10) yn egluro nad yw anghymhwyso yn gymwys i bersonau sydd wedi bod yn destun gorchmynion gofal neu oruchwylio eu hunain neu i ofalwyr maeth neu rieni mabwysiadol y mae plentyn sy’n destun neu a oedd yn destun gorchymyn gofal neu oruchwylio yn byw gyda hwy, oni wnaed y gorchymyn o ganlyniad i ofal y ceisydd hwnnw am y plentyn.

Mae rheoliad 4 yn nodi’r troseddau a gyflawnir dramor sy’n gymaradwy â’r troseddau a nodir yn y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 5 yn darparu bod personau sydd wedi eu cynnwys ar y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (p. 14) wedi eu hanghymhwyso rhag cofrestru.

Mae rheoliad 6(1) a (2) yn darparu bod personau y mae cyfarwyddyd wedi ei wneud mewn cysylltiad â hwy o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) (a elwir yn Rhestr 99) wedi eu hanghymhwyso rhag cofrestru.

Mae rheoliad 7 yn nodi bod personau sydd wedi eu gwahardd rhag gweithgarwch rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant o dan adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47) wedi eu hanghymhwyso rhag cofrestru.

Mae rheoliad 8 yn darparu bod person wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru yn warchodwr plant os yw’r person hwnnw yn byw gyda pherson arall sydd wedi ei anghymhwyso o dan y Rheoliadau hyn neu’n byw ar aelwyd y mae person o’r fath wedi ei gyflogi ynddi ac yn gweithredu neu’n bwriadu gweithredu fel gwarchodwr plant mewn mangre ddomestig sydd hefyd yn gartref iddo.

Mae rheoliad 9 yn darparu ar gyfer hepgor yr anghymhwyso o dan amgylchiadau penodol. Pan fo cydsyniad Gweinidogion Cymru, neu awdurdod lleol cyn 1 Ebrill 2002, wedi ei roi, nid ystyrir bod person wedi ei anghymhwyso.

Nid yw rheoliad 9 yn gymwys pan fo’r anghymhwyso yn codi yn sgil cynnwys person ar Restr 99 neu’r rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999, yn sgil gwahardd person rhag gweithgaredd rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant o dan Ddeddf Amddiffyn Grwpiau Hyglwyf 2006 neu pan fo llys wedi gorchymyn na chaiff person weithio mewn cyswllt â phlant yn dilyn euogfarn am droseddau penodol yn erbyn plant (gweler rheoliad 9(1) a (2)).

Mae rheoliad 10 yn nodi hawl i apelio i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf mewn perthynas ag unrhyw benderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru o ran pa un ai i roi cydsyniad i hepgor anghymhwyso o dan reoliad 9.

Mae rheoliad 11 yn darparu bod gan berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Mesur ddyletswydd i ddatgelu gwybodaeth i Weinidogion Cymru am fanylion unrhyw orchymyn, penderfyniad, euogfarn neu sail arall dros anghymhwyso rhag cofrestru o dan y Rheoliadau hyn. Mae’r rhwymedigaeth honno yn gymwys i wybodaeth sy’n ymwneud â’r person cofrestredig (ac i unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â’r person cofrestredig neu sydd wedi ei gyflogi ar yr aelwyd honno lle y mae’r person cofrestredig yn warchodwr plant). Mae methu â chydymffurfio â’r ddyletswydd hon yn drosedd a gallai arwain at wrthod cais i gofrestru neu i ganslo cofrestriad presennol person.

Mae rheoliad 12 yn dirymu Rheoliadau 2010 ac yn darparu ar gyfer diwygiad canlyniadol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol oʼr costau aʼr manteision syʼn debygol o ddeillio o gydymffurfio âʼr Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.

(1)

2010 mccc 1. Gweler adran 71 am y diffiniadau o “rhagnodi” a “rheoliadau”.

(3)

Diddymwyd adran 142 gan adran 63(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47) a pharagraff 1 o Atodlen 10 iddi, yn ddarostyngedig i arbedion a darpariaethau trosiannol a bennir yn erthygl 4(2), (3) a (7) o O.S. 2009/2611.

(6)

Fel y diffinnir “guardianship order” yn adran 30(1) o Ddeddf 2000. Diddymwyd adran 30 gan adran 63(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 a pharagraff 1 o Atodlen 10 iddi, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn erthygl 5 o O.S. 2012/2231.

(7)

Mewnosodwyd adran 66ZA o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 (p. 37) mewn perthynas â rhybuddiadau ieuenctid gan adran 135 o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012 (p. 10) a daeth i rym ar 8 Ebrill 2013.

(8)

2003 p. 42. Diddymwyd adran 104 o ran Cymru a Lloegr gan adran 113(1) o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12) (“Deddf 2014”) a pharagraffau 1 a 3 i Atodlen 5 iddi. Mae adran 104 yn parhau mewn grym yng Ngogledd Iwerddon a’r Alban ond mae’n ddarostyngedig i’w diddymu yn yr Alban gan adran 39(1)(a) o Ddeddf Ymddygiad Camdriniol a Niwed Rhywiol (Yr Alban) 2016 (dsa 22) (“Deddf 2016”). Am ddarpariaethau trosiannol ac arbedion gweler adran 114(1), (2), a (4) i (6) o Ddeddf 2014 ac adran 40 o Ddeddf 2016.

(9)

Diddymwyd adran 26 gan adran 63(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 a pharagraff 1 o Atodlen 10 iddi, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn erthygl 5 o O.S. 2012/2231.

(10)

Diddymwyd Atodlen 4 gan adran 63(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 a pharagraff 1 o Atodlen 10 iddi.

(11)

2000 p. 6. Diddymwyd adran 12 gan baragraff 1 o Atodlen 28 i Ddeddf Dedfrydu 2020 (p. 17), yn ddarostyngedig i arbedion a darpariaethau trosiannol a bennir yn adrannau 412 a 416(7) a pharagraffau 1, 2, 4 a 5 o Atodlen 27.

(12)

Mae adran 1(1) o Ddeddf Dedfrydu 2020 yn darparu bod Rhannau 2 i 13 o’r Ddeddf honno gyda’i gilydd yn ffurfio cod o’r enw’r “Sentencing Code”.

(13)

1968 p. 34 (G.I.). Diddymwyd adran 127 gan Erthygl 185(2) o O.S. 1995/755 (G.I. 2) a pharagraff 1 o Atodlen 10 iddo.

(14)

1999 p. 14. Diddymwyd adran 1 o’r Ddeddf hon gan baragraff 1 o Atodlen 10 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, yn ddarostyngedig i arbedion a darpariaethau trosiannol a bennir yn erthygl 5 o O.S. 2009/2611.

(15)

O.S. 1986/594 (G.I. 3). Diwygiwyd adrannau 70(2)(e) ac 88(2)(b) gan O.S. 2007/1351 (G.I. 11).

(16)

Diddymwyd adrannau 28(4), 29(4) a 29A(2) gan Atodlen 10 i Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn erthygl 5 o O.S. 2012/2231.

(18)

Diddymwyd darpariaethau galluogi O.S. 2010/1703 (Cy. 163) sydd wedi eu cynnwys yn adrannau 79C a 79M o Ddeddf 1989 gan Atodlen 2 i’r Mesur. Fodd bynnag, mae O.S. 2010/1703 (Cy. 163) yn parhau i gael effaith hyd nes y gwneir rheoliadau o dan adran 38 o’r Mesur fel y’i pennir yn y darpariaethau arbed sydd wedi eu cynnwys yn erthygl 3 o O.S. 2010/2582 (Cy. 216).

(21)

Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXI, t. 34. Diddymwyd adran 3(3) gan adran 3 o Ordinhad Plant (Diwygiadau Canlyniadol etc.) (Guernsey ac Alderney), 2009 (Rhif VII 2010), a pharagraff 15(1) o Atodlen 1 iddo, yn ddarostyngedig i arbedion a darpariaethau trosiannol yn adran 4 o’r Ordinhad hwnnw ac Atodlen 2 iddo.

(22)

Rhif XIV 2009.

(23)

2001 p. 20 (Deddf Tynwald).

(24)

Cyfraith Jersey 50/2002.

(25)

1995 p. 36. Diddymwyd adran 57 gan baragraff 1 o Atodlen 26 i Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011 (dsa 1).

(28)

2000 p. 6. Fe’i diddymwyd gan baragraff 1 o Atodlen 28(1) i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4), yn ddarostyngedig i arbedion a darpariaethau trosiannol a bennir ym mharagraff 1(1) o Atodlen 27 i’r Ddeddf honno.

(29)

1969 p. 54. Fe’i diddymwyd gan baragraff 1 o Atodlen 12 i Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (p. 6).

(30)

Fe’i diddymwyd gan baragraff 1 o Atodlen 28 i Ddeddf Dedfrydu 2020, yn ddarostyngedig i arbedion a darpariaethau trosiannol a bennir yn adrannau 412 a 416 o’r Ddeddf honno, a pharagraffau 1, 2, 4 a 5 o Atodlen 27 iddi.

(31)

Diddymwyd y darpariaethau sy’n ymwneud â’r gorchmynion hyn gan O.S. 1995/755 (G.I. 2) ac O.S. 1998/1504 (G.I. 9).

(32)

1968 p. 49. Diddymwyd adran 44 gan baragraff 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

(33)

Diddymwyd adran 70 gan baragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011.

(34)

Diddymwyd adran 16 gan baragraff 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

(35)

Diddymwyd adran 86 gan baragraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007 (dsa 4).

(39)

Fe’i diddymwyd o ran Cymru a Lloegr gan adran 117(2) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 1 o Atodlen 6 iddi.

(40)

Fe’i diddymwyd o ran Cymru a Lloegr gan adran 117(2) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 1 o Atodlen 6 iddi.

(41)

Diddymwyd adran 127 gan Erthygl 117(2) o O.S. 1995/755 (G.I. 2) a pharagraff 1 o Atodlen 10 iddo.

(42)

Diddymwyd Erthyglau 80, 82, 96 a 98 gan Erthygl 50(2) o O.S. 2003/431 (G.I. 9) a pharagraff 1 o Atodlen 5 iddo.

(43)

2001 dsa 8. Diddymwyd Rhan 1 gan baragraff 37 o Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 (dsa 8), gydag arbedion a bennir yn erthygl 2 o O.S.A. 2011/169.

(44)

Diddymwyd Atodlen 6 gan adran 199 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal 2013 (Deddf Tynwald) (p. 10).

(46)

1980 p. 6. Diddymwyd adran 10 gan adran 108 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 15 iddi.

(47)

1958 p. 65. Diddymwyd Deddf Plant 1958, gydag arbedion, gan adran 23 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 3 iddi ac adran 22 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (p. 56) ac Atodlen 3 iddi. Mae Deddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 yn cael effaith yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a nodir yn y Ddeddf honno.

(49)

Diddymwyd adran 1 gan Erthygl 185(2) o O.S. 1995/755 (G.I. 2) a pharagraff 1 o Atodlen 10 iddo.

(50)

1948 p. 53. Diddymwyd y Ddeddf hon, gydag arbedion, gan adran 108 o Ddeddf 1989 a pharagraffau 33 a 34 o Atodlen 14 a pharagraff 1 o Atodlen 15 iddi.

(51)

Diddymwyd Rhan 10 o ran Cymru a Lloegr gan adran 79 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac o ran yr Alban gan adran 80 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 (dsa 8) ac Atodlen 4 iddi. Diddymwyd Rhan 10A o ran Cymru gan adran 73 o’r Mesur ac Atodlen 2 iddo.

(53)

Diddymwyd Rhan 1 gan baragraff 37 o Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010, gydag arbedion a bennir yn erthygl 2 o O.S.A. 2011/169.

(54)

1974 p. 12 (Deddf Tynwald). Diddymwyd y Ddeddf hon gan adran 105 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) ac Atodlen 13 iddi.

(55)

2001 p. 20. Diddymwyd adrannau 65 a 66 gan adran 196 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal 2013 (Deddf Tynwald) (p. 10).

(56)

Diddymwyd Atodlen 7 gan adran 199 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal 2013 (Deddf Tynwald).

(57)

2003 dsa 5. Diddymwyd y Ddeddf hon gan baragraff 42 o Atodlen 4 i Ddeddf Amddiffyn Grwpiau Hyglwyf (Yr Alban) 2007 (dsa 14) yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a nodir yn erthyglau 3 i 12 o O.S.A. 2010/180.

(58)

1968 p. 49. Diddymwyd adran 62 gan adran 80(1) o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 a pharagraff 1 o Atodlen 4 iddi, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn erthygl 21 o O.S.A. 2011/121.

(59)

Diddymwyd adrannau 7, 12 a 18 yn yr Alban gan baragraff 37 o Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn erthygl 21 o O.S.A. 2011/121.

(60)

O.S. 2003/417 (G.I. 4). Dirymwyd Erthygl 3 a Phennod 2 o Ran 2 o’r Gorchymyn hwnnw yn rhannol gan Erthygl 60(2) o O.S. 2007/1351 (G.I. 11), a pharagraff 1 o Atodlen 8 iddo, at ddibenion a bennir yn Erthygl 4 o Rh.S. 2009/346 ac Erthygl 3 o Rh.S. 2010/145.

(61)

1956 p. 69. Diddymwyd pob un o’r adrannau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (l) o’r is-baragraff hwn gan adran 140 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (“Deddf 2003”) a pharagraff 1 o Atodlen 7 iddi.

(62)

1960 p. 33. Diddymwyd adran 1 gan adran 140 o Ddeddf 2003 a pharagraff 1 o Atodlen 7 iddi.

(63)

1977 p. 45. Diddymwyd adran 54 gan adran 10 o Ddeddf 2003 a pharagraff 1 o Atodlen 7 iddi.

(64)

2000 p. 44. Diddymwyd adran 3 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gan adran 140 o Ddeddf 2003 a pharagraff 1 o Atodlen 7 iddi. Fe’i diddymwyd yn yr Alban gan adran 61(2) o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009 (dsa 9) a pharagraff 1 o Atodlen 6 iddi.

(65)

1980 p. 6. Diddymwyd y Ddeddf hon gan adran 108(5) o Ddeddf 1989 a pharagraff 1 o Atodlen 15 iddi.

(66)

1958 p. 65. Diddymwyd adran 14 gan Ddeddf Plant Maeth 1980.

(67)

Diddymwyd pob un o’r darpariaethau hyn gan adran 117(2) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 1 o Atodlen 6 iddi.

(68)

Diddymwyd pob un o’r darpariaethau ym mharagraffau (a) i (c) gan baragraff 37 o Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010.

(69)

2009 p. 25. Diddymwyd adran 71 gan adran 57(1) o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 a pharagraff 8 o Atodlen 5(1) iddi.

(70)

Diddymwyd pob un o’r darpariaethau yn is-baragraffau (a) i (k) gan adran 140 o Ddeddf 2003 a pharagraff 1 o Atodlen 7 iddi.

(71)

1959 p. 72. Diddymwyd adran 128 gan adran 140 o Ddeddf 2003 a pharagraff 1 o Atodlen 7 iddi.

(72)

1967 p. 60. Diddymwyd y darpariaethau yn is-baragraffau (m) ac (n) gan adran 140 o Ddeddf 2003 a pharagraff 1 o Atodlen 7 iddi.

(73)

1968 p. 60. Diwygiwyd adran 9(2) gan adrannau 139 a 140 o Ddeddf 2003, a pharagraff 17 o Atodlen 6 iddi ac Atodlen 7 iddi.

(74)

1988 p. 27.

(75)

1997 p. 40.

(76)

Mewnosodwyd adran 4A gan adran 111(2) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).

(77)

2000 p. 11.

(78)

Diwygiwyd adran 54 gan adran 120 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth, Trosedd a Diogelwch 2001 (p. 24), adran 1 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 (p. 2) (gyda darpariaethau trosiannol sydd wedi eu cynnwys yn O.S. 2015/778) a pharagraff 1 o Atodlen 9 i Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008 (p. 28).

(79)

Mewnosodwyd adran 58B gan adran 76(1) o Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008 (p. 28). Amnewidiwyd rhan o adran 38A(3) gan adran 7(3) o Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch y Ffin 2019 (p. 3) (“Deddf 2019”), yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a nodir yn adran 25(2) o Ddeddf 2019.

(80)

2003 p. 21. Diwygiwyd adran 127 gan adran 51(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015.

(81)

Mewnosodwyd adran 15A gan adran 67 o Ddeddf Troseddu Difrifol 2015 (p. 9).

(82)

Diddymwyd adran 69 o ran Gogledd Iwerddon gan baragraff 1 o Atodlen 3 i O.S. 2008/1769 (G.I. 2), yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn y Gorchymyn hwnnw.

(83)

2006 p. 11.

(84)

Diwygiwyd adran 6 gan adran 1 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 (p. 2) (“Deddf 2015”) (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a nodir yn adran 19(4) a (5) o Ddeddf 2015) a pharagraff 3(1) o Atodlen 24(6) i Ddeddf Dedfrydu 2020 (“Deddf 2020”) (yn ddarostyngedig i arbedion a darpariaethau trosiannol yn adran 410 o Ddeddf 2020 ac Atodlen 24 iddi).

(85)

2009 p. 25.

(86)

2015 p. 2.

(87)

2015 p. 9.

(88)

Diwygiwyd adran 69 gan reoliadau 23 a 24 o O.S. 2016/244.

(89)

2015 p. 30.

(90)

Diwygiwyd adran 30 gan erthygl 3 o O.S. 2016/1031 a pharagraff 3(2)(a) a (b) o Atodlen 1 iddo.

(91)

2016 p. 2.

(93)

1995 p. 46. Diddymwyd Atodlen 1 gan baragraffau 1 a 2 o Atodlen 2 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol (Yr Alban) 2016 (dsa 1).

(94)

1982 p. 45. Diwygiwyd adran 52 gan baragraff 44 o Atodlen 4 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Darpariaethau Canlyniadol) (Yr Alban) 1995 (p. 40) ac adran 16 o Ddeddf Amddiffyn Plant ac Atal Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2005 (dsa 9). Mewnosodwyd adran 52A gan adran 161 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p. 33). Diwygiwyd adrannau 52 a 52A gan adran 84 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p. 33), adran 19 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol (Yr Alban) 2003 (dsa 7), ac adran 41 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu (Yr Alban) 2010 (dsa 13) a pharagraff 13 o Atodlen 7 iddi.

(95)

Diddymwyd adran 3 o ran Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gan baragraff 45 o Atodlen 6 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003. Fe’i diddymwyd o ran yr Alban gan Atodlen 6 i Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009.

(96)

Diddymwyd adran 81 yn rhannol o ran Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gan baragraff 45 o Atodlen 6 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003. Fe’i diddymwyd o ran yr Alban gan Atodlen 6 i Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009.

(97)

Fe’i diddymwyd gan baragraff 1 o Atodlen 5 i Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

(98)

1984 p. 37. Diwygiwyd adran 6 o ran yr Alban gan baragraff 34 o Atodlen 4 i Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.

(99)

Diddymwyd adrannau 60, 61 a 62 gan Atodlen 4 i Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn erthyglau 11 a 13 o O.S.A. 2002/162.

(100)

O.S. 2008/1769 (G.I. 2) (“Gorchymyn 2008”).

(101)

Diddymwyd adrannau 66, 67 a 70 o ran Gogledd Iwerddon gan baragraff 1 o Atodlen 3 i Orchymyn 2008, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn y Gorchymyn hwnnw.

(102)

O.S. 1978/1047 (G.I. 17). Diwygiwyd Erthygl 3 gan adran 84(10) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p. 33) (“Deddf 1994”), adran 41(2) o Ddeddf 2000 a pharagraff 8 o Atodlen 1 i O.S. 2003/1247 (G.I. 13).

(103)

O.S. 1980/704 (G.I. 6). Mae Erthygl 9 wedi ei dirymu a’i disodli gan Erthygl 33 o Orchymyn 2008.

(104)

O.S. 1988/1847 (G.I. 17). Diwygiwyd Erthygl 15 gan adrannau 84(11) a 86(2) o Ddeddf 1994 ac adran 41(4) o Ddeddf 2000.

(105)

Diddymwyd adrannau 16 i 19 yng Ngogledd Iwerddon gan baragraff 1 o Atodlen 3 i Orchymyn 2008 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw.

(106)

Diddymwyd adran 14 gan O.S. 1995/755 (G.I. 2).

(107)

Diddymwyd adran 9(1) gan O.S. 1995/755 (G.I. 2).

(108)

Dirymwyd Erthyglau 79(3), 81(4), 95(3) a 97(3) gan baragraff 1 o Atodlen 5 i O.S. 2003/431 (G.I. 9).

(109)

Diddymwyd adrannau 127 a 129 gan O.S. 1995/755 (G.I. 2).

(110)

2015 p. 2 (G.I.).

(111)

2016 p. 21 (G.I.).

(112)

Cyfraith Jersey 16/1969.

(113)

Cyfraith Jersey 20/2002.

(114)

Cyfraith Jersey 51/2002.

(115)

Gorchmynion yn y Llys Cyfrol IV t. 288.

(116)

Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol V, t. 74.

(117)

Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol VIII, t. 273.

(118)

Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol V, t. 243, fel y’u diwygiwyd gan Loi Supplementaire à la Loi ayant rapport à la Protection des Enfants et des Jeunes Personnes 1937, Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor XI, t. 116, a Chyfraith Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc (Diwygio) 1955, Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol XVI, t. 277.

(119)

Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXIX, t. 103, fel y’u diwygiwyd gan Gyfraith Gweinyddu Cyfiawnder (Beilïaeth Guernsey) 1991, Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXXIII, t. 49, Cyfraith Tystiolaeth Droseddol a Darpariaethau Amrywiol (Beilïaeth Guernsey) 2002, Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor Rhif I 2003, a Chyfraith Cyfiawnder Troseddol (Darpariaethau Amrywiol) (Beilïaeth Guernsey), 2006, Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor Rhif XIII 2006.

(120)

1979 p. 2. Diwygiwyd adran 170 gan adran 114 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (p. 60), O.S. 1996/2686, adran 75 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4) a pharagraff 8 o Atodlen 17 iddi, adran 111 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), O.S. 2015/664, adran 12 o Ddeddf Cyllid 1998 (p. 39), O.S. 2004/702, O.S. 2005/1996 ac adran 3 o Ddeddf Cyllid (Rhif 2) 1992 (p. 48) a pharagraff 7 o Atodlen 2 iddi.

(121)

1876 p. 36. Diwygiwyd adran 42 gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1993 (p. 50) a Deddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 2008 (p. 12).

(122)

Diddymwyd adran 72 o ran Gogledd Iwerddon gan baragraff 1 o Atodlen 3 i Orchymyn 2008, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn y Gorchymyn hwnnw.

(123)

1995 p. 39. Diddymwyd adran 16B gan baragraff 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009 (dsa 9).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources