- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
Bwyd, Cymru
Anifeiliaid, Cymru
Gwnaed
13 Rhagfyr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
15 Rhagfyr 2022
Yn dod i rym
30 Rhagfyr 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan—
(a)paragraff 2 o Atodiad 6 i Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion(1); a
(b)paragraff 11A(1) o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011(2).
Yn unol ag Erthygl 144(7) o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion, mae Gweinidogion Cymru, cyn gwneud y Rheoliadau hyn, wedi ymgynghori â’r cyrff a’r personau hynny y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli’r buddiannau y mae’n debygol y bydd y Rheoliadau hyn yn effeithio arnynt yn sylweddol a’r cyrff a’r personau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) (Cymru) 2022.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn—
(a)yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b)yn gymwys o ran Cymru;
(c)yn dod i rym ar 30 Rhagfyr 2022.
2.—(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) 2021(3) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle rheoliad 2 (diwedd y cyfnod graddoli trosiannol) rhodder—
2. In relation to Wales, for the purposes of sub-paragraph (b) of the definition of “the transitional staging period” in paragraph 2 (interpretation) of Annex 6 to Regulation (EU) 2017/625 of the European Parliament and of the Council on official controls and other official activities performed to ensure the application of food and feed law, rules on animal health and welfare, plant health and plant protection products, the appointed date is 31 January 2024.”.
3. Yn rheoliad 3(1) (addasiadau darfodol i Benderfyniad y Comisiwn 2000/572/EC) o Reoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r EU) 2021(4), yn lle “31 Rhagfyr 2022” rhodder “31 Ionawr 2024”.
Vaughan Gething
Gweinidog yr Economi, un o Weinidogion Cymru
13 Rhagfyr 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) 2021 a Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.
Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) 2021 er mwyn estyn, o ran Cymru, ddyddiad dod i ben y cyfnod graddoli trosiannol (“transitional staging period”) o 31 Rhagfyr 2022 i 31 Ionawr 2024.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 er mwyn estyn yr ataliad dros dro ar y gofyniad i baratoadau cig fod wedi eu rhewi’n ddwfn pan fônt yn cael eu mewnforio i Gymru o Aelod-wladwriaethau’r AEE, Ynysoedd Ffaro, yr Ynys Las neu’r Swistir, gan gysoni â’r dyddiad a benodwyd fel dyddiad dod i ben estynedig y cyfnod graddoli trosiannol (rheoliad 2).
Ystyriwyd cod ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
EUR 2017/625. Mewnosodwyd Atodiad 6 gan O.S. 2020/1481. Mae Atodiad 6 wedi ei ddiwygio gan O.S. 2021/429, 2021/809, 2021/1096, 2021/1443 a 2022/621. Diffinnir y term “appropriate authority” yn Erthygl 3(2A) o EUR 2017/625.
O.S. 2011/2379 (Cy. 252). Mewnosodwyd paragraff 11A yn Atodlen 2 gan reoliad 2(2) o Reoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020 (O.S. 2020/1639 (Cy. 344)).
O.S. 2021/809, a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/1096, 2021/1443 a 2022/621.
O.S. 2021/1 (Cy. 1), a ddiwygiwyd gan O.S. 2021/376 (Cy. 117), 2021/977 (Cy. 231), 2021/1480 (Cy. 382) a 2022/618 (Cy. 140).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys