Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022

Newidiadau dros amser i: Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 06/12/2023.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 28 (Cy. 13)

Tai, Cymru

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022

Gwnaed

7 Ionawr 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

12 Ionawr 2022

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 29(1) a 256(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(1).

Enwi a chychwynLL+C

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar [F11 Rhagfyr 2022 (y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym)] (2).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 1 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1) (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 7), gweler rhl. 1

DehongliLL+C

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.

(2Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn y Ddeddf.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Rhl. 2 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1) (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 7), gweler rhl. 1

Datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol o gontractau rhagnodedigLL+C

3.—(1Mae’r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract sy’n gymwys i—

(a)contract meddiannaeth diogel, wedi ei nodi yn Atodlen 1;

(b)contract meddiannaeth safonol cyfnodol perthnasol, wedi ei nodi yn Atodlen 2;

(c)contract safonol cyfnod penodol perthnasol, wedi ei nodi yn Atodlen 3.

(2At ddibenion y rheoliad hwn—

(a)ystyr “contract meddiannaeth safonol cyfnodol perthnasol” yw contract meddiannaeth safonol cyfnodol—

(i)nad yw’n gontract safonol â chymorth;

(ii)nad yw’n gontract safonol rhagarweiniol;

(iii)nad yw’n gontract safonol ymddygiad gwaharddedig;

(iv)nad yw’n gontract safonol cyfnodol sydd yn bodoli ar ddiwedd contract cyfnod penodol yn unol ag adran 184(2) (diwedd y cyfnod penodol) o’r Ddeddf;

(v)nad yw’n gontract safonol cyfnodol sydd o fewn Atodlen 8A(3) (contractau safonol y gellir eu terfynu ar ôl cyfnod hysbysu o ddau fis o dan adran 173 neu o dan gymal terfynu’r landlord) neu Atodlen 9(4) (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175 a 196 (pryd y caniateir rhoi hysbysiad y landlord) yn gymwys iddynt) i’r Ddeddf;

(b)ystyr “contract safonol cyfnod penodol perthnasol” yw contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd—

(i)nad yw’n ymgorffori unrhyw ddarpariaethau yn ymwneud â chymal terfynu’r landlord o dan adran 194(5) (cymal terfynu’r landlord) o’r Ddeddf,

(ii)nad yw’n ymgorffori unrhyw ddarpariaethau yn ymwneud â chymal terfynu deiliad contract o dan adran 189 (cymal terfynu deiliad contract) o’r Ddeddf, a

(iii)nad yw o fewn Atodlen 9B(6) (contractau safonol cyfnod penodol y gellir eu terfynu drwy roi hysbysiad o dan adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol)) i’r Ddeddf.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Rhl. 3 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1) (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 7), gweler rhl. 1

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

Rheoliad 3

F2ATODLEN 1LL+C

Diwygiadau Testunol

F2 Atod. 1 Rhn. 1: yn yr ail baragraff, mae'r geiriau “y mae’n hwyr” wedi eu hamnewid am “(gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu) nad yw’r datganiad ysgrifenedig wedi ei ddarparu” (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 3(2)

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1) (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 7), gweler rhl. 1

page 7
page 8
page 9
page 10
page 11
page 12
page 13
page 14
page 15
page 16
page 17
page 18
page 19
page 20
page 21
page 22
page 23
page 24
page 25
page 26
page 27
page 28
page 29
page 30
page 31
page 32
page 33
page 34
page 35
page 36
page 37
page 38
page 39
page 40
page 41
page 42
page 43
page 44

Rheoliad 3

F3F4ATODLEN 2LL+C

Diwygiadau Testunol

F3 Atod. 2 Rhn. 1: yn yr ail baragraff, mae'r geiriau "y mae’n hwyr” wedi eu hamnewid am “(gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu) nad yw’r datganiad ysgrifenedig wedi ei ddarparu” (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 3(3)(a)

F4Atod. 2 Rhn. 3: ar ddechrau paragraff (3)(a) mae'r geiriau “cyn i’r contract hwn ddod i ben, ac yn ystod y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad," wedi eu mewnosod (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 3(3)(b)(ii)(aa)

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1) (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 7), gweler rhl. 1

page 45
page 46
page 47
page 48
page 49
page 50
page 51
page 52
page 53
page 54
page 55
page 56
page 57
page 58
page 59
page 60
page 61
page 62
page 63
page 64
page 65
page 66
page 67
page 68
page 69
page 70
page 71
page 72
page 73
page 74
page 75
page 76
page 77
page 78
page 79
page 80
page 81
page 82
page 83
page 84
page 85
page 86
page 87
page 88
page 89
page 90

Rheoliad 3

F5F6F7F8ATODLEN 3LL+C

Diwygiadau Testunol

F5Atod. 3 Rhn. 1: yn yr ail baragraff, mae'r geiriau “y mae’n hwyr” wedi eu hamnewid am “(gan ddechrau â’r dyddiad meddiannu) nad yw’r datganiad ysgrifenedig wedi ei ddarparu” (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 3(4)(a)(i)

F6Atod. 3 Rhn. 1: ar ôl paragraff (c) mae paragraff newydd "Os ydych yn dal i feddiannu’r annedd ar ôl diwedd y cyfnod penodol, rydych chi a’r landlord i’ch trin fel pe baech wedi gwneud contract safonol cyfnodol newydd mewn perthynas â’r annedd." wedi ei fewnosod (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 3(4)(a)(ii)

F7Atod. 3 Rhn. 2: yn Rhan 2 (contract meddiannaeth safonol cyfnod penodol – materion allweddol), yn y paragraff cyntaf, mae'r geiriau “a nodir isod” wedi eu hamnewid i “o ____________________ (mewnosoder cyfnod y contract meddiannaeth mewn dyddiau/wythnosau/misoedd/blynyddoedd)”wedi eu hamnewid (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 3(4)(b)

F8Atod. 3 Rhn. 3: yn Rhan 3 (contract safonol cyfnod penodol – telerau sylfaenol ac atodol), ar ddiwedd is-bennawd teler 39 (hysbysiadau adennill meddiant) mae “(F+)”.wedi ei fewnosod (6.12.2023) gan Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2023 (O.S. 2023/1199), rhlau. 1(2), 3(4)(c)

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 3 mewn grym ar 1.12.2022 , gweler rhl. 1) (fel y'i diwygiwyd gan Gorchymyn Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Cychwyn Rhif 2 a Diwygiadau Canlyniadol) 2022 (O.S. 2022/906), ergl. 7), gweler rhl. 1

page 91
page 92
page 93
page 94
page 95
page 96
page 97
page 98
page 99
page 100
page 101
page 102
page 103
page 104
page 105
page 106
page 107
page 108
page 109
page 110
page 111
page 112
page 113
page 114
page 115
page 116
page 117
page 118
page 119
page 120
page 121
page 122
page 123
page 124
page 125

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“y Ddeddf”) yn sefydlu dau fath o gontract meddiannaeth, sef contract diogel a chontract safonol. Gall contract safonol fod naill ai’n gontract cyfnodol neu’n gontract cyfnod penodol.

Mae’r Ddeddf hefyd yn sefydlu nifer o wahanol fathau o gontractau safonol y gellir eu defnyddio mewn amgylchiadau penodol, gan gynnwys contractau safonol rhagarweiniol, contractau safonol ymddygiad gwaharddedig a chontractau safonol â chymorth.

Mae adran 29(1) o’r Ddeddf (datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ragnodi datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol o gontractau ar gyfer contractau meddiannaeth o unrhyw fath neu ddisgrifiad sy’n briodol yn eu barn hwy.

Mae datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract yn ddatganiad ysgrifenedig sy’n ymgorffori’r holl ddarpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i’r contract hwnnw, heb eu haddasu (gweler adran 29(2) o’r Ddeddf).

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn, a’r Atodlenni iddynt, yn rhagnodi datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol o gontractau ar gyfer contractau diogel, contractau safonol cyfnodol a chontractau safonol cyfnod penodol.

Mae rheoliad 3(1)(a) ac Atodlen 1 yn rhagnodi’r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract sy’n gymwys i gontractau meddiannaeth diogel.

Mae rheoliad 3(1)(b) ac Atodlen 2 yn rhagnodi’r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract sy’n gymwys i gontractau meddiannaeth safonol cyfnodol nad ydynt—

(a)yn gontractau safonol â chymorth,

(b)yn gontractau safonol rhagarweiniol,

(c)yn gontractau safonol ymddygiad gwaharddedig,

(d)yn gontractau safonol cyfnodol sydd wedi codi ar ddiwedd contract cyfnod penodol yn unol ag adran 184(2) (diwedd y cyfnod penodol) o’r Ddeddf, nac

(e)yn gontractau safonol cyfnodol o fewn Atodlen 8A (contractau safonol y gellir eu terfynu ar ôl cyfnod hysbysu o ddau fis o dan adran 173 (hysbysiad y landlord) neu o dan gymal terfynu’r landlord) neu Atodlen 9 (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175 a 196 o’r Ddeddf (pryd y caniateir rhoi hysbysiad y landlord) yn gymwys iddynt) i’r Ddeddf.

Mae rheoliad 3(1)(c) ac Atodlen 3 yn rhagnodi’r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract sy’n gymwys i gontractau safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd (gweler adran 90 (contractau safonol cyfnod penodol: canfod hyd y cyfnod) o’r Ddeddf)—

(a)nad ydynt yn ymgorffori cymal terfynu’r landlord o dan adran 194 (cymal terfynu’r landlord) o’r Ddeddf,

(b)nad ydynt yn ymgorffori cymal terfynu deiliad contract o dan adran 189 (cymal terfynu deiliad contract) o’r Ddeddf, ac

(c)nad ydynt o fewn Atodlen 9B (contractau safonol cyfnod penodol y gellir eu terfynu drwy roi hysbysiad o dan adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol)) i’r Ddeddf.

Mae’n ofynnol i landlord ddarparu datganiad ysgrifenedig o gontract i ddeiliad y contract (gweler adran 31(1) (datganiad ysgrifenedig) o’r Ddeddf) ond nid yw’n ofynnol iddo ddefnyddio datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract. Fodd bynnag, rhaid i’r datganiad ysgrifenedig o gontract a ddefnyddir gydymffurfio â darpariaethau’r Ddeddf (gweler adrannau 31 i 33).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

(1)

2016 dccc 1. Gweler adran 252 am y diffiniad o “rhagnodedig”.

(2)

Daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(3)

Mewnosodwyd Atodlen 8A i’r Ddeddf gan adran 3 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3), ac Atodlen 1 iddi.

(4)

Diwygiwyd Atodlen 9 i’r Ddeddf gan adrannau 14 a 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021, a pharagraffau 1 a 9 o Atodlen 5 iddi, a pharagraffau 1 a 26 o Atodlen 6 iddi.

(5)

Diwygiwyd adran 194 gan adran 11(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021.

(6)

Mewnosodwyd Atodlen 9B gan adran 10 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 ac Atodlen 3 iddi.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Pwynt Penodol mewn Amser: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.

Close

Gweler y wybodaeth ychwanegol ochr yn ochr â’r cynnwys

Rhychwant ddaearyddol: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Dangos Llinell Amser Newidiadau: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Llinell Amser Newidiadau

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill