- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Saesneg
- Y Diweddaraf sydd Ar Gael (Diwygiedig) - Cymraeg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Saesneg
- Gwreiddiol (Fel y'i Gwnaed) - Cymraeg
Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Gwnaed yr Offeryn Statudol hwn o ganlyniad i ddiffyg yn O.S. 2018/1173 (Cy. 237) ac fe’i dyroddir yn rhad ac am ddim i bawb y gwyddys iddynt gael yr Offeryn Statudol hwnnw.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gyfraith Gyfansoddiadol
Gwnaed
20 Ionawr 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
24 Ionawr 2022
Yn dod i rym
14 Chwefror 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 126A(2)(a) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Yn unol ag adran 126A(6) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r Trysorlys cyn gwneud y Gorchymyn hwn.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2022.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 14 Chwefror 2022.
2.—(1) Mae Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018(2) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen (Cyrff Dynodedig)—
(a)hepgorer “North East Property LP (rhif y cwmni LP017936)”;
(b)yn y lle priodol mewnosoder “North East Property (GP) Limited (rhif y cwmni 04069901)”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
20 Ionawr 2022
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018 (“Gorchymyn 2018”) drwy ddileu’r corff North East Property LP o’r rhestr o gyrff dynodedig a gynhwysir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwnnw, a oedd wedi ei fewnosod drwy gamgymeriad gan Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) (Diwygio) 2021 (“Gorchymyn 2021”) (O.S. 2021/1345 (Cy. 347)).
Mae’r Gorchymyn hwn hefyd yn mewnosod y corff North East Property (GP) Limited yn yr Atodlen i Orchymyn 2018. Effaith y diwygiad hwn yw y caniateir i’r wybodaeth sy’n ymwneud ag adnoddau y disgwylir eu defnyddio gan y corff hwn gael ei chynnwys mewn cynnig Cyllidebol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
2006 p. 32; mewnosodwyd adran 126A gan adran 44(2) o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 (p. 25).
O.S. 2018/1173 (Cy. 237), a ddiwygiwyd gan O.S. 2019/1483 (Cy. 267), O.S. 2021/1345 (Cy. 347).
Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.
Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:
Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:
liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys