- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
11.—(1) Mae’r darpariaethau yn y rheoliad hwn yn cael effaith er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan Reoliadau Canlyniadol 2022 a Rheoliadau Canlyniadol Is-ddeddfwriaeth 2022.
(2) Mae adrannau 97(1) a (3)(1) (cydsyniad yn ofynnol ar gyfer gwelliannau gan denant), 98 (darpariaethau o ran cydsyniadau sy’n ofynnol gan adran 97), 99 (cydsyniad amodol ar gyfer gwelliannau) a 100(2) (pŵer i ad-dalu cost gwelliannau tenant) o Ddeddf 1985 yn parhau i gael effaith ar ôl y diwrnod penodedig mewn perthynas â chontract diogel wedi ei drosi, fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn y diwrnod hwnnw mewn perthynas â thenantiaeth ddiogel, ond dim ond pan fo cais am gydsyniad i wella wedi ei wneud gan y tenant cyn y diwrnod penodedig (pa un a roddir cydsyniad o’r fath cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw).
Diwygiwyd adran 97 gan adran 118 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016 (p. 22) a pharagraffau 2 a 12 o Atodlen 7 iddi ac adran 155 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20).
Diwygiwyd adran 100 gan adran 194 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) a pharagraff 66 o Atodlen 11 iddi, adrannau 103 a 147 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p. 53) a pharagraff 4(2) o Atodlen 1 a Rhan 1 o Atodlen 3 iddi ac erthyglau 12 a 15 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Cymorth Tai) (Cymru a Lloegr) 2002 (O.S. 2002/1860) a pharagraff 2 o Atodlen 4 ac Atodlen 6 iddo.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys