- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
11 Rhagfyr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
13 Rhagfyr 2022
Yn dod i rym
6 Ionawr 2023
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 80(2), 88(6), (8A)(a) ac (c), (8B)(b) ac (8D), a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1).
Ar yr adeg y gwneir y Rheoliadau hyn, mae Gweinidogion Cymru yn ystyried, at ddibenion adran 88(8A)(c) o’r Ddeddf honno, fod y coronafeirws yn glefyd pandemig.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 6 Ionawr 2023.
2. Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020(2) wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 a 4.
3. Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—
“mae i “coronafeirws” yr ystyr a roddir i “coronavirus” yn adran 1(1) o Ddeddf y Coronafeirws 2020(3) (ystyr “coronafeirws” a therminoleg gysylltiedig);”.
4. Ar ôl rheoliad 55 (y Tariff Cyffuriau a thâl ar gyfer fferyllwyr GIG a chontractwyr cyfarpar GIG) mewnosoder—
55A.—(1) Yn achos y cyffuriau neu’r meddyginiaethau y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt, rhaid i awdurdodau penderfynu sicrhau, o ran penderfyniadau o dan adran 88 o Ddeddf 2006 (tâl ar gyfer personau sy’n darparu gwasanaethau fferyllol) mewn cysylltiad â thâl fferyllol sy’n ymwneud â chyflenwi neu roi’r cyffuriau hynny neu’r meddyginiaethau hynny, naill ai—
(a)nad ydynt yn darparu, nac yn caniatáu, i unrhyw ad-daliad gael ei dalu am gost y cyffur neu’r feddyginiaeth (ac felly pris sylfaenol y cyffur neu’r feddyginiaeth, at ddibenion y Tariff Cyffuriau, yw sero), neu
(b)nad ydynt ond yn darparu, neu ond yn caniatáu, i ad-daliad nominal gael ei dalu am gost y cyffur neu’r feddyginiaeth.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a)i gyffur neu feddyginiaeth a ddefnyddir i frechu neu imiwneiddio pobl rhag y coronafeirws (“brechlyn rhag y coronafeirws”), os yw’r amodau a nodir ym mharagraff (3) wedi eu bodloni,
(b)i gyffur gwrthfeirol neu feddyginiaeth wrthfeirol a ddefnyddir i atal neu drin y coronafeirws (“meddyginiaeth wrthfeirol yn erbyn y coronafeirws”), os yw’r amodau a nodir ym mharagraff (4) wedi eu bodloni, neu
(c)i gyffur neu feddyginiaeth a ddefnyddir i frechu neu imiwneiddio pobl rhag feirws ffliw (“brechlyn rhag y ffliw”), os yw’r amodau a nodir ym mharagraff (5) wedi eu bodloni.
(3) Yr amodau a nodir yn y paragraff hwn yw—
(a)bod naill ai Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol wedi prynu brechlynnau rhag y coronafeirws i’w cyflenwi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd,
(b)bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud trefniadau i’r cyfan neu ran o’r stoc o frechlynnau rhag y coronafeirws, a brynwyd fel y crybwyllir yn is-baragraff (a), gael ei chyflenwi i fferyllwyr GIG, pa un ai’n uniongyrchol neu drwy gyfryngwr, heb gost i’r fferyllwyr GIG,
(c)bod Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau ar gyfer rhoi brechlynnau rhag y coronafeirws o’r stoc a grybwyllir yn is-baragraff (b) yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir iddynt gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 o Ddeddf 2006 (swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol), a
(d)bod y brechlyn rhag y coronafeirws o dan sylw yn dod o’r stoc honno a’i fod yn cael ei roi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd.
(4) Yr amodau a nodir yn y paragraff hwn yw—
(a)bod naill ai Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol wedi prynu meddyginiaethau gwrthfeirol yn erbyn y coronafeirws o fath penodol i’w cyflenwi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd,
(b)bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud trefniadau i’r cyfan neu ran o’r stoc o’r math penodol hwnnw o feddyginiaeth wrthfeirol yn erbyn y coronafeirws, a brynwyd fel y crybwyllir yn is-baragraff (a), gael ei chyflenwi i fferyllwyr GIG, pa un ai’n uniongyrchol neu drwy gyfryngwr, heb gost i’r fferyllwyr GIG, ac
(c)o ran y feddyginiaeth wrthfeirol yn erbyn y coronafeirws o dan sylw—
(i)ei bod yn dod o’r stoc honno, neu
(ii)nad yw’n dod o’r stoc honno ond serch hynny ei bod y math penodol o feddyginiaeth wrthfeirol yn erbyn y coronafeirws sydd ar gael heb gost i fferyllwyr GIG o dan y trefniadau a grybwyllir yn is-baragraff (b).
(5) Yr amodau a nodir yn y paragraff hwn yw—
(a)bod naill ai Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol wedi prynu brechlynnau rhag feirws y ffliw i’w cyflenwi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd,
(b)bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud trefniadau i’r cyfan neu ran o’r stoc o frechlynnau rhag feirws y ffliw, a brynwyd fel y crybwyllir yn is-baragraff (a), gael ei chyflenwi i fferyllwyr GIG, pa un ai’n uniongyrchol neu drwy gyfryngwr, heb gost i’r fferyllwyr GIG,
(c)bod Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud trefniadau ar gyfer rhoi brechlynnau rhag feirws y ffliw o’r stoc a grybwyllir yn is-baragraff (b) yn unol ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir iddynt gan Weinidogion Cymru o dan adran 12 o Ddeddf 2006 (swyddogaethau Byrddau Iechyd Lleol), a
(d)bod y brechlyn rhag feirws y ffliw o dan sylw yn dod o’r stoc honno a’i fod yn cael ei roi fel rhan o’r gwasanaeth iechyd.
(6) At ddibenion paragraff (4), caiff Gweinidogion Cymru briodweddu’r math penodol o feddyginiaethau gwrthfeirol yn erbyn y coronafeirws sydd ar gael heb gost i fferyllwyr GIG drwy gyfeirio at y modd y cyflwynir y cyffur neu’r feddyginiaeth yn unig (yn ogystal â thrwy gyfeirio at gynhwysyn actif y cyffur neu’r feddyginiaeth, cryfder y cyffur neu’r feddyginiaeth, neu unrhyw briodweddau eraill sy’n hynodi’r cyffur neu’r feddyginiaeth, neu gyfuniad o unrhyw rai o’r priodweddau hynny).
(7) Er mwyn osgoi amheuaeth, caniateir serch hynny i benderfyniadau o dan adran 88 o Ddeddf 2006 nad ydynt, yn unol â’r rheoliad hwn—
(a)yn darparu, nac yn caniatáu, i unrhyw ad-daliad gael ei dalu am gost cyffur neu feddyginiaeth (ac felly pris sylfaenol y cyffur neu’r feddyginiaeth, at ddibenion y Tariff Cyffuriau, yw sero), neu
(b)ond yn darparu, neu ond yn caniatáu, i ad-daliad nominal gael ei dalu am gost cyffur neu feddyginiaeth,
ddarparu neu ganiatáu i dâl gael ei dalu am unrhyw wasanaeth a ddarperir gan fferyllydd GIG y cyflenwir neu y rhoddir y cyffur neu’r feddyginiaeth fel rhan ohono.
(8) Yn y rheoliad hwn—
(a)ystyr “ad-daliad nominal”, yn achos cyffur sydd wedi ei ddarparu neu feddyginiaeth sydd wedi ei darparu heb gost i fferyllydd GIG, yw talu swm sy’n cael ei dalu yn lle’r swm y byddai’r fferyllydd GIG fel arfer yn ei ennill o’r gwahaniaeth rhwng—
(i)y swm a dalodd am y cyffur pan wnaeth ei brynu neu am y feddyginiaeth pan wnaeth ei phrynu, a
(ii)y swm a delir iddo gan y Bwrdd Iechyd Lleol perthnasol mewn cysylltiad â chost y cyffur hwnnw neu’r feddyginiaeth honno (gan amlaf y pris sylfaenol a restrir yn y Tariff Cyffuriau), os yw’n cyflenwi neu’n rhoi’r cyffur hwnnw neu’r feddyginiaeth honno o dan drefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol, a
(b)mae i “gwasanaeth iechyd” yr ystyr a roddir i “health service” yn adran 206(1) o Ddeddf 2006.”
Eluned Morgan
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Rhagfyr 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/1073 (Cy. 241)) (“y Rheoliadau Fferyllol”). Mae’r Rheoliadau Fferyllol yn llywodraethu’r modd y darperir gwasanaethau fferyllol fel rhan o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru o dan Ran 7 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“y Ddeddf”).
Mae’r cynllun ar gyfer talu am wasanaethau fferyllol a gwasanaethau fferyllol lleol yn Rhan 7 o’r Ddeddf wedi ei sylfaenu ar y sail y bydd yr awdurdodau penderfynu ar gyfer tâl fferyllol fel arfer yn cynnwys, yn y taliadau am y gwasanaethau hynny, swm sydd mewn cysylltiad â’r pris a dalwyd (ond sydd fel arfer ychydig yn fwy na’r pris hwnnw) gan ddarparwyr gwasanaethau pan wnaethant brynu’r eitemau presgripsiwn y maent yn eu cyflenwi neu’n eu rhoi i gleifion GIG. Fodd bynnag, mae pwerau yn Rhan 7 i alluogi dewisiadau eraill heblaw’r trefniadau tâl arferol hyn o dan rai amgylchiadau.
Mae rheoliad 4 yn mewnosod rheoliad newydd 55A yn y Rheoliadau Fferyllol sy’n darparu, pan fo Gweinidogion Cymru neu’r Ysgrifennydd Gwladol wedi prynu brechlynnau rhag y coronafeirws, meddyginiaethau gwrthfeirol yn erbyn y coronafeirws neu frechlynnau rhag y ffliw yn ganolog, ac y rhoddir y cynhyrchion hynny ar gael i fferyllfeydd cymunedol heb gost, fod yr awdurdodau penderfynu ar gyfer tâl fferyllol i osod pris ad-dalu o sero neu bris nominal ar gyfer y GIG am y cynhyrchion hynny, os yw amodau penodol wedi eu bodloni. Fodd bynnag, nid yw hyn yn atal yr awdurdodau penderfynu rhag talu fferyllfeydd cymunedol am y gwasanaethau (megis gwasanaethau proffesiynol) y maent yn eu darparu ar y cyd â chyflenwi neu roi’r brechlynnau hynny neu’r meddyginiaethau gwrthfeirol hynny.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
2006 p. 42. Gweler adran 206(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (“y Ddeddf”) am y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”, sy’n berthnasol i’r pwerau sy’n cael eu harfer. Diwygiwyd adran 80 gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012 (p. 7), adrannau 220(8) a 213(7). Diwygiwyd adran 88 gan Ddeddf Cyflenwadau Meddygol Gwasanaethau Iechyd (Costau) 2017 (p. 23), adran 2 a chan Ddeddf Iechyd a Gofal 2022 (p. 31), adran 161(2).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys