Chwilio Deddfwriaeth

Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 8 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022

 Help about what version

Pa Fersiwn

 Help about opening options

Dewisiadau AgorExpand opening options

Statws

Dyma’r fersiwn wreiddiol (fel y’i gwnaed yn wreiddiol).

Plant nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys iddynt erbyn dyddiad penodol

17.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—

(a)a oedd â datganiad ar 1 Medi 2022,

(b)a oedd yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023—

(i)yn iau na’r oedran ysgol gorfodol,

(ii)o oedran ysgol gorfodol ac mewn dosbarth derbyn, ym mlwyddyn 6, blwyddyn 10 neu flwyddyn 11 neu a fyddai yn unrhyw un o’r grwpiau blwyddyn hynny pe bai’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac

(c)y mae apêl yn mynd rhagddi mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023.

(2Ar y diwrnod trosglwyddo—

(a)mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a

(b)mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

(3Yn yr erthygl hon, ystyr “diwrnod trosglwyddo” yw—

(a)y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod y gallai apêl gael ei gwneud ynddo, os nad oes apêl wedi ei gwneud;

(b)oni bai bod is-baragraff (c) yn gymwys, y diwrnod ar ôl i’r apêl gael ei dyfarnu’n derfynol, pan fo apêl wedi ei gwneud;

(c)pan fo’r awdurdod lleol yn cael ei orchymyn i gyflawni gweithred o ganlyniad i ddyfarniad terfynol ar apêl sy’n mynd rhagddi, y diwrnod ar ôl i’r weithred gael ei chyflawni, neu’r diwrnod ar ôl i’r holl weithredoedd gael eu cyflawni os oes mwy nag un weithred.

Yn ôl i’r brig

Options/Help