- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Dŵr, Cymru
Gwnaed
8 Rhagfyr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
9 Rhagfyr 2022
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 92 a 219(2)(d) i (f) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991(1).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2022.
2.—(1) Mae Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau)—
(a)ar ôl “y map perthnasol o’r enw “Parthau Perygl Nitradau Map Mynegai 2013”” mewnosoder “(y “map mynegai PPN”)”;
(b)yn lle paragraffau (a) a (b) rhodder—
“(a)nid yw rheoliadau 5 i 11, 15, 23, 27, 33 i 35, na 37 i 43 yn gymwys hyd nes 1 Ionawr 2023,
(b)nid yw rheoliadau 4 nac 36 yn gymwys hyd nes 30 Ebrill 2023, ac
(c)nid yw rheoliadau 17 i 21, 25, 26, nac 28 i 31 yn gymwys hyd nes 1 Awst 2024.”
(3) Yn rheoliad 3 (dehongli), ym mharagraff (1), ar ôl y diffiniad o “hysbysiad”, mewnosoder—
“mae i “map mynegai PPN” (“NVZ index map”) yr ystyr a roddir gan reoliad 2;”.
(4) Yn rheoliad 4 (dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad)—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “unrhyw flwyddyn sy’n dechrau ar 1 Ionawr”, rhodder “y cyfnod perthnasol”;
(b)ar ôl paragraff (3), mewnosoder—
“(4) Ym mharagraff (1), ystyr “y cyfnod perthnasol” yw—
(a)ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr;
(b)ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 30 Ebrill.”
(5) Yn rheoliad 36 (cofnod o’r nitrogen a gynhyrchwyd gan anifeiliaid ar y daliad)—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “30 Ebrill”, rhodder “y dyddiad perthnasol”;
(b)ym mharagraff (1)(a), yn lle “flwyddyn galendr flaenorol” rhodder “cyfnod o 12 mis blaenorol”;
(c)ar ôl paragraff (5), mewnosoder—
“(6) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “cyfnod o 12 mis blaenorol” (“previous 12 month period”) yw—
ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Ionawr ac sy’n gorffen ar 31 Rhagfyr cyn y dyddiad perthnasol;
ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN—
y cyfnod o 12 mis cyntaf at y dibenion hyn yw 30 Ebrill 2023 i 29 Ebrill 2024, a
wedi hynny, y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 30 Ebrill ac sy’n gorffen ar 29 Ebrill cyn y dyddiad perthnasol;
ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw—
ar gyfer meddiannydd daliad o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, 30 Ebrill;
ar gyfer meddiannydd daliad neu ran o ddaliad nad oedd gynt wedi ei leoli neu wedi ei lleoli o fewn parth perygl nitradau fel y’i dangosir ar y map mynegai PPN, 31 Awst 2024 ac ar gyfer pob blwyddyn ddilynol 31 Awst.”
(6) Yn Atodlen 1 (meintiau o dail, nitrogen a ffosffad a gynhyrchir gan dda byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori), yn Nhabl 1 (da byw sy’n pori)—
(a)yn y categori “Gwartheg”, yn y cofnod ar gyfer “Buchod godro”, yn y rhes ar gyfer “O 13 mis ymlaen tan y llo cyntaf”, yng ngholofn 4 (ffosffad a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau)), yn lle “34” rhodder “69”;
(b)yn y categori “Defaid”, yn y cofnod ar gyfer “Ar ôl wyna neu hwrdda”, yn y rhes ar gyfer “yn pwyso o 60 kg i fyny”, yng ngholofn 3 (nitrogen a gynhyrchir gan bob anifail yn ddyddiol (gramau)), yn lle “3” rhodder “33”.
(7) Yn Atodlen 3 (cyfrifo’r nitrogen sydd mewn tail organig), yn Rhan 1, yn y Tabl Safonol, yn y cofnod ar gyfer “Tail ac eithrio slyri”, yn y rhes ar gyfer “Tail o dyrcwn neu ieir brwylio”, yng ngholofn 2 (cyfanswm y nitrogen ym mhob tunnell (kg)), yn lle “10” rhodder “30”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
8 Rhagfyr 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (“Rheoliadau 2021”).
Mae rheoliad 2(2) yn diwygio rheoliad 2 o Reoliadau 2021 er mwyn newid y dyddiad gweithredu ar gyfer rheoliadau 4 ac 36 o Reoliadau 2021 o 1 Ionawr 2023 i 30 Ebrill 2023 ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn parth perygl nitradau (“PPN”).
Mae rheoliad 2(3) yn mewnosod diffiniad o “map mynegai PPN”.
Mae rheoliad 2(4) yn diwygio rheoliad 4 o Reoliadau 2021 fel bod y terfyn uchaf o 170kg yr hectar o nitrogen mewn tail da byw yn gymwys i bob cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 30 Ebrill ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn PPN.
Mae rheoliad 2(5) yn diwygio rheoliad 36 o Reoliadau 2021 fel bod y cyfnod cadw cofnodion perthnasol yn adlewyrchu’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 30 Ebrill o dan reoliad 4 ar gyfer daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn PPN. Mae hefyd yn ei gwneud yn glir mai’r cyfnod cadw cofnodion perthnasol cyntaf ar gyfer meddianwyr daliadau neu rannau o ddaliadau nad oeddent gynt wedi eu lleoli o fewn PPN yw 30 Ebrill 2023 i 29 Ebrill 2024.
Mae rheoliad 2(6) a (7) yn cywiro gwallau yn Atodlenni 1 a 3 yn y drefn honno i Reoliadau 2021.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.
1991 p. 57. Diwygiwyd adran 92 gan adran 120 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p. 25) a pharagraffau 128 a 144 o Atodlen 22 i’r Ddeddf honno, a chan O.S. 2010/675 ac O.S. 2013/755 (Cy. 90). Mae diwygiadau i adran 219 nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 92 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran y rhannau hynny o Gymru sydd y tu allan i ddalgylchoedd afon Dyfrdwy, afon Gwy ac afon Hafren. O ran y rhannau hynny o Gymru sydd o fewn y dalgylchoedd hynny, mae swyddogaethau o dan adran 92 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar y cyd â’r Ysgrifennydd Gwladol. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 92 a 219 bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys
The data on this page is available in the alternative data formats listed: