Chwilio Deddfwriaeth

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Offerynnau Statudol Cymru

2022 Rhif 781 (Cy. 170)

Tai, Cymru

Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022

Gwnaed

15 Gorffennaf 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

18 Gorffennaf 2022

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 236(3) a 256(1) a (2)(1) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016(2) a pharagraff 15(2) o Atodlen 12 iddi.

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022 a deuant i rym ar y diwrnod y daw adran 239 o’r Ddeddf(3) i rym.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “annedd” (“dwelling”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 246(4));

mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” gan adran 1(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(5);

mae i “categori o anheddau” yr ystyr a roddir i “category of dwellings” gan adran 30(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(6);

mae i “contract wedi ei drosi perthnasol” (“relevant converted contract”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler paragraff 15(3)(7) o Atodlen 12 i’r Ddeddf);

ystyr “deiliad contract perthnasol” (“relevant contract-holder”) yw deiliad contract (y mae iddo’r ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 7(5)) o dan gontract wedi ei drosi perthnasol;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016;

ystyr “gwelliant perthnasol” (“relevant improvement”) yw gwelliant—

(a)

a wnaed mewn perthynas â’r contract wedi ei drosi perthnasol ar unrhyw adeg ar ôl i ddeiliad y contract ddod i fod â hawl i feddiannu’r annedd y mae’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 yn gymwys iddi, neu

(b)

sy’n bodloni’r amodau a ganlyn—

(i)

cafodd y gwelliant ei wneud heb fod yn fwy nag un ar hugain o flynyddoedd cyn dyddiad cyflwyno’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf,

(ii)

ar bob adeg yn ystod y cyfnod gan ddechrau pan gafodd y gwelliant ei wneud a chan ddod i ben ar ddyddiad cyflwyno’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf, mae’r annedd wedi ei gosod o dan gontract wedi ei drosi perthnasol neu denantiaeth neu drwydded flaenorol berthnasol, a

(iii)

pan ddaeth contract wedi ei drosi perthnasol neu denantiaeth neu drwydded flaenorol berthnasol i ben yn ystod y cyfnod hwnnw, nid ymadawodd y tenant neu’r trwyddedai perthnasol neu’r deiliad contract perthnasol (neu, yn achos cyd-denantiaid neu gyd-drwyddedeion perthnasol neu gyd-ddeiliaid contract perthnasol, o leiaf un ohonynt);

mae i “hereditament” yr ystyr a roddir i “hereditament” gan adran 3 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

mae i “landlord” (“landlord”) yr ystyr a roddir gan y Ddeddf (gweler adran 244(2));

ystyr “pwyllgor asesu rhenti” (“rent assessment committee”) yw pwyllgor asesu rhenti a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977(8);

nid yw “rhent” (“rent”) yn cynnwys—

(a)

unrhyw dâl gwasanaeth o fewn ystyr adran 18 o Ddeddf Landlord a Thenant 1985(9), na

(b)

unrhyw daliadau a waherddir o dan adran 4 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019(10),

ond, yn ddarostyngedig i hynny, mae’n cynnwys unrhyw symiau sy’n daladwy gan y deiliad contract perthnasol i’r landlord am ddefnyddio dodrefn, mewn cysylltiad â’r dreth gyngor neu ar gyfer unrhyw un neu ragor o’r materion y cyfeirir atynt yn adran 18(1)(a) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985(11), pa un a yw’r symiau hynny ar wahân i’r symiau sy’n daladwy am feddiannu’r annedd o dan sylw neu’n daladwy o dan gytundebau ar wahân ai peidio;

ystyr “tenantiaeth neu drwydded flaenorol berthnasol” (“relevant preceding tenancy or licence”) yw tenantiaeth neu drwydded a fodolai cyn y diwrnod penodedig ac a ddaeth yn gontract wedi ei drosi perthnasol ar neu ar ôl y diwrnod penodedig; ac

ystyr “tenant neu drwyddedai perthnasol” (“relevant tenant or licensee”) yw tenant neu drwyddedai o dan denantiaeth neu drwydded flaenorol berthnasol.

Cais i bwyllgor asesu rhenti

3.—(1Ar ôl cael hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf, caiff deiliad contract perthnasol wneud cais i bwyllgor asesu rhenti bennu’r rhent ar gyfer yr annedd.

(2Rhaid i’r cais i bwyllgor asesu rhenti gael ei wneud—

(a)ar y ffurf ragnodedig, a

(b)o fewn 2 fis ar ôl cael yr hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf.

(3Mae’r ffurf ragnodedig fel y’i nodir yn yr Atodlen.

(4Mae cais sydd ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg i’r ffurf ragnodedig yn ddilys.

Penderfyniad ar rent gan bwyllgor asesu rhenti

4.  Rhaid i bwyllgor asesu rhenti benderfynu ar bob cais a wneir o dan reoliad 3 yn unol â’r rhagdybiaethau a nodir yn rheoliad 6.

Amrywio rhent yn sgil penderfyniad gan bwyllgor asesu rhenti

5.  Rhent a bennir gan bwyllgor asesu rhenti, yn unol â’r rhagdybiaethau a nodir yn rheoliad 6, fydd y rhent ar gyfer yr annedd o dan y contract wedi ei drosi perthnasol gydag effaith o’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf, oni bai bod y landlord a’r deiliad contract perthnasol yn cytuno fel arall.

Rhagdybiaethau y mae rhaid i bwyllgor asesu rhenti bennu rhent yn unol â hwy

6.  Wrth bennu rhent ar gyfer annedd o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i bwyllgor asesu rhenti bennu’r rhent y mae’n ystyried y gallai fod disgwyl i’r annedd dan sylw gael ei osod amdano ar y farchnad agored gan landlord parod o dan yr un math o gontract wedi ei drosi perthnasol ag y mae’r hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf yn ymwneud â hi, gan ragdybio—

(a)bod y contract wedi ei drosi perthnasol yn dechrau ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf,

(b)nad yw rhoi contract i ddeiliad contract cyfredol yn cael dim effaith ar y rhent,

(c)nad yw unrhyw gynnydd yng ngwerth yr annedd y gellir ei briodoli i welliant perthnasol a wnaed gan berson a oedd y tenant neu’r trwyddedai perthnasol neu’r deiliad contract perthnasol ar yr adeg y’i gwnaed yn cael dim effaith ar y rhent, os gwnaed y gwelliant—

(i)ac eithrio yn unol â rhwymedigaeth i’r landlord uniongyrchol, neu

(ii)yn unol â rhwymedigaeth i’r landlord uniongyrchol nad yw’n rhwymedigaeth a oedd yn ymwneud â’r gwelliant penodol o dan sylw ond a gododd drwy gyfeirio at gydsyniad a roddwyd i wneud y gwelliant hwnnw,

(d)nad yw unrhyw ostyngiad yng ngwerth yr annedd y gellir ei briodoli i fethiant gan y tenant neu’r trwyddedai perthnasol neu’r deiliad contract perthnasol i gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o delerau’r denantiaeth neu’r drwydded flaenorol berthnasol neu’r contract wedi ei drosi perthnasol yn cael dim effaith ar y rhent,

(e)pan fo’r landlord neu uwchlandlord yn atebol i dalu’r dreth gyngor mewn cysylltiad â hereditament y mae’r annedd yn rhan ohono, o dan Ran 1 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, fod swm y dreth gyngor a bennwyd gan yr awdurdod bilio, fel ar y dyddiad y cyflwynwyd yr hysbysiad o dan adran 104 neu 123—

(i)ar gyfer y flwyddyn ariannol y cyflwynwyd yr hysbysiad ynddi, a

(ii)ar gyfer y categori o anheddau yr oedd yr hereditament perthnasol yn perthyn iddo ar y dyddiad hwnnw,

yn cael effaith ar y rhent, ond nad yw unrhyw ddisgownt neu ostyngiad arall sy’n effeithio ar swm y dreth gyngor sy’n daladwy yn cael dim effaith ar y rhent, ac

(f)nad yw’r landlord nac uwchlandlord yn talu ardrethi mewn cysylltiad â’r annedd.

Hysbysiad landlord a deiliad contract perthnasol i bwyllgor asesu rhenti

7.  Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r pwyllgor asesu rhenti barhau i bennu rhent ar gyfer annedd o dan y contract wedi ei drosi perthnasol os yw’r landlord a’r deiliad contract perthnasol yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig nad oes angen penderfyniad o’r fath arnynt mwyach neu os yw’r contract wedi ei drosi perthnasol wedi dod i ben.

Diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971

8.—(1Mae Rheoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971(12) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli)(13)

(a)yn y diffiniad o “reference”, ar ôl “Local Government and Housing Act 1989”, yn lle’r atalnod llawn rhodder “, or which is made under regulation 3 of the Renting Homes (Rent Determination) (Converted Contracts) (Wales) Regulations 2022(14).”;

(b)yn y mannau priodol, mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—

dwelling” has the meaning given by section 246 of the Renting Homes (Wales) Act 2016(15);;

relevant contract-holder” means a contract-holder (which has the meaning given by section 7(5) of the Renting Homes (Wales) Act 2016) under a relevant converted contract;;

relevant converted contract” has the meaning given by paragraph 15(3)(16) of Schedule 12 to the Renting Homes (Wales) Act 2016;;

relevant preceding tenancy or licence” means a tenancy or licence which existed before the appointed day and which on or after the appointed day became a relevant converted contract;;

relevant tenant or licensee” means a tenant or licensee under a relevant preceding tenancy or licence;.

(3Yn rheoliad 2A (atgyfeiriadau Deddfau 1988 a 1989)(17)

(a)yn lle’r pennawd, rhodder “References”;

(b)ym mharagraff (1), ar ôl “Housing Act 1988;”, hepgorer “or”;

(c)ym mharagraff (1), ar ôl “Local Government and Housing Act 1989”, yn yr ail le y mae’n digwydd, yn lle’r atalnod llawn rhodder—

; or

  • regulation 3 of the Renting Homes (Rent Determination) (Converted Contracts) (Wales) Regulations 2022(18)..

(4Yn rheoliad 3(3)(c)(19), ar ôl “tenant”, mewnosoder “, relevant tenant or licensee, or relevant contract-holder”.

(5Yn rheoliad 5(1)(b)(20)

(a)yn lle “assured tenancies or agricultural occupancies”, rhodder “assured tenancies, agricultural occupancies, relevant converted contracts, or relevant preceding tenancy or licence”, a

(b)ar ôl “dwelling-houses”, yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “or dwellings”.

(6Yn rheoliad 7—

(a)yn y pennawd, ar ôl “dwelling-house”, mewnosoder “or dwelling”, a

(b)ym mharagraff (1), ar ôl “dwelling-house”, mewnosoder “or dwelling”.

Julie James

Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru

15 Gorffennaf 2022

Rheoliad 3

YR ATODLEN

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae adrannau 104 a 123 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“y Ddeddf”) yn caniatáu i’r landlord o dan gontract diogel a chontract safonol cyfnodol, yn y drefn honno, amrywio’r rhent sy’n daladwy o dan y contract drwy roi hysbysiad i ddeiliad y contract yn nodi rhent newydd sydd i gael effaith ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth, fel sy’n ofynnol gan baragraff 15(2) o Atodlen 12 i’r Ddeddf, i alluogi deiliad contract o dan gontract wedi ei drosi perthnasol (fel y’i diffinnir gan baragraff 15(3) o Atodlen 12 i’r Ddeddf) i wneud cais i berson rhagnodedig bennu’r rhent ar gyfer yr annedd pan fo wedi cael hysbysiad o dan adran 104 neu 123 o’r Ddeddf ac i’r rhent a bennir fod y rhent o dan y contract.

Mae rheoliad 3 yn darparu i ddeiliad contract o dan gontract wedi ei drosi perthnasol, sydd wedi cael hysbysiad o dan naill ai adran 104 neu 123 o’r Ddeddf, wneud cais i bwyllgor asesu rhenti, a gyfansoddwyd yn unol ag Atodlen 10 i Ddeddf Rhenti 1977, bennu’r rhent ar gyfer yr annedd. Mae rheoliad 3 hefyd yn rhagnodi ffurf y cais i’r pwyllgor asesu rhenti, a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn. Mae cais sydd ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg yn ddilys.

Mae rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i bwyllgor asesu rhenti benderfynu ar bob cais o’r fath yn unol â’r rhagdybiaethau a nodir yn rheoliad 6.

Mae rheoliad 5 yn darparu mai’r rhent a bennir gan bwyllgor asesu rhenti fydd y rhent ar gyfer yr annedd oni bai bod y landlord a deiliad y contract yn cytuno fel arall.

Mae rheoliad 6 yn nodi’r rhagdybiaethau y mae rhaid i’r pwyllgor asesu rhenti eu cymhwyso wrth bennu’r rhent ar gyfer yr annedd.

Mae rheoliad 7 yn caniatáu ar gyfer dod ag ymwneud pwyllgor asesu rhenti â chais i ben yn dilyn hysbysiad ysgrifenedig gan y landlord a deiliad y contract fel ei gilydd yn cadarnhau nad oes angen penderfyniad arnynt mwyach.

Mae rheoliad 8 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) 1971 (O.S. 1971/1065), sy’n pennu’r weithdrefn i’w dilyn gan bwyllgor asesu rhenti wrth ystyried cais a wneir iddo o dan y Rheoliadau hyn.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.

(1)

Diwygiwyd adran 256(2) gan adran 18 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3) a pharagraffau 1 a 21(a) o Atodlen 6 iddi.

(2)

2016 dccc 1. Cyflwynir Atodlen 12 gan adran 240.

(3)

Daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(4)

Diwygiwyd adran 246(1) gan adran 14 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 a pharagraffau (1) a (7) o Atodlen 5 iddi.

(5)

1992 p. 14. Diwygiwyd adran 1(2) gan adran 35(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p. 19).

(6)

Diwygiwyd adran 30 gan baragraff 8 o Atodlen 7 i Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p. 20).

(7)

Diwygiwyd paragraff 15(3) o Atodlen 12 i’r Ddeddf gan reoliad 12(b) o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 (O.S. 2022/795 (Cy. 173)).

(8)

1977 p. 42. Diwygiwyd Atodlen 10 gan adrannau 71(2), 148 a 152 o Ddeddf Tai 1980 (p. 51), paragraff 56 o Atodlen 25 iddi, ac Atodlen 26 iddi; adran 26 o Ddeddf Pensiynau ac Ymddeoliadau Barnwrol 1993 (p. 8) a pharagraff 56 o Atodlen 6 iddi; adrannau 222 a 227 o Ddeddf Tai 1996 (p. 52), paragraff 22 o Atodlen 18 iddi a pharagraff 1 o Ran 13 o Atodlen 19 iddi; ac adran 62(2) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4). Gwnaed diwygiadau hefyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau Tribiwnlysoedd 2013 (O.S. 2013/1036), a ddiddymodd bwyllgorau asesu rhenti yn Lloegr, ac erthygl 5(2)(c) o Orchymyn Cyllid Llywodraeth Leol (Diddymiadau, Arbedion a Diwygiadau Canlyniadol) 1990 (O.S. 1990/776).

(9)

1985 p. 70. Diwygiwyd adran 18 gan adran 41 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) a pharagraff 1 o Atodlen 2 iddi, a chan adran 150 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p. 15), a pharagraff 7 o Atodlen 9 iddi.

(10)

2019 dccc 2. Diwygiwyd adran 4 gan adrannau 15(2) ac 16(1) a (3) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021.

(11)

1985 p. 70. Diwygiwyd adran 18(1)(a) gan adran 41 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31), a pharagraff 1 o Atodlen 2 iddi; ac adran 150 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p. 15), a pharagraff 7 o Atodlen 9 iddi.

(13)

Diwygiwyd rheoliad 2 gan reoliad 2 o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1998 (O.S. 1988/2200), rheoliad 2(a) o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1993 (O.S. 1993/653), rheoliad 9 o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau) (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/1854) a rheoliad 2(1) o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1990 (O.S. 1990/427).

(15)

2016 dccc 1. Diwygiwyd adran 246(1) gan adran 14 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021 (dsc 3) a pharagraffau (1) a (7) o Atodlen 5 iddi.

(16)

Diwygiwyd paragraff 15(3) o Atodlen 12 i’r Ddeddf gan reoliad 12(b) o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12) 2022 (O.S. 2022/795 (Cy. 173)).

(17)

Mewnosodwyd rheoliad 2A gan reoliad 2(3) o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1988 (O.S. 1988/2200) ac fe’i diwygiwyd gan reoliad 2 o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1997 (O.S. 1997/3007).

(19)

Amnewidiwyd rheoliad 3(3) gan reoliad 3 o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1980 (O.S. 1980/1699) ac fe’i diwygiwyd gan reoliad 4 o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1981 (O.S. 1981/1783).

(20)

Diwygiwyd rheoliad 5(1)(b) gan reoliad 2(5) o Reoliadau Pwyllgorau Asesu Rhenti (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 1988 (O.S. 1988/2200).

Yn ôl i’r brig

Options/Help

Print Options

Close

Mae deddfwriaeth ar gael mewn fersiynau gwahanol:

Y Diweddaraf sydd Ar Gael (diwygiedig):Y fersiwn ddiweddaraf sydd ar gael o’r ddeddfwriaeth yn cynnwys newidiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol ac wedi eu gweithredu gan ein tîm golygyddol. Gellir gweld y newidiadau nad ydym wedi eu gweithredu i’r testun eto yn yr ardal ‘Newidiadau i Ddeddfwriaeth’. Dim ond yn Saesneg y mae’r fersiwn ddiwygiedig ar gael ar hyn o bryd.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed) - Saesneg: Mae'r wreiddiol Saesneg fersiwn y ddeddfwriaeth fel ag yr oedd pan gafodd ei deddfu neu eu gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Gwreiddiol (Fel y’i Deddfwyd neu y’i Gwnaed)-Cymraeg:Y fersiwn Gymraeg wreiddiol o’r ddeddfwriaeth fel yr oedd yn sefyll pan gafodd ei deddfu neu ei gwneud. Ni wnaed unrhyw newidiadau i’r testun.

Close

Dewisiadau Agor

Dewisiadau gwahanol i agor deddfwriaeth er mwyn gweld rhagor o gynnwys ar y sgrin ar yr un pryd

Close

Rhagor o Adnoddau

Gallwch wneud defnydd o ddogfennau atodol hanfodol a gwybodaeth ar gyfer yr eitem ddeddfwriaeth o’r tab hwn. Yn ddibynnol ar yr eitem ddeddfwriaeth sydd i’w gweld, gallai hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel deddfwyd fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • slipiau cywiro
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill
Close

Rhagor o Adnoddau

Defnyddiwch y ddewislen hon i agor dogfennau hanfodol sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth a gwybodaeth am yr eitem hon o ddeddfwriaeth. Gan ddibynnu ar yr eitem o ddeddfwriaeth sy’n cael ei gweld gall hyn gynnwys:

  • y PDF print gwreiddiol y fel gwnaed fersiwn a ddefnyddiwyd am y copi print
  • slipiau cywiro

liciwch ‘Gweld Mwy’ neu ddewis ‘Rhagor o Adnoddau’ am wybodaeth ychwanegol gan gynnwys

  • rhestr o newidiadau a wnaed gan a/neu yn effeithio ar yr eitem hon o ddeddfwriaeth
  • manylion rhoi grym a newid cyffredinol
  • pob fformat o’r holl ddogfennau cysylltiedig
  • dolenni i ddeddfwriaeth gysylltiedig ac adnoddau gwybodaeth eraill