Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Arolygwyr Cymeradwy) (Cymru) 2022

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau Agor

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 767 (Cy. 167)

Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru

Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Arolygwyr Cymeradwy) (Cymru) 2022

Gwnaed

am 4.04 p.m. ar 5 Gorffennaf 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

7 Gorffennaf 2022

Yn dod i rym

28 Gorffennaf 2022

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 167(1) a (2) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Arolygwyr Cymeradwy) (Cymru) 2022.

(2Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Gorffennaf 2022.

Diwygio Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010

2.—(1Mae Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010(2) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Hepgorer rheoliad 5A (yswiriant arolygydd cymeradwy)(3).

(3Yn rheoliad 7 (rhestrau o gymeradwyaethau a dynodiadau)(4)

(a)yn lle paragraff (1)(c) rhodder—

(c)in relation to Wales, in respect of each approved inspector listed, keep a copy of the approval certificate.;

(b)yn lle paragraff (3)(b) rhodder—

(b)in relation to Wales, in respect of each approved inspector listed, keep a copy of the approval certificate;.

(4Yn rheoliad 9 (annibyniaeth arolygwyr cymeradwy) yn lle paragraff (4)(c) rhodder—

(c)in relation to Wales, potential liability to pay any sum if a claim is made under any insurance cover,.

(5Yn Atodlen 1(5) (ffurflenni)—

(a)Yn Ffurflen 1 (hysbysiad cychwynnol) yn lle paragraff 13 rhodder—

13.  A copy of the notice of approval as an approved inspector under regulation 5 of the 2010 Regulations in relation to the work described in this initial notice is on the register kept by the body designated under regulation 3 of the 2010 Regulations.;

(b)Yn Ffurflen 2 (hysbysiad diwygio) yn lle paragraff 13 rhodder—

13.  A copy of the notice of approval as an approved inspector under regulation 5 of the 2010 Regulations in relation to the work described in the initial notice (as varied by this amendment notice) is on the register kept by the body designated under regulation 3 of the 2010 Regulations.;

(c)Yn Ffurflen 3 (tystysgrif planiau) yn lle paragraff 3 rhodder—

3.  A copy of the notice of approval as an approved inspector under regulation 5 of the 2010 Regulations in relation to the work described in this plans certificate is on the register kept by the body designated under regulation 3 of the 2010 Regulations.;

(d)Yn Ffurflen 4 (hysbysiad cychwynnol a thystysgrif planiau cyfunol) yn lle paragraff 17 rhodder—

17.  A copy of the notice of approval as an approved inspector under regulation 5 of the 2010 Regulations in relation to the work described in this initial notice is on the register kept by the body designated under regulation 3 of the 2010 Regulations.;

(e)Yn Ffurflen 5 (tystysgrif derfynol) yn lle paragraff 6 rhodder—

6.  A copy of the notice of approval as an approved inspector under regulation 5 of the 2010 Regulations in relation to the work described in this final certificate is on the register kept by the body designated under regulation 3 of the 2010 Regulations.

(6Yn Atodlen 2 (y seiliau dros wrthod hysbysiad cychwynnol, hysbysiad diwygio, neu dystysgrif planiau wedi ei chyfuno â hysbysiad cychwynnol) hepgorer paragraff 6(6).

(7Yn Atodlen 3 (y seiliau dros wrthod tystysgrif planiau etc.) hepgorer paragraff 6.

(8Yn Atodlen 4 (y seiliau dros wrthod tystysgrif derfynol) hepgorer paragraff 5.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

Am 4.04 p.m. ar 5 Gorffennaf 2022

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (“y Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy”). Mae’r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ganlyniadol ar adran 48 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022. Mae’r adran honno yn gwneud diddymiadau i Ddeddf Adeiladu 1984 mewn cysylltiad â gofynion yswiriant arolygwyr cymeradwy.

Mae rheoliad 2(2) yn hepgor rheoliad 5A (yswiriant arolygydd cymeradwy) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy, gan ddileu’r gofyniad i ddatganiad o yswiriant fod ym meddiant y person a gymeradwyodd yr arolygydd. Mae rheoliad 2(3) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 7 ac mae rheoliad 2(4) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 9. Mae rheoliad 2(5) yn diwygio’r ffurflenni yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy fel nad yw’r ffurflenni yn cyfeirio mwyach at y datganiad o yswiriant. Mae rheoliad 2(6) hyd at (8) yn diwygio Atodlenni 2, 3 a 4 i’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy er mwyn dileu o bob un o’r Atodlenni hyn y sail dros wrthod sy’n ymwneud â’r datganiad o yswiriant.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(3)

Mewnosodwyd rheoliad 5A gan O.S. 2012/3119 mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru a chan O.S. 2014/58 (Cy. 5) o ran Cymru heblaw mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir. Diwygiodd O.S. 2018/558 (Cy. 97) reoliad 5A i’r graddau y mae’n gymwys i adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.

(4)

Diwygiwyd rheoliad 7 mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru gan O.S. 2012/3119 a 2018/558 (Cy. 97) ac o ran Cymru heblaw mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir gan O.S. 2014/58 (Cy. 5).

(5)

Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2014/58 (Cy. 5) ac, mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru, rheoliad 22 o O.S. 2018/558 (Cy .97) a amnewidiodd ffurflenni 1 hyd at 12 fel y maent yn gymwys i adeiladau yng Nghymru heblaw adeiladau ynni a eithrir fel bod y ffurflenni hynny hefyd yn gymwys i adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.

(6)

Diwygiwyd paragraffau 6 o Atodlenni 2 a 3 a pharagraff 5 o Atodlen 4 mewn perthynas ag adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru gan O.S. 2012/3119 a 2018/558 (Cy. 97) ac o ran Cymru heblaw adeiladau ynni a eithrir gan O.S. 2014/58 (Cy. 5)>.

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill