Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Addysg mewn Lleoliadau Lluosog (Cymru) 2022

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 676 (Cy. 153)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg mewn Lleoliadau Lluosog (Cymru) 2022

Gwnaed

15 Mehefin 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

17 Mehefin 2022

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) i (6)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 69(1), (6) a (7) a 75(1) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg mewn Lleoliadau Lluosog (Cymru) 2022.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2022—

(a)ar gyfer disgyblion mewn blwyddyn derbyn(2) mewn ysgol a gynhelir,

(b)ar gyfer disgyblion(3) ym mlynyddoedd 1 i 6 mewn ysgol a gynhelir(4),

(c)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm o dan Ran 2 o Ddeddf 2021(5),

(d)ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6 mewn uned cyfeirio disgyblion(6),

(e)ar gyfer plant(7) ym mlynyddoedd 1 i 6 y darperir cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD(8) iddynt pan fo’r awdurdod lleol(9) wedi gwneud trefniadau i ddarparu cwricwlwm sy’n bodloni gofynion adran 53 o Ddeddf 2021,

(f)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn uned cyfeirio disgyblion pan fo gan yr awdurdod lleol, y pwyllgor rheoli (os oes un) a’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb gwricwlwm ar gyfer yr uned honno sy’n bodloni gofynion adran 50 o Ddeddf 2021, ac

(g)ar gyfer plant ym mlwyddyn 7 y darperir cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt pan fo’r awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau i ddarparu cwricwlwm sy’n bodloni gofynion adran 53 o Ddeddf 2021.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2023—

(a)ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8 mewn ysgol a gynhelir,

(b)ar gyfer disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac

(c)ar gyfer plant ym mlynyddoedd 7 ac 8 y darperir cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.

(4Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2024—

(a)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir,

(b)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 9 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac

(c)ar gyfer plant ym mlwyddyn 9 y darperir cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.

(5Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2025—

(a)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir,

(b)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 10 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac

(c)ar gyfer plant ym mlwyddyn 10 y darperir cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.

(6Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2026—

(a)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11 mewn ysgol a gynhelir,

(b)ar gyfer disgyblion ym mlwyddyn 11 mewn uned cyfeirio disgyblion, ac

(c)ar gyfer plant ym mlwyddyn 11 y darperir cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir yng Nghymru, a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;

ystyr “blwyddyn 1” (“year 1”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 6 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 7 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 8 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 9 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 10 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 11 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 12 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 13 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 14 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 15 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 5 oed ynddo;

mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996(10);

ystyr “cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD” (“non-PRU EOTAS curriculum”) yw’r cwricwlwm a ddarperir gan awdurdod lleol o dan adran 19A o Ddeddf 1996 ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion ac sy’n bodloni gofynion adran 53 o Ddeddf 2021 (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 54 o Ddeddf 2021, ei ystyr yw’r cwricwlwm hwnnw fel y’i diwygir);

ystyr “cwricwlwm uned cyfeirio disgyblion” (“pupil referral unit curriculum”) yw’r cwricwlwm ar gyfer yr uned cyfeirio disgyblion y cyfeirir ato yn adran 50 o Ddeddf 2021 (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 51 o Ddeddf 2021, ei ystyr yw’r cwricwlwm hwnnw fel y’i diwygir);

ystyr “cwricwlwm ysgol a gynhelir” (“maintained school curriculum”) yw’r cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 11 o Ddeddf 2021 gan bennaeth a chorff llywodraethu’r ysgol (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 12 o Ddeddf 2021, ei ystyr yw’r cwricwlwm hwnnw fel y’i diwygir);

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(11);

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;

mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996(12);

mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434(5) o Ddeddf 1996(13);

ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y rhan fwyaf ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;

mae i “plentyn” yr ystyr a roddir i “child” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;

mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr â phlentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn adran 15(1) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(14);

mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” yn adran 576 o Ddeddf 1996;

ystyr “trefniadau asesu” (“assessment arrangements”) yw’r trefniadau asesu a wneir o dan adran 56 o Ddeddf 2021;

mae i “uned cyfeirio disgyblion” (“pupil referral unit”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 81(1) o Ddeddf 2021;

mae i “yn ardal” awdurdod lleol yr un ystyr ag “in the area” yn adran 579(3B)(15) o Ddeddf 1996;

ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol a gynhelir o fewn ystyr adran 79(1)(a) o Ddeddf 2021;

mae i “ysgol annibynnol” yr ystyr a roddir i “independent school” yn adran 463 o Ddeddf 1996(16).

(2At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw’r plentyn hwnnw yn ardal yr awdurdod.

(3At ddibenion y Rheoliadau hyn, o ran plentyn—

(a)pan fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn;

(b)pan na fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn.

Disgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn mwy nag 1 ysgol a gynhelir

3.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn mwy nag 1 ysgol a gynhelir.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol priodol lunio cynllun sy’n nodi—

(a)sut y bydd yn sicrhau’r addysgu a dysgu sydd i’w ddarparu ar gyfer y disgybl yn y cwricwlwm ysgol a gynhelir ym mhob ysgol,

(b)sut y bydd y trefniadau asesu yn gymwys i’r disgybl ym mhob ysgol, ac

(c)y trefniadau ar gyfer adrodd yn unol â Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022(17).

(3Wrth lunio’r cynllun, neu’r cynllun diwygiedig, rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—

(a)â phennaeth a chorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir, a

(b)ag unrhyw awdurdod lleol arall sy’n cynnal ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi.

(4Mae’r cynllun i ddechrau ar y dyddiad y daw’r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn mwy nag 1 ysgol a gynhelir neu cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad hwnnw.

(5Ni chaiff hyd y cynllun cyntaf nac unrhyw gynllun wedi hynny fod yn hwy nag 1 flwyddyn ysgol.

(6Pan fydd cwricwlwm wedi ei ddiwygio yn dilyn adolygiad o dan adran 12 o Ddeddf 2021 rhaid i bennaeth yr ysgol ddarparu crynodeb o’r cwricwlwm diwygiedig i’r awdurdod lleol priodol cyn gynted â phosibl ar ôl i’r adolygiad hwnnw gael ei gwblhau.

(7Rhaid i’r awdurdod lleol priodol gadw’r cynllun o dan adolygiad a’i ddiwygio—

(a)os caiff y cwricwlwm ei adolygu a’i ddiwygio o dan adran 12 o Ddeddf 2021, neu

(b)os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

(8Rhaid i’r awdurdod lleol priodol sicrhau bod copi o’r cynllun yn cael ei ddarparu—

(a)i’r disgybl ar gais gan y disgybl, a

(b)i rieni’r disgybl ar gais gan y rhieni.

(9Nid yw paragraff (8)(a) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.

(10Cyn penderfynu nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid o dan baragraff (8)(a) rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—

(a)â phennaeth a chorff llywodraethu pob un o’r ysgolion a gynhelir, a

(b)ag unrhyw awdurdod lleol arall sy’n cynnal ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi.

Disgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn mwy nag 1 uned cyfeirio disgyblion

4.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn mwy nag 1 uned cyfeirio disgyblion.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol priodol lunio cynllun sy’n nodi—

(a)sut y bydd yn sicrhau’r addysgu a dysgu sydd i’w ddarparu ar gyfer y disgybl yn y cwricwlwm uned cyfeirio disgyblion ym mhob uned cyfeirio disgyblion,

(b)sut y bydd y trefniadau asesu yn gymwys i’r disgybl ym mhob uned cyfeirio disgyblion, ac

(c)y trefniadau ar gyfer adrodd yn unol â Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022.

(3Wrth lunio’r cynllun, neu’r cynllun diwygiedig, rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—

(a)â’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am bob uned cyfeirio disgyblion a phwyllgor rheoli (os oes un) pob uned cyfeirio disgyblion, a

(b)ag unrhyw awdurdod lleol arall sy’n cynnal 1 o’r unedau cyfeirio disgyblion.

(4Mae’r cynllun i ddechrau ar y dyddiad y daw’r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn mwy nag 1 uned cyfeirio disgyblion neu cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad hwnnw.

(5Ni chaiff hyd y cynllun cyntaf nac unrhyw gynllun wedi hynny fod yn hwy nag 1 flwyddyn ysgol.

(6Rhaid i’r awdurdod lleol priodol gadw’r cynllun o dan adolygiad a’i ddiwygio—

(a)os caiff y cwricwlwm ei adolygu a’i ddiwygio o dan adran 51 o Ddeddf 2021, neu

(b)os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

(7Pan fydd cwricwlwm wedi ei ddiwygio yn dilyn adolygiad o dan adran 51 o Ddeddf 2021 rhaid i’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am yr uned cyfeirio disgyblion ddarparu crynodeb o’r cwricwlwm diwygiedig i’r awdurdod lleol priodol cyn gynted â phosibl ar ôl i’r adolygiad hwnnw gael ei gwblhau.

(8Rhaid i’r awdurdod lleol priodol sicrhau bod copi o’r cynllun (neu gynllun diwygiedig) yn cael ei ddarparu—

(a)i’r disgybl ar gais gan y disgybl, a

(b)i rieni’r disgybl ar gais gan y rhieni.

(9Nid yw paragraff (8)(a) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.

(10Cyn penderfynu nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid o dan baragraff (8)(a) rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—

(a)â’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am bob un o’r unedau cyfeirio disgyblion a phwyllgor rheoli (os oes un) pob un o’r unedau cyfeirio disgyblion, a

(b)ag unrhyw awdurdod lleol arall sy’n cynnal uned cyfeirio disgyblion y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi.

Disgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn o leiaf 1 ysgol a gynhelir ac mewn o leiaf 1 uned cyfeirio disgyblion

5.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn o leiaf 1 ysgol a gynhelir ac mewn o leiaf 1 uned cyfeirio disgyblion.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol priodol lunio cynllun sy’n nodi—

(a)sut y bydd yn sicrhau’r addysgu a dysgu sydd i’w ddarparu ar gyfer y disgybl yn y cwricwlwm uned cyfeirio disgyblion yn yr ysgol a’r uned cyfeirio disgyblion,

(b)sut y bydd y trefniadau asesu yn gymwys i’r disgybl yn yr ysgol a’r uned cyfeirio disgyblion, ac

(c)y trefniadau ar gyfer adrodd yn unol â Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022.

(3Wrth lunio’r cynllun, neu’r cynllun diwygiedig, rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—

(a)mewn perthynas ag ysgol a gynhelir, â phennaeth a chorff llywodraethu pob un o’r ysgolion a gynhelir,

(b)ag unrhyw awdurdod lleol arall sy’n cynnal ysgol neu uned cyfeirio disgyblion y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi, ac

(c)mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, â’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am bob un o’r unedau cyfeirio disgyblion a phwyllgor rheoli (os oes un) pob un o’r unedau cyfeirio disgyblion.

(4Mae’r cynllun i ddechrau ar y dyddiad y daw’r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir ac mewn uned cyfeirio disgyblion neu cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad hwnnw.

(5Ni chaiff hyd y cynllun cyntaf nac unrhyw gynllun wedi hynny fod yn hwy nag 1 flwyddyn ysgol.

(6Rhaid i’r awdurdod lleol priodol gadw’r cynllun o dan adolygiad a’i ddiwygio—

(a)os caiff y cwricwlwm ei adolygu o dan adran 12 neu 51 o Ddeddf 2021, neu

(b)os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

(7Rhaid i’r awdurdod lleol priodol sicrhau bod copi o’r cynllun (neu gynllun diwygiedig) yn cael ei ddarparu—

(a)i’r disgybl ar gais gan y disgybl, a

(b)i rieni’r disgybl ar gais gan y rhieni.

(8Pan fydd cwricwlwm wedi ei ddiwygio yn dilyn adolygiad o dan adran 12 o Ddeddf 2021 rhaid i bennaeth yr ysgol ddarparu crynodeb o’r cwricwlwm diwygiedig i’r awdurdod lleol priodol cyn gynted â phosibl ar ôl i’r adolygiad hwnnw gael ei gwblhau.

(9Pan fydd cwricwlwm wedi ei ddiwygio yn dilyn adolygiad o dan adran 51 o Ddeddf 2021 rhaid i’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am yr uned cyfeirio disgyblion ddarparu crynodeb o’r cwricwlwm diwygiedig i’r awdurdod lleol priodol cyn gynted â phosibl ar ôl i’r adolygiad hwnnw gael ei gwblhau.

(10Nid yw paragraff (7)(a) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.

(11Cyn penderfynu nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid o dan baragraff (7)(a) rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—

(a)â phennaeth a chorff llywodraethu pob un o’r ysgolion a gynhelir,

(b)â’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am bob un o’r unedau cyfeirio disgyblion a phwyllgor rheoli (os oes un) pob un o’r unedau cyfeirio disgyblion, ac

(c)ag unrhyw awdurdod lleol arall sy’n cynnal ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi.

Disgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn o leiaf 1 ysgol a gynhelir ac mewn o leiaf 1 ysgol annibynnol

6.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn o leiaf 1 ysgol a gynhelir ac mewn o leiaf 1 ysgol annibynnol.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol priodol lunio cynllun sy’n nodi—

(a)sut y bydd yn sicrhau’r addysgu a dysgu sydd i’w ddarparu ar gyfer y disgybl yn y cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD yn yr ysgolion, a

(b)sut y bydd y trefniadau asesu yn gymwys i’r disgybl ym mhob ysgol.

(3Wrth lunio’r cynllun, neu’r cynllun diwygiedig, rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—

(a)â phennaeth a chorff llywodraethu pob un o’r ysgolion a gynhelir,

(b)â pherchnogion yr ysgolion annibynnol, ac

(c)ag unrhyw awdurdod lleol arall y mae 1 o’r ysgolion ynddo.

(4Mae’r cynllun i ddechrau ar y dyddiad y daw’r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir ac mewn ysgol annibynnol neu cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad hwnnw.

(5Ni chaiff hyd y cynllun cyntaf nac unrhyw gynllun wedi hynny fod yn hwy nag 1 flwyddyn ysgol.

(6Rhaid i’r awdurdod lleol priodol gadw’r cynllun o dan adolygiad a’i ddiwygio—

(a)os yw’n adolygu’r cwricwlwm o dan adran 54 o Ddeddf 2021, neu

(b)os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

(7Rhaid i’r awdurdod lleol priodol sicrhau bod copi o’r cynllun yn cael ei ddarparu—

(a)i’r disgybl ar gais gan y disgybl, a

(b)i rieni’r disgybl ar gais gan y rhieni.

(8Nid yw paragraff (7)(a) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.

(9Cyn penderfynu nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid o dan baragraff (7)(a) rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—

(a)â phennaeth a chorff llywodraethu pob un o’r ysgolion a gynhelir,

(b)â pherchennog pob un o’r ysgolion annibynnol,

(c)mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, â’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am bob un o’r unedau cyfeirio disgyblion a phwyllgor rheoli (os oes un) pob un o’r unedau cyfeirio disgyblion, a

(d)ag unrhyw awdurdod lleol arall sy’n cynnal ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi.

Disgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn o leiaf 1 uned cyfeirio disgyblion ac mewn o leiaf 1 ysgol annibynnol

7.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn o leiaf 1 uned cyfeirio disgyblion ac mewn o leiaf 1 ysgol annibynnol.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol priodol lunio cynllun sy’n nodi—

(a)sut y bydd yn sicrhau’r addysgu a dysgu sydd i’w ddarparu ar gyfer y disgybl yn y cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD yn yr uned cyfeirio disgyblion ac yn yr ysgol, a

(b)sut y bydd y trefniadau asesu yn gymwys i’r disgybl yn yr uned cyfeirio disgyblion ac yn yr ysgol.

(3Wrth lunio’r cynllun, neu’r cynllun diwygiedig, rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—

(a)â’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am bob un o’r unedau cyfeirio disgyblion a phwyllgor rheoli (os oes un) pob un o’r unedau cyfeirio disgyblion,

(b)ag unrhyw awdurdod lleol arall sy’n cynnal 1 o’r unedau cyfeirio disgyblion,

(c)â pherchnogion yr ysgolion annibynnol, a

(d)ag unrhyw awdurdod lleol arall y mae 1 o’r ysgolion annibynnol ynddo.

(4Mae’r cynllun i ddechrau ar y dyddiad y daw’r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn uned cyfeirio disgyblion ac mewn ysgol annibynnol neu cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad hwnnw.

(5Ni chaiff hyd y cynllun cyntaf nac unrhyw gynllun wedi hynny fod yn hwy nag 1 flwyddyn ysgol.

(6Rhaid i’r awdurdod lleol priodol gadw’r cynllun o dan adolygiad a’i ddiwygio—

(a)os yw’n adolygu’r cwricwlwm o dan adran 54 o Ddeddf 2021, neu

(b)os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

(7Rhaid i’r awdurdod lleol priodol sicrhau bod copi o’r cynllun yn cael ei ddarparu—

(a)i’r disgybl ar gais gan y disgybl, a

(b)i rieni’r disgybl ar gais gan y rhieni.

(8Nid yw paragraff (7)(a) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.

(9Cyn penderfynu nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid o dan baragraff (7)(a) rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—

(a)â’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am bob un o’r unedau cyfeirio disgyblion a phwyllgor rheoli (os oes un) pob un o’r unedau cyfeirio disgyblion,

(b)â pherchennog pob un o’r ysgolion annibynnol,

(c)mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, â’r athro neu’r athrawes sydd â chyfrifoldeb am bob un o’r unedau cyfeirio disgyblion a phwyllgor rheoli (os oes un) pob un o’r unedau cyfeirio disgyblion, a

(d)ag unrhyw awdurdod lleol arall sy’n cynnal ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi.

Disgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn mwy nag 1 ysgol annibynnol

8.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn mwy nag 1 ysgol annibynnol.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol priodol lunio cynllun sy’n nodi—

(a)sut y bydd yn sicrhau’r addysgu a dysgu sydd i’w ddarparu ar gyfer y disgybl yn y cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD ym mhob ysgol annibynnol, a

(b)sut y bydd y trefniadau asesu yn gymwys i’r disgybl yn yr ysgolion.

(3Wrth lunio’r cynllun, neu’r cynllun diwygiedig, rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—

(a)â pherchennog pob un o’r ysgolion annibynnol, a

(b)ag unrhyw awdurdod lleol arall y mae 1 o’r ysgolion annibynnol ynddo.

(4Mae’r cynllun i ddechrau ar y dyddiad y daw’r disgybl yn ddisgybl cofrestredig mewn mwy nag 1 ysgol annibynnol neu cyn gynted â phosibl ar ôl y dyddiad hwnnw.

(5Ni chaiff hyd y cynllun cyntaf nac unrhyw gynllun wedi hynny fod yn hwy nag 1 flwyddyn ysgol.

(6Rhaid i’r awdurdod lleol priodol gadw’r cynllun o dan adolygiad a’i ddiwygio—

(a)os yw’n adolygu’r cwricwlwm o dan adran 54 o Ddeddf 2021, neu

(b)os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

(7Rhaid i’r awdurdod lleol priodol sicrhau bod copi o’r cynllun yn cael ei ddarparu—

(a)i’r disgybl ar gais gan y disgybl, a

(b)i rieni’r disgybl ar gais gan y rhieni.

(8Nid yw paragraff (7)(a) yn gymwys os yw’r awdurdod lleol priodol yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.

(9Cyn penderfynu nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid o dan baragraff (7)(a) rhaid i’r awdurdod lleol priodol ymgynghori—

(a)â pherchennog pob un o’r ysgolion annibynnol, a

(b)ag unrhyw awdurdod lleol arall sy’n cynnal ysgol y mae’r disgybl wedi ei gofrestru ynddi.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

15 Mehefin 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn sefydlu fframwaith newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer disgyblion a phlant yng Nghymru. Dyma’r Cwricwlwm i Gymru.

Mae llawer o blant a disgyblion yn cael eu haddysgu mewn mwy nag 1 lleoliad. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth i’r personau a nodir yn y Rheoliadau hyn lunio ac adolygu cynllun ynglŷn â’r addysgu a dysgu sydd i’w ddarparu ar gyfer y plentyn neu’r disgybl yn y Cwricwlwm i Gymru a nodi pa drefniadau asesu a fydd yn gymwys i’r plentyn neu’r disgybl.

Mae rheoliad 1 o’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cychwyn y Rheoliadau hyn fesul grŵp blwyddyn. Bydd hyn yn adlewyrchu’r dull arfaethedig o gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a fydd hefyd yn cael ei gyflwyno’n raddol dros gyfnod o amser fesul grŵp blwyddyn.

Daw’r Cwricwlwm i Gymru a’r Rheoliadau hyn yn fandadol fel a ganlyn—

(a)ar 1 Medi 2022 ar gyfer disgyblion mewn blwyddyn derbyn mewn ysgol a gynhelir,

(b)ar 1 Medi 2022 ar gyfer plant a disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6,

(c)ar 1 Medi 2022 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 7 yn yr ysgolion a gynhelir hynny, yr unedau cyfeirio disgyblion hynny ac ar gyfer y plant hynny y darperir addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD iddynt pan fo cwricwlwm wedi ei fabwysiadu neu wedi ei ddarparu fel arall yn unol â Deddf 2021,

(d)ar 1 Medi 2023 ar gyfer plant a disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8,

(e)ar 1 Medi 2024 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 9,

(f)ar 1 Medi 2025 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 10, ac

(g)ar 1 Medi 2026 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 11.

Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i’r canlynol—

(a)ysgolion a gynhelir,

(b)unedau cyfeirio disgyblion, ac

(c)darpariaeth addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996.

Mae’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol priodol lunio ac adolygu cynllun ar gyfer y plant hynny a’r disgyblion hynny sy’n cael eu haddysgu mewn mwy nag 1 lleoliad. Rhaid i’r cynllun nodi’r addysgu a dysgu sydd i’w ddarparu ar gyfer y plentyn neu’r disgybl ym mhob lleoliad, a’r trefniadau asesu a fydd yn gymwys i’r plentyn neu’r disgybl ym mhob lleoliad.

Mewn cysylltiad â’r lleoliadau hynny o fewn rheoliadau 3 i 5 o’r Rheoliadau hyn rhaid i’r cynllun hefyd nodi’r trefniadau ar gyfer adrodd yn unol â Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022 (“Rheoliadau 2022”). Nid yw’r gofynion adrodd yn Rheoliadau 2022 ond yn gymwys i ysgolion a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion. Bwriedir i’r trefniadau bennu pa leoliad a fydd yn arwain o ran darparu’r adroddiad yn unol â Rheoliadau 2022. Nid oes angen y ddarpariaeth hon ar gyfer y lleoliadau hynny o fewn rheoliadau 6 i 8 gan nad yw ysgolion annibynnol yn ddarostyngedig i Reoliadau 2022.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â disgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn mwy nag 1 ysgol a gynhelir.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â disgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn mwy nag 1 uned cyfeirio disgyblion.

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â disgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn o leiaf 1 ysgol a gynhelir ac mewn o leiaf 1 uned cyfeirio disgyblion.

Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â disgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn o leiaf 1 ysgol a gynhelir ac mewn o leiaf 1 ysgol annibynnol. Gall disgybl fod yn cael addysg mewn ysgol annibynnol yn unol ag adran 19A o Ddeddf Addysg 1996. Byddai cwricwlwm a fyddai’n bodloni gofynion adran 53 o Ddeddf 2021 yn cael ei ddarparu i ddisgybl o’r fath.

Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â disgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn o leiaf 1 uned cyfeirio disgyblion ac mewn o leiaf 1 ysgol annibynnol.

Mae rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â disgyblion sydd wedi eu cofrestru mewn mwy nag 1 ysgol annibynnol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.

(1)

2021 dsc 4. Gweler adran 82(1) am y diffiniad o “rheoliadau”.

(2)

Gweler rheoliad 2(1) am y diffiniad o “blwyddyn derbyn”.

(3)

Gweler rheoliad 2(1) am y diffiniad o “disgybl”.

(4)

Gweler rheoliad 2(1) am y diffiniad o “ysgol a gynhelir”.

(5)

Gweler rheoliad 2(1) am y diffiniad o “Deddf 2021”.

(6)

Gweler rheoliad 2(1) am y diffiniad o “uned cyfeirio disgyblion”.

(7)

Gweler rheoliad 2(1) am y diffiniad o “plentyn”.

(8)

Gweler rheoliad 2(1) am y diffiniad o “cwricwlwm addysg ac eithrio yn yr ysgol nad yw mewn UCD”.

(9)

Gweler rheoliad 2(1) am y diffiniad o “awdurdod lleol”.

(10)

Mewnosodwyd y diffiniad o “school year” gan adran 57 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) a pharagraff 43 o Atodlen 7 iddi.

(12)

Diwygiwyd is-adran (1) gan adran 57(1) o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) a pharagraff 9 o Atodlen 7 iddi a diwygiwyd is-adrannau (1) ac (1A) ymhellach gan adran 215(1) o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) a pharagraff 34 o Atodlen 21 iddi.

(13)

Diwygiwyd adran 434 gan adran 140 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31) a pharagraff 111 o Atodlen 30 iddi, a chan O.S. 2010/1158.

(15)

Mewnosodwyd gan adran 82 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) a pharagraffau 1 a 59(d) o Atodlen 3 iddi a diwygiwyd gan adran 95 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2).

(16)

Amnewidiwyd adran 463 gan adran 172 o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) ac fe’i diwygiwyd gan adran 82 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) a pharagraffau 1 a 43(a) a (b) o Ran 1 o Atodlen 3 iddi, a chan adran 26 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2) a pharagraff 4(1) ac (20) o Atodlen 1 iddi. Diwygiwyd adran 463 ymhellach gan O.S. 2016/413 ac O.S. 2010/1158.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys