Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 1350 (Cy. 272)

Ardrethu A Phrisio, Cymru

Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022

Gwnaed

14 Rhagfyr 2022

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2022

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(1), (2), (3), (4), (5), (6), (7) a (10) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(2).

Gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru, ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad, yn unol ag adran 143(4) o’r Ddeddf honno(3).

Yn unol ag adran 58(9) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i’r amcan o sicrhau (i’r graddau y bo hynny’n ymarferol) nad yw’r cyfanswm sy’n daladwy i Weinidogion Cymru a’r holl awdurdodau bilio ar ffurf ardrethi annomestig o ran y blynyddoedd ariannol sy’n dod o fewn y cyfnod perthnasol yn fwy na’r hyn y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n debygol o fod yn daladwy heblaw am y Rheoliadau hyn.

RHAN 1LL+CRhagarweiniol: cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwysoLL+C

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2022(4) ac maent yn gymwys o ran Cymru.

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 ac yn diweddu ar 31 Mawrth 2028 (“y cyfnod perthnasol”).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

DehongliLL+C

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “cyfnod perthnasol” (“ relevant period”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 1(3);

ystyr “diwrnod perthnasol” (“ relevant day”) yw diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef sy’n dod o fewn y cyfnod perthnasol;

mae i “diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef”, mewn perthynas â hereditamentau sy’n cael eu meddiannu a ddangosir ar restr leol, yr ystyr a roddir i “chargeable day” yn adran 43(3) o’r Ddeddf, mewn perthynas â hereditamentau nad ydynt yn cael eu meddiannu a ddangosir ar restr leol, yr ystyr a roddir yn adran 45(3) o’r Ddeddf, ac mewn perthynas â hereditamentau a ddangosir ar restr ganolog, yr ystyr a roddir yn adran 54(3) o’r Ddeddf;

ystyr “y Ddeddf” (“ the Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988;

mae i “hereditament diffiniedig” (“ defined hereditament”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3;

ystyr “rhestr ganolog” (“ central list”) yw rhestr a lunnir ac a gedwir yn unol ag adran 52 o’r Ddeddf(5);

ystyr “rhestr leol” (“ local list”) yw rhestr a lunnir ac a gedwir yn unol ag adran 41 o’r Ddeddf(6);

ystyr “rhwymedigaeth sylfaenol” (“BL”) (“ base liability”, “BL”) yw’r swm a gyfrifir yn unol â rheoliad 4;

ystyr “swm tybiannol a godir” (“NCA”) (“ notional chargeable amount”, “NCA”) yw’r swm a gyfrifir yn unol â rheoliadau 6 a 7.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Hereditament diffiniedigLL+C

3.  Mae hereditament yn hereditament diffiniedig mewn cysylltiad â diwrnod perthnasol os caiff ei ddangos ar restr leol neu ar restr ganolog ar—

(a)31 Mawrth 2023,

(b)y diwrnod perthnasol, ac

(c)pob diwrnod, os oes un, sy’n dod ar ôl 31 Mawrth 2023 a chyn y diwrnod perthnasol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 2LL+CRhagarweiniol: cyfrifiadau

Rhwymedigaeth sylfaenolLL+C

4.—(1Pan fo adran 43(4B)(b) o’r Ddeddf(7) yn gymwys i hereditament diffiniedig ar 31 Mawrth 2023, cyfrifir y rhwymedigaeth sylfaenol (“BL”) ar gyfer yr hereditament diffiniedig hwnnw drwy ddefnyddio’r fformiwla—

Calculation of base liability (“BL”) for that defined hereditament

(2Ym mhob achos arall, cyfrifir y BL ar gyfer hereditament diffiniedig drwy ddefnyddio’r fformiwla—

Calculation of base liability (“BL”) for that defined hereditament

(3At ddibenion y rheoliad hwn—

  • A yw’r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer yr hereditament diffiniedig ar restr leol neu ar restr ganolog ar 31 Mawrth 2023, ac

  • E yw swm E sy’n gymwys i’r hereditament diffiniedig ar 31 Mawrth 2023 yn unol â Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017(8).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Rhl. 4 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Swm tybiannol a godirLL+C

5.  Cyfrifir y swm tybiannol a godir (“NCA”) ar gyfer hereditament diffiniedig yn unol â rheoliadau 6 a 7.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Rhl. 5 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

6.—(1Pan fo adran 43(4B)(b) o’r Ddeddf yn gymwys i hereditament diffiniedig, ar 1 Ebrill 2023, cyfrifir yr NCA ar gyfer yr hereditament diffiniedig hwnnw drwy ddefnyddio’r fformiwla—

Calculation of NCA for that defined hereditament

(2Ym mhob achos arall, cyfrifir yr NCA ar gyfer hereditament diffiniedig drwy ddefnyddio’r fformiwla—

Calculation of NCA for that defined hereditament

(3At ddibenion y rheoliad hwn—

  • A yw’r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer yr hereditament diffiniedig ar restr leol neu ar restr ganolog ar 1 Ebrill 2023,

  • B yw’r lluosydd ardrethu annomestig ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 a gyfrifir yn unol â pharagraff 4B o Atodlen 7 i’r Ddeddf(9), ac

  • E yw swm E sy’n gymwys i’r hereditament diffiniedig ar 1 Ebrill 2023 yn unol â Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Rhl. 6 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hereditament diffiniedig pan fo, ar gyfer diwrnod ar ôl 1 Ebrill 2023, y gwerth ardrethol a ddangosir ar restr leol neu ar restr ganolog ar gyfer yr hereditament diffiniedig yn wahanol i’r hyn a ddangosir ar ei gyfer ar restr leol neu ar restr ganolog ar 1 Ebrill 2023.

(2O’r diwrnod y mae’r newid mewn gwerth ardrethol yn cael effaith, mae rheoliad 6 yn cael effaith o ran yr hereditament diffiniedig gyda’r diwygiadau a ganlyn—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “1 Ebrill 2023”, rhodder “y diwrnod y mae’r newid mewn gwerth ardrethol yn cael effaith”, a

(b)ym mharagraff (3), yn lle’r diffiniad o ‘A’ rhodder “A yw’r gwerth ardrethol a ddangosir ar gyfer yr hereditament diffiniedig ar restr leol neu ar restr ganolog ar y diwrnod y mae’r newid mewn gwerth ardrethol yn cael effaith [F1, ond pan fo paragraff 3 o Atodlen 4ZA neu baragraff 3 o Atodlen 5A (rhyddhad gwelliannau) i’r Ddeddf yn gymwys mewn cysylltiad â hereditament (yn ôl y digwydd), A yw’r gwerth ardrethol hwnnw llai G.]”.

[F2(3) Ym mharagraff (2)(b) uchod, G yw’r swm a ragnodir, neu’r swm a gyfrifir yn unol â’r ddarpariaeth a ragnodir, gan Weinidogion Cymru o dan baragraff 10(7) o Atodlen 4ZA neu baragraff 6(6) o Atodlen 5A i’r Ddeddf (yn ôl y digwydd).]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7Rhl. 7 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 3LL+CAchosion y mae’r rheolau rhagnodedig yn gymwys iddynt

8.  At ddibenion adran 58(2) o’r Ddeddf, yr achosion yw’r rhai sy’n dod o fewn y disgrifiadau a ragnodir yn rheoliad 9, ac nad ydynt yn dod o fewn y disgrifiadau a ragnodir yn rheoliad 10.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I8Rhl. 8 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Disgrifiadau rhagnodedigLL+C

9.  Hereditament diffiniedig—

(a)pan fo’r NCA yn fwy na’r swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—

Calculation of NCA

, a

(b)pan fo meddiannydd yr hereditament, ar y diwrnod perthnasol, yr un person â’r meddiannydd ar 31 Mawrth 2023.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Rhl. 9 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

EithriadauLL+C

10.  Hereditament diffiniedig—

(a)pan fyddai, ar y diwrnod perthnasol, y swm a godir yn sero fel arall o dan [F3baragraff 2 o Atodlen 4ZB i’r] Ddeddf(10), neu

(b)pan fo, ar y diwrnod perthnasol, ddosraniad o dan adran 44A(1) o’r Ddeddf(11) yn gymwys i’r hereditament ac yn cael effaith mewn perthynas â’r swm a godir.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I10Rhl. 10 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 4LL+CRheolau rhagnodedig

Rheolau ar gyfer canfod y swm a godirLL+C

11.  At ddiben [F4adran 58(3)] o’r Ddeddf, mae’r swm a godir ar gyfer hereditament diffiniedig y mae rheoliad 8 yn gymwys iddo (achosion sy’n dod o fewn y disgrifiad rhagnodedig) i’w ganfod yn unol â’r rheolau a ragnodir yn rheoliadau 12 i 16.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I11Rhl. 11 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

12.  Y swm a godir ar gyfer diwrnod perthnasol yw’r swm a gyfrifir yn unol ag adran 43(12), 45(13) neu 54(14) o’r Ddeddf fel y bo’n briodol, llai’r swm a gyfrifir o dan ba un bynnag o reoliadau 14 i 16 sy’n gymwys.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Rhl. 12 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

13.  Os canlyniad gostwng y swm a godir yn unol â’r rheolau yn rheoliadau 14 i 16 yw cynhyrchu ffigur negyddol, y swm a godir yw sero.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Rhl. 13 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023LL+C

14.  Yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023, gostyngir y swm a godir yn ôl swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—

Calculation of chargeable amount

Gwybodaeth Cychwyn

I14Rhl. 14 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2024LL+C

15.  Yn y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2024, gostyngir y swm a godir yn ôl swm a gyfrifir drwy ddefnyddio’r fformiwla—

Calculation of chargeable amount

Gwybodaeth Cychwyn

I15Rhl. 15 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2025, 1 Ebrill 2026 a 1 Ebrill 2027LL+C

16.  Yn y blynyddoedd ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2025, 1 Ebrill 2026 a 1 Ebrill 2027 gostyngir y swm a godir yn ôl sero.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Rhl. 16 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

RHAN 5LL+CDirymu

17.  Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2016(15) wedi eu dirymu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I17Rhl. 17 mewn grym ar 31.12.2022, gweler rhl. 1(2)

Rebecca Evans

Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

14 Rhagfyr 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2022 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi rheolau sydd i’w defnyddio i ganfod y swm a godir ar gyfer achosion sy’n dod o fewn y disgrifiadau a ragnodir yn y Rheoliadau.

Mae’r rheolau rhagnodedig yn gymwys i ddiwrnod y codir swm ynglŷn ag ef sy’n dod o fewn y cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 ac yn diweddu ar 31 Mawrth 2028 (“y cyfnod perthnasol”). Diffinnir diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef yn rheoliad 2.

Mae’r rheolau rhagnodedig yn gymwys i hereditamentau diffiniedig. Hereditament diffiniedig yw hereditament a ddangosir ar restr leol neu ar restr ganolog ar 31 Mawrth 2023, ar y diwrnod perthnasol ac ar bob diwrnod rhyngddynt. Pan dynnir hereditament ymaith o restr leol neu o restr ganolog, yn ddarostyngedig i unrhyw apelau, nid yw’r rheolau rhagnodedig yn gymwys i’r hereditament o’r diwrnod y cafodd y tynnu ymaith effaith. Ni fyddai tynnu ymaith o’r fath yn cael effaith ar gymhwyso’r rheolau rhagnodedig i’r hereditament cyn y diwrnod y cafodd y tynnu ymaith effaith.

Mae’r rheolau rhagnodedig yn gostwng y cynnydd yn rhwymedigaeth y trethdalwr o ganlyniad i ailbrisiad 2023. Mae rheoliad 4 yn darparu’r cyfrifiadau ar gyfer y swm a godir am yr hereditament ar 31 Mawrth 2023 (y rhwymedigaeth sylfaenol). Dyma’r diwrnod cyn i’r rhestrau newydd a lunnir ar 1 Ebrill 2023 gael effaith. Y lluosydd ardrethu annomestig a gyfrifir ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23 o dan baragraff 3B o Atodlen 7 i’r Ddeddf yw 0.535.

Mae rheoliad 6 yn darparu’r fformiwla ar gyfer canfod y swm tybiannol a godir (“NCA”). Dyma’r swm a godir a fyddai’n gymwys i’r hereditament diffiniedig ar 1 Ebrill 2023 pe na bai’r rheolau rhagnodedig yn gymwys. Ceir dwy fformiwla yn rheoliad 6 er mwyn adlewyrchu’r posibilrwydd bod y rheolau rhagnodedig yn gymwys i drethdalwyr sy’n derbyn rhyddhad ardrethi i fusnesau bach a threthdalwyr nad ydynt yn derbyn rhyddhad o’r fath.

Mae’r fformiwla i ganfod yr NCA yn defnyddio’r gwerth ardrethol, y lluosydd ardrethu annomestig a, phan fo hynny’n angenrheidiol, E, fel y maent ar 1 Ebrill 2023. E yw’r ffigur a ragnodir gan Weinidogion Cymru yng Ngorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 (O.S. 2017/1229) (Cy. 293) sy’n gymwys i’r hereditament o dan sylw ar 1 Ebrill 2023. Nid yw’r ffaith y gallai’r diwrnod perthnasol y cyfrifir y swm a godir ar ei gyfer fod yn hwyrach nag 1 Ebrill 2023 yn newid y ffigurau hyn. Y rheswm am hynny yw bod y gostyngiad mewn rhwymedigaeth yn seiliedig ar gyfran o’r cynnydd mewn rhwymedigaeth rhwng 31 Mawrth 2023 ac 1 Ebrill 2023 o ganlyniad i lunio’r rhestrau newydd.

Mae rheoliad 7 yn addasu rheoliad 6 mewn achos pan fo newid i’r gwerth ardrethol ar gyfer hereditament yn cael effaith yn ystod y cyfnod perthnasol, ond o ddiwrnod ar ôl 1 Ebrill 2023. Mae’n gweithredu fel bod yr NCA, a ddefnyddir at ddibenion rheoliadau 8 a 9(a) a’r fformiwlâu yn rheoliadau 14 a 15, yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio’r gwerth ardrethol newydd yn hytrach na’r gwerth ardrethol ar 1 Ebrill 2023. Bydd y lluosydd ardrethu annomestig ac E yn parhau fel ag yr oeddynt ar 1 Ebrill 2023.

Mae Rhan 3 yn rhagnodi’r disgrifiadau o achosion y mae’r rheolau rhagnodedig yn gymwys iddynt. Rhaid darllen rheoliadau 9 a 10 ar y cyd â rheoliad 8. Mae rheoliad 9(a) yn darparu na fydd y rheolau rhagnodedig yn gymwys oni bai bod y rhwymedigaeth sylfaenol wedi cynyddu mwy na £300. Mae rheoliad 9(b) yn ei gwneud yn ofynnol bod yr un person wedi meddiannu’r hereditament diffiniedig er mwyn bod yn gymwys i gael gostyngiad. Pan fo meddiannaeth yr hereditament yn newid ar 1 Ebrill 2023 neu ar unrhyw ddyddiad diweddarach yn ystod y cyfnod perthnasol, nid yw’r rheolau rhagnodedig yn gymwys.

Mae rheoliad 10 yn disgrifio achosion pan na fo’r rheolau rhagnodedig yn gymwys. Mae rheoliad 10(a) yn ymdrin â’r posibilrwydd bod hereditament nad yw’n cael ei feddiannu yn dod o fewn yr achosion yn adran 45A(2) neu (3) o’r Ddeddf (elusennau a chlybiau chwaraeon cymunedol amatur cofrestredig). Mewn achos o’r fath, rhwymedigaeth y trethdalwr fyddai sero, yn unol ag adran 45A(1) o’r Ddeddf. Mae rheoliad 10(b) yn ymdrin â’r sefyllfa pan na fo rhan o hereditament yn cael ei meddiannu a bod yr awdurdod bilio wedi ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog prisio ddosrannu gwerth ardrethol yr hereditament rhwng y rhan sy’n cael ei meddiannu a’r rhan nad yw’n cael ei meddiannu o’r hereditament o dan adran 44A(1) o’r Ddeddf. Nid yw’r rheolau rhagnodedig yn gymwys mewn achos o’r fath. Nid oes unrhyw ostyngiad mewn swm a godir ar gael felly pan fo dosraniad o’r fath yn gymwys i hereditament diffiniedig ac yn cael effaith mewn perthynas â’r swm a godir.

Pan fo hereditament diffiniedig yn achos sy’n dod o fewn pob un o’r disgrifiadau a ragnodir yn rheoliad 9, ac nad yw’n dod o fewn y disgrifiadau yn rheoliad 10, mae’r rheolau a ragnodir yn rheoliadau 12 i 16 yn gymwys. Mae’r rheolau hyn i’w defnyddio i ganfod y swm a godir ar gyfer diwrnod y codir swm ynglŷn ag ef.

Y cam cyntaf o dan reoliad 12 yw cyfrifo’r swm a godir am yr hereditament o dan adran 43 o’r Ddeddf ar gyfer hereditamentau sy’n cael eu meddiannu, adran 45 o’r Ddeddf ar gyfer hereditamentau nad ydynt yn cael eu meddiannu ac adran 54 o’r Ddeddf ar gyfer hereditamentau a ddangosir ar y rhestr ganolog. Yr ail gam yw gostwng y swm hwnnw yn ôl y symiau a gyfrifir o dan ba un bynnag o reoliadau 14 i 16 sy’n gymwys.

Mae rheoliadau 14 a 15 yn darparu gostyngiad graddol mewn symiau a godir yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2023 ac yn diweddu ar 31 Mawrth 2025. Yn y flwyddyn gyntaf, gostyngir y swm a godir yn ôl swm sy’n gyfwerth â 67% o’r cynnydd mewn rhwymedigaeth rhwng 31 Mawrth 2023 ac 1 Ebrill 2023. Yn yr ail flwyddyn gostyngir y swm a godir yn ôl 34% o’r cynnydd mewn rhwymedigaeth rhwng 31 Mawrth 2023 ac 1 Ebrill 2023. Cyfrifir y gostyngiad yn y swm a godir ar gyfer pob diwrnod perthnasol, a defnyddir y ffigur 366 yn rheoliad 14 i adlewyrchu’r ffaith bod 2024 yn flwyddyn naid. Mae rheoliad 16 yn darparu mai’r swm a godir yn ystod y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2025 ac yn diweddu ar 31 Mawrth 2028 yw’r swm a ganfyddir o dan adran 43 o’r Ddeddf ar gyfer hereditamentau sy’n cael eu meddiannu, adran 45 o’r Ddeddf ar gyfer hereditamentau nad ydynt yn cael eu meddiannu ac adran 54 ar gyfer hereditamentau a ddangosir ar y rhestr ganolog (hynny yw, nid oes gostyngiad ar gyfer y blynyddoedd ariannol hynny).

Mae rheoliad 13 yn sicrhau nad yw’r rheolau rhagnodedig yn gostwng y swm a godir i swm islaw sero.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth yr Is-adran Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

1988 p. 41. Gweler adran 146(6) am y diffiniad o “prescribed”. Diwygiwyd adran 58 gan adran 117(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14), a pharagraff 68 o Atodlen 13 iddi, adran 2 o Ddeddf Ardrethu Annomestig 1994 (p. 3), adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p. 29), a pharagraff 5 o Atodlen 1 iddi, adran 2(1) o Ddeddf Ardrethu (Eiddo Gwag) 2007 (p. 9), a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi, ac adran 4(1) o Ddeddf Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig) 2018 (p. 1), a pharagraff 4 o Atodlen 1 iddi.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau’r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru wedi hynny yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

(3)

Mae’r cyfeiriad at ddau Dŷ Senedd y DU yn adran 143(4) o’r Ddeddf i’w ddarllen fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 34 o Atodlen 11 iddi.

(4)

Yn unol ag adran 58(8) o’r Ddeddf sy’n ei gwneud yn ofynnol i reoliadau ddod i rym cyn 1 Ionawr yn union cyn y flwyddyn ariannol y maent yn berthnasol iddi.

(5)

Diwygiwyd adran 54A(5)(b) o’r Ddeddf gan adran 1(4)(b) o Ddeddf Ardrethu Annomestig (Rhestrau) 2021 (p. 8) fel bod adran 52(2) o’r Ddeddf yn cael effaith fel pe bai rhestr i’w llunio ar 1 Ebrill 2023. Diwygiwyd adran 52 o’r Ddeddf gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42), a pharagraff 28 o Atodlen 5 iddi, adran 29(7) i (10) ac adran 30(3) o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 (p. 27) ac adran 1(3) o Ddeddf Ardrethu Annomestig (Rhestrau) 2021 (p. 8).

(6)

Diwygiwyd adran 54A(4)(b) o’r Ddeddf gan adran 1(4)(a) o Ddeddf Ardrethu Annomestig (Rhestrau) 2021 (p. 8) fel bod adran 41(2) o’r Ddeddf yn cael effaith fel pe bai rhestr i’w llunio ar 1 Ebrill 2023. Diwygiwyd adran 41 o’r Ddeddf gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, a pharagraff 19 o Atodlen 5 iddi, adran 117(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14), a pharagraff 59 o Atodlen 13 iddi, adran 29(2) i (5) ac adran 30(2) o Ddeddf Twf a Seilwaith 2013 ac adran 1(2) o Ddeddf Ardrethu Annomestig (Rhestrau) 2021.

(7)

Mewnosodwyd adran 43(4B) o’r Ddeddf gan adran 61(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26). O.S. 2017/1229 (Cy. 293) yw’r gorchymyn y cyfeirir ato yn adran 43(4B)(b) o’r Ddeddf.

(8)

O.S. 2017/1229 (Cy. 293), a ddiwygiwyd gan 2018/1192 (Cy. 243); mae offeryn diwygio arall ond nid yw’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(9)

Mewnosodwyd paragraff 4B o Atodlen 7 i’r Ddeddf gan adran 62(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26).

(10)

Mewnosodwyd adran 45A o’r Ddeddf gan adran 1(2) o Ddeddf Ardrethu (Eiddo Gwag) 2007 (p. 9) ac fe’i diwygiwyd gan O.S. 2013/463.

(11)

Mewnosodwyd adran 44A o’r Ddeddf gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42), a pharagraff 22 o Atodlen 5 iddi. Fe’i diwygiwyd gan adran 117(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14), a pharagraff 62 o Atodlen 13 iddi, a chan adran 2(1) o Ddeddf Ardrethu (Eiddo Gwag) 2007 (p. 9), a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi.

(12)

Diwygiwyd adran 43 o’r Ddeddf gan adran 117(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14), a pharagraff 60 o Atodlen 13 iddi, adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Ardrethu 1997 (p. 29), a pharagraff 2 o Atodlen 1 iddi, adran 127(4) o Ddeddf Gwasanaethau Post 2000 (p. 26), a pharagraff 21 o Atodlen 8 iddi, adran 61 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p. 26), adran 1177 o Ddeddf Treth Gorfforaeth 2010 (p. 4), a pharagraff 207 o Atodlen 1 iddi, adran 91(1) o Ddeddf Gwasanaethau Post 2011 (p. 5), a pharagraff 131 o Atodlen 12 iddi, adran 1(1) i (4) o Ddeddf Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig) 2018 (p. 1) ac adran 1 o Ddeddf Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) 2021 (p. 13).

(13)

Diwygiwyd adran 45 o’r Ddeddf gan adran 139 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42), a pharagraff 23 o Atodlen 5 iddi, adran 117(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, a pharagraff 63 o Atodlen 13 iddi, adran 1 ac adran 2(2) o Ddeddf Ardrethu (Eiddo Gwag) 2007 (p. 9), ac Atodlen 2 iddi, ac adran 2 o Ddeddf Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig) 2018.

(14)

Diwygiwyd adran 54 o’r Ddeddf gan adran 3(2) o Ddeddf Seilwaith Telathrebu (Rhyddhad rhag Ardrethi Annomestig) 2018.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill