Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2022

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2022 (heb Atodlenni)

 Help about opening options

Fersiwn wedi'i ddisodliFersiwn wedi ei ddisodli: 18/03/2022

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 11/02/2022.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2022. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

RHAN 1LL+CCyffredinol

Enwi, dod i rym a dirymuLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 11 Chwefror 2022.

(3Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020(1) wedi eu dirymu.

(4Mae Rhan 3 o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Hysbysu) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2021(2) wedi ei dirymu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 11.2.2022 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Dehongli cyffredinolLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “cerbyd nwyddau” yr ystyr a roddir i “goods vehicle” yn adran 192 o Ddeddf Traffig Ffyrdd 1988(3);

mae i “contractwr llywodraeth” yr ystyr a roddir i “government contractor” yn adran 12(2) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989;

ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);

ystyr “darparwr prawf” (“test provider”) yw darparwr prawf cyhoeddus neu ddarparwr prawf preifat;

ystyr “darparwr prawf cyhoeddus” (“public test provider”) yw person sy’n darparu neu’n gweinyddu prawf gan arfer pwerau o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(4), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978(5), neu Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972(6);

ystyr “darparwr prawf preifat” (“private test provider”) yw darparwr prawf ac eithrio darparwr prawf cyhoeddus;

ystyr “dyfais” (“device”) yw dyfais feddygol ddiagnostig in vitro o fewn yr ystyr a roddir i “in vitro diagnostic medical device” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Dyfeisiadau Meddygol 2002(7);

ystyr “GIG” (“NHS”) yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006(8);

mae i “gwas i’r goron” yr ystyr a roddir i “crown servant” yn adran 12(1)(a) i (e) o Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989(9);

ystyr “gweithiwr cludiant ffyrdd” (“road haulage worker”) yw—

(a)

gyrrwr cerbyd nwyddau sy’n cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â chludo nwyddau, ac eithrio nwyddau at ddefnydd personol anfasnachol y gyrrwr, neu

(b)

person a gyflogir gan ddeiliad trwydded Gymunedol a ddyroddwyd o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 1072/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor(10), ac sy’n gweithredu yng nghwrs ei gyflogaeth;

ystyr “gwybodaeth am deithiwr” (“passenger information”) yw—

(a)

pan fo P yn deithiwr cymwys, yr wybodaeth a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1;

(b)

pan na fo P yn deithiwr cymwys, yr wybodaeth a bennir yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 1;

mae “gyrrwr” (“driver”) yn cynnwys person sy’n teithio mewn cerbyd fel gyrrwr wrth gefn;

ystyr “penodolrwydd” (“specificity”), mewn perthynas â dyfais, yw pa mor aml y mae’r ddyfais yn cynhyrchu canlyniad negatif yn gywir;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 18 oed ac mae unrhyw gyfeiriad at “oedolyn” (“adult”) i’w ddehongli yn unol â hynny;

ystyr “prawf cymhwysol” (“qualifying test”) yw prawf sy’n brawf cymhwysol at ddibenion rheoliad 7;

ystyr “prawf diwrnod 2” (“day 2 test”) yw prawf sy’n cydymffurfio â rheoliad 8(5) a pharagraff 1 o Atodlen 4;

ystyr “prawf gweithlu” (“workforce test”) yw prawf a gymerir ar gyfer canfod y coronafeirws, a ddarperir neu a weinyddir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “prawf gweithlu arall” (“replacement workforce test”) yw prawf a gymerir ar gyfer canfod y coronafeirws, a ddarperir neu a weinyddir o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 ac a gymerir yn unol â rheoliad 9(4) neu reoliad 11(3);

ystyr “Rheoliadau 2020” (“the 2020 Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020;

ystyr “y Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws” (“the Coronavirus Restrictions Regulations”) yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020(11);

ystyr “sensitifrwydd” (“sensitivity”), mewn perthynas â dyfais, yw pa mor aml y mae’r ddyfais yn cynhyrchu canlyniad positif yn gywir;

ystyr “swyddog mewnfudo” (“immigration officer”) yw person a benodwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn swyddog mewnfudo o dan baragraff 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Mewnfudo 1971(12);

mae i “teithiwr cymwys” (“eligible traveller”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;

ystyr “Tystysgrif COVID Ddigidol yr UE” (“EU Digital COVID Certificate”) yw tystysgrif o gofnodion COVID-19 a ddyroddir gan wladwriaeth AEE, Aelod-wladwriaeth o’r Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd, Andorra, Gwladwriaeth Dinas y Fatican, Monaco neu San Marino.

(2At ddiben y Rheoliadau hyn, mae gan berson gyfrifoldeb dros blentyn os oes gan y person—

(a)gwarchodaeth neu ofal am y plentyn, neu

(b)cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn (o fewn ystyr Deddf Plant 1989(13)).

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae i—

“yr ardal deithio gyffredin”(14);

“cerbyd awyr”(15);

“llong”(16);

“porthladd”(17),

yr un ystyr ag a roddir i “the common travel area”, “aircraft”, “ship” a “port” yn Neddf Mewnfudo 1971.

(4At ddibenion y Rheoliadau hyn, nid yw person sy’n teithio ar gerbyd awyr neu long i’w drin fel pe bai wedi bod mewn man oni bai—

(a)bod y person yn dod oddi ar y cerbyd awyr neu’r llong pan fo yn y man, neu

(b)pan na fo’r person yn dod oddi ar y cerbyd awyr neu’r llong pan fo yn y man, bod unrhyw deithwyr eraill yn mynd ar y cerbyd awyr neu’r llong yn y man.

(5At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person wedi dechrau ei daith i Gymru y tu allan i’r ardal deithio gyffredin os oedd y man ymadael gwreiddiol y tu allan i’r ardal deithio gyffredin, pa un a oedd y man ymadael diwethaf ar y daith honno o fewn yr ardal deithio gyffredin ai peidio.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 11.2.2022 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Esemptiadau ar gyfer teithwyr cymwysLL+C

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn, mae person (“P”) yn deithiwr cymwys os yw P yn bodloni gofynion paragraff (2) ac unrhyw un neu ragor o’r gofynion ym mharagraffau (3) i (7) o’r rheoliad hwn.

(2Mae P yn cyrraedd Cymru ar ôl dechrau ei daith y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.

(3O ran P—

(a)mae wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig a chafwyd y dos olaf o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn iddo gyrraedd Cymru,

(b)os yw’n ofynnol gan swyddog mewnfudo neu weithredwr gwasanaeth masnachol y mae P yn teithio arno i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin, mae’n gallu darparu prawf ei fod yn bodloni’r gofyniad yn is-baragraff (a) ar ffurf—

(i)pàs COVID y GIG, neu bàs cyfatebol oddi wrth GIG yr Alban, GIG Cymru neu’r Adran Iechyd yng Ngogledd Iwerddon,

(ii)tystysgrif COVID Ddigidol yr UE,

(iii)tystysgrif o gofnodion COVID-19 a ddyroddir gan drydedd wlad neu diriogaeth a gymeradwywyd,

(iv)Tystysgrif Gogledd America,

(v)cerdyn brechu’r Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau, neu

(vi)tystysgrif brechlyn, ac

(c)mae wedi datgan bod P wedi cwblhau cwrs o frechlyn awdurdodedig gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 6(1).

(4O ran P—

(a)mae wedi cymryd rhan, neu yn cymryd rhan, mewn treial clinigol o frechlyn awdurdodedig ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws a gynhaliwyd neu a gynhelir yn unol â gofynion Rheoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004(18),

(b)mae’n gallu darparu prawf o’r cymryd rhan hwnnw os yw hynny’n ofynnol gan swyddog mewnfudo neu weithredwr gwasanaeth masnachol y mae P yn teithio arno i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin, ac

(c)mae wedi datgan bod P wedi cymryd rhan neu yn cymryd rhan mewn treial clinigol o’r fath gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 6(1).

(5O ran P—

(a)mae wedi cymryd rhan, neu yn cymryd rhan, mewn treial clinigol yn Unol Daleithiau America gan y Weinyddiaeth Bwyd a Diod o frechlyn ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws, a

(b)mae’n gallu darparu prawf o’r cymryd rhan hwnnw drwy gerdyn brechu’r Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau os yw hynny’n ofynnol gan swyddog mewnfudo neu weithredwr gwasanaeth masnachol y mae P yn teithio arno i Gymru o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredin.

(6Mae P o dan 18 oed pan fo’n cyrraedd Cymru.

(7O ran P—

(a)mae wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, a chafwyd y dos olaf o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn iddo gyrraedd Cymru,

(b)mae’n gallu darparu prawf, os yw hynny’n ofynnol gan swyddog mewnfudo, ei fod yn bodloni’r gofynion yn is-baragraff (a), ac

(c)mae wedi datgan bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn fel y’i disgrifir yn is-baragraff (a) gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 6(1).

(8At ddibenion paragraff (3), mae P wedi cwblhau cwrs o ddosau os yw P wedi cael y cwrs cyflawn o ddosau a bennir—

(a)yn y crynodeb o nodweddion y cynnyrch a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad marchnata ar gyfer y brechlyn awdurdodedig, neu

(b)yn y cyfarwyddiadau defnyddio a gymeradwywyd fel rhan o’r awdurdodiad gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012(19) ar gyfer y brechlyn awdurdodedig.

(9At ddibenion paragraff (3)—

(a)pan fo P wedi cael dos o un brechlyn awdurdodedig a dos o frechlyn awdurdodedig gwahanol, bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig;

(b)pan fo P wedi cael o leiaf dau ddos o unrhyw un o’r brechlynnau y cyfeirir atynt ym mharagraff (d) o’r diffiniad o “brechlyn awdurdodedig”, bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig.

(10At ddibenion paragraff (7), mae P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn os yw P wedi cael y cwrs cyflawn o ddosau o’r brechlyn fel y’i pennir yng nghanllawiau’r gweithgynhyrchydd ar gyfer y brechlyn hwnnw.

(11At ddibenion paragraff (7), pan fo P wedi cael—

(a)dos o frechlyn awdurdodedig, a

(b)dos o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor,

bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor.

(12At ddibenion paragraff (7), pan fo P wedi cael—

(a)dos o un brechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor, a

(b)dos o frechlyn gwahanol o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor,

bernir bod P wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn o dan raglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor.

(13At ddibenion y rheoliad hwn, mae plentyn i’w drin fel pe bai’n gwneud datganiad gan ddefnyddio cyfleuster y cyfeirir ato yn rheoliad 6(1), ac yn darparu unrhyw brawf sy’n ofynnol, os gwneir y datganiad hwnnw, ac os darperir y prawf, gan berson sy’n teithio gyda’r plentyn hwnnw ac sydd â chyfrifoldeb drosto.

(14Yn y rheoliad hwn—

mae i “yr awdurdod trwyddedu” yr ystyr a roddir i “the licensing authority” yn rheoliad 6(2) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;

ystyr “awdurdodiad marchnata” (“marketing authorisation”)—

(a)

mewn perthynas â brechlyn a awdurdodwyd i’w gyflenwi yn y Deyrnas Unedig neu mewn Aelod-wladwriaeth, yw’r ystyr a roddir i “marketing authorisation” yn rheoliad 8(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;

(b)

mewn perthynas â brechlyn a awdurdodwyd i’w gyflenwi mewn gwlad berthnasol a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl ym mharagraff (15) ac eithrio Aelod-wladwriaeth, yw awdurdodiad marchnata a roddwyd gan y rheoleiddiwr perthnasol ar gyfer y wlad;

ystyr “brechlyn awdurdodedig” (“authorised vaccine”) yw cynnyrch meddyginiaethol ar gyfer brechu yn erbyn y coronafeirws—

(a)

mewn perthynas â dosau a geir yn y Deyrnas Unedig—

(i)

a awdurdodwyd i’w gyflenwi yn y Deyrnas Unedig yn unol ag awdurdodiad marchnata, neu

(ii)

a awdurdodwyd gan yr awdurdod trwyddedu ar sail dros dro o dan reoliad 174 o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;

(b)

mewn perthynas â dosau a geir mewn gwlad berthnasol a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl ym mharagraff (15), a awdurdodwyd i’w gyflenwi yn y wlad honno yn dilyn gwerthusiad gan y rheoleiddiwr perthnasol ar gyfer y wlad;

(c)

mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad neu diriogaeth arall (gan gynnwys gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (16)), a fyddai’n awdurdodedig fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (a)(i) neu (ii) pe bai’r dosau wedi eu cael yn y Deyrnas Unedig;

(d)

mewn perthynas â dosau a geir mewn unrhyw wlad yn y byd, y brechlynnau hynny sydd—

(i)

wedi eu rhestru yn llinellau 10, 11, 12, 13 neu 14 o’r Ddogfen Ganllaw “Status of COVID-19 Vaccines within WHO EUL/PQ evaluation process” a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd ar 23 Rhagfyr 2021, a

(ii)

wedi eu hawdurdodi neu eu hardystio mewn gwlad reoleiddiedig a restrir ym mharagraff (16);

ystyr “GIG yr Alban” (“NHS Scotland”) yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978;

ystyr “GIG Cymru” (“NHS Wales”) yw’r gwasanaeth iechyd a barheir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “gwlad berthnasol” (“relevant country”) yw gwlad neu diriogaeth a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl ym mharagraff (15) neu wlad neu diriogaeth a restrir ym mharagraff (16);

ystyr “pàs COVID y GIG” (“NHS COVID pass”) yw’r cofnodion COVID-19 ar ap ffôn clyfar y GIG a ddatblygir ac a weithredir gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy’r wefan ar NHS.uk neu drwy lythyr ar ôl brechiad COVID-19 a geir oddi wrth y GIG;

ystyr “rhaglen frechu’r Deyrnas Unedig dramor” (“United Kingdom vaccine roll-out overseas”) yw gweinyddu’r brechlyn yn erbyn y coronafeirws i—

(a)

gweision i’r goron, contractwyr y llywodraeth neu bersonél arall sydd wedi eu lleoli neu eu seilio dramor a’u dibynyddion o dan y cynllun o’r enw rhaglen frechu COVID-19 staff y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, neu

(b)

personél milwrol neu sifilaidd, contractwyr y llywodraeth a’u dibynyddion mewn lleoliadau milwrol tramor, gan gynnwys y tiriogaethau tramor Prydeinig, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, o dan y cynllun brechu a ddarperir neu a gymeradwyir gan Wasanaethau Meddygol Amddiffyn y DU;

ystyr “rheoleiddiwr perthnasol” (“relevant regulator”), mewn perthynas â gwlad berthnasol, yw’r rheoleiddiwr a nodir yn y rhes gyfatebol o ail golofn y tabl ym mharagraff (15), ac mae cyfeiriad at reoleiddiwr yn y tabl hwnnw yn gyfeiriad at yr awdurdod rheoleiddiol sy’n dwyn yr enw hwnnw a ddynodwyd yn Awdurdod Rheoleiddiol Llym gan Sefydliad Iechyd y Byd yn unol â gweithrediad Cyfleuster COVAX;

mae i “treial clinigol” yr ystyr a roddir i “clinical trial” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau i’w Defnyddio gan Bobl (Treialon Clinigol) 2004;

ystyr “tystysgrif brechlyn” (“vaccine certificate”) yw tystysgrif mewn Saesneg, Ffrangeg neu Sbaeneg a ddyroddir gan awdurdod iechyd cymwys gwlad berthnasol, ac eithrio gwlad neu diriogaeth Ewropeaidd a restrir yn y tabl ym mharagraff (15) neu Unol Daleithiau America, sy’n cynnwys—

(a)

enw llawn P;

(b)

dyddiad geni P;

(c)

enw a gweithgynhyrchydd y brechlyn y mae P wedi ei gael;

(d)

y dyddiad y cafodd P bob dos o’r brechlyn;

(e)

manylion ynghylch naill ai pwy yw dyroddwr y dystysgrif neu’r wlad y rhoddwyd y brechlyn ynddi, neu’r ddau;

ystyr “Tystysgrif Gogledd America” (“North American Certificate”) yw—

(a)

Excelsior Pass Plus (Efrog Newydd);

(b)

Cofnod Brechlyn COVID-19 Digidol (California);

(c)

WA Verify (talaith Washington).

(15Mae’r tabl y cyfeirir ato yn y diffiniadau o “gwlad berthnasol” a “rheoleiddiwr perthnasol” yn dilyn—

Gwlad berthnasolRheoleiddiwr perthnasol
Aelod-wladwriaethYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
AndorraYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
AwstraliaY Weinyddiaeth Nwyddau Therapiwtig
CanadaIechyd Canada
Gwlad yr IâYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
Gwladwriaeth Dinas y FaticanYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
LiechtensteinYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
MonacoYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
NorwyYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
San MarinoYr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd
Y SwistirSwissmedic
Unol Daleithiau AmericaGweinyddiaeth Bwyd a Chyffuriau yr Unol Daleithiau

(16Y gwledydd a’r tiriogaethau y cyfeirir atynt yn y diffiniad o “gwlad berthnasol” yw—

  • Yr Aifft

  • Albania

  • Algeria

  • Angola

  • Anguilla

  • Antigua a Barbuda

  • Ardaloedd Safleoedd Sofran Akrotiri a Dhekelia ar Ynys Cyprus

  • Yr Ariannin

  • Armenia

  • Azerbaijan

  • Y Bahamas

  • Bahrain

  • Bangladesh

  • Barbados

  • Belarws

  • Belize

  • Bermuda

  • Bhutan

  • Bolivia

  • Bosnia a Herzegovina

  • Botswana

  • Brasil

  • Brunei

  • Cambodia

  • Cameroon

  • Chile

  • Colombia

  • Costa Rica

  • Cote d’Ivoire

  • De Affrica

  • De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De

  • De Korea

  • De Sudan

  • Djibouti

  • Dominica

  • Dwyrain Timor

  • Ecuador

  • Yr Emiradau Arabaidd Unedig

  • Eswatini

  • Fietnam

  • Ffiji

  • Y Gambia

  • Georgia

  • Ghana

  • Gibraltar

  • Gogledd Cyprus

  • Gogledd Macedonia

  • Grenada

  • Guatemala

  • Guernsey

  • Guyana

  • Gweriniaeth Dominica

  • Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo

  • Gwlad yr Iorddonen

  • Gwlad Thai

  • Honduras

  • Hong Kong

  • India

  • Indonesia

  • Irac

  • Iran

  • Israel

  • Jamaica

  • Japan

  • Jersey

  • Kazakhstan

  • Kenya

  • Kosovo

  • Kuwait

  • Kyrgyzstan

  • Laos

  • Lesotho

  • Libanus

  • Liberia

  • Libya

  • Madagascar

  • Malawi

  • Malaysia

  • Maldives

  • Mali

  • Mauritania

  • Mauritius

  • Mecsico

  • Moldofa

  • Mongolia

  • Montenegro

  • Montserrat

  • Morocco

  • Mozambique

  • Namibia

  • Nepal

  • Niger

  • Nigeria

  • Oman

  • Pacistan

  • Palau

  • Panama

  • Papua Guinea Newydd

  • Paraguay

  • Periw

  • Qatar

  • Rwanda

  • Rhanbarth Gweinyddol Arbennig Macao

  • Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha

  • Samoa

  • Sao Tome a Principe

  • Saudi Arabia

  • Seland Newydd

  • Senegal

  • Serbia

  • Seychelles

  • Sierra Leone

  • Singapore

  • Sri Lanka

  • St Kitts a Nevis

  • St Lucia

  • St Vincent a’r Grenadines

  • Suriname

  • Taiwan

  • Tanzania

  • Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig

  • Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India

  • Tiriogaethau Meddianedig Palesteina

  • Tonga

  • Trinidad a Tobago

  • Tsieina

  • Tunisia

  • Turkmenistan

  • Twrci

  • Uganda

  • Uruguay

  • Uzbekistan

  • Vanuatu

  • Wcrain

  • Ynys Manaw

  • Ynysoedd Cayman

  • Ynysoedd Falkland

  • Ynysoedd Philippines

  • Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno

  • Ynysoedd Prydeinig y Wyryf

  • Ynysoedd Solomon

  • Ynysoedd Turks a Caicos

  • Zambia

  • Zimbabwe.

(17Mae’r gwledydd a’r tiriogaethau a ganlyn yn drydydd gwledydd neu diriogaethau a gymeradwywyd at ddibenion y Rhan hon—

  • Albania

  • Armenia

  • Cape Verde

  • El Salvador

  • Gogledd Macedonia

  • Israel

  • Morocco

  • Panama

  • Togo

  • Twrci

  • Wcrain

  • Ynysoedd Ffaro.

(18Pan fo cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig wedi ei weinyddu i berson (“P”) gan berson sy’n gweithredu ar ran y Cenhedloedd Unedig ac sydd wedi ei awdurdodi i weinyddu’r brechlyn yn y rhinwedd honno, mae P i’w drin fel pe bai wedi cael y dosau hynny mewn gwlad berthnasol a restrir ym mharagraff (16), ac mae unrhyw gyfeiriad at berson o wlad berthnasol yn y Rheoliadau hyn i’w ddehongli yn unol â hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 11.2.2022 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Darpariaeth drosiannolLL+C

4.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol i berson (“P”), yn union cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, beidio ag ymadael â mangre benodedig yng Nghymru, neu beidio â bod y tu allan i’r fangre benodedig honno, yn unol â rheoliad 7(1) neu reoliad 8(1) o Reoliadau 2020 (“y gofyniad i ynysu”), a

(b)pan na fyddai’r gofyniad i ynysu wedi bod yn gymwys i P pe bai’r gwledydd a’r tiriogaethau a restrir ym mharagraff (3) wedi eu cynnwys yn rheoliad 2A(12) o Reoliadau 2020 yn union cyn i P gyrraedd Cymru.

(2Mae’r gofyniad i ynysu yn peidio â bod yn gymwys i P pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym.

(3Y gwledydd a’r tiriogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw—

  • Algeria

  • Cape Verde

  • De Sudan

  • Dwyrain Timor

  • El Salvador

  • Guatemala

  • Iran

  • Kazakhstan

  • Kyrgyzstan

  • Mecsico

  • Rhanbarth Gweinyddol Arbennig Macao

  • Sao Tome a Principe

  • Togo

  • Tonga

  • Tsieina

  • Turkmenistan.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 11.2.2022 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CGofyniad i ddarparu gwybodaeth

Personau sy’n cyrraedd o’r tu allan i’r ardal deithio gyffredinLL+C

5.—(1Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at “P” yn gyfeiriadau at berson sy’n cyrraedd Cymru ar ôl dechrau ei daith y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.

(2Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys person a ddisgrifir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau 1 i 11 o Atodlen 5.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 11.2.2022 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Gofyniad i ddarparu gwybodaeth am deithiwrLL+C

6.—(1Rhaid i P gyflwyno’r wybodaeth a ganlyn i’r Ysgrifennydd Gwladol yn electronig heb fod yn fwy na 3 diwrnod cyn cyrraedd Cymru, gan ddefnyddio cyfleuster a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol at y diben hwn—

(a)gwybodaeth am deithiwr ar gyfer P, a

(b)pan fo P yn cyrraedd Cymru gyda phlentyn y mae gan P gyfrifoldeb drosto, gwybodaeth am deithiwr ar gyfer y plentyn.

(2Pan fo P yn cyrraedd Cymru drwy borthladd—

(a)rhaid i P gydymffurfio â pharagraff (1) cyn gadael y porthladd, a

(b)rhaid i swyddog mewnfudo yn y porthladd ddarparu i P unrhyw gynhorthwy y mae’r swyddog yn ei ystyried yn angenrheidiol i alluogi P i gydymffurfio â pharagraff (1).

(3Rhaid i P ddarparu tystiolaeth i’r swyddog mewnfudo bod yr wybodaeth am deithiwr wedi ei darparu, os gofynnir iddo wneud hynny gan y swyddog.

(4Pan fo P yn blentyn y mae gwybodaeth am deithiwr mewn cysylltiad ag ef wedi ei darparu gan berson sydd â chyfrifoldeb dros P yn unol â pharagraff (1)(b), nid yw paragraff (1)(a) yn ei gwneud yn ofynnol i P ddarparu gwybodaeth am deithiwr ar gyfer P.

(5Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth am deithiwr os nad yw’r wybodaeth ym meddiant y person neu o dan ei reolaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 11.2.2022 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CGofynion profi

Gofyniad i feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negatifLL+C

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”) sy’n cyrraedd Cymru ar ôl dechrau ei daith y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.

(2Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys—

(a)teithiwr cymwys;

(b)person a ddisgrifir ym mharagraff 3(1) o Atodlen 2;

(c)person a ddisgrifir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau 2, 3, 4, 6, 8, 9, 10, 11, 12 neu 18 o Atodlen 5.

(3Rhaid i P, wrth gyrraedd, feddu ar hysbysiad dilys o ganlyniad negatif o brawf cymhwysol a gymerwyd gan P.

(4Rhaid i P ddangos yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3), naill ai’n ffisegol neu’n ddigidol, os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog mewnfudo.

(5At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae prawf yn brawf cymhwysol os yw’n cydymffurfio â pharagraff 1 o Atodlen 2;

(b)mae hysbysiad o ganlyniad prawf negatif yn ddilys—

(i)os yw wedi ei ddarparu drwy Dystysgrif COVID Ddigidol yr UE, neu

(ii)os yw’n cynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 11.2.2022 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Gofyniad i archebu a chymryd prawf diwrnod 2LL+C

8.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”) sy’n cyrraedd Cymru ar ôl dechrau ei daith y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.

(2Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys—

(a)teithiwr cymwys;

(b)person a ddisgrifir ym mharagraff 1(1)(a) i (i) o Atodlen 5 sy’n bodloni’r amodau ym mharagraff 1(2) o’r Atodlen honno;

(c)person a ddisgrifir yn unrhyw un neu ragor o baragraffau 2 i 18 o Atodlen 5.

(3Rhaid i P, wrth gyrraedd Cymru, feddu ar archeb am brawf diwrnod 2 wedi ei drefnu gyda darparwr prawf.

(4Rhaid i P gymryd y prawf diwrnod 2.

(5Nid yw prawf diwrnod 2 i’w drin fel pe bai’n cydymffurfio â’r rheoliad hwn oni bai—

(a)bod P yn cymryd y prawf heb fod yn hwyrach na diwedd yr ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru,

(b)bod y person sy’n trefnu’r prawf wedi hysbysu darparwr y prawf fod y profion yn cael eu trefnu at ddibenion y rheoliad hwn, ac

(c)bod yr wybodaeth yn Atodlen 3 wedi ei darparu i ddarparwr y prawf mewn perthynas â P.

(6Pan fo prawf diwrnod 2 wedi ei drefnu, rhaid i ddarparwr y prawf ddarparu cyfeirnod prawf i’r canlynol—

(a)P, a

(b)unrhyw berson sy’n trefnu profion ar ran P.

(7Pan fo P yn oedolyn sy’n cyrraedd Cymru heb feddu ar y prawf diwrnod 2 sy’n ofynnol o dan baragraff (3), rhaid i P gael y prawf hwnnw neu’r profion hynny cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

(8Pan na fo P yn cymryd prawf fel sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn am fod ganddo esgus rhesymol (gweler rheoliad 13(2) a (4)), rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol pan na fydd y materion sy’n arwain at yr esgus rhesymol yn gymwys mwyach, gymryd prawf (“prawf arall”) sy’n cydymffurfio â’r gofynion (ac eithrio’r gofyniad ym mharagraff (5)(a)) sy’n gymwys i’r prawf nas cynhaliwyd.

(9Pan gymerir prawf arall, mae P i’w drin fel pe bai wedi cymryd prawf diwrnod 2 yn unol â’r rheoliad hwn.

(10Rhaid i berson sydd wedi trefnu prawf diwrnod 2 ddarparu tystiolaeth ohono os yw swyddog mewnfudo neu gwnstabl yn gofyn amdani.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 11.2.2022 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Profion gweithlu ar gyfer gweithwyr cludiant ffyrddLL+C

9.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i berson (“P”)—

(a)sy’n weithiwr cludiant ffyrdd, a

(b)a ddechreuodd ei daith y tu allan i’r ardal deithio gyffredin.

(2Ond nid yw cyfeiriadau at P yn cynnwys teithiwr cymwys.

(3Rhaid i P gymryd—

(a)prawf gweithlu cyn diwedd diwrnod 2,

(b)prawf gweithlu ar ôl diwrnod 2 ond cyn diwedd diwrnod 5, ac

(c)prawf gweithlu ar ôl diwrnod 5 ond cyn diwedd diwrnod 8.

(4Pan na fo P yn cymryd unrhyw un neu ragor o’r profion gweithlu fel sy’n ofynnol gan baragraff (3) am fod ganddo esgus rhesymol (gweler rheoliad 13(2) a (5)), rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol pan na fydd y materion sy’n arwain at yr esgus rhesymol yn gymwys mwyach, gymryd prawf gweithlu arall neu brofion gweithlu eraill.

(5Pan fo P yn cymryd prawf gweithlu arall yn unol â pharagraff (4), mae P i’w drin fel pe bai wedi cydymffurfio â pharagraff (3).

(6At ddibenion y rheoliad hwn—

ystyr “diwrnod 2” (“day 2”) yw’r ail ddiwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;

ystyr “diwrnod 5” (“day 5”) yw’r pumed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru;

ystyr “diwrnod 8” (“day 8”) yw’r wythfed diwrnod ar ôl y diwrnod y cyrhaeddodd P Gymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 11.2.2022 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Dyletswyddau ar gyflogwyr gweithwyr cludiant ffyrdd i hwyluso profion gweithluLL+C

10.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo cyflogwr (“E”) yn cyflogi mwy na 50 o bersonau, a

(b)pan fo rhaid i unrhyw berson y mae E yn ei gyflogi gymryd profion gweithlu yn unol â rheoliad 9.

(2Rhaid i E gymryd camau rhesymol i hwyluso cymryd y profion gweithlu hynny.

(3Wrth gyflawni’r ddyletswydd ym mharagraff (2), rhaid i E roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y rheoliad hwn.

(4At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)mae “cyflogi” yn cynnwys bod â chyfrifoldeb dros weithwyr asiantaeth;

(b)mae gan berson gyfrifoldeb dros weithwyr asiantaeth—

(i)os yw’r gweithiwr asiantaeth yn cael ei gyflenwi neu i’w gyflenwi gan berson (“asiant”) i’r cyflogwr o dan gontract neu drefniadau eraill a wneir rhwng yr asiant a’r cyflogwr, a

(ii)os nad yw’r gweithiwr asiantaeth—

(aa)yn weithiwr oherwydd absenoldeb contract gweithiwr rhwng y gweithiwr asiantaeth a’r asiant neu’r cyflogwr, neu

(bb)yn barti i gontract y mae’r gweithiwr asiantaeth yn ymrwymo oddi tano i wneud y gwaith ar gyfer parti arall i gontract y mae ei statws, yn rhinwedd y contract, yn statws cleient neu gwsmer i unrhyw broffesiwn neu ymgymeriad busnes a gynhelir gan y gweithiwr asiantaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 11.2.2022 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Goblygiadau cael canlyniad amhendantLL+C

11.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo person (“P”) wedi cymryd prawf yn unol â rheoliad 8 neu reoliad 9 a bod canlyniad y prawf hwnnw yn amhendant.

(2Pan fo’r prawf wedi ei gymryd yn unol â rheoliad 8, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, drefnu a chymryd prawf pellach sy’n cydymffurfio â gofynion prawf diwrnod 2, ac eithrio’r gofyniad yn rheoliad 8(5)(a).

(3Pan fo’r prawf wedi ei gymryd yn unol â rheoliad 9, rhaid i P, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, drefnu a chymryd prawf gweithlu arall.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 11.2.2022 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Goblygiadau cael canlyniad positifLL+C

12.—(1Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo canlyniad prawf a gymerwyd gan berson (“P”) yn unol â rheoliad 8, rheoliad 9 neu reoliad 11 yn bositif.

(2Mae’r Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws yn gymwys i P fel pe bai P wedi cael ei hysbysu gan swyddog olrhain cysylltiadau fod P wedi cael canlyniad positif am y coronafeirws.

(3O ran canlyniad positif P o dan baragraff (1)—

(a)pan ddaeth o brawf gweithlu neu brawf gweithlu arall, a

(b)pan nad oedd y prawf gweithlu neu’r prawf gweithlu arall hwnnw yn brawf adwaith cadwynol polymerasau,

rhaid i P gymryd prawf sy’n cydymffurfio â gofynion prawf diwrnod 2, ac eithrio’r gofyniad yn rheoliad 8(5)(a).

(4Pan fo canlyniad prawf a gymerwyd yn unol â pharagraff (3) yn negatif, mae paragraff (2) yn peidio â bod yn gymwys i P.

(5Mae i “swyddog olrhain cysylltiadau” yr ystyr a roddir yn y Rheoliadau Cyfyngiadau Coronafeirws.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 11.2.2022 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CGorfodi a throseddau

TroseddauLL+C

13.—(1Mae person sy’n torri gofyniad yn rheoliad—

(a)6(1),

(b)6(3),

(c)7(3),

(d)7(4),

(e)8,

(f)9,

(g)10(2) neu

(h)11,

yn cyflawni trosedd.

(2Ond nid yw person yn cyflawni trosedd pan fo ganddo esgus rhesymol dros dorri rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).

(3At ddibenion trosedd o dan baragraff (1)(c), mae esgus rhesymol yn cynnwys, yn benodol—

(a)pan oedd person yn credu’n rhesymol ar adeg torri’r gofyniad fod hysbysiad o ganlyniad negatif yn ei feddiant yn ymwneud â’r person yn ddilys ac o brawf cymhwysol (at ddibenion rheoliad 7);

(b)pan oedd person yn anffit yn feddygol i ddarparu sampl ar gyfer prawf cymhwysol cyn teithio i Gymru a’i fod yn meddu ar ddogfen, wedi ei llofnodi gan ymarferydd meddygol sydd â hawlogaeth i ymarfer yn y wlad neu’r diriogaeth y mae’r ymarferydd hwnnw wedi ei leoli ynddi, i’r perwyl hwnnw;

(c)pan nad oedd yn rhesymol ymarferol i berson gael prawf cymhwysol cyn teithio i Gymru oherwydd—

(i)anabledd;

(ii)yr angen i gael triniaeth feddygol frys;

(d)pan oedd person yn mynd gyda pherson a ddisgrifir yn is-baragraff (b) er mwyn darparu cymorth (boed yn feddygol neu fel arall) a phan nad oedd yn rhesymol ymarferol i’r person a oedd yn mynd gydag ef gael prawf cymhwysol cyn teithio i Gymru;

(e)pan ddechreuodd person ei daith i Gymru mewn gwlad neu diriogaeth lle nad oedd prawf cymhwysol ar gael i’r cyhoedd (gyda thaliad neu hebddo) neu lle nad oedd yn rhesymol ymarferol i berson gael prawf cymhwysol oherwydd diffyg mynediad rhesymol i brawf cymhwysol neu gyfleuster profi ac nad oedd yn rhesymol ymarferol iddo gael prawf cymhwysol yn ei fan ymadael diwethaf os oedd hwnnw yn wahanol i’r man lle y dechreuodd ei daith;

(f)pan oedd yr amser y mae wedi ei gymryd i berson deithio o’r wlad neu’r diriogaeth lle y dechreuodd ei daith i wlad neu diriogaeth ei fan ymadael diwethaf cyn cyrraedd Cymru yn golygu nad oedd yn rhesymol ymarferol iddo fodloni’r gofyniad ym mharagraff 1(1)(c) o Atodlen 2, ac nad oedd yn rhesymol ymarferol iddo gael prawf cymhwysol yn ei fan ymadael diwethaf.

(4At ddibenion trosedd o dan baragraff (1)(e), mae esgus rhesymol yn cynnwys, yn benodol—

(a)pan nad oedd yn rhesymol ymarferol i berson archebu prawf oherwydd anabledd;

(b)pan oedd person yn ystyried yn rhesymol cyn cyrraedd Cymru na fyddai’n rhesymol ymarferol i’r person ddarparu sampl ar gyfer prawf oherwydd anabledd;

(c)pan oedd angen triniaeth feddygol ar berson â’r fath frys fel nad oedd archebu prawf yn rhesymol ymarferol;

(d)pan oedd person yn mynd gyda pherson a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (c), er mwyn darparu cymorth iddo, boed yn feddygol neu fel arall, pan nad oedd yn rhesymol ymarferol i’r person a oedd yn mynd gydag ef archebu prawf;

(e)pan ddechreuodd person ei daith i Gymru mewn gwlad neu diriogaeth lle nad oedd gan y person fynediad rhesymol i’r cyfleusterau neu’r gwasanaethau sy’n ofynnol i archebu prawf, gyda thaliad neu hebddo, ac nad oedd cyfleusterau neu wasanaethau o’r fath yn rhesymol hygyrch yn ei fan ymadael diwethaf os oedd hwnnw yn wahanol i’r man lle y dechreuodd ei daith;

(f)pan fo prawf yn cael ei ganslo am resymau y tu hwnt i reolaeth P;

(g)pan fo darparwr prawf wedi cymryd pob cam rhesymol i ddarparu cyfeirnod prawf i P ac i unrhyw berson sy’n trefnu prawf ar gyfer P.

(5At ddibenion trosedd o dan baragraff (1)(f), mae esgus rhesymol yn cynnwys, yn benodol—

(a)pan nad yw’n rhesymol ymarferol i P gymryd prawf oherwydd anabledd;

(b)pan fo angen triniaeth feddygol ar P â’r fath frys fel nad yw’n rhesymol ymarferol cymryd prawf;

(c)pan fo P wedi gadael Cymru.

(6Mae’n drosedd i berson ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r Ysgrifennydd Gwladol at ddibenion rheoliad 6—

(a)pan fo’r person yn gwybod bod yr wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol, neu

(b)pan fo’r person yn ddi-hid ynghylch pa un a yw’r wybodaeth yn anwir neu’n gamarweiniol.

(7Ond nid yw person yn cyflawni trosedd o dan baragraff (6) os oes ganddo esgus rhesymol dros ddarparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i’r Ysgrifennydd Gwladol.

(8Mae person sy’n rhwystro yn fwriadol unrhyw berson sy’n arfer swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd.

(9Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan y rheoliad hwn yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

(10Mae adran 24 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(20) yn gymwys mewn perthynas â throsedd o dan y rheoliad hwn fel pe bai’r rhesymau yn is-adran (5) o’r adran honno yn cynnwys—

(a)cynnal iechyd y cyhoedd;

(b)cynnal trefn gyhoeddus.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 11.2.2022 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

ErlynLL+C

14.  Ni chaniateir dwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ond gan y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus neu unrhyw berson sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 11.2.2022 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Hysbysiadau cosb benodedigLL+C

15.—(1Caiff swyddog mewnfudo ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw oedolyn y mae’r swyddog yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd—

(a)o dan reoliad 13(1) neu (6), mewn perthynas â gofyniad yn rheoliad 6(1) neu (3), neu

(b)o dan reoliad 13(8), pan gredir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person a oedd yn arfer swyddogaeth mewn perthynas ag un o’r gofynion hynny.

(2Caiff cwnstabl ddyroddi hysbysiad cosb benodedig i unrhyw oedolyn y mae’r cwnstabl yn credu’n rhesymol ei fod wedi cyflawni trosedd o dan y Rheoliadau hyn.

(3Hysbysiad yw hysbysiad cosb benodedig sy’n cynnig i’r person y’i dyroddir iddo y cyfle i gael ei ryddhau o unrhyw atebolrwydd am euogfarn am y drosedd drwy dalu cosb benodedig i—

(a)Gweinidogion Cymru, neu

(b)person a ddynodir gan Weinidogion Cymru at ddibenion cael taliad o dan y rheoliad hwn.

(4Pan fo hysbysiad wedi ei ddyroddi i berson o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â throsedd—

(a)ni chaniateir dwyn achos am y drosedd cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y dyroddir yr hysbysiad;

(b)ni chaniateir euogfarnu’r person o’r drosedd os yw’r person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(5Rhaid i hysbysiad cosb benodedig—

(a)disgrifio’r amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio’r drosedd,

(b)datgan y cyfnod pan (oherwydd paragraff (4)(a)) na ddygir achos am y drosedd,

(c)pennu swm y gosb benodedig,

(d)datgan enw a chyfeiriad y person y caniateir talu’r gosb benodedig iddo, ac

(e)pennu dulliau o dalu a ganiateir.

(6Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd o dan reoliad 13(1)(c) neu (d), rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod—

(a)yn achos yr hysbysiad cosb benodedig cyntaf a geir, yn £500;

(b)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £1000;

(c)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £2000;

(d)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, yn £4000.

(7Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig i berson mewn cysylltiad â throsedd a ddisgrifir yn rheoliad 13(1)(e) yna rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod—

(a)yn achos hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â methiant i drefnu profion yn unol â rheoliad 8(3), yn £1000;

(b)yn achos yr hysbysiad cosb benodedig cyntaf a ddyroddir mewn cysylltiad â methiant i gymryd prawf yn unol â rheoliad 8(4), yn £1000;

(c)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig wedi hynny, a ddyroddir mewn cysylltiad â methiant i gymryd prawf yn unol â rheoliad 8(4), yn £2000.

(8Pan ddyroddir yr hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â throsedd (“trosedd gwybodaeth neu hysbysu”)—

(a)o dorri gofyniad a osodir gan reoliad 6(1) neu (4), neu

(b)o dan reoliad 13(8) pan gredir bod y person yn fwriadol wedi rhwystro person a oedd yn arfer swyddogaeth mewn perthynas ag un o’r gofynion hynny,

rhaid i’r swm a bennir o dan baragraff (5)(c) fod yn £60 (yn ddarostyngedig i baragraffau (9) a (10)).

(9Caiff hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir mewn cysylltiad â throsedd gwybodaeth neu hysbysu bennu, os telir £30 cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad y dyroddir yr hysbysiad, mai dyna yw swm y gosb benodedig.

(10Ond os yw’r person y dyroddir hysbysiad cosb benodedig iddo mewn cysylltiad â throsedd gwybodaeth neu hysbysu eisoes wedi cael hysbysiad cosb benodedig mewn cysylltiad â’r drosedd honno—

(a)nid yw paragraff (9) yn gymwys, a

(b)rhaid i’r swm a bennir fel y gosb benodedig fod—

(i)yn achos yr ail hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £120;

(ii)yn achos y trydydd hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £240;

(iii)yn achos y pedwerydd hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £480;

(iv)yn achos y pumed hysbysiad cosb benodedig a geir, yn £960;

(v)yn achos y chweched hysbysiad cosb benodedig a geir, ac unrhyw hysbysiad cosb benodedig a geir wedi hynny, yn £1920.

(11Pa ddull bynnag arall a bennir o dan baragraff (5)(e), caniateir talu cosb benodedig drwy dalu ymlaen llaw a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y datgenir ei enw o dan baragraff (5)(d) i’r cyfeiriad a ddatgenir.

(12Pan fo llythyr yn cael ei anfon fel y’i crybwyllir ym mharagraff (11), ystyrir bod taliad wedi ei wneud ar yr adeg y byddai’r llythyr hwnnw wedi cael ei ddanfon yn nhrefn arferol y post.

(13Mewn unrhyw achos, mae tystysgrif—

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi gan neu ar ran—

(i)Gweinidogion Cymru, neu

(ii)person a ddynodir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (3)(b), a

(b)sy’n datgan bod y taliad am y gosb benodedig wedi dod i law, neu heb ddod i law, erbyn y dyddiad a bennir yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a nodwyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 11.2.2022 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 5LL+CRhannu gwybodaeth

Defnyddio a datgelu gwybodaethLL+C

16.—(1Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 17, ystyr “gwybodaeth berthnasol” yw—

(a)gwybodaeth am deithiwr o Gymru;

(b)gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig.

(2At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)ystyr “gwybodaeth am deithiwr o Gymru” yw—

(i)gwybodaeth am deithiwr a ddarperir i’r Ysgrifennydd Gwladol at ddiben rheoliad 6;

(ii)pan fo person yn trefnu neu’n cymryd prawf o dan reoliad 8—

(aa)gwybodaeth a gynhyrchir pan fo’r person yn trefnu neu’n cymryd prawf;

(bb)gwybodaeth a gaiff darparwr prawf o dan reoliad 8;

(cc)canlyniad y prawf;

(dd)gwybodaeth a gofnodir gan ddarparwr prawf wrth weinyddu prawf a gymerir yn unol â rheoliad 8 (gan gynnwys cadarnhad bod y prawf wedi ei gymryd, manylion o ran pryd ac ymhle y’i cymerwyd, unrhyw resymau dros beidio â chymryd prawf a manylion unrhyw brawf arall sydd i’w gymryd yn ei le);

(iii)gwybodaeth a ddarperir i swyddog mewnfudo yn unol â rheoliad 8(10);

(iv)pan fo sampl a gymerwyd mewn cysylltiad â phrawf diwrnod 2 o dan reoliad 8 wedi ei dilyniannu, y ffeil BAM wedi ei didoli sy’n ymwneud â’r sampl honno sy’n cynnwys yr holl ddarlleniadau sy’n alinio i’r genom cyfeirio ar gyfer y coronafeirws gyda’r darlleniadau heb eu halinio a dynol wedi eu hepgor;

(b)ystyr “gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig” yw gwybodaeth a ddarperir i berson o dan ddarpariaeth mewn rheoliadau a wnaed o ran Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb i ddarpariaeth a grybwyllir yn is-baragraff (a).

(3Yn y rheoliad hwn, mae unrhyw gyfeiriad at ddeiliad gwybodaeth yn gyfeiriad at—

(a)yr Ysgrifennydd Gwladol;

(b)person y datgelwyd yr wybodaeth iddo o dan baragraff (4) neu (5);

(c)darparwr prawf;

(d)swyddog mewnfudo.

(4Caiff deiliad gwybodaeth am deithiwr o Gymru ddatgelu’r wybodaeth i berson arall (“y derbynnydd”) o dan amgylchiadau pan fo’n angenrheidiol i’r derbynnydd gael yr wybodaeth—

(a)at ddiben cyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r derbynnydd o dan—

(i)y Rheoliadau hyn, neu

(ii)rheoliadau a wnaed o ran Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (yn ôl y digwydd) sy’n cyfateb i’r Rheoliadau hyn;

(b)at ddiben—

(i)atal perygl i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws,

(ii)monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws, neu

(iii)rhoi effaith i unrhyw gytundeb neu drefniant rhyngwladol sy’n ymwneud â lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws;

(c)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (b), neu sydd fel arall yn gysylltiedig â’r diben hwnnw.

(5Caiff deiliad gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig ddatgelu’r wybodaeth i berson arall (“y derbynnydd”) o dan amgylchiadau pan fo’n angenrheidiol i’r derbynnydd gael yr wybodaeth—

(a)at ddiben cyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r derbynnydd o dan y Rheoliadau hyn;

(b)at ddiben—

(i)atal perygl i iechyd y cyhoedd yng Nghymru o ganlyniad i ledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws,

(ii)monitro lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws yng Nghymru, neu

(iii)rhoi effaith yng Nghymru i unrhyw gytundeb neu drefniant rhyngwladol sy’n ymwneud â lledaeniad haint neu halogiad â’r coronafeirws;

(c)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a) neu (b), neu sydd fel arall yn gysylltiedig â’r diben hwnnw.

(6Ni chaiff deiliad gwybodaeth berthnasol ddefnyddio’r wybodaeth ac eithrio—

(a)at ddiben cyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r deiliad o dan y Rheoliadau hyn;

(b)yn achos gwybodaeth am deithiwr o Gymru, at ddiben a ddisgrifir ym mharagraff (4)(b);

(c)yn achos gwybodaeth am deithiwr o weddill y Deyrnas Unedig, at ddiben a ddisgrifir ym mharagraff (5)(b);

(d)at ddiben sy’n gysylltiedig â diben a ddisgrifir yn is-baragraff (a), (b) neu (c), neu sydd fel arall yn gysylltiedig â’r diben hwnnw.

(7Er gwaethaf paragraffau (4), (5) a (6), nid yw’r rheoliad hwn yn cyfyngu ar yr amgylchiadau pan ganiateir datgelu neu ddefnyddio gwybodaeth yn gyfreithlon fel arall o dan unrhyw ddeddfiad arall neu unrhyw reol gyfreithiol arall.

(8Nid yw datgeliad a awdurdodir gan y rheoliad hwn yn torri—

(a)rhwymedigaeth o safbwynt cyfrinachedd sy’n ddyledus gan y person sy’n gwneud y datgeliad, neu

(b)unrhyw gyfyngiad arall ar ddatgelu gwybodaeth (ym mha fodd bynnag y’i gorfodir).

(9Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn awdurdodi datgelu data personol pan fo gwneud hynny yn torri’r ddeddfwriaeth diogelu data.

(10Ym mharagraff (9), mae i “data personol” a “y ddeddfwriaeth diogelu data” yr un ystyron â “personal data” a “the data protection legislation” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018(21).

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 11.2.2022 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

HunanargyhuddoLL+C

17.—(1Caniateir i wybodaeth berthnasol gael ei defnyddio fel tystiolaeth yn erbyn y person y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef mewn achos troseddol.

(2Pan fo’r wybodaeth yn cael ei defnyddio mewn achos o’r fath—

(a)ni chaniateir i unrhyw dystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei rhoi gan yr erlyniad nac ar ei ran, a

(b)ni chaniateir i unrhyw gwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gael ei ofyn gan yr erlyniad nac ar ei ran.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw’r achos ar gyfer—

(a)trosedd o dan y Rheoliadau hyn,

(b)trosedd o dan adran 5 o Ddeddf Anudon 1911 (datganiadau anwir a wneir ac eithrio ar lw)(22),

(c)trosedd o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006 (twyll)(23), neu

(d)trosedd o dan adran 2 neu 3 o Ddeddf Twyll a Ffugio 1981 (trosedd o gopïo neu ddefnyddio offeryn ffug)(24).

(4Nid yw paragraff (2) yn gymwys—

(a)os rhoddir tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person a’i darparodd, neu ar ei ran, yn ystod yr achos, neu

(b)os gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person hwnnw, neu ar ei ran, yn ystod yr achos.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 11.2.2022 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

RHAN 6LL+CAdolygu a dod i ben

Adolygu’r gofynionLL+C

18.  Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y gofynion a osodir gan y Rheoliadau hyn, ac a yw’r gofynion hynny’n gymesur â’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ceisio ei gyflawni drwyddynt—

(a)o leiaf unwaith yn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â 11 Chwefror 2022;

(b)o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 28 o ddiwrnodau.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Rhl. 18 mewn grym ar 11.2.2022 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Y Rheoliadau’n dod i benLL+C

19.—(1Daw’r Rheoliadau hyn i ben ar ddiwedd 31 Mai 2022.

(2Nid yw’r ffaith bod y Rheoliadau hyn yn dod i ben yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wneir yn unol â’r Rheoliadau hyn cyn iddynt ddod i ben.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Rhl. 19 mewn grym ar 11.2.2022 am 4.00 a.m., gweler rhl. 1(2)

Eluned Morgan

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill