Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Enwi a chychwynLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Rhif 2) (Cymru) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Rhagfyr 2022 yn union ar ôl Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cyfarwyddyd” (“direction”) yw cyfarwyddyd a wneir, neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud, o dan adran 142 o Ddeddf Addysg 2002(2) ar y sail a nodir yn is-adran (4)(a), (b) neu (d) o’r adran honno(3);

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989(4);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llysoedd 2000(5);

ystyr “gorchymyn perthnasol” (“relevant order”) yw—

(a)

gorchymyn a wneir gan Lys y Goron, y Llys Apêl, y Llys Milwrol neu Lys Apêl y Llys Milwrol bod yr unigolyn o dan sylw yn cael ei dderbyn i’r ysbyty, neu

(b)

gorchymyn gwarcheidiaeth(6);

mae i “mangre ddomestig” (“domestic premises”) yr ystyr a roddir gan adran 19(6) o’r Mesur;

ystyr “y Mesur” (“the Measure”) yw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010;

ystyr “wedi ei anghymhwyso” (“disqualified”) yw wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru yn warchodwr plant neu’n ddarparwr gofal dydd o dan Ran 2 o’r Mesur.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae person (“P”) wedi ei “gael wedi cyflawni” trosedd—

(a)os yw P wedi ei euogfarnu o drosedd;

(b)os yw P wedi ei ddyfarnu’n ddieuog o drosedd oherwydd gorffwylledd;

(c)os cafwyd bod P o dan anabledd a’i fod wedi gwneud y weithred y mae wedi ei gyhuddo ohoni mewn cysylltiad â throsedd o’r fath;

(d)os yw P, ar neu ar ôl 6 Ebrill 2007, wedi cael rhybuddiad gan swyddog heddlu mewn cysylltiad â throsedd;

(e)os yw P, ar neu ar ôl 8 Ebrill 2013, wedi cael rhybuddiad ieuenctid gan swyddog heddlu mewn cysylltiad â throsedd y mae P wedi ei chyfaddef(7).

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd sy’n “gysylltiedig â” throsedd os yw P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd fel a ganlyn—

(a)ceisio cyflawni’r drosedd honno, neu gynllwynio neu ysgogi i’w chyflawni, neu

(b)cynorthwyo i gyflawni’r drosedd honno, neu annog, cwnsela neu beri ei chyflawni.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

Gofalu am blant a throseddau yn erbyn plant neu oedolionLL+C

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (9), (10) ac (11) a rheoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw unrhyw un neu ragor o baragraffau (2) i (8) yn gymwys.

(2Mae unrhyw un neu ragor o’r gorchmynion neu’r penderfyniadau eraill a bennir yn Atodlen 1 wedi eu gwneud—

(a)mewn cysylltiad â P,

(b)sy’n atal P rhag cael ei gofrestru mewn perthynas ag unrhyw gyfleuster y mae plant yn derbyn gofal ynddo neu rhag bod yn rhan o reoli unrhyw gyfleuster o’r fath neu rhag ymwneud fel arall â darparu unrhyw gyfleuster o’r fath, neu

(c)mewn cysylltiad â phlentyn sydd wedi bod yng ngofal P.

(3Mae gorchymyn wedi ei wneud mewn cysylltiad â P o dan adran 104 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003(8) er bod y drosedd wedi ei diddymu yng Nghymru a Lloegr.

(4Mae P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd yn erbyn plentyn o fewn ystyr “offence against a child” yn adran 26(1) o Ddeddf 2000(9) er bod y drosedd wedi ei diddymu.

(5Mae P—

(a)wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw drosedd a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 neu drosedd sy’n gysylltiedig â throsedd o’r fath, neu

(b)yn dod o fewn paragraff 2 o’r Atodlen honno,

er gwaethaf y ffaith bod y troseddau statudol yn yr Atodlen honno wedi eu diddymu.

(6Mae P wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw drosedd ac eithrio trosedd y cyfeirir ati ym mharagraff (4) neu (5) sy’n ymwneud ag anaf corfforol i blentyn neu farwolaeth plentyn.

(7Mae P wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw drosedd a bennir yn Atodlen 3 neu drosedd sy’n gysylltiedig â throsedd o’r fath.

(8Mae P—

(a)wedi ei gael wedi cyflawni unrhyw drosedd, a gyflawnir yn erbyn person 18 oed neu’n hŷn, a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf 2000(10) neu drosedd sy’n gysylltiedig â throsedd o’r fath, neu

(b)wedi ei gyhuddo o unrhyw drosedd, a gyflawnir yn erbyn person 18 oed neu’n hŷn, a grybwyllir ym mharagraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf 2000 neu drosedd sy’n gysylltiedig â throsedd o’r fath y mae uwchlys wedi gosod gorchymyn perthnasol mewn cysylltiad â hi,

er gwaethaf y ffaith bod y troseddau statudol yn yr Atodlen honno wedi eu diddymu.

(9Nid yw P wedi ei anghymhwyso o dan baragraffau (1) i (8) mewn cysylltiad ag unrhyw orchymyn, penderfyniad neu drosedd—

(a)os yw P wedi apelio’n llwyddiannus yn erbyn y gorchymyn, y penderfyniad neu’r euogfarn,

(b)os yw rhybuddiad mewn cysylltiad â’r drosedd honno wedi ei dynnu’n ôl neu ei osod o’r neilltu,

(c)os yw cyfarwyddyd sy’n seiliedig yn gyfan gwbl neu’n rhannol ar y drosedd wedi ei ddirymu, neu

(d)os yw gorchymyn wedi ei wneud o dan adran 12 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(11) neu adran 79 neu 80 o’r Cod Dedfrydu(12) sy’n rhyddhau P yn ddiamod neu’n amodol mewn cysylltiad â’r drosedd honno.

(10Nid yw P wedi ei anghymhwyso yn rhinwedd paragraff (2)—

(a)os yw gorchymyn wedi ei wneud o dan Ddeddf 1989 y lleolwyd P yng ngofal awdurdod lleol dynodedig neu gorff tebyg neu o dan oruchwyliaeth awdurdod neu gorff o’r fath odano, oni bai bod gorchymyn hefyd wedi ei wneud o ganlyniad i ofal P am ei blentyn ei hun, neu

(b)pan fo P yn ofalwr maeth neu’n rhiant mabwysiadol i blentyn, a bo’r plentyn hwnnw yn cael neu wedi cael ei wneud yn destun gorchymyn gofal neu oruchwylio o dan Ddeddf 1989, oni bai bod y gorchymyn wedi ei wneud o ganlyniad i ofal P am y plentyn hwnnw.

(11Nid yw P wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru yn rhinwedd paragraff (2) mewn cysylltiad â gwrthod neu ganslo unrhyw gofrestriad o dan y darpariaethau a nodir ym mharagraff 23(c) o Atodlen 1—

(a)os yw’r gwrthod neu’r canslo mewn cysylltiad â chofrestru ag asiantaeth gwarchod plant, neu

(b)os yr unig reswm dros wrthod neu ganslo’r cofrestriad oedd methu â thalu unrhyw ffi a ragnodir o dan Ran 3 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(13).

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

Troseddau tramorLL+C

4.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw P wedi ei gael wedi gwneud gweithred—

(a)a oedd yn drosedd o dan y gyfraith a oedd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, a

(b)a fyddai’n drosedd a’i gwnâi’n ofynnol anghymhwyso person rhag cofrestru o dan y Rheoliadau hyn pe bai wedi ei gwneud mewn unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig.

(2Ym mharagraff (1), mae P “wedi ei gael wedi gwneud gweithred a oedd yn drosedd” os yw’r canlynol wedi digwydd o dan y gyfraith a oedd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig—

(a)mae P wedi ei euogfarnu o drosedd (pa un a yw P wedi ei gosbi amdani ai peidio),

(b)mae P wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd,

(c)mae llys sy’n arfer awdurdodaeth o dan y gyfraith honno wedi gwneud mewn cysylltiad â throsedd ganfyddiad sy’n gyfwerth â chanfyddiad bod P yn ddieuog oherwydd gorffwylledd, neu

(d)mae llys o’r fath wedi gwneud mewn cysylltiad â throsedd ganfyddiad sy’n gyfwerth â chanfyddiad bod P o dan anabledd ac iddo wneud y weithred y cyhuddwyd P ohoni.

(3Nid yw P wedi ei anghymhwyso o dan baragraff (1) mewn cysylltiad ag unrhyw ganfyddiad os yw’r canfyddiad hwnnw, o dan y gyfraith sydd mewn grym yn y wlad o dan sylw, wedi ei wrthdroi.

(4Mae gweithred sydd i’w chosbi o dan y gyfraith sydd mewn grym mewn gwlad y tu allan i’r Deyrnas Unedig yn drosedd o dan y gyfraith honno at ddibenion y rheoliad hwn ym mha ffordd bynnag y’i disgrifir yn y gyfraith honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

Rhestr y Ddeddf Amddiffyn PlantLL+C

5.  Mae person sydd wedi ei gynnwys yn y rhestr a gedwir o dan adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(14) (rhestr o’r rheini y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn ystyried eu bod yn anaddas i weithio gyda phlant) wedi ei anghymhwyso.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

Cyfarwyddyd mewn perthynas â chyflogi athrawon etc.LL+C

6.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn yn y rheoliad hwn yn gymwys i P.

(2Mae P yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd.

(3Mae enw P ar unrhyw restr a gedwir at ddibenion rheoliadau a wneir o dan erthygl 70(2)(e) neu 88A(1) a (2)(b) o Orchymyn Addysg a Llyfrgelloedd (Gogledd Iwerddon) 1986(15).

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

Personau sydd wedi eu gwahardd rhag gweithgarwch rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlantLL+C

7.  Mae person sydd wedi ei wahardd rhag gweithgarwch rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant o fewn ystyr “barred from regulated activity relating to children” yn adran 3(2) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 wedi ei anghymhwyso.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

Personau sy’n byw neu’n gweithio mewn mangre lle y mae person sydd wedi ei anghymhwyso yn bywLL+C

8.  Yn ddarostyngedig i reoliad 9, mae person (“P”) wedi ei anghymhwyso os yw P—

(a)(i)yn byw ar yr un aelwyd â pherson arall sydd wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru, neu

(ii)yn byw ar aelwyd y mae unrhyw berson o’r fath wedi ei gyflogi ynddi, a

(b)yn gweithredu neu’n bwriadu gweithredu fel gwarchodwr plant mewn mangre ddomestig a ddefnyddir gan yr aelwyd y mae P yn aelod ohoni.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

HepgoriadauLL+C

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), pan fyddai person (“P”) wedi ei anghymhwyso yn rhinwedd rheoliad 3, 4, 6(1) a (3), neu 8 ond wedi datgelu i Weinidogion Cymru y ffeithiau a fyddai fel arall yn achosi bod P wedi ei anghymhwyso, a phan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig ac na fônt wedi tynnu’r cydsyniad hwnnw yn ôl, yna nid yw’r person, oherwydd y ffeithiau a ddatgelwyd felly, i’w ystyried fel pe bai wedi ei anghymhwyso at ddiben y Rheoliadau hyn.

(2Mewn perthynas â pherson a fyddai wedi ei anghymhwyso yn rhinwedd rheoliad 3(4), nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo llys wedi gwneud gorchymyn o dan adran 28(4), 29(4) neu 29A(2) o Ddeddf 2000(16).

(3Nid yw person wedi ei anghymhwyso os yw’r person, cyn 1 Ebrill 2002—

(a)wedi datgelu’r ffeithiau a fyddai’n anghymhwyso’r person o dan y Rheoliadau hyn i awdurdod lleol priodol o dan baragraff 2 o Atodlen 9 i Ddeddf 1989(17), a

(b)wedi cael cydsyniad ysgrifenedig yr awdurdod lleol hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

ApelauLL+C

10.  Mae unrhyw benderfyniad a wneir gan Weinidogion Cymru o ran pa un ai i roi cydsyniad i hepgor anghymhwyso o dan reoliad 9(1) yn benderfyniad rhagnodedig at ddibenion adran 37(2)(a) o’r Mesur (apelau).

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

Dyletswydd datgeluLL+C

11.—(1Rhaid i berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Mesur (“person cofrestredig”) ddarparu’r wybodaeth a ganlyn i Weinidogion Cymru—

(a)manylion unrhyw orchymyn, penderfyniad, euogfarn neu sail arall dros anghymhwyso rhag cofrestru a wneir neu sy’n gymwys mewn perthynas â pherson a restrir ym mharagraff (2) sy’n golygu bod y person hwnnw wedi ei anghymhwyso rhag cofrestru o dan y Rheoliadau hyn;

(b)y dyddiad pryd y gwnaed y gorchymyn, y penderfyniad neu’r euogfarn neu pryd y cododd unrhyw sail arall dros anghymhwyso rhag cofrestru;

(c)y corff neu’r llys a wnaeth y gorchymyn, y penderfyniad neu’r euogfarn a’r ddedfryd, os oes un, a osodwyd;

(d)mewn perthynas â gorchymyn neu euogfarn, copi o’r gorchymyn perthnasol neu’r gorchymyn llys perthnasol a ardystiwyd gan y corff dyroddi neu’r llys dyroddi.

(2Y personau y mae rhaid darparuʼr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) mewn cysylltiad â hwy yw—

(a)y person cofrestredig, a

(b)unrhyw berson sy’n byw ar yr un aelwyd â’r person cofrestredig neu sydd wedi ei gyflogi yn yr aelwyd honno.

(3Rhaid darparu’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ond beth bynnag o fewn 14 o ddiwrnodau i’r adeg pan ddaeth y person cofrestredig yn ymwybodol o’r wybodaeth honno neu pan ddylai fod wedi dod yn ymwybodol yn rhesymol ohoni pe bai’r person cofrestredig wedi gwneud ymholiadau rhesymol.

(4Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (2)(b) ond yn gymwys mewn cysylltiad ag aelodau’r aelwyd neu’r rheini sydd wedi eu cyflogi yn aelwyd gwarchodwr plant cofrestredig.

(5Caiff Gweinidogion Cymru ystyried unrhyw honiad bod person cofrestredig wedi methu â bodloni gofynion y rheoliad hwn wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ran 2 o’r Mesur (gan gynnwys canslo cofrestriad yn unol ag adran 31(1) o’r Mesur).

(6Mae person sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â gofynion y rheoliad hwn yn euog o drosedd.

(7Mae person a ddyfernir yn euog o drosedd o dan y rheoliad hwn yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

Dirymu a diwygiad canlyniadolLL+C

12.—(1Mae Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Anghymhwyso) (Cymru) 2022 wedi eu dirymu(18).

(2Yn Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010(19), yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “wedi ei anghymhwyso”, ym mharagraff (a) ar ôl “(Anghymhwyso)” mewnosoder “(Rhif 2)”.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 6.12.2022 (yn unol â rhl. 1(2)), gweler rhl. 1(2)

Julie Morgan

Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

14 Tachwedd 2022

Yn ôl i’r brig

Options/Cymorth

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill