- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Rheoliadau 3(2) a 3(11)
1. Gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o Ddeddf 1989 (gorchymyn gofal).
2. Gorchymyn o dan adran 31(1)(b) o Ddeddf 1989 (gorchymyn goruchwylio).
3. Gorchymyn o dan erthygl 50(1)(a) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995(1) (gorchymyn gofal).
4. Gorchymyn o dan erthygl 50(1)(b) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (gorchymyn goruchwylio).
5. Gorchymyn o dan adran 3(3) o Gyfraith Plant a Phobl Ifanc (Guernsey) 1967(2) (gorchymyn person addas neu orchymyn gofal arbennig).
6. Gorchymyn a wnaed yn dilyn cais fel y’i caniatawyd o dan adran 48(3) o Gyfraith Plant (Guernsey ac Alderney) 2008(3) (gorchymyn rhianta cymunedol).
7. Gorchymyn o dan adran 31(1)(a) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald)(4) (gorchymyn gofal).
8. Gorchymyn o dan adran 31(1)(b) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (gorchymyn goruchwylio).
9. Gorchymyn neu benderfyniad a bennir yn Atodlen 4 i Gyfraith Plant (Jersey) 2002(5).
10. Unrhyw orchymyn a fyddai wedi cael ei farnu’n orchymyn gofal yn rhinwedd paragraff 15 o Atodlen 14 i Ddeddf 1989 (darpariaethau trosiannol ar gyfer plant mewn gofal gorfodol) pe bai wedi bod mewn grym yn union cyn y diwrnod y daeth Rhan 4 o Ddeddf 1989 i rym.
11. Gorchymyn cyfrifoldeb rhiant a wneir o dan erthygl 7 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995.
12. Gorchymyn amddiffyn plant o dan adran 57 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(6) neu o dan adran 37 o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011(7).
13. Gorchymyn sefydlogrwydd a wnaed, neu a drinnir fel pe bai wedi ei wneud, o dan adran 80 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007(8).
14. Gorchymyn goruchwylio sy’n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 6 i Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000(9), adran 12AA o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969(10) (gofyniad i fyw mewn llety awdurdod lleol), paragraff 17 o Atodlen 1 i Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008(11) neu baragraff 25 o Atodlen 6 i’r Cod Dedfrydu.
15. Gorchymyn person addas o dan adran 91, 92, 95 neu 97 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(12), gorchymyn hawliau rhiant o dan adran 104 neu orchymyn ysgol hyfforddi o dan adran 78, adrannau 83 i 90, adran 95 neu adran 97 o’r Ddeddf honno.
16. Gorchymyn gwahardd o dan adran 76 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995.
17. Gorchymyn goruchwylio sy’n gosod gofyniad preswylio o dan baragraff 5 o Atodlen 9 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (gofyniad i fyw mewn llety a ddarperir gan yr Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol)(13).
18. Gorchymyn a wneir ar unrhyw adeg, sy’n gosod gofyniad goruchwylio mewn cysylltiad â phlentyn er mwyn symud y plentyn hwnnw o ofal P, o dan—
(a)adran 44 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(14), neu
(b)adran 70 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(15).
19. Gorchymyn a wneir ar unrhyw adeg, sy’n breinio hawliau a phwerau P mewn cysylltiad â phlentyn mewn awdurdod lleol yn yr Alban—
(a)o dan adran 16 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(16), neu
(b)yn unol â gorchymyn cyfrifoldebau rhiant o dan adran 86 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(17).
20. Gorchymyn goruchwylio gorfodol, o fewn ystyr “compulsory supervision order” yn adran 83 o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011, neu orchymyn goruchwylio gorfodol interim, o fewn ystyr “interim compulsory supervision order” yn adran 86 o’r Ddeddf honno, a wneir ar unrhyw adeg mewn cysylltiad â phlentyn er mwyn symud y plentyn hwnnw o ofal P.
21. Mewn perthynas â chofrestru cartref plant—
(a)gwrthod cais P i gofrestru o dan adran 13 o Ddeddf Safonau Gofal 2000,
(b)canslo cofrestriad P o dan adran 14, 20(1) neu 20(A) o Ddeddf Safonau Gofal 2000,
(c)canslo cofrestriad unrhyw berson o dan adran 14, 20(1) neu 20(A) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn perthynas â chartref plant y mae P wedi bod yn ymwneud â’i reoli, neu y mae gan P unrhyw fuddiant ariannol ynddo, neu
(d)gwrthod cais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003(18).
22. Mewn perthynas â chofrestru gwasanaeth cartref gofal, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel (mae i bob un yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016(19) (“Deddf 2016”))—
(a)gwrthod cais P i gofrestru o dan adran 7 o Ddeddf 2016,
(b)gwrthod o dan adran 12 o Ddeddf 2016 gais P i amrywio cofrestriad P (a wneir yn unol ag adran 11(1)(a)(i) neu (ii) o’r Ddeddf honno),
(c)canslo cofrestriad P o dan adran 15(1)(b) i (f) neu 23(1) o Ddeddf 2016,
(d)canslo cofrestriad unrhyw berson o dan adran 15(1)(b) i (f) neu 23(1) o Ddeddf 2016 mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel, y mae P wedi bod yn ymwneud â’i reoli, neu yr oedd gan P fuddiant ariannol ynddo, neu
(e)gwrthod cais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan Orchymyn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol Personol (Ansawdd, Gwella a Rheoleiddio) (Gogledd Iwerddon) 2003.
23. Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru mewn perthynas â chartref gwirfoddol neu gartref plant, neu ganslo cofrestriad cartref gwirfoddol neu gartref plant a oedd yn cael ei gynnal gan P neu yr oedd P fel arall yn ymwneud â’i reoli, neu yr oedd gan P unrhyw fuddiant ariannol ynddo, o dan, yn ôl y digwydd—
(a)paragraff 1 o Atodlen 5 i Ddeddf 1989(20),
(b)paragraff 1 neu 4 o Atodlen 6 i Ddeddf 1989(21),
(c)adran 127 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(22),
(d)erthygl 80, 82, 96 neu 98 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995(23),
(e)Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(24) (gwasanaethau cartrefi gofal),
(f)paragraff 2 neu 4 o Atodlen 6 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald)(25), neu
(g)Rhan 5 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010(26).
24. Gwaharddiad a osodir ar unrhyw adeg o dan—
(a)adran 69 o Ddeddf 1989, adran 10 o Ddeddf Plant Maeth 1980(27) neu adran 4 o Ddeddf Plant 1958 (pŵer i wahardd maethu preifat)(28),
(b)erthygl 110 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (pŵer i wahardd maethu preifat),
(c)adran 10 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (pŵer i wahardd cadw plant maeth)(29), neu
(d)adran 59 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) (pŵer i wahardd neu osod gwaharddiadau o dan faethu preifat).
25. Hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan Fwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan adran 1(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(30) (gwrthod cydsynio i berson ofalu am y plentyn a’i gynnal).
26. Gwrthod ar unrhyw adeg gofrestriad mewn cysylltiad â darparu meithrinfeydd, gofal dydd, gwarchod plant neu ddarpariaeth gofal plant arall, anghymhwyso rhag cofrestru o’r fath neu ganslo unrhyw gofrestriad o’r fath o dan—
(a)adran 1 neu 5 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1948(31),
(b)Rhan 10 neu 10A o Ddeddf 1989(32),
(c)Pennod 2, 3 neu 4 o Ran 3 o Ddeddf Gofal Plant 2006(33),
(d)Rhan 11 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995,
(e)adran 11(5) neu 15 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(34),
(f)Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(35),
(g)adran 1 o Ddeddf Rheoleiddio Meithrinfeydd a Gwarchodwyr Plant 1974(36) (Deddf Tynwald),
(h)adran 65 neu 66(37) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) neu Atodlen 7(38) iddi,
(i)Rhan III o Gyfraith Amddiffyn Plant (Guernsey) 1972, neu
(j)Rhan 2 o’r Mesur.
27. Anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant ar unrhyw adeg o dan Ddeddf Amddiffyn Plant (Yr Alban) 2003(39).
28. Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan adran 62 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(40) (cofrestru sefydliadau preswyl a sefydliadau eraill).
29. Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru yn ddarparwr asiantaeth gofal plant o dan adran 7 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 neu ganslo unrhyw gofrestriad o’r fath o dan adran 12 neu 18 o’r Ddeddf honno(41).
30. Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru yn ddarparwr asiantaeth gofal plant o dan adran 59 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 neu ganslo unrhyw gofrestriad o’r fath o dan adran 64 neu 65 o’r Ddeddf honno.
31. Gwrthod ar unrhyw adeg gais P i gofrestru neu ganslo cofrestriad P o dan adran 60 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010.
32. Cynnwys enw P ar unrhyw adeg ar restr o bersonau sy’n anaddas i weithio gyda phlant o dan erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant ac Oedolion Hyglwyf (Gogledd Iwerddon) 2003 neu anghymhwyso rhag gweithio gyda phlant o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Gorchymyn hwnnw(42).
Rheoliad 3(5)
1.—(1) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1956(43)—
(a)adran 1 (treisio);
(b)adran 2 neu 3 (caffael menyw drwy fygythiadau neu haeriadau anwir);
(c)adran 4 (rhoi cyffuriau i gael neu hwyluso cyfathrach);
(d)adran 5 (cyfathrach â merch o dan 13 oed);
(e)adran 6 (cyfathrach â merch rhwng 13 ac 16 oed);
(f)adran 14 neu 15 (ymosod anweddus);
(g)adran 16 (ymosod gan fwriadu cyflawni sodomiaeth);
(h)adran 17 (herwgydio menyw drwy rym neu oherwydd ei heiddo);
(i)adran 19 neu 20 (herwgydio merch o dan 18 neu 16 oed);
(j)adran 24 (cadw menyw mewn puteindy neu mewn mangre arall);
(k)adran 25 neu 26 (caniatáu i ferch o dan 13 oed, neu rhwng 13 ac 16 oed, ddefnyddio mangre i gael cyfathrach);
(l)adran 28 (achosi neu annog puteinio merch o dan 16 oed, cyfathrach â hi neu ymosodiad anweddus arni).
(2) Trosedd o dan adran 1 o Ddeddf Anwedduster gyda Phlant 1960 (ymddygiad anweddus tuag at blentyn ifanc)(44).
(3) Trosedd o dan adran 54 o Ddeddf Cyfraith Trosedd 1977 (ysgogi merch o dan 16 oed i gyflawni llosgach)(45).
(4) Trosedd o dan adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Diwygio) 2000 (camfanteisio ar ymddiriedaeth)(46).
(5) Trosedd o dan adran 16 o Ddeddf Plant Maeth 1980(47) neu adran 14 o Ddeddf Plant 1958(48) (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat).
(6) Trosedd o dan adran 63(10) o Ddeddf 1989, paragraff 1(5) o Atodlen 5 iddi neu baragraff 2(3) o Atodlen 6 iddi (troseddau sy’n ymwneud â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant)(49).
(7) Trosedd o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001(50)—
(a)adran 21 (troseddau mewn perthynas â chofrestru),
(b)adran 22 (datganiadau anwir mewn ceisiadau), neu
(c)adran 29(10) (troseddau o dan reoliadau).
(8) Trosedd o dan adran 71 o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009(51) (caethwasiaeth, caethiwed a llafur o dan orfod neu lafur gorfodol).
2. Mae P yn dod o fewn y paragraff hwn os yw P wedi ei gael wedi cyflawni trosedd o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn yn erbyn plentyn neu sy’n ymwneud â phlentyn—
(a)adran 7 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1956(52) (cyfathrach â pherson diffygiol),
(b)adran 9 o’r Ddeddf honno (caffael person diffygiol),
(c)adran 10 o’r Ddeddf honno (llosgach gan ddyn),
(d)adran 11 o’r Ddeddf honno (llosgach gan fenyw),
(e)adran 12 o’r Ddeddf honno (sodomiaeth) ac eithrio os oedd y parti arall i’r weithred o anwedduster difrifol yn 16 oed neu’n hŷn ac wedi cydsynio i’r weithred,
(f)adran 21 o’r Ddeddf honno (herwgydio person diffygiol oddi wrth riant neu warcheidwad),
(g)adran 22 oʼr Ddeddf honno (achosi puteinio menywod),
(h)adran 23 o’r Ddeddf honno (caffael merch o dan 21 oed),
(i)adran 27 o’r Ddeddf honno (caniatáu i berson diffygiol ddefnyddio mangre i gael cyfathrach),
(j)adran 30 oʼr Ddeddf honno (dyn yn byw ar enillion puteindra),
(k)adran 31 o’r Ddeddf honno (menyw yn arfer rheolaeth dros butain),
(l)adran 128 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1959 (cyfathrach rywiol â chleifion)(53),
(m)adran 4 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 1967(54) (caffael eraill i gyflawni gweithredoedd cyfunrhywiol),
(n)adran 5 oʼr Ddeddf honno (byw ar enillion puteindra gwryw),
(o)adran 9(1)(a) o Ddeddf Dwyn 1968(55) (bwrgleriaeth), neu
(p)trosedd sy’n gysylltiedig â throsedd a bennir yn is-baragraffau (a) i (o).
Rheoliad 3(7)
1.—(1) Trosedd o dan adran 1 (trosedd anfon llythyrau etc. gan fwriadu achosi trallod neu bryder) o Ddeddf Cyfathrebiadau Maleisus 1988(56).
(2) Trosedd o dan adran 49 neu 50(9) o Ddeddf 1989 (troseddau sy’n ymwneud â herwgydio plentyn mewn gofal).
(3) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997(57)—
(a)adran 4 (rhoi pobl o dan ofn trais), neu
(b)adran 4A (stelcio sy’n cynnwys ofn trais neu ddychryn neu drallod difrifol)(58).
(4) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr adrannau a ganlyn o Ddeddf Terfysgaeth 2000(59)—
(a)adran 11 (aelodaeth),
(b)adran 12 (cefnogaeth),
(c)adran 13 (lifrai),
(d)adran 15 (codi arian),
(e)adran 54 (hyfforddiant arfau)(60),
(f)adran 56 (sefydliad cyfarwyddo terfysgwyr),
(g)adran 58A (ennyn, cyhoeddi neu gyfathrebu gwybodaeth am aelodau o’r lluoedd arfog etc)(61),
(h)adran 59 (Cymru a Lloegr), neu
(i)adran 63 (cyllid terfysgwyr: awdurdodaeth).
(5) Trosedd mewn perthynas â chartref plant o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Safonau Gofal 2000—
(a)adran 11(1) (methiant i gofrestru),
(b)adran 24 (methiant i gydymffurfio ag amodau),
(c)adran 25 (torri rheoliadau),
(d)adran 26 (disgrifiadau anwir o sefydliadau ac asiantaethau), neu
(e)adran 27 (datganiadau anwir mewn ceisiadau).
(6) Trosedd o dan adran 127 (defnydd amhriodol o rwydwaith cyfathrebu electronig cyhoeddus) o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003(62).
(7) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003—
(a)adran 15A (cyfathrebu rhywiol â phlentyn)(63),
(b)adran 62 neu 63 (cyflawni trosedd neu dresmasu gan fwriadu cyflawni trosedd rywiol),
(c)adran 64 neu 65 (rhyw â pherthynas sy’n oedolyn),
(d)adran 67A (voyeuriaeth: troseddau ychwanegol),
(e)adran 69 (cyfathrach ag anifail)(64), neu
(f)adran 70 (treiddio’n rhywiol i gorff marw).
(8) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Terfysgaeth 2006(65)—
(a)adran 1 (annog terfysgaeth),
(b)adran 2 (lledaenu cyhoeddiadau terfysgol),
(c)adran 5 (paratoi gweithredoedd terfysgol),
(d)adran 6 (hyfforddiant ar gyfer terfysgaeth)(66),
(e)adran 8 (presenoldeb mewn man a ddefnyddir ar gyfer hyfforddiant terfysgwyr),
(f)adran 9 (gwneud dyfeisiau neu ddeunyddiau a meddu arnynt), neu
(g)adran 11 (bygythiadau terfysgol sy’n ymwneud â dyfeisiau, deunyddiau neu gyfleusterau).
(9) Trosedd o dan adran 62 (meddu ar ddelweddau gwaharddedig o blant) o Ddeddf Crwneriaid a Chyfiawnder 2009(67).
(10) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd 2015(68)—
(a)adran 20 (trin yn wael neu esgeulustod bwriadol: trosedd gan weithiwr gofal),
(b)adran 21 (trin yn wael neu esgeulustod bwriadol: trosedd gan ddarparwr gofal), neu
(c)adran 33 (datgelu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat gan fwriadu achosi trallod).
(11) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Troseddu Difrifol 2015(69)—
(a)adran 69 (meddu ar lawlyfr i bedoffiliaid)(70), neu
(b)adran 76 (ymddygiad rheolaethol neu ymddygiad gorfodaethol mewn perthynas agos neu deuluol).
(12) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015(71)—
(a)adran 1 (caethwasiaeth, caethiwed a llafur o dan orfod neu lafur gorfodol),
(b)adran 2 (masnachu pobl),
(c)adran 4 (cyflawni trosedd gan fwriadu cyflawni trosedd o dan adran 2), neu
(d)adran 30 (troseddau)(72).
(13) Trosedd o dan adran 5 (cyflenwi, neu gynnig cyflenwi, sylwedd seicoweithredol) o Ddeddf Sylweddau Seicoweithredol 2016(73).
(14) Trosedd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu wasanaeth llety diogel (mae i bob un yr ystyr a roddir yn Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”)) o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016—
(a)adran 5 (gofyniad i gofrestru),
(b)adran 43 (methiant i gydymffurfio ag amod),
(c)adran 44 (disgrifiadau anwir),
(d)adran 45 (methiant gan ddarparwr gwasanaeth i gydymffurfio â gofynion mewn rheoliadau), neu
(e)adran 47 (datganiadau anwir).
(15) Trosedd o dan adran 70 o Ddeddf 1989 (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat).
(16) Trosedd o dan adran 121 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014(74) (trosedd priodas o dan orfod: Cymru a Lloegr).
(17) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod 2003(75)—
(a)adran 1 (trosedd anffurfio organau cenhedlu benywod),
(b)adran 2 (cynorthwyo merch i anffurfio ei horganau cenhedlu ei hun),
(c)adran 3 (cynorthwyo person nad yw o’r DU i anffurfio dramor organau cenhedlu merch), neu
(d)adran 3A (methu ag amddiffyn merch rhag risg o anffurfio organau cenhedlu).
2.—(1) Trosedd treisio o dan adran 1 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009(76).
(2) Trosedd a bennir yn Atodlen 1 i Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Yr Alban) 1995(77).
(3) Trosedd plagiwm yn y gyfraith gyffredin (dwyn plentyn o dan oedran aeddfedrwydd).
(4) Trosedd o dan adran 52 neu 52A o Ddeddf Llywodraeth Ddinesig (Yr Alban) 1982(78) (troseddau sy’n ymwneud â ffotograffau anweddus o blant).
(5) Trosedd o dan adran 3 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Diwygio) 2000(79) (camfanteisio ar ymddiriedaeth).
(6) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr canlynol—
(a)adran 81, 83 neu 89 o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995(80), adran 59(1) neu 171(2) o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011 neu adran 17(8) neu 71 o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(81) (troseddau llochesu);
(b)adran 6 o Ddeddf Herwgydio Plant 1984(82) (mynd â phlentyn neu anfon plentyn allan o’r Deyrnas Unedig);
(c)adran 15 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat).
(7) Trosedd o dan neu yn rhinwedd adran 60(3), 61(3) neu 62(6) o Ddeddf Gwaith Cymdeithasol (Yr Alban) 1968(83) (troseddau sy’n ymwneud â sefydliadau preswyl a sefydliadau eraill).
(8) Trosedd mewn perthynas â gwasanaeth cartref gofal, gwarchod plant neu ofal dydd plant, o dan neu yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010—
(a)adran 78 (rheoliadau: gwasanaethau gofal),
(b)adran 80 (troseddau mewn perthynas â chofrestru o dan Bennod 3), neu
(c)adran 81 (datganiadau anwir mewn cais o dan Bennod 3).
(9) Trosedd o dan adran 122 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (trosedd priodas o dan orfod: yr Alban).
3.—(1) Trosedd treisio o dan erthygl 5 o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008(84).
(2) Trosedd o dan adran 66, 69 neu 70 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003(85).
(3) Trosedd o dan erthygl 70, 73 neu 74 o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008.
(4) Trosedd a bennir yn Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(86) ac eithrio unrhyw droseddau a bennir o dan Ddeddf Cyfraith Trosedd (Diwygio) 1995 yn yr Atodlen honno.
(5) Trosedd o dan erthygl 3 o Orchymyn Amddiffyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1978(87) (ffotograffau anweddus).
(6) Trosedd yn groes i erthygl 9 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Gogledd Iwerddon) 1980(88) (ysgogi merch o dan 16 oed i gael cyfathrach rywiol losgachol).
(7) Trosedd yn groes i erthygl 15 o Orchymyn Cyfiawnder Troseddol (Tystiolaeth etc.) (Gogledd Iwerddon) 1988(89) (meddu ar ffotograffau anweddus o blant).
(8) Trosedd o dan adrannau 16 i 19 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003(90) (camfanteisio ar safle o ymddiriedaeth).
(9) Trosedd o dan Ran 3 o Orchymyn Troseddau Rhywiol (Gogledd Iwerddon) 2008 (troseddau rhywiol yn erbyn plant).
(10) Trosedd o dan unrhyw un neu ragor oʼr canlynol—
(a)erthygl 68 neu 69(9) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995 (troseddau sy’n ymwneud â herwgydio plentyn mewn gofal),
(b)erthygl 132 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 14 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(91) (troseddau sy’n ymwneud â gwarchod plant a gofal dydd),
(c)erthygl 117 o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995, neu adran 9(1) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(92) (troseddau sy’n ymwneud â maethu preifat), neu
(d)erthygl 79(3), 81(4), 95(3) neu 97(4) o Orchymyn Plant (Gogledd Iwerddon) 1995(93), neu adran 127(5) neu 129(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Gogledd Iwerddon) 1968(94) (troseddau sy’n ymwneud â chartrefi gwirfoddol a chartrefi plant).
(11) Trosedd yn groes i adran 2 o Ddeddf Masnachu Pobl a Chamfanteisio ar Bobl (Cyfiawnder Troseddol a Chymorth i Ddioddefwyr) (Gogledd Iwerddon) 2015(95) (masnachu pobl).
(12) Trosedd yn groes i adran 51 o Ddeddf Cyfiawnder (Gogledd Iwerddon) 2016(96) (datgelu ffotograffau a ffilmiau rhywiol preifat gan fwriadu achosi trallod).
4. Trosedd yn groes—
(a)i Ran 7 o Gyfraith Plant (Jersey) 1969(97),
(b)i Atodlen 4 i Gyfraith Plant (Jersey) 2002(98), neu
(c)i Gyfraith Gofal Dydd Plant (Jersey) 2002(99).
5. Trosedd yn groes—
(a)i’r ‘Loi pour la Punition d’Inceste’ (Cyfraith Cosbi Llosgach) 1909(100);
(b)i’r ‘Loi relative à la protection des Femmes et des Filles Mineures’ (Cyfraith Amddiffyn Menywod a Merched Ifanc) 1914(101);
(c)i’r ‘Loi relative à la Sodomie’ (Cyfraith sy’n ymwneud â Sodomiaeth) 1929(102);
(d)erthygl 7, 9, 10, 11 neu 12, paragraff 1 o erthygl 41 neu baragraff 1, 2, 3 neu 4 o erthygl 51 o’r ‘Loi ayant rapport à la Protection des Enfants et des Jeunes Personnes’ (Cyfraith sy’n ymwneud ag Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc) 1917(103);
(e)Cyfraith Plant a Phobl Ifanc (Guernsey) 1967;
(f)Cyfraith Amddiffyn Plant (Beilïaeth Guernsey) 1985(104).
6. Trosedd a bennir yn Atodlen 8 i Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald).
7.—(1) Trosedd yn groes i adran 170 o Ddeddf Rheoli Tollau Tramor a Chartref 1979(105) mewn perthynas â nwyddau y gwaherddir eu mewnforio o dan adran 42 o Ddeddf Cydgrynhoi Tollau 1876(106) (gwaharddiadau a chyfyngiadau) pan oedd y nwyddau gwaharddedig yn cynnwys ffotograffau anweddus o blentyn.
(2) Trosedd yn rhinwedd—
(a)adran 72 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (troseddau y tu allan i’r Deyrnas Unedig)(107), neu
(b)adran 16B o Ddeddf Cyfraith Trosedd (Cydgrynhoi) (Yr Alban) 1995(108) (cyflawni troseddau rhywiol penodol y tu allan i’r Deyrnas Unedig).
(3) Trosedd yn groes i adran 32(3) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1969 (cadw pobl sy’n absennol yn gaeth).Trosedd yn groes i erthygl 10(2) (trosedd sy’n ymwneud â dianc) neu erthygl 11(1) (trosedd rhwystro bwriadol) o Orchymyn Deddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011 (Darpariaethau Canlyniadol, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2013(109)
Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXI, t. 34. Diddymwyd adran 3(3) gan adran 3 o Ordinhad Plant (Diwygiadau Canlyniadol etc.) (Guernsey ac Alderney), 2009 (Rhif VII 2010), a pharagraff 15(1) o Atodlen 1 iddo, yn ddarostyngedig i arbedion a darpariaethau trosiannol yn adran 4 o’r Ordinhad hwnnw ac Atodlen 2 iddo.
Rhif XIV 2009.
2001 p. 20 (Deddf Tynwald). Ystyr Deddf Tynwald yw Deddf a basiwyd gan Senedd Ynys Manaw.
Cyfraith Jersey 50/2002.
1995 p. 36. Diddymwyd adran 57 gan adran 203(2) o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011 (dsa 1) ac Atodlen 6 iddi.
2000 p. 6. Fe’i diddymwyd gan adran 149 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4) ac Atodlen 28 iddi, yn ddarostyngedig i arbedion a darpariaethau trosiannol a bennir ym mharagraff 1(1) o Atodlen 27 i’r Ddeddf honno.
1969 p. 54. Fe’i diddymwyd gan adran 165 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (p. 6) a Rhan 1 o Atodlen 12 iddi.
2008 p. 4. Fe’i diddymwyd gan adran 413 o Ddeddf Dedfrydu 2020 (p. 17) ac Atodlen 28 iddi, yn ddarostyngedig i arbedion a darpariaethau trosiannol a bennir yn adrannau 412 a 416 o’r Ddeddf honno, a pharagraffau 1, 2, 4 a 5 o Atodlen 27 iddi.
Diddymwyd y darpariaethau sy’n ymwneud â’r gorchmynion hyn gan O.S. 1995/755 (G.I. 2) ac O.S. 1998/1504 (G.I. 9).
Ers 2021, gelwir yr Adran Iechyd a Nawdd Cymdeithasol ar Ynys Manaw yn Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
1968 p. 49. Diddymwyd adran 44 gan adran 105(5) o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 ac Atodlen 5 iddi.
Diddymwyd adran 70 gan adran 203(2) o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2011 ac Atodlen 6 iddi.
Diddymwyd adran 16 gan adran 105(5) o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 ac Atodlen 5 iddi.
Diddymwyd adran 86 gan adran 120(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007 (dsa 4) ac Atodlen 3 iddi.
Fe’i diddymwyd o ran Cymru a Lloegr gan adran 117(2) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac Atodlen 6 iddi.
Fe’i diddymwyd o ran Cymru a Lloegr gan adran 117(2) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac Atodlen 6 iddi.
Diddymwyd adran 127 gan erthygl 185(2) o O.S. 1995/755 (G.I. 2) ac Atodlen 10 iddo.
Diddymwyd erthyglau 80, 82, 96 a 98 gan erthygl 50(2) o O.S. 2003/431 (G.I. 9) ac Atodlen 5 iddo.
2001 dsa 8. Diddymwyd Rhan 1 gan adran 106 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 (dsa 8) ac Atodlen 14 iddi, gydag arbedion a bennir yn erthygl 2 o O.S.A. 2011/169.
Diddymwyd Atodlen 6 gan adran 199 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal 2013 (Deddf Tynwald) (p. 10).
1980 p. 6. Diddymwyd adran 10 gan adran 108 o Ddeddf 1989 ac Atodlen 15 iddi.
1958 p. 65. Diddymwyd Deddf Plant 1958, gydag arbedion, gan adran 23 o Ddeddf Plant Maeth 1980 ac Atodlen 3 iddi ac adran 22 o Ddeddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 (p. 56) ac Atodlen 3 iddi. Mae Deddf Plant Maeth (Yr Alban) 1984 yn cael effaith yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a nodir yn y Ddeddf honno.
Diddymwyd adran 1 gan erthygl 185(2) o O.S. 1995/755 (G.I. 2) ac Atodlen 10 iddo.
1948 p. 53. Diddymwyd y Ddeddf hon, gydag arbedion, gan adran 108 o Ddeddf 1989 a pharagraffau 33 a 34 o Atodlen 14 ac Atodlen 15 iddi.
Diddymwyd Rhan 10 o ran Cymru a Lloegr gan adran 79 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac o ran yr Alban gan adran 80 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 (dsa 8) ac Atodlen 4 iddi. Diddymwyd Rhan 10A o ran Cymru gan adran 73 o’r Mesur ac Atodlen 2 iddo.
Diddymwyd adrannau 11(5) a 15 gan erthygl 185(2) o O.S. 1995/755 (G.I. 2) ac Atodlen 10 iddo.
Diddymwyd Rhan 1 gan adran 106 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 ac Atodlen 14 iddi, gydag arbedion a bennir yn erthygl 2 o O.S.A. 2011/169.
1974 p. 12 (Deddf Tynwald). Diddymwyd y Ddeddf hon gan adran 105 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 2001 (Deddf Tynwald) ac Atodlen 13 iddi.
2001 p. 20. Diddymwyd adrannau 65 a 66 gan adran 196 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal 2013 (Deddf Tynwald) (p. 10).
Diddymwyd Atodlen 7 gan adran 199 o Ddeddf Rheoleiddio Gofal 2013 (Deddf Tynwald).
2003 dsa 5. Diddymwyd y Ddeddf hon gan adran 88 o Ddeddf Amddiffyn Grwpiau Hyglwyf (Yr Alban) 2007 (dsa 14) ac Atodlen 4 iddi, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a nodir yn erthyglau 3 i 12 o O.S.A. 2010/180.
1968 p. 49. Diddymwyd adran 62 gan adran 80(1) o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 ac Atodlen 4 iddi, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn erthyglau 11 a 13 o O.S.A. 2002/162.
Diddymwyd adrannau 7, 12 a 18 yn yr Alban gan adran 106 o Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010 ac Atodlen 14 iddi, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn erthygl 21 o O.S.A. 2011/121.
O.S. 2003/417 (G.I. 4). Dirymwyd erthygl 3 a Phennod 2 o Ran 2 o’r Gorchymyn hwnnw gan erthygl 60(2) o O.S. 2007/1351 (G.I. 11) ac Atodlen 8 iddo.
1956 p. 69. Diddymwyd pob un o’r adrannau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) i (l) o’r is-baragraff hwn gan adran 140 o Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003 (“Deddf 2003”) ac Atodlen 7 iddi.
1960 p. 33. Diddymwyd adran 1 gan adran 140 o Ddeddf 2003 ac Atodlen 7 iddi.
1977 p. 45. Diddymwyd adran 54 gan adran 140 o Ddeddf 2003 ac Atodlen 7 iddi.
2000 p. 44. Diddymwyd adran 3 yng Nghymru a Lloegr gan adran 140 o Ddeddf 2003 ac Atodlen 7 iddi. Fe’i diddymwyd yn yr Alban gan adran 61(2) o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009 (dsa 9) ac Atodlen 6 iddi.
1980 p. 6. Diddymwyd y Ddeddf hon gan adran 108(7) o Ddeddf 1989 ac Atodlen 15 iddi.
1958 p. 65. Diddymwyd adran 14 gan adran 23(3) o Ddeddf Plant Maeth 1980 ac Atodlen 3 iddi.
Diddymwyd pob un o’r darpariaethau hyn gan adran 117(2) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac Atodlen 6 iddi.
Diddymwyd pob un o’r darpariaethau ym mharagraffau (a) i (c) gan baragraff 37 o Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (Yr Alban) 2010.
2009 p. 25. Diddymwyd adran 71 o ran Cymru a Lloegr gan adran 57(1) o Ddeddf Caethwasiaeth Fodern 2015 a pharagraff 8 o Atodlen 5 iddi.
Diddymwyd pob un o’r darpariaethau yn is-baragraffau (a) i (k) gan adran 140 o Ddeddf 2003 ac Atodlen 7 iddi.
1959 p. 72. Diddymwyd adran 128 gan adran 140 o Ddeddf 2003 ac Atodlen 7 iddi.
1967 p. 60. Diddymwyd y darpariaethau yn is-baragraffau (m) ac (n) gan adran 140 o Ddeddf 2003 ac Atodlen 7 iddi.
1968 p. 60. Darperir manylion am natur trosedd dan adran 9(1)(a) yn adran 9(2). Diwygiwyd adran 9(2) gan adran 139 o Ddeddf 2003 ac Atodlen 7 iddi.
Mewnosodwyd adran 4A gan adran 111(2) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).
Diwygiwyd adran 54 gan adran 120 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth, Trosedd a Diogelwch 2001 (p. 24), adran 1 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 (p. 2) (gyda darpariaethau trosiannol sydd wedi eu cynnwys yn O.S. 2015/778) ac adran 99 o Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008 (p. 28) ac Atodlen 9 iddi.
Mewnosodwyd adran 38A gan adran 76(1) o Ddeddf Gwrthderfysgaeth 2008 (p. 28). Amnewidiwyd rhan o adran 38A(3) gan adran 7(4) o Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch y Ffin 2019 (p. 3) (“Deddf 2019”), yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a nodir yn adran 25(2) o Ddeddf 2019.
2003 p. 21. Diwygiwyd adran 127 gan adran 51(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 (p. 2).
Mewnosodwyd adran 15A gan adran 67 o Ddeddf Troseddu Difrifol 2015 (p. 9).
Diddymwyd adran 69 o ran Gogledd Iwerddon gan erthygl 83 o O.S. 2008/1769 (G.I. 2) ac Atodlen 3 iddo, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn y Gorchymyn hwnnw.
Diwygiwyd adran 6 gan adran 1(3) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a’r Llysoedd 2015 (p. 2) (“Deddf 2015”) (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol a nodir yn adran 1(4) a (5) o Ddeddf 2015) a pharagraff 443 o Atodlen 24 i Ddeddf Dedfrydu 2020 (“Deddf 2020”) (yn ddarostyngedig i arbedion a darpariaethau trosiannol yn adran 410 o Ddeddf 2020 ac Atodlen 24 iddi).
Diwygiwyd adran 69 gan reoliadau 23 a 24 o O.S. 2016/244.
Diwygiwyd adran 30 gan erthygl 3 o O.S. 2016/1031 a pharagraff 3(2)(a) a (b) o’r Atodlen iddo.
Mewnosodwyd gan adran 72 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2015 (p. 9).
1982 p. 45. Diwygiwyd adran 52 gan adran 5 o Ddeddf Gweithdrefn Droseddol (Darpariaethau Canlyniadol) (Yr Alban) 1995 (p. 40) ac Atodlen 4 iddi, ac adran 16 o Ddeddf Amddiffyn Plant ac Atal Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2005 (dsa 9). Mewnosodwyd adran 52A gan adran 161 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p. 33). Diwygiwyd adrannau 52 a 52A gan adran 84 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p. 33), adran 19 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol (Yr Alban) 2003 (dsa 7), ac adran 41 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Thrwyddedu (Yr Alban) 2010 (dsa 13) a pharagraff 13 o Atodlen 7 iddi.
2000 p. 44. Diddymwyd adran 3 o ran Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gan baragraff 45 o Atodlen 6 i Ddeddf Troseddau Rhywiol 2003. Fe’i diddymwyd o ran yr Alban gan Atodlen 6 i Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009.
Diddymwyd adrannau 81 and 83 gan adran 203(2) o Ddeddf Gwrandawiadau Plant (Yr Alban) 2001 (dsa 1) ac Atodlen 6 iddi. Diddymwyd adran 89 gan adran 120(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant (Yr Alban) 2007 ac Atodlen 3 iddi.
Fe’i diddymwyd gan adran 105(5) o Ddeddf Plant (yr Alban) 1995 ac Atodlen 5 iddi.
1984 p. 37. Diwygiwyd adran 6 o ran yr Alban gan adran 105(4) o Ddeddf Plant (Yr Alban) 1995 ac Atodlen 4 iddi.
Diddymwyd adrannau 60, 61 a 62 gan adran 80(1) o Ddeddf Rheoleiddio Gofal (Yr Alban) 2001 ac Atodlen 4 iddi, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn erthyglau 11 a 13 o O.S.A. 2002/162.
O.S. 2008/1769 (G.I. 2) (“Gorchymyn 2008”).
Diddymwyd adrannau 66, 69 a 70 o ran Gogledd Iwerddon gan erthygl 83 o Orchymyn 2008 ac Atodlen 3 iddo, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn y Gorchymyn hwnnw.
O.S. 1978/1047 (G.I. 17). Diwygiwyd erthygl 3 gan adran 84(10) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p. 33) (“Deddf 1994”), adran 41(2) o Ddeddf 2000 a pharagraff 8 o Atodlen 1 i O.S. 2003/1247 (G.I. 13).
O.S. 1980/704 (G.I. 6). Mae erthygl 9 wedi ei dirymu a’i disodli gan erthygl 33 o Orchymyn 2008.
O.S. 1988/1847 (G.I. 17). Diwygiwyd erthygl 15 gan adrannau 84(11) a 86(2) o Ddeddf 1994 ac adran 41(4) o Ddeddf 2000.
Diddymwyd adrannau 16 i 19 yng Ngogledd Iwerddon gan erthygl 83 o Orchymyn 2008 ac Atodlen 3 iddo, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwnnw.
Diddymwyd adran 14 gan O.S. 1995/755 (G.I. 2).
Diddymwyd adran 9(1) gan O.S. 1995/755 (G.I. 2).
Dirymwyd erthyglau 79(3), 81(4), 95(3) a 97(4) gan erthygl 50(2) o O.S. 2003/431 (G.I. 9) ac Atodlen 5 iddo.
Diddymwyd adrannau 127 a 129 gan O.S. 1995/755 (G.I. 2).
Cyfraith Jersey 16/1969.
Cyfraith Jersey 50/2002.
Cyfraith Jersey 51/2002.
Gorchmynion yn y Llys Cyfrol IV, t. 288.
Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol V, t. 74.
Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol VIII, t. 273.
Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol V, t. 243, fel y’u diwygiwyd gan Loi Supplémentaire à la Loi ayant rapport à la Protection des Enfants et des Jeunes Personnes 1937, Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor XI, t. 116, a Chyfraith Amddiffyn Plant a Phobl Ifanc (Diwygio) 1955, Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol XVI, t. 277.
Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXIX, t. 103, fel y’u diwygiwyd gan Gyfraith Gweinyddu Cyfiawnder (Beilïaeth Guernsey) 1991, Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor Cyfrol XXXIII, t. 49, Cyfraith Tystiolaeth Droseddol a Darpariaethau Amrywiol (Beilïaeth Guernsey) 2002, Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor Rhif I 2003, a Chyfraith Cyfiawnder Troseddol (Darpariaethau Amrywiol) (Beilïaeth Guernsey), 2006, Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor Rhif XIII 2006.
1979 p. 2. Diwygiwyd adran 170 gan adran 114 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984 (p. 60), O.S. 1996/2686, adran 75 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 (p. 4) a pharagraff 8 o Atodlen 17 iddi, adran 111 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (p. 12), O.S. 2015/664, adran 12 o Ddeddf Cyllid 1988 (p. 39), O.S. 2004/702 (G.I. 3), O.S. 2005/1966 (G.I. 16) ac adran 3 o Ddeddf Cyllid (Rhif 2) 1992 (p. 48) a pharagraff 7 o Atodlen 2 iddi.
1876 p. 36. Diwygiwyd adran 42 gan Ddeddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 1993 (p. 50) a Deddf Cyfraith Statud (Diddymiadau) 2008 (p. 12).
Diddymwyd adran 72 o ran Gogledd Iwerddon gan erthygl 83 o Orchymyn 2008 ac Atodlen 3 iddo, yn ddarostyngedig i arbedion a bennir yn y Gorchymyn hwnnw.
1995 p. 39. Diddymwyd adran 16B gan adran 61 o Ddeddf Troseddau Rhywiol (Yr Alban) 2009 (dsa 9) ac Atodlen 6 iddi.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys