- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).
Offerynnau Statudol Cymru
Tai, Cymru
Gwnaed
7 Ionawr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
12 Ionawr 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 29(1) a 256(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(1).
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Datganiadau Ysgrifenedig Enghreifftiol o Gontract) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym(2).
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016.
(2) Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir iddynt yn y Ddeddf.
3.—(1) Mae’r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract sy’n gymwys i—
(a)contract meddiannaeth diogel, wedi ei nodi yn Atodlen 1;
(b)contract meddiannaeth safonol cyfnodol perthnasol, wedi ei nodi yn Atodlen 2;
(c)contract safonol cyfnod penodol perthnasol, wedi ei nodi yn Atodlen 3.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a)ystyr “contract meddiannaeth safonol cyfnodol perthnasol” yw contract meddiannaeth safonol cyfnodol—
(i)nad yw’n gontract safonol â chymorth;
(ii)nad yw’n gontract safonol rhagarweiniol;
(iii)nad yw’n gontract safonol ymddygiad gwaharddedig;
(iv)nad yw’n gontract safonol cyfnodol sydd yn bodoli ar ddiwedd contract cyfnod penodol yn unol ag adran 184(2) (diwedd y cyfnod penodol) o’r Ddeddf;
(v)nad yw’n gontract safonol cyfnodol sydd o fewn Atodlen 8A(3) (contractau safonol y gellir eu terfynu ar ôl cyfnod hysbysu o ddau fis o dan adran 173 neu o dan gymal terfynu’r landlord) neu Atodlen 9(4) (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175 a 196 (pryd y caniateir rhoi hysbysiad y landlord) yn gymwys iddynt) i’r Ddeddf;
(b)ystyr “contract safonol cyfnod penodol perthnasol” yw contract safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd—
(i)nad yw’n ymgorffori unrhyw ddarpariaethau yn ymwneud â chymal terfynu’r landlord o dan adran 194(5) (cymal terfynu’r landlord) o’r Ddeddf,
(ii)nad yw’n ymgorffori unrhyw ddarpariaethau yn ymwneud â chymal terfynu deiliad contract o dan adran 189 (cymal terfynu deiliad contract) o’r Ddeddf, a
(iii)nad yw o fewn Atodlen 9B(6) (contractau safonol cyfnod penodol y gellir eu terfynu drwy roi hysbysiad o dan adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol)) i’r Ddeddf.
Julie James
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
7 Ionawr 2022
Rheoliad 3
Rheoliad 3
Rheoliad 3
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“y Ddeddf”) yn sefydlu dau fath o gontract meddiannaeth, sef contract diogel a chontract safonol. Gall contract safonol fod naill ai’n gontract cyfnodol neu’n gontract cyfnod penodol.
Mae’r Ddeddf hefyd yn sefydlu nifer o wahanol fathau o gontractau safonol y gellir eu defnyddio mewn amgylchiadau penodol, gan gynnwys contractau safonol rhagarweiniol, contractau safonol ymddygiad gwaharddedig a chontractau safonol â chymorth.
Mae adran 29(1) o’r Ddeddf (datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ragnodi datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol o gontractau ar gyfer contractau meddiannaeth o unrhyw fath neu ddisgrifiad sy’n briodol yn eu barn hwy.
Mae datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract yn ddatganiad ysgrifenedig sy’n ymgorffori’r holl ddarpariaethau sylfaenol ac atodol sy’n gymwys i’r contract hwnnw, heb eu haddasu (gweler adran 29(2) o’r Ddeddf).
Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn, a’r Atodlenni iddynt, yn rhagnodi datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol o gontractau ar gyfer contractau diogel, contractau safonol cyfnodol a chontractau safonol cyfnod penodol.
Mae rheoliad 3(1)(a) ac Atodlen 1 yn rhagnodi’r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract sy’n gymwys i gontractau meddiannaeth diogel.
Mae rheoliad 3(1)(b) ac Atodlen 2 yn rhagnodi’r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract sy’n gymwys i gontractau meddiannaeth safonol cyfnodol nad ydynt—
(a)yn gontractau safonol â chymorth,
(b)yn gontractau safonol rhagarweiniol,
(c)yn gontractau safonol ymddygiad gwaharddedig,
(d)yn gontractau safonol cyfnodol sydd wedi codi ar ddiwedd contract cyfnod penodol yn unol ag adran 184(2) (diwedd y cyfnod penodol) o’r Ddeddf, nac
(e)yn gontractau safonol cyfnodol o fewn Atodlen 8A (contractau safonol y gellir eu terfynu ar ôl cyfnod hysbysu o ddau fis o dan adran 173 (hysbysiad y landlord) neu o dan gymal terfynu’r landlord) neu Atodlen 9 (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175 a 196 o’r Ddeddf (pryd y caniateir rhoi hysbysiad y landlord) yn gymwys iddynt) i’r Ddeddf.
Mae rheoliad 3(1)(c) ac Atodlen 3 yn rhagnodi’r datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract sy’n gymwys i gontractau safonol cyfnod penodol a wneir am gyfnod o lai na saith mlynedd (gweler adran 90 (contractau safonol cyfnod penodol: canfod hyd y cyfnod) o’r Ddeddf)—
(a)nad ydynt yn ymgorffori cymal terfynu’r landlord o dan adran 194 (cymal terfynu’r landlord) o’r Ddeddf,
(b)nad ydynt yn ymgorffori cymal terfynu deiliad contract o dan adran 189 (cymal terfynu deiliad contract) o’r Ddeddf, ac
(c)nad ydynt o fewn Atodlen 9B (contractau safonol cyfnod penodol y gellir eu terfynu drwy roi hysbysiad o dan adran 186 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol)) i’r Ddeddf.
Mae’n ofynnol i landlord ddarparu datganiad ysgrifenedig o gontract i ddeiliad y contract (gweler adran 31(1) (datganiad ysgrifenedig) o’r Ddeddf) ond nid yw’n ofynnol iddo ddefnyddio datganiad ysgrifenedig enghreifftiol o gontract. Fodd bynnag, rhaid i’r datganiad ysgrifenedig o gontract a ddefnyddir gydymffurfio â darpariaethau’r Ddeddf (gweler adrannau 31 i 33).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Polisi Tai, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
2016 dccc 1. Gweler adran 252 am y diffiniad o “rhagnodedig”.
Daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
Mewnosodwyd Atodlen 8A i’r Ddeddf gan adran 3 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3), ac Atodlen 1 iddi.
Diwygiwyd Atodlen 9 i’r Ddeddf gan adrannau 14 a 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021, a pharagraffau 1 a 9 o Atodlen 5 iddi, a pharagraffau 1 a 26 o Atodlen 6 iddi.
Diwygiwyd adran 194 gan adran 11(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021.
Mewnosodwyd Atodlen 9B gan adran 10 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 ac Atodlen 3 iddi.
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys