- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Gwnaed
18 Tachwedd 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer a roddir gan adran 57(3)(c) o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Amaethyddiaeth 2020 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2022.
2. Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf Amaethyddiaeth 2020 i rym ar 13 Rhagfyr 2022—
(a)Rhan 4 o Atodlen 7 (Y Rheoliad CMO: diwygiadau canlyniadol), a
(b)adran 52 (diwygiadau canlyniadol), i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
18 Tachwedd 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn ac maent yn dwyn i rym ddarpariaethau Deddf Amaethyddiaeth 2020 (p. 21) (“y Ddeddf”).
Mae Rheoliad 2(a) yn dwyn i rym, ar 13 Rhagfyr 2022, Ran 4 o Atodlen 7 i’r Ddeddf. Mae Rheoliad 2(b) yn dwyn i rym, ar 13 Rhagfyr 2022, adran 52 o’r Ddeddf i’r graddau y mae’n ymwneud â’r Rhan honno.
O ganlyniad i’r ddarpariaeth yn Rhan 4 o Atodlen 5 i’r Ddeddf, mae Rhan 4 o Atodlen 7 i’r Ddeddf yn gwneud diwygiadau canlyniadol yng Nghymru mewn perthynas â darpariaethau safonau marchnata a dosbarthu carcasau yn Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 gan sefydlu cyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol (“y Rheoliad CMO”).
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf wedi eu dwyn i rym drwy Reoliadau Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Rheoliadau hyn:
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 46 (yn rhannol) | 1 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1648 (Cy. 346)(C. 51) |
Paragraffau 7 ac 8 o Atodlen 5 | 1 Ionawr 2021 | O.S. 2020/1648 (Cy. 346)(C. 51) |
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys