Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 3) 2022

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 758 (Cy. 164)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 3) 2022

Gwnaed

4 Gorffennaf 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

6 Gorffennaf 2022

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2) a (3)

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 74(1) a 75(1)(b) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1Cyflwyniad

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 3) 2022.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2022.

(3Mae rheoliadau 7(4), 9(2) a (3), 10(3), (5), (7) ac (8), 11(4), 13(3), 14(3), 15(2) a (3), 16(2) a (3), 17(2), a 19(2) a (3) yn rhoi’r dyddiadau y daw darpariaethau penodol yn Rhan 2 (Diwygiadau Canlyniadol) i rym.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “addysg feithrin” (“nursery education”) yw addysg a ddarperir i blant neu ddisgyblion sy’n iau na’r oedran ysgol gorfodol—

(a)

mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, neu

(b)

gan ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 11 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 12 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 13 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 14 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 15 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 12” (“year 12”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 17 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn 13” (“year 13”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 18 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Medi;

ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 5 oed ynddo;

ystyr “blwyddyn meithrin” (“nursery year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 4 oed ynddo;

mae i “cwricwlwm perthnasol” (“relevant curriculum”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 56(5) o Ddeddf 2021;

mae i “darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” (“provider of funded non-maintained nursery education”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 80(2)(a) o Ddeddf 2021;

ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996(2);

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;

mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996(3);

ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant neu ddisgyblion mewn lleoliad y bydd y rhan fwyaf ohonynt, mewn blwyddyn academaidd benodol, yn cyrraedd yr un oedran;

ystyr “lleoliad” (“setting”) yw—

(a)

ysgol feithrin a gynhelir,

(b)

ysgol a gynhelir,

(c)

darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir,

(d)

uned cyfeirio disgyblion, ac

(e)

darpariaeth addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf 1996;

mae i “pennaeth” yr ystyr a roddir i “head teacher” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;

mae i “plentyn” yr ystyr a roddir i “child” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;

mae i “uned cyfeirio disgyblion” (“pupil referral unit”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 81(1) o Ddeddf 2021;

mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(a) o Ddeddf 2021; ac

mae i “ysgol feithrin a gynhelir” (“maintained nursery school”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(b) o Ddeddf 2021.

(2Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Neddf 2021 yr un ystyr ag yn y Ddeddf honno.

RHAN 2Diwygiadau Canlyniadol

Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Ysgol a Gwybodaeth Gysylltiedig) 1989

3.  Yn rheoliad 1(3) o Reoliadau Addysg (Cwricwlwm Ysgol a Gwybodaeth Gysylltiedig) 1989(4) hepgorer y geiriau “and Wales”.

Rheoliadau Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Eithriadau) (Cymru) 1995

4.  Caiff Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Cenedlaethol) (Eithriadau) (Cymru) 1995(5) eu dirymu.

Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Gwybodaeth) (Cymru) 1999

5.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Gwybodaeth) (Cymru) 1999(6) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2, yn y lle priodol mewnosoder—

the 2021 Act” means the Curriculum and Assessment (Wales) Act 2021;.

(3Yn lle paragraff 9 o Atodlen 1, paragraff 6 o Atodlen 2 a pharagraff 7 o Atodlen 3, rhodder—

Arrangements for providing access by pupils with special educational needs to—

(a)a balanced and broadly based curriculum (including the National Curriculum); or

(b)a curriculum adopted under the 2021 Act..

Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002

6.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymru) 2002(7) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2, yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;.

(3Ym mharagraff (5) o reoliadau 20 ac 21, yn lle is-baragraff (c) rhodder—

(c)os ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig heblaw ysgol arbennig sydd wedi’i sefydlu mewn ysbyty yw’r ysgol, sut y cymhwysir darpariaethau—

(i)y Cwricwlwm Cenedlaethol ar gyfer y plentyn, a’r cynnydd sydd wedi’i wneud mewn perthynas â’r darpariaethau hynny gan y plentyn ers i’r datganiad gael ei wneud neu ei adolygu ddiwethaf o dan adran 328; neu

(ii)y cwricwlwm a fabwysiedir neu a ddarperir fel arall ar gyfer y plentyn o dan Ddeddf 2021 a’r cynnydd sydd wedi’i wneud mewn perthynas â’r darpariaethau hynny gan y plentyn fel y’i haseswyd o dan drefniadau a wnaed mewn rheoliadau o dan adran 56 o Ddeddf 2021 ers i’r datganiad gael ei wneud neu ei adolygu ddiwethaf o dan adran 328;.

Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002

7.—(1Mae Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002(8) (“Rheoliadau 2002”) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)—

(a)yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “blwyddyn 13” (“year 13”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 18 oed ynddo;,

ystyr “blwyddyn derbyn” (“reception year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 5 oed ynddo;,

mae i “cwricwlwm perthnasol” (“relevant curriculum”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 56(5) o Ddeddf 2021;,

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;,

ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o ddisgyblion mewn lleoliad y bydd y rhan fwyaf ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;,

ystyr “Hwb” yw’r llwyfan ddigidol ar gyfer dysgu ac addysgu yng Nghymru sydd—

(a)

yn sianel ddigidol strategol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cyflawniad y cwricwlwm yng Nghymru, a

(b)

yn darparu mynediad i ystod o offer ac adnoddau digidol dwyieithog a gyllidir gan Lywodraeth Cymru;,

ystyr “lleoliad” (“setting”) yw—

(a)

ysgol a gynhelir, a

(b)

uned cyfeirio disgyblion;,

mae i “plentyn” yr ystyr a roddir i “child” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;, ac

ystyr “ysgol haf ar gymhwysedd digidol” (“summer digital competence school”) yw cynllun sy’n digwydd yn ystod gwyliau’r haf ac sydd wedi’i anelu at godi safonau cymhwysedd digidol disgyblion sydd ar fin ymuno ag ysgol uwchradd;, a

(b)hepgorer y diffiniad o “y Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu”.

(3Yn yr Atodlen—

(a)ym mharagraff 1 hepgorer is-baragraffau (ch), (d) ac (f),

(b)ym mharagraff 4 yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)Cefnogaeth i gynlluniau i wella addysgu llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol mewn ysgolion cynradd gyda golwg ar wella llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol disgyblion yn yr ysgolion hynny.,

(c)ym mharagraff 4 yn lle is-baragraff (c) rhodder—

(c)Cefnogaeth i sefydlu a rhedeg ysgolion haf ar lythrennedd, ysgolion haf ar rifedd ac ysgolion haf ar gymhwysedd digidol., a

(d)ym mharagraff 9 yn lle is-baragraff (a) rhodder—

(a)Cefnogaeth i alluogi ysgolion a gynhelir i sicrhau defnydd effeithiol o’r gwasanaethau addysgol ar rwydwaith sydd ar gael drwy Hwb..

(4Daw’r diwygiadau ym mharagraff (5) i rym—

(a)o 1 Medi 2022 mewn cysylltiad—

(i)â phlant a disgyblion yn y flwyddyn meithrin i flwyddyn 6 mewn ysgol a gynhelir;

(ii)â disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgyblion blwyddyn 7 hynny o dan Ran 2 o Ddeddf 2021;

(b)o 1 Medi 2023 mewn cysylltiad â phlant a disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8 mewn ysgol a gynhelir;

(c)o 1 Medi 2024 mewn cysylltiad â phlant a disgyblion ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir;

(d)o 1 Medi 2025 mewn cysylltiad â phlant a disgyblion ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir;

(e)o 1 Medi 2026 mewn cysylltiad â phlant a disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn arall mewn ysgol a gynhelir.

(5Mae’r diwygiadau a ganlyn yn gymwys—

(a)yn rheoliad 2(1), hepgorer y diffiniad o “cyfnodau allweddol 1, 2, 3 a 4”, a

(b)yn yr Atodlen—

(i)ym mharagraff 1—

(aa)yn is-baragraff (a), yn lle “Cwricwlwm Cenedlaethol” rhodder “cwricwlwm a fabwysiedir o dan Ddeddf 2021”,

(bb)yn is-baragraff (b) ar ôl “cyrhaeddiad” yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, hepgorer y testun hyd at y diwedd a mewnosoder “a chynnydd disgyblion o ran dysgu, a lleihau unrhyw wahaniaeth yn safonau cyrhaeddiad a chynnydd disgyblion gwryw a benyw o ran dysgu;”,

(cc)yn is-baragraff (c), yn lle “weithredu’r trefniadau ar gyfer asesu disgyblion yn yr ysgolion mewn perthynas â thargedau cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol o dan Bennod II o Ran V o Ddeddf 1996, neu mewn perthynas â chynllun asesu sylfaenol” rhodder “weithredu mewn ysgolion unrhyw drefniadau asesu neu unrhyw drefniadau cynnydd sy’n ofynnol o dan adrannau 56 a 57 o Ddeddf 2021”,

(dd)yn is-baragraff (dd), yn lle “bobl ifanc ym Mlynyddoedd 9 i 13” rhodder “blant a disgyblion yn y flwyddyn derbyn i flwyddyn 13”,

(ee)hepgorer is-baragraff (e), ac

(ff)yn is-baragraff (g), yn lle “pynciau” rhodder “arholiadau”,

(ii)ym mharagraff 2, yn is-baragraff (a), yn lle “wella’r safonau y mae disgyblion yn eu cyrraedd” rhodder “ddarparu ar gyfer cynnydd priodol gan blant a disgyblion”,

(iii)ym mharagraff 4—

(aa)yn is-baragraff (b), yn lle “safonau” hyd at y diwedd rhodder “llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol dysgwyr drwy annog rhieni i gynorthwyo eu plant i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu.”, a

(bb)yn is-baragraff (ch), yn lle “i wella safonau llythrennedd yn y Gymraeg a’r Saesneg a safonau rhifedd yn yr ysgolion” rhodder “mewn ysgolion i wella cynnydd disgyblion yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac mewn rhifedd a chymhwysedd digidol”,

(iv)ym mharagraff 5—

(aa)yn is-baragraff (c), yn lle “safonau cyrhaeddiad” rhodder “cynnydd”, a

(bb)yn is-baragraff (dd), ar ôl “i”, mewnosoder “gefnogi cynnydd priodol ac i”, a

(v)ym mharagraff 7, yn lle “pynciau y mae’n ofynnol eu haddysgu o dan y Cwricwlwm Cenedlaethol” rhodder “meysydd dysgu a phrofiad a’r sgiliau trawsgwricwlaidd y mae’n ofynnol eu haddysgu yn rhan o gwricwlwm perthnasol yr ysgol o dan Ddeddf 2021”.

(6Yn y rheoliad hwn, mae i “ysgol a gynhelir” yr un ystyr ag yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2002(9).

Rheoliadau’r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006

8.  Caiff Rheoliadau’r Cynllun Sengl (Cymru) 2006(10) eu dirymu.

Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007

9.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2007(11) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Mae paragraffau 1, 2 a 10 o Atodlen 1 wedi eu datgymhwyso—

(a)o 1 Medi 2022 mewn cysylltiad—

(i)â disgyblion yn y flwyddyn derbyn i flwyddyn 6;

(ii)â disgyblion ym mlwyddyn 7 pan fo cwricwlwm perthnasol yn cael ei ddarparu ar gyfer y disgyblion blwyddyn 7 hynny o dan Ran 3;

(b)o 1 Medi 2023 mewn cysylltiad â disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8;

(c)o 1 Medi 2024 mewn cysylltiad â disgyblion ym mlwyddyn 9;

(d)o 1 Medi 2025 mewn cysylltiad â disgyblion ym mlwyddyn 10.

(3Ar 1 Medi 2026, caiff paragraffau 1, 2 a 10 o Atodlen 1 eu dirymu.

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007

10.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007(12) (“Rheoliadau 2007”) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 14 oed ynddo;,

ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 16 oed ynddo;,

ystyr “blwyddyn meithrin” (“nursery year”) yw grŵp blwyddyn y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn cyrraedd 4 oed ynddo;,

mae i “cwricwlwm perthnasol” (“relevant curriculum”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 56(5) o Ddeddf 2021;,

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;, ac

ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y rhan fwyaf ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;.

(3Daw’r diwygiad ym mharagraff (4) i rym—

(a)o 1 Medi 2022 mewn cysylltiad—

(i)â disgyblion yn y flwyddyn meithrin i flwyddyn 6 mewn ysgol a gynhelir;

(ii)â disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgyblion blwyddyn 7 hynny o dan Ran 2 o Ddeddf 2021;

(b)o 1 Medi 2023 mewn cysylltiad â disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8 mewn ysgol a gynhelir;

(c)o 1 Medi 2024 mewn cysylltiad â disgyblion ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir.

(4Ym mharagraff (5) o reoliad 5—

(a)daw testun is-baragraff (a) yn is-baragraff (a)(i), a

(b)ar ôl yr is-baragraff hwnnw mewnosoder—

(ii)unrhyw asesiad o ddisgyblion yn y flwyddyn meithrin i flwyddyn 9 yn gynhwysol a wneir o dan adran 56 o Ddeddf 2021 mewn perthynas â chwricwlwm perthnasol;.

(5Daw’r diwygiad ym mharagraff (6) i rym—

(a)o 1 Medi 2022 mewn cysylltiad—

(i)â disgyblion yn y flwyddyn meithrin i flwyddyn 6 mewn ysgol a gynhelir;

(ii)â disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgyblion blwyddyn 7 hynny o dan Ran 2 o Ddeddf 2021;

(b)o 1 Medi 2023 mewn cysylltiad â disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8 mewn ysgol a gynhelir;

(c)o 1 Medi 2024 mewn cysylltiad â disgyblion ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir;

(d)o 1 Medi 2025 mewn cysylltiad â disgyblion ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir.

(6Yn Atodlen 2, yn lle paragraff 1(g) rhodder—

ar gyfer disgyblion yn y flwyddyn meithrin i flwyddyn 11, y grŵp blwyddyn yr addysgir y disgybl ynddo;.

(7Ar 1 Medi 2024—

(a)yn rheoliad 3—

(i)hepgorer y diffiniad o “cyfnod sylfaen”, a

(ii)yn lle’r diffiniad o “cyfnod allweddol” rhodder—

ystyr “cyfnod allweddol” (“key stage”) yw unrhyw un neu ragor o’r cyfnodau a nodir ym mharagraffau (c) i (d) o adran 103(1) o Ddeddf 2002 ac mae cyfeiriad at y trydydd cyfnod allweddol yn gyfeiriad at y cyfnod a nodir ym mharagraff (c) o adran 103(1) o Ddeddf 2002;, a

(b)yn rheoliad 5(5)(a)(i), hepgorer y geiriau “cyfnod sylfaen, yr ail gyfnod allweddol neu’r”.

(8Ar 1 Medi 2026—

(a)yn rheoliad 3, hepgorer y diffiniadau o “cyfnod allweddol” a “Deddf 2002”,

(b)yn lle rheoliad 5(5)(a) rhodder—

unrhyw asesiad o ddisgyblion yn y flwyddyn meithrin i flwyddyn 9 yn gynhwysol a wneir o dan adran 56 o Ddeddf 2021 mewn perthynas â chwricwlwm perthnasol;, ac

(c)yn Atodlen 2, yn lle paragraff 1(g) rhodder—

ar gyfer disgyblion yn y flwyddyn meithrin i flwyddyn 11, y grŵp blwyddyn yr addysgir y disgybl ynddo;.

(9Yn y rheoliad hwn ystyr “ysgol a gynhelir” yw “ysgol” fel y’i diffinnir yn rheoliad 3 o Reoliadau 2007.

Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009

11.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009(13) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2, yn y lleoedd priodol mewnosoder—

ystyr “asesiadau statudol” (“statutory assessments”) yw’r trefniadau asesu hynny a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir o dan adran 56 o Ddeddf 2021;,

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Medi;,

mae i “darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” (“provider of funded non-maintained nursery education”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 80(2)(a) o Ddeddf 2021;,

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;,

ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn lleoliad y bydd y rhan fwyaf ohonynt, mewn blwyddyn academaidd benodol, yn cyrraedd yr un oedran;,

ystyr “lleoliad” (“setting”) yw—

(a)

ysgol a gynhelir;

(b)

darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

(c)

uned cyfeirio disgyblion; a

(d)

darpariaeth addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf 1996;,

mae i “uned cyfeirio disgyblion” (“pupil referral unit”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 81(1) o Ddeddf 2021;, ac

mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school) yr ystyr a roddir iddo yn adran 79(1)(a) o Ddeddf 2021;.

(3Ym mharagraff 1(ff) o Atodlen 1, hepgorer “y cwricwlwm cenedlaethol”.

(4Mae’r diwygiadau ym mharagraffau (5) i (7) yn gymwys mewn perthynas â’r lleoliadau a restrir yn rheoliad 3 o Reoliadau 2009(14), ac yn dod i rym—

(a)o 1 Medi 2022 mewn cysylltiad—

(i)â phlant a disgyblion yn y flwyddyn derbyn i flwyddyn 6;

(ii)â disgyblion ym mlwyddyn 7 pan fo lleoliad wedi sefydlu cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgyblion blwyddyn 7 hynny o dan Rannau 2 neu 3 o Ddeddf 2021;

(b)o 1 Medi 2023 mewn cysylltiad â phlant a disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8;

(c)o 1 Medi 2024 mewn cysylltiad â phlant a disgyblion ym mlwyddyn 9;

(d)o 1 Medi 2025 mewn cysylltiad â phlant a disgyblion ym mlwyddyn 10;

(e)o 1 Medi 2026 mewn cysylltiad â phlant a disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn arall.

(5Yn rheoliad 3(b), yn lle “adran 19” rhodder “adran 19A”.

(6Yn rheoliad 9—

(a)ym mharagraff (1) hepgorer “i’r athro neu’r athrawes sydd â gofal dros uned cyfeirio disgyblion ac”, a

(b)ym mharagraff (2) yn lle “mae’r athro neu’r athrawes sydd â gofal dros uned cyfeirio disgyblion neu berchennog” rhodder “mae perchennog”.

(7Yn Atodlen 2, yn lle paragraffau 1 i 8 rhodder—

1.  Sylwadau cryno ar gynnydd o ran dysgu ar draws y cwricwlwm perthnasol.

2.  Sylwadau cryno ar ganlyniadau unrhyw asesiadau statudol a gynhelir o dan reoliadau a wneir o dan adran 56 o Ddeddf 2021.

3.  Crynodeb o anghenion cynnydd y plentyn neu’r disgybl yn y dyfodol a’r camau nesaf i gefnogi cynnydd y plentyn neu’r disgybl hwnnw.

4.  Cyngor cryno ar sut y gall rhieni gefnogi cynnydd eu plentyn.

5.  Crynodeb o lesiant y plentyn neu’r disgybl.

6.  Crynodeb o’r cymwysterau y cofrestrwyd y plentyn neu’r disgybl ar eu cyfer, a’r cyrhaeddiad neu’r radd pan fo’n berthnasol, gan gynnwys manylion unrhyw uned neu gredyd tuag at gymhwyster o’r fath a gafwyd gan y plentyn neu’r disgybl yn ystod y cyfnod y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef.

7.  Crynodeb o gofnod presenoldeb y plentyn neu’r disgybl yn ystod y cyfnod y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef sy’n dangos nifer yr absenoldebau awdurdodedig a’r absenoldebau anawdurdodedig (o fewn ystyr Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010(15) a nifer y presenoldebau posibl.

8.  Manylion y trefniadau y caniateir i rieni drafod yr adroddiad gydag athro neu athrawes y plentyn oddi tanynt..

Gorchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2010

12.  Caiff paragraff 17 o Atodlen 2 i Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2010(16) ei ddirymu.

Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010

13.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010(17) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2, yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;.

(3Daw’r diwygiadau ym mharagraffau (4) a (5) i rym—

(a)o 1 Medi 2022 mewn cysylltiad—

(i)â disgyblion yn y flwyddyn derbyn i flwyddyn 6 mewn ysgol;

(ii)â disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgyblion blwyddyn 7 hynny o dan Ran 2 o Ddeddf 2021;

(b)o 1 Medi 2023 mewn cysylltiad â disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8;

(c)o 1 Medi 2024 mewn cysylltiad â disgyblion ym mlwyddyn 9;

(d)o 1 Medi 2025 mewn cysylltiad â disgyblion ym mlwyddyn 10;

(e)o 1 Medi 2026 mewn cysylltiad â disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn arall.

(4Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “cwricwlwm lleol”, hepgorer y geiriau “mewn perthynas â disgyblion yn y pedwerydd cyfnod allweddol, yr ystyr a roddir i “local curriculum” gan adran 97 o Ddeddf Addysg 2002 ac,”.

(5Yn rheoliad 6(4)—

(a)ar ddiwedd is-baragraff (b) hepgorer “neu”,

(b)yn is-baragraff (c), yn lle “.” rhodder “; neu”, ac

(c)ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—

(ch)presenoldeb ar gwrs astudio o fewn y cwricwlwm a fabwysiadwyd ar gyfer disgyblion 14 i 16 oed o dan adrannau 28 a 30 o Ddeddf 2021 mewn man ac eithrio’r ysgol..

Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011

14.—(1Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Ddisgyblion (Cymru) 2011(18) (“Rheoliadau 2011”) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol mewnosoder—

ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;.

(3Daw’r diwygiadau ym mharagraff (4) i rym—

(a)o 1 Medi 2022 mewn cysylltiad â disgyblion yn y flwyddyn meithrin i flwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgyblion blwyddyn 7 hynny o dan Ran 2 o Ddeddf 2021;

(b)o 1 Medi 2023 mewn cysylltiad â disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8 mewn ysgol a gynhelir;

(c)o 1 Medi 2024, mewn cysylltiad â disgyblion ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir;

(d)o 1 Medi 2025, mewn cysylltiad â disgyblion ym mlwyddyn 10 mewn ysgol a gynhelir;

(e)o 1 Medi 2026 mewn cysylltiad â disgyblion ym mhob grŵp blwyddyn arall mewn ysgol a gynhelir.

(4Yn y diffiniad o “asesiadau statudol” yn rheoliad 2(1), yn lle’r geiriau o “mewn gorchymyn” hyd at “cyfnod allweddol” rhodder “mewn rheoliadau a wneir o dan adran 56 o Ddeddf 2021”.

(5Yn y rheoliad hwn mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2011(19).

Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011

15.—(1Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011(20) (“Rheoliadau 2011”) yn gymwys fel a ganlyn.

(2Mae rheoliadau 5 a 6 o Reoliadau 2011, ac Atodlen 2 iddynt, wedi eu datgymhwyso—

(a)o 1 Medi 2022—

(i)mewn cysylltiad â disgyblion yn y flwyddyn meithrin i flwyddyn 6 mewn ysgol a gynhelir;

(ii)mewn cysylltiad â disgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol a gynhelir, pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgyblion blwyddyn 7 hynny o dan Ran 2 o Ddeddf 2021;

(b)o 1 Medi 2023 mewn cysylltiad â disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8 mewn ysgol a gynhelir.

(3Ar 1 Medi 2024—

(a)yn rheoliad 2—

(i)ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniadau o “cyfnod sylfaen” a “Deddf 2002”,

(ii)yn lle “; ac” ar ddiwedd paragraff (2)(b) rhodder “.” , a

(iii)hepgorer paragraff (2)(c),

(b)yn rheoliad 4, yn lle “Atodlenni 2 a 3” rhodder “Atodlen 3”,

(c)caiff rheoliadau 5 a 6 eu dirymu, a

(d)caiff Atodlen 2 ei dirymu.

(4Yn y rheoliad hwn, mae i “ysgol a gynhelir” yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2011(21).

Rheoliadau Addysg (Ysgolion Canol) (Cymru) 2012

16.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Ysgolion Canol) (Cymru) 2012(22) yn gymwys fel a ganlyn.

(2O 1 Medi 2024 nid yw’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys i ddisgyblion ym mlwyddyn 9 mewn ysgol a gynhelir—

(a)yn rheoliad 3, y diffiniadau o “Deddf 2002” a “pedwerydd cyfnod allweddol”, a

(b)rheoliadau 7 ac 8.

(3Ar 1 Medi 2026, caiff y darpariaethau a ganlyn eu dirymu—

(a)yn rheoliad 3, y diffiniadau o “Deddf 2002” a “pedwerydd cyfnod allweddol”, a

(b)rheoliadau 7 ac 8.

Rheoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2013

17.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2013(23) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Daw’r diwygiad ym mharagraff (3) i rym—

(a)o 1 Medi 2022—

(i)mewn cysylltiad â phlant neu ddisgyblion yn y flwyddyn derbyn i flwyddyn 6 sy’n methu â mynychu ysgol neu ddarpariaeth addysgol amgen;

(ii)mewn cysylltiad â phlant neu ddisgyblion ym mlwyddyn 7 mewn ysgol neu pan fo’r pennaeth a’r corff llywodraethu wedi mabwysiadu cwricwlwm perthnasol ar gyfer y disgyblion blwyddyn 7 hynny o dan Ran 2 o Ddeddf 2021, a bod y plentyn neu’r disgybl ym methu â mynychu ysgol;

(b)o 1 Medi 2023, mewn cysylltiad â phlant neu ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8 sy’n methu â mynychu ysgol neu ddarpariaeth addysgol amgen;

(c)o 1 Medi 2024, mewn cysylltiad â phlant neu ddisgyblion ym mlwyddyn 9 sy’n methu â mynychu ysgol neu ddarpariaeth addysgol amgen;

(d)o 1 Medi 2025, mewn cysylltiad â phlant neu ddisgyblion ym mlwyddyn 10 sy’n methu â mynychu ysgol neu ddarpariaeth addysgol amgen;

(e)o 1 Medi 2026, mewn cysylltiad â phlant neu ddisgyblion ym mhob grŵp blwyddyn arall sy’n methu â mynychu ysgol neu ddarpariaeth addysgol amgen.

(3Yn rheoliad 2(1), ym mharagraff (a) o’r diffiniad o “darpariaeth addysgol amgen” yn lle “19” rhodder “19A”.

Rheoliadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau sy’n ymwneud â Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013

18.  Hepgorer rheoliad 5 o Reoliadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau sy’n ymwneud â Rhaglenni Addysgol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Rhaglenni Astudio ar gyfer yr Ail Gyfnod Allweddol a’r Trydydd Cyfnod Allweddol) (Cymru) 2013(24).

Rheoliadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016

19.—(1Mae Rheoliadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2016(25) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Ar 1 Medi 2024,

(a)hepgorer rheoliad 2(a)(iii), a

(b)hepgorer rheoliad 2(b).

(3Ar 1 Medi 2026 hepgorer rheoliad 2(a)(i).

Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Darpariaeth Drosiannol a Darpariaeth Arbed) 2022

20.  Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Darpariaeth Drosiannol a Darpariaeth Arbed) 2022(26), yn y diffiniad o “plentyn”, yn lle “Ddeddf 1996” rhodder “Ddeddf Addysg 1996”.

Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 2) 2022

21.—(1Mae Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 2) 2022(27) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 yn y testun Saesneg—

(a)yn y diffiniad o “the 2021 Act”, yn lle “y Ddeddf” rhodder “Deddf 2021”, a

(b)yn y diffiniad o “head teacher”, ar ôl “head teacher” mewnosoder “(“pennaeth”)”.

Jeremy Miles

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru

4 Gorffennaf 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“Deddf 2021”) yn sefydlu fframwaith cyfreithiol newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer plant a disgyblion yng Nghymru – y Cwricwlwm i Gymru. Mae adran 74(1) o Ddeddf 2021 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â’r Ddeddf honno er mwyn rhoi iddi ei heffaith. Mae adran 75(1)(b) o Ddeddf 2021 yn darparu ymhellach y caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

Bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru yn cael ei gyflwyno i blant a disgyblion fesul cam. Daw’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn fandadol ar gyfer y grwpiau blwyddyn mewn ysgolion a lleoliadau eraill fel a ganlyn—

(a)o 1 Medi 2022 ar gyfer—

(i)plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer,

(ii)disgyblion sy’n cael addysg feithrin mewn ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir,

(iii)disgyblion yn eu blwyddyn derbyn,

(iv)plant a disgyblion ym mlynyddoedd 1 i 6, a

(v)plant a disgyblion ym mlwyddyn 7 y darperir cwricwlwm perthnasol iddynt o dan Ran 2 neu 3 o Ddeddf 2021,

(b)o 1 Medi 2023 ar gyfer plant a disgyblion—

(i)ym mlwyddyn 7, a

(ii)ym mlwyddyn 8,

(c)o 1 Medi 2024 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 9,

(d)o 1 Medi 2025 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 10, ac

(e)o 1 Medi 2026 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 11.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â phlant a disgyblion y darperir addysg iddynt—

(a)mewn ysgolion a gynhelir,

(b)mewn ysgolion meithrin a gynhelir,

(c)gan ddarparwyr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir,

(d)mewn unedau cyfeirio disgyblion, ac

(e)gan bersonau sy’n darparu addysgu a dysgu ar gyfer plentyn ac eithrio mewn ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

2021 dsc 4. Gweler adran 82(1) am y diffiniad o “rheoliadau”.

(3)

Diwygiwyd is-adran (1) gan adran 51(1) o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44) a pharagraff 9 o Atodlen 7 iddi a diwygiwyd is-adrannau (1) ac (1A) ymhellach gan adran 215(1) o Ddeddf Addysg 2002 (p. 32) a pharagraff 34 o Atodlen 21 iddi.

(4)

O.S. 1989/954. Mae diwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(5)

O.S. 1995/1574. Ar ôl cydgrynhoi Deddf Diwygio Addysg 1988, roedd y Rheoliadau hyn yn cael effaith fel pe baent wedi eu gwneud o dan adrannau 363 a 569(4) o Ddeddf 1996. Ar ôl diddymu adran 363, maent bellach yn cael effaith fel pe baent wedi eu gwneud o dan adrannau 112, 117 a 210 o Ddeddf Addysg 2002.

(6)

O.S. 1999/1442. Mae diwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7)

O.S. 2002/152 (Cy. 20) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2010/1142 (Cy. 101). Mae diwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(8)

O.S. 2002/438 (Cy. 56) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2010/1142 (Cy. 101). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(9)

Ystyr ysgol a gynhelir yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg.

(11)

O.S. 2007/1069 (Cy. 109). Mae diwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(12)

O.S. 2007/3562 (Cy. 312) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2016/837 (Cy. 211). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(13)

O.S. 2009/3355 (Cy. 294) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2010/1142 (Cy. 101) ac O.S. 2010/2431 (Cy. 209). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(14)

Sef (a) addysg a ariennir sy’n cael ei darparu o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol perthnasol; (b) addysg sy’n cael ei darparu mewn ysgol annibynnol, ei threfnu a’i hariannu gan awdurdod lleol yng Nghymru yn unol ag adran 19A o Ddeddf 1996; ac (c) addysg sy’n cael ei darparu mewn uned cyfeirio disgyblion a’i hariannu gan awdurdod lleol perthnasol.

(18)

O.S. 2011/1942 (Cy. 209). Mae diwygiadau nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(19)

Ystyr “ysgol a gynhelir” yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig (nad yw’n un a sefydlwyd mewn ysbyty) ac, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, ysgol feithrin a gynhelir gan awdurdod lleol neu uned cyfeirio disgyblion.

(20)

O.S. 2011/1963 (Cy. 217) fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/437 (Cy. 53), O.S. 2016/837 (Cy. 211) ac O.S. 2022/17 (Cy. 9). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(21)

Ystyr “ysgol a gynhelir” yw (i) unrhyw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig, neu ysgol wirfoddol, neu (ii) unrhyw ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig nas sefydlwyd mewn ysbyty; ond nid yw’n cynnwys unrhyw ysgol feithrin.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill