- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
12.—(1) Mae adran 99B(1) o Ddeddf 1985 (personau sy’n gymwys ar gyfer digollediad) a Rheoliadau 1994 yn parhau i gael effaith, fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn y diwrnod penodedig, mewn perthynas â gwelliannau a wnaed gan denant o dan denantiaeth ddiogel o dan adran 99A o Ddeddf 1985 a ddaeth i ben cyn y diwrnod penodedig (pa un a wnaed cais am ddigollediad cyn neu ar ôl y diwrnod penodedig).
(2) Heb leihau effaith paragraff (1), pan fo cais am gydsyniad i wella wedi ei wneud gan y tenant cyn y diwrnod penodedig (pa un a roddir cydsyniad o’r fath cyn neu ar ôl y diwrnod hwnnw), mae adran 99B o Ddeddf 1985 a Rheoliadau 1994 yn parhau i gael effaith ar ôl y diwrnod penodedig mewn perthynas â chontract diogel wedi ei drosi, ond fel pe bai—
(a)cyfeiriad at gontract diogel yn dod i ben yn gyfeiriad at gontract diogel wedi ei drosi yn dod i ben ar ôl y diwrnod penodedig,
(b)adran 99B(2)(b) i (f) a (3) o Ddeddf 1985 wedi ei hepgor (a Rheoliadau 1994 wedi eu dehongli yn unol â hynny), ac
(c)rheoliad 3(2) o Reoliadau 1994 wedi ei hepgor.
(3) Ond nid yw paragraff (2) yn gymwys pan fo’r contract diogel wedi ei drosi yn dod i ben ar ôl y diwrnod penodedig oherwydd—
(a)bod y Llys yn gwneud gorchymyn adennill meddiant ar un neu ragor o’r seiliau yn adran 157 (tor contract) neu 160 (seiliau rheoli ystad) o Ddeddf 2016, neu
(b)bod y contract yn peidio â bod yn gontract diogel yn rhinwedd adran 116 o Ddeddf 2016 (gorchymyn sy’n arddodi contract safonol cyfnodol oherwydd ymddygiad gwaharddedig).
Mewnosodwyd adran 99B gan adran 122 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) ac fe’i diwygiwyd gan adrannau 81 a 222 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) a pharagraff 13 o Atodlen 18 iddi, adrannau 81 a 261 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33) a pharagraff 25 o Atodlen 8, paragraff 19 o Ran 2 o Atodlen 9 ac Atodlen 30 iddi ac adran 66 o Ddeddf Cyfraith Teulu 1996 (p. 27) a pharagraff 54 o Atodlen 8 iddi.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys